Ynni Cymunedol – Beth am ei gynnwys yn ein cwricwlwm newydd?! / Community Energy – Let’s get it on our new curriculum!

Mae Sioned Haf yn dadlau dylid dysgu am werth ynni cymunedol mewn ysgolion yng Nghymru / Sioned Haf argues that the value of community energy should be taught in schools in Wales .

Mae llawer o ddiddordeb yn natblygiad ynni cymunedol yng Nghymru.  Mae wedi cael ei adnabod fel sector bwysig sy’n cyflawni mesuron cynaliadwyedd, ymrwymo a rhoi grym i gymunedau lleol, paru cynhyrchiad ynni lleol gyda defnydd ynni ac adfywio economïau sy’n brwydro i oroesi.  Mae’n sector ddylai wneud i awduron Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ostwng i’w pengliniau ac wylo mewn llawenydd.

Ar wahân i werthfawrogi buddion gwerth ychwanegol ynni cymunedol (rhoi hwb i’r economi leol, cynhyrchu ynni adnewyddadwy, lleihau tlodi tanwydd a.y.b., bu ychydig o ymdrechion gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi’r sector yng Nghymru, drwy gynlluniau fel Ynni’r Fro ac Ynni Lleol.  Dwi’n pwysleisio ‘ychydig’ yn y frawddeg ola’.  Nid yw’n ‘ddigonol’.  Ac mae’n bell iawn o fod yn ‘flaengar’.

Felly, er gwaethaf y rhethreg gadarnhaol sy’n clodfori’r sector, ac er gwaethaf y llond llaw o storïau  am ynni cymunedol llwyddiannus (sydd wedi llwyddo i frwydro ymlaen drwy system gynllunio feichus a digydymdeimlad), a’r awydd cynyddol am brosiectau ynni sydd â pherchnogaeth leol wedi eu rheoli’n lleol, ac ymchwil academaidd sy’n profi bod canlyniadau cadarnhaol i brosiectau ynni o’r fath, mae cyfleoedd ynni cymunedol yng Nghymru yn syrthio rhwng y stôl a’r llawr.

Ar hyn o bryd, cyfran fach iawn o’n hynni adnewyddadwy sy’n cael ei greu gan brosiectau sydd mewn perchnogaeth leol.  Os ydych chi eisiau deall yn llawn i’r fath raddau mae Cymru yn colli allan, a sut gall y sector ynni cymunedol edrych, edrychwch i gyfeiriad yr Almaen, Denmarc a’r Alban.

Yn anffodus, mae sector ehangach ynni adnewyddadwy yng Nghymru i weld yn parhau ag arferion traddodiadol y sector ynni carbon-ddwys.  Mae ein dibyniaeth ar ddatblygwyr masnachol i ddefnyddio ein hadnoddau naturiol ar gyfer enillion cyfalaf yn parhau.  Mae perchnogaeth yn aros yn nwylo datblygwyr allanol.  Buddion lleol?  Wel, mae ambell i swydd yn cael ei gynnig – diolch amdanynt!  Ydi hyn yn adlais o gyfnod y diwydiant glo, llechi a chopr y gorffennol?

Datblygiadau mawr yw’r arfer.  Datblygiadau masnachol yw’r arfer.  Perchnogaeth breifat yw’r arfer.  Mae datblygiadau bach yn aneffeithiol.  Mae datblygiadau cymunedol yn wyrdroëdig.  Mae perchnogaeth leol yn anodd.

Rhain yw’r credoau athronyddol cyffredin sy’n bodoli yn y sector ynni ac sydd angen eu herio.  Ond sut mae mynd ati i herio hen arferion Cymreig sydd wedi gwreiddio mor ddwfn?

Wel, gadewch i ni weld.  Tu hwnt i’r grwpiau eu hunain, y datblygwyr polisi a chanolwyr, faint o’n dinasyddion sydd wedi cael sgwrs gydag unrhyw un am hyn, neu hyd yn oed yn gwybod am y posibiliadau o ynni cymunedol?

Tu hwnt i’n dealltwriaeth o sut mae technoleg adnewyddadwy yn gweithio, faint o’n pobl ifanc mewn ysgolion sy’n trafod y ffordd mae’n adnoddau naturiol, ac yn benodol adnoddau naturiol adnewyddadwy digonol yng Nghymru, yn cael eu defnyddio, ac i fantais pwy?

Faint o bobl sy’n cwestiynu pwy sydd berchen yr ynni adnewyddadwy a’r adnoddau sy’n eu gyrru (pwy biau ar ein hafonydd, ein glannau, yr heulwen a’r gwynt?).

Chaiff y cwestiynau yma mo’u trafod yn ein hysgolion.  O ganlyniad, mae’r cyfle i feithrin cymdeithas sifil sy’n trafod materion o’r math, yn enwedig o amgylch defnydd adnoddau naturiol, a sector ynni adnewyddadwy cynaliadwy, yn isel iawn.

Mae’r sector ynni cymunedol yn rhoi’r cyfle i greu ynni mewn dull mwy cydwybodol a chyfrifol.  Mae hefyd yn rhoi cyfle i hybu twf ein cymdeithas sifil.  (Cyhoeddiad yr IWA yn 2010, ‘Growing Wales’ Civil Society’?).

Mae’r sector ynni cymunedol yn crynhoi i’r dim sut beth yw cymdeithas sifil sydd wedi ymrwymo i’w gilydd.  Grŵp o bobl weithgar, wybodus, yn cydweithio er mwyn creu prosiect gyda pherchnogaeth leol sy’n cyfrannu tuag at economi leol, adnodd ynni mwy cynaliadwy ac iach i’r amgylchedd, a chymdeithas leol ddeinamig a grymus.

Ond dylai’r materion yma gael eu trafod tu hwnt i gylchoedd ynni cymunedol.  Rydym wedi bod yn trafod ymysg ein gilydd am rhy hir.  Mae angen trafod a rhannu’r buddion posib all ddeillio o’r sector ar hyd y wlad, drwy gynllun cydunol.

Fel cam cyntaf felly rwy’n cynnig ein bod yn cynnwys ynni cymunedol ar y cwricwlwm cenedlaethol.  Rydym eisoes wedi bod yn darparu seminarau ar ynni cymunedol i fyfyrwyr cynradd ac ôl-radd yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor, gan dderbyn adborth cadarnhaol a brwdfrydig.

Ond mae angen dechrau’n llawer cynt.

Mae’r sector ynni cymunedol o ganlyniad i’w hanes, cymhlethdod a’i weledigaeth yn berthnasol i nifer o bynciau sydd ar hyn o bryd yn cael eu hanelu at blant hynaf yr ysgol gynradd ac ysgolion uwchradd, yn enwedig hanes, daearyddiaeth a dinasyddiaeth.  Mae’n bwnc sy’n gallu herio dealltwriaeth ein plant a phobl ifanc o faterion yn ymwneud â hawliau cymunedau i ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy eu hunain.

Mae hefyd yn ffordd o drafod y posibiliadau ddatganoli’r system ynni – creu clystyrau bach o ffynonellau ynni yn bwydo eu cymunedau eu hunain.  Gall myfyrwyr hefyd fynd i’r afael â materion fel brwydro yn erbyn tlodi tanwydd, annog arbed ynni a materion eraill lleol sy’n cryfhau cymunedau.

Drwy ein system addysg, gallwn ddechrau cynnwys ein dinasyddion ifanc mewn trafodaethau a gweithgaredd i herio arferion y system ynni presennol.  Mi fyddai dibynnu ar brosiectau ynni cymunedol sy’n bodoli’n barod (ac sydd eisoes yn cynnal baich trwm o waith gweinyddol) yn unig yn esgeulus  iawn.

O ganlyniad i grant fechan gan yr ESRC, mae Prifysgol Bangor wedi cymryd camau i gau’r  blwch yma yn y cwricwlwm.  Mae nofel graffig ddwyieithog ar-lein (gydag adnoddau dysgu ychwanegol), ar gael i ysgolion fis Medi eleni.  Y gobaith yw, y bydd yr adnodd yn annog ysgolion ac yn cynorthwyo athrawon, i gyflwyno ynni cymunedol fel pwnc i gyd-fynd gyda thrafodaethau traddodiadol am ynni adnewyddadwy a chynaliadwyedd.

Mae angen i ynni cymunedol ddechrau treiddio drwy gymdeithas mewn modd llawer mwy cynhyrchiol.  Can fod cwricwlwm newydd wrthi’n cael ei ddatblygu (ac a fydd yn cael ei gyflwyno yn 2018, a’i ddefnyddio ar draws Cymru o 2021 ymlaen), nawr, yw’r cyfle perffaith i sicrhau bod ynni cymunedol yn cael y sylw mae’n haeddu.

Mae Sioned Haf yn ymchwilydd ynni cymunedol ym Mhrifysgol Bangor. Derbyniodd ‘Tic Toc: Nofel graffeg am ynni, perchnogaeth a chymuned’ ac adnoddau dysgu ychwanegol gyllid gan Gyfrif Cyflymu Effaith ESRC Prifysgol Bangor a bydd ar gael heb gost ychwanegol i ysgolion fis Medi 2017.  Bydd yn cael ei lansio mewn digwyddiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar stondin Prifysgol Bangor, 11.00, 12fed o Awst.

Er mwyn cyfrannu at y drafodaeth o sut allwn godi ymwybyddiaeth a manteisio ar ynni cymunedol, dewch i ddarlith  ‘Troi’r dŵr/gwynt i felin ein hunain: datrys anghenion ynni lleol yn lleol’ fydd yn cael ei gynnal ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol gan Sefydliad Materion Cymreig mewn partneriaeth â Lab Cynaliadwyedd Prifysgol ddydd Llun y 7fed o Awst 2017. Mae manylion pellach i’w cael ar Eventbrite.  Darperir cyfieithu ar y pryd.

Rydym yn awyddus iawn i glywed gan unigolion a chymunedau sydd â diddordeb yn hyn ymlaen llaw. Ein gobaith yw y bydd y digwyddiad yn esgor ar fwy o gydweithio a chyd-greu rhyng-gymunedol ac y bydd syniadau newydd yn deillio o’r digwyddiad.  Er mwyn cyfrannu at y sgwrs, cysylltwch drwy ein cyfryngau cymdeithasol @planetdotcymru #YnniLleolCymru neu gyda Dr Einir Young ([email protected]) a Dr Gwenith Elias ([email protected]).


 

Much interest has been given to community energy development in Wales. It has been recognised as an important sector that addresses sustainability measures, engages and empowers local communities, matches local energy production to energy use and revives struggling economies. It is a sector that should make the designers of the Well-being of Future Generations Act of Wales fall to their knees and weep for joy.

Apart from an appreciation of the valued-added benefits of community energy (in bolstering local economies, generating renewable energy, combating fuel poverty etc), there has also been some efforts by the Welsh Assembly Government to support the sector in Wales, through schemes such as Ynni’r Fro, and Ynni Lleol. I heavily emphasise the ‘some’ in that last sentence. It is not ‘sufficient’. A million miles from being ‘progressive’.

So, despite the positive rhetoric lauded on the sector, despite a handful of community energy success stories (that have managed to struggle through a cumbersome and unsympathetic planning system), despite a growing desire for locally owned and managed energy projects, and despite academic research that has proven some of the positive outcomes of such projects, community energy in Wales is in limbo.

We are currently creating the most miniscule amount of renewable energy from locally owned projects. If you want to feel really down on Wales, for comparison of how the community energy sector could look, see Germany, Denmark and Scotland.

Unfortunately, the wider renewables sector in Wales seems to be continuing with the practices of the traditional carbon-intensive energy sector. A dependence on commercial developers to use our natural resources for capital gain is perpetuated. Ownership remains in the hands of outside developers. Local benefit? Well, a few jobs are thrown at us – how’s that? Remind anyone of the coal, slate and copper industries of our pasts?

Big developments are normal. Commercial developments are normal. Private ownership is normal. Small developments are ineffective. Community developments are deviant. Local ownership is too difficult.

These are philosophical norms surrounding the energy sector that need to be challenged. But how to go about challenging such deep-rooted, Welsh norms?

Well, let’s see. Beyond the groups themselves, intermediaries and policy developers, how many of our citizens have become engaged, or even know about the possibilities of community energy?

Beyond an understanding of how renewable technologies work, how many of our young people are debating in our schools the way that natural resources, particularly the renewable resources aplenty in Wales, are being used, and to whose gain?

How many people question ownership in relation to renewable energy technologies and the resources that drive them (who owns our rivers, our shores, the sun beams, the wind?)

These are questions that remain untouched in our schools. By remaining untouched, the chance of Wales nurturing an engaged civil society, particularly around natural resource use and a sustainable renewable energy sector, remain slim.

The community energy sector not only allows for a more conscientious and responsible way of generating energy. It also allows for an opportunity to promote the growth of our civil society. (Remember IWA’s publication in 2010, ‘Growing Wales’ Civil Society’?)

The community energy sector perfectly encapsulates what an engaged civil society could look like. An active, informed group of people, working in tandem to create a locally owned project that contributes towards a fitter local economy, a sustainable and environmentally healthier energy source, and a more dynamic and empowered local society.

But these issues should be discussed beyond community energy circles. For far too long, we have been talking amongst ourselves. The potential benefits of the sector need to be discussed and circulated nation-wide, through a concerted plan.  

My main proposal then is to include community energy on the national curriculum. Already we have been giving seminars on community energy for undergraduate and postgraduates in the School of Environment, Natural Resources and Geography in Bangor University, with, I can report, enthusiastic and positive feedback.

But we can start much earlier.

Community energy is a sector whose experiences, intricacies and vision span many existing subjects in late primary and in secondary schools, particularly history, geography and citizenship strands. It is a subject that can really challenge our children and young people’s understanding of ownership issues and the rights of local communities to develop their very own renewable energy project.

It is also a way of discussing the possibilities of a decentralised energy system – small clusters of energy pockets feeding their own communities. Combating fuel poverty, encouraging energy conservation and local empowerment are issues that can also be unpicked amongst students.

Through our education system, we can start engaging our young citizens in challenging the norms of the incumbent energy system. It would be completely remiss, and lazy, to rely on existing community energy projects (heavily burdened already with the administrative work of their projects) with this task.

Through a small grant from the ESRC, steps are already underway in Bangor University to contribute to this gap in our curriculum. An online, bilingual, downloadable graphic novel (and additional teaching resources), will be available for schools from September this year. Hopefully, this resource will encourage schools and assist teachers, to introduce community energy as a subject alongside the more traditional discussions about renewables and sustainability.

Community energy needs to start permeating our society in a much more prolific way. With the development of a new curriculum currently underway (which will be introduced in 2018, and to be used across Wales from 2021 onwards), now is the perfect opportunity to ensure that community energy finds its deserved place within it.

Sioned Haf is a community energy researcher based in Bangor University. ‘Tick-Tock: a graphic novel about energy, ownership and community’ and additional teaching resources received funding by the Bangor University ESRC Impact Acceleration Account (IAA) and will be available at no cost for all schools in September 2017. It will be launched in an event in the National Eisteddfod on Bangor University’s stall, 11am, 12th of August.

To contribute to the debate on how to raise awareness and capitalise on the benefits of community energy, come along to a lecture on ‘Diverting the water/wind to our own mill: local solutions to meet local energy needs’ held at the National Eisteddfod by the Institute of Welsh Affairs in partnership with Bangor University’s Sustainability Lab on Monday the 7th of August 2017 can be found on Eventbrite.  Simultaneous translation will be available.

We are keen to hear from individuals and communities who might be interested in developing their own schemes beforehand. Our hope is that as a result of this event inter-community collaboration and co-creating will be facilitated and enhanced and that new ideas will emerge.  To contribute to the discussion you can use social media @planetdotcymru #LocalEnergyWales or contact Einir Young or Gwenith Elias

 

All articles published on Click on Wales are subject to IWA’s disclaimer.

Mae Dr Sioned Haf yn Ymchwilydd ar Ynni Cymunedol ym Mhrifysgol Bangor / Dr Sioned Haf is a Community Energy Researcher at Bangor University.

Also within Uncategorised