Sefyllfa’r Gymraeg: heriau a chyfleoedd

Er gwaethaf diffyg cynnydd yn yr iaith Gymraeg yn y blynyddoedd diwethaf, mae Meri Huws yn ffyddiog bod yr amodau yn eu lle i ganiatáu ar gyfer mwy o ddefnydd yn y blynyddoedd i ddod.

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni fe gyhoeddais yr Adroddiad 5 mlynedd cyntaf ar sefyllfa’r Gymraeg. Mae paratoi a chyhoeddi’r adroddiad yn un o fy swyddogaethau statudol fel Comisiynydd, o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Mae’n cynnwys crynodeb ac asesiad o ganlyniadau Cyfrifiad 2011 i’r graddau maent yn ymwneud â’r Gymraeg. Rwyf hefyd wedi cynnwys dadansoddiad o sgiliau iaith y boblogaeth, llwyddiant yr ymdrechion i greu siaradwyr Cymraeg newydd a defnydd yr iaith mewn cyd-destunau penodol.

Cafodd yr adroddiad hwn ei baratoi mewn cyd-destun lle mae’r Llywodraethau yng Nghaerdydd ac yn San Steffan wedi datgan eu bod yn ymrwymedig i gynnal a chynyddu defnydd o’r Gymraeg. Mae hyn yn adlewyrchu’r lefel uchel o gefnogaeth sydd yna i’r iaith ymysg y cyhoedd yng Nghymru. Dangosodd arolwg a gynhaliwyd yn 2015 bod 85% o bobl Cymru’n credu bod y Gymraeg yn rhywbeth i ymfalchïo ynddi, tra roedd 77% yn credu bod yr iaith yn ased i Gymru. Un o amcanion yr adroddiad hwn yw darparu sail dystiolaeth gadarn ar gyfer cynllunio twf yn nefnydd yr iaith dros y blynyddoedd sydd i ddod.

Mae’n adroddiad swmpus ac mae yna ddigon i gnoi cil arno. Bydd rhai o’r canfyddiadau eisoes yn hysbys i ddarllenwyr, ond mae’n werth myfyrio arnynt am ychydig i’n hatgoffa ein hunain o faint y sialens sydd o’n blaenau a hefyd o’r cyfleoedd sydd ar gael. Mae’r data ynghylch agweddau pobl tuag at yr iaith yn gadarnhaol tu hwnt ac yn dangos yn glir fod yna gefnogaeth i’r Gymraeg a bod pobl Cymru, boed nhw’n siarad yr iaith ai peidio, yn ei gweld fel arwydd balchder. Mae’r ewyllys da yma’n gosod sylfaen gadarn i adeiladu arni.

Dyma rai pwyntiau ystadegol allweddol:

  • Mae canran y plant 5-15 oed sy’n gallu siarad Cymraeg wedi dyblu ers 1981.
  • Bu gostyngiad o dros 20,000 yn niferoedd siaradwyr Cymraeg rhwng 2001 a 2011 (ond cynnydd o 20,000 ar y cyfan ers 1971).
  • Mae niferoedd y cymunedau lle gall 70% neu fwy o’r boblogaeth siarad Cymraeg wedi gostwng o 53 yn 2001 i 39 erbyn 2011. Mae yna gyfanswm o 866 o gymunedau yng Nghymru.
  • Mae 13% o bobl Cymru yn defnyddio’r Gymraeg bob dydd. 11% sy’n rhugl yn yr iaith.

Mae cyfnod sefydlu Llywodraeth newydd a’r Pumed Cynulliad yn gyfle i wleidyddion a gweision sifil edrych mewn manylder ar sut gall polisi cyhoeddus gefnogi’r iaith Gymraeg. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod fe gyhoeddodd Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, ymgynghoriad ar weledigaeth tymor hir ar gyfer y Gymraeg. Mae’r ymgynghoriad yn datgan uchelgais y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, sy’n golygu bron dyblu nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg yn y tua 33 mlynedd nesaf. Y cwestiwn mawr yw sut mae cyflawni hyn?

Yn y gorffennol, roedd y Gymraeg yn arfer cael ei chaffael a’i dysgu yn y cartref gan amlaf, ond mae hyn wedi newid dros amser. Mae pedwar allan o bump o blant 5-15 oed bellach yn dysgu’r iaith yn yr ysgol. Mae yna fwy o alw am addysg Gymraeg yn gyson, ac mae wedi cael effaith anferthol ar sut, ble a phryd mae pobl yn dysgu siarad yr iaith. Ond mae yna rai heriau’n gysylltiedig â’r symudiad yma at addysg fel prif ffynhonnell siaradwyr Cymraeg newydd. A yw addysg yn cynhyrchu siaradwyr sy’n ddigon hyderus yn eu sgiliau iaith i’w defnyddio hi’n gymdeithasol, yn y gweithle neu gartref?

Mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn dangos mai ychydig iawn o gynnydd, os o gwbl, a fu yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn niferoedd y plant sy’n derbyn addysg a gofal blynyddoedd cynnar yn Gymraeg, ac mae’n ymddangos fod yna fylchau sylweddol yn y ddarpariaeth mewn rhai ardaloedd o Gymru.  Mae’r adroddiad hefyd yn canfod fod dilyniant mewn addysg cyfrwng Cymraeg o un cam i’r nesaf yn parhau i fod yn broblem, ac mae hyn yn arbennig o amlwg wrth symud o un cyfnod allweddol i’r llall yn yr ysgol a phan fo disgyblion yn trosglwyddo i addysg bellach ac uwch.

Bydd angen mynd i’r afael â’r materion hyn yn fuan os am gyrraedd targed y Llywodraeth i gynyddu niferoedd siaradwyr Cymraeg. Bydd hyn yn galw am weithredu cadarn gan Lywodraeth Cymru a chefnogaeth gan yr holl awdurdodau a sefydliadau sydd â rôl i’w chwarae wrth ddarparu addysg yng Nghymru ar bob lefel.

Yn ogystal â dadansoddi llwyddiant creu siaradwyr Cymraeg newydd, mae’r adroddiad yn cyflwyno gwybodaeth a data am ddefnydd o’r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau.

Er nad yw’n hawdd mesur defnydd iaith yn gywir, yn enwedig mewn rhai cyd-destunau fel yn y cartref, mae’r data sydd ar gael yn dangos bod yna ddefnydd sylweddol o’r Gymraeg heddiw. Er enghraifft, mae tua 361,000 o bobl yng Nghymru’n defnyddio’r iaith yn ddyddiol, sy’n ffigwr uwch na’r nifer o siaradwyr Cymraeg rhugl yng Nghymru. Bydd y dyletswyddau statudol newydd ar sefydliadau yng Nghymru i ddefnyddio’r Gymraeg a darparu gwasanaethau yn yr iaith yn cynyddu’r galw am weithlu sy’n gallu gwasanaethu poblogaeth gynyddol ddwyieithog, a dylai defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith ddod yn fwy cyffredin o ganlyniad i’r dyletswyddau hyn.

Mae’r adroddiad yn edrych ar y cyfleoedd sy’n bodoli i ddefnyddio’r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau ac mewn gweithgareddau dyddiol, a rhai o’r rhesymau posibl pam fod siaradwyr Cymraeg yn manteisio ar y cyfleoedd ai peidio. Mae’n casglu bod awydd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg weithiau yn cael ei rwystro gan ffactorau ymarferol a seicolegol, fel diffyg cyfle neu ddiffyg hyder.

Er nad yw’r Gymraeg wedi profi llawer o gynnydd yn y blynyddoedd diweddar, mae’r amodau yn eu lle i ganiatáu rhagor o ddefnydd o’r iaith yn y blynyddoedd a’r degawdau nesaf. Mae yna gefnogaeth i’r iaith ymysg y cyhoedd a Llywodraethau. Mae yna ddeddfwriaeth ac isadeiledd i gefnogi defnydd o’r iaith. Gyda mesurau cryf, cynllunio gofalus, buddsoddi priodol a gweithredu effeithiol ni welaf unrhyw reswm pam na ddylai’r Gymraeg ffynnu a dod yn rhan cwbl naturiol o fywyd pob dydd ym mhob cwr o Gymru.

Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad llawn ar wefan y Comisiynydd.

This post is also available to read in English. Click on this link to access the English language version.

Meri Huws yw Comisiynydd y Gymraeg

Also within Uncategorised