Corff syniadau ac elusen ydym ni sydd yn gweithio er mwyn gwneud Cymru’n well.
Gwnawn hyn drwy ein gwaith polisi, y byddwn yn ei ledu drwy gyhoeddiadau a digwyddiadau.
Mae ein gwaith polisi yn canolbwyntio ar feysydd fydd yn cael effaith ar les Cymru yn ystod y deng mlynedd nesaf. Cliciwch isod er mwyn cael gwybod mwy am ein gwaith ymhob un o’r meysydd hyn ac ewch i’n tudalen cefnogi i gael gwybod sut y gallwch ein helpu i ymgymryd â mwy o waith ymhob un o’r meysydd hyn.
Yr Economi
Mae ein gwaith ar yr economi yn cymryd golwg ar ffyrdd o wneud Cymru’n fwy llewyrchus.
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae ein gwaith ar iechyd a gofal cymdeithasol yn defnyddio dulliau ymchwil arloesol i wella’r GIG yng Nhghymru ar gyfer y cleifion.
Addysg
Yn ein gwaith ar addysg, ein nod yw datrys yr heriau sydd yn wynebu system addysg Cymru drwy ddatblygu polisiau ymarferol.
Llywodraethu
Edrych ar herio’r drefn fel y mae hi a wnawn yn ein gwaith ar lywodraethu, a sicrhau systemau mwy effeithiol o lywodraeth. Dewch i gael gwybod mwy >
Y Cyfryngau
Yn ein gwaith ar y cyfryngau, ceisiwn amlygu’r heriau sydd yn bodoli wrth geisio adrodd ar ac o fewn Cymru, ac awgrymu atebion drwy gyfrwng polisiau ymarferol ynglŷn â sut mae gwella cynrychiolaeth.