Elfyn Llwyd a awdurdodaeth gyfreithiol

Cyflwynwyd y papur hwn yn y gynhadledd gyfangwbl Gymraeg gyntaf a gynhalwyd yn adeilad y Pierhead, Caerdydd ar 14 Mawrth 2014.

Pleser mawr oedd derbyn gwahoddiad i’ch annerch yma heddiw.

Hoffwn amlinellu’r dadleuon o blaid awdurdodaeth Gymreig ar wahan – ac rwy’n siwr y cawn drafodaeth fywiog ar y mater i ddilyn.

Y pwynt cyntaf yr hoffwn ei wneud yw un sy’n cael ei ailadrodd yn aml ond sydd fyth yn colli argyhoeddiad er gwaethaf hynny: Cymru yw’r unig wlad yn y byd sydd â deddfwrfa, ond nid awdurdodaeth gyfreithiol ei hun.

Yn y misoedd nesaf, rwy’n obeithiol y bydd Llywodraeth Prydain yn ymateb i ail adroddiad y Comisiwn Silk drwy gyhoeddi Mesur Cymru newydd. Ond mae’r comisiwn hwnnw wedi methu argymell datganoli’r system gyfiawnder i Gymru.

Pam felly fod Cymru yn y sefyllfa hon o fod heb system gyfiawnder ei hun? Ac yn fwy na hynny, pam ydw i ac eraill yn teimlo ei bod hi mor bwysig i ni barhau i ddadlau dros sefydlu system gyfreithiol Gymreig, pryd bynnag fydd hynny?

Yn syml, wrth i ddulliau Cymru o siapio polisi a llunio cyfreithiau ddatblygu, a hyder Bae Caerdydd yn tyfu, rhaid i strwythur ein system gyfiawnder ddatblygu i weddu hynny.

Teg yw dweud fod dadleuon ynghylch datblygiad Cymru fel awdurdodaeth wedi cael eu rhwystro hyd yma gan y setliad datganoli cymharol wan sydd gan Gymru, o gymharu a setliad Gogledd Iwerddon a’r Alban.

Nodir yn aml fod datganoli yn y Deyrnas Gyfunol wedi bod yn anghymesurol. Tra fod Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gweithredu dan fodel pwerau ar gadw, ble fo cymhwysedd dros feysydd yn cael ei gymryd yn ganiatol oni bai y nodir ei fod ar gadw yn San Steffan, cafodd Cymru setliad datganoli sy’n amlinellu ym mha feysydd penodol fyddai’r sefydliad hwnnw’n gymwys i ddeddfu.

Ac mae’r ffaith fod gan Yr Alban ei system gyfreithiol ei hun cyn datganoli yn sicr wedi chwarae rhan mewn sicrhau’r setliad cymharol gryf hwn.

Yn hanesyddol, wedi’r cyfan, roedd system gyfreithiol Cymru fwy neu lai yr un fath ag un Lloegr rhwng 1536 a 1998. Ar y llaw arall, roedd gan Yr Alban system gyfreithiol, egwyddorion cyfreithiol, a strwythur llysoedd ar wahan.

Felly, dim ond rhai meysydd penodol oedd wedi eu datganoli i’r Cynulliad Cenedlaethol a gafodd eu nodi yn Neddf Llywodraeth Cymru 1998. Cafodd y Cynulliad ei ffurfio fel un corff corfforaethol – er, yn ymarferol, mae’r Cynulliad wedi symud tuag at wahanu swyddogaethau deddfwriaethol a gweithredol. Hyd yn oed ar ôl canlyniad refferendwm 2011 ar bwerau pellach, dim ond mewn rhai meysydd mae gan y Cynulliad y grym i ddeddfu.

Yn sgil ansicrwydd dros ehangder pwerau deddfu’r Cynulliad, cafodd y darn cyntaf o ddeddfwriaeth a basiwyd ar ôl y refferendwm ei gyfeirio i’r Uchel Lys gan lywodraeth Prydain. Cafodd y Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) ei gyfeirio i’r Uchel Lys gan lywodraeth Prydain a dim ond drwy drwch blewyn bu i’r Bil Cymru (Ieithoedd Swyddogol) osgoi’r un dynged.

Mae diffyg parch tuag at, ac o bosib diffyg ymddiriedaeth ym mhwerau cynradd y Cynulliad yn parhau – yn wir, mis diwethaf fe aeth y llywodraeth Prydeinig â’r Cynulliad i’r Goruchaf Lys am yr ail dro mewn cyfnod byr iawn – mewn dadl dros gyflogau gweithwyr amaethyddol.

Mae Cymru’n cael ei thrin fel y brawd tlawd yn hyn o beth; wedi’r cyfan, ni fu unrhyw gyfeiriad o’r fath i’r Goruchaf Lys yn achos Yr Alban na Gogledd Iwerddon pan y pasiwyd deddfwriaeth yno am y tro cyntaf dan y model pwerau ar gadw.

Gwelwch, os bydde holl faterion yn ymwneud ag amaeth er enghraifft wedi’w datganoli yna ni fuasai unrhyw sail i lywodraeth San Steffan fynd a mater sy’n ymwneud â chyflogau gweithwyr amaethyddol i’r Llys.

Yng Nghymru, mae unrhyw drafodion cyfreithiol y tu hwnt i’r enghraifft gyntaf bron wastad yn cael eu trosglwyddo i Lundain, sy’n achosi oedi a thanseilio hygrededd y trafodion.

Mae adolygiadau barnwrol yn dod yn fwyfwy pwysig wrth i unigolion herio grym y wladwriaeth, ac er fod ambell achos yn bodoli o adolygiad barnwrol yn cael gwrandawiad cyntaf yng Nghymru, nid oes Llys Gweinyddol pwrpasol i ddelio â materion Llywodraeth Cymru.

Unwaith eto, mae unrhyw beth y tu hwnt i’r enghraifft gyntaf yn mynd i Lundain, sy’n golygu fod barnwyr Seisnig yn eistedd mewn llysoedd Seisnig yn beirniadu gweithredoedd Llywodraeth Cymru. Pe bai gennym ein system gyfreithiol ein hunain i ddechrau, nid fel hyn fyddai hi.

Ond yn ddi-os, bychan fyddai nifer y rhwystrau ymarferol i ddatrys yr anghysondeb rhwng wahanol genhedloedd y Deyrnas Gyfunol.

Wedi’r cyfan, mae Gogledd Iwerddon a’r Alban yn gweithredu system llwyddiannus heb fod ynghlwm â Lloegr, ac mae Cwnsler Cyffredinol Cymru, Theodore Huckle C.F., wedi mynnu y gall awdurdodaethau ar wahan fodoli o fewn y Deyrnas Gyfunol.

Serch hyn, yn ddiweddar mae ef wedi honni y byddai sefydlu awdurdodaeth Gymreig yn llawer rhy gostus – barn na rennir gan nifer o sylwebwyr ac aelodau o’r farnwriaeth.

Yn sicr, mae’n hysbys fod system gyfreithiol Yr Alban yn costio llawer llai i’w gweithredu na’r system bresennol yn Lloegr a Chymru.

Mewn blynyddoedd diweddar, mae mwy a mwy o bobl wedi ymuno â rhengoedd yr arbennigwyr ac academyddion sy’n galw am system gyfreithiol gyfiawn a chynhwysfar i fodloni anghenion y Gymru gyfoes – yn eu plith, Syr Roderick Evans C.F., yr Athro R Gwynedd Parry o Sefydliad Hywel Dda, y gyfreithwraig Fflur Jones, Winston Roddick C.F., comisiynydd heddlu Gogledd Cymru, a’r Anrhydeddus Philip Richards – barnwr cylchdaith cyfarwydd i chi yma.

Mae llawer wedi’w ysgrifennu am sefydliad graddol ‘Cymru Gyfreithiol’. Yn 2007, cafwyd gwared ar gylchdaith Cymru a Chaer, a daeth Cymru’n gylchdaith ar wahan, ac mae dwy adran y Llys Apel (troseddol a sifil), yn ogystal â’r Llys Gweinyddol yn eistedd yng Nghaerdydd.

Mae yna nawr Arglwydd Brif Ustus i Gymru a Lloegr yn dilyn penderfyniad yr Arglwydd Bingham i ychwanegu ‘Cymru’ i’w deitl.

Gellir dadlau fod awdurdodaeth Gymreig yn bodoli eisoes, gan bod deddfwriaeth yn cael ei basio sy’n berthnasol i Gymru yn unig.

Wrth gwrs, hyd yn oed cyn datganoli, pasiodd Senedd San Steffan ddeddfwriaeth oedd yn effeithio ar Gymru’n unig, gan gynnwys Deddf Cau ar y Sul (Cymru) 1881, Deddf Addysg Ganolradd (1889) a Deddf Eglwys Cymru (1914).  Roedd gan ddeddfwriaeth y DG, fel y Ddeddf Yswiriant Cenedlaethol (1911) a’r Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol (1946) drefniadau gweinyddol ar wahân i Gymru. Datblygodd Deddfau Iaith Gymraeg 1967 ac 1993 bersona cenedlaethol mwy amlwg a gwahanol, fel y cydnabuwyd yn San Steffan (geiriau Timothy H. Jones a Jane M. Williams).

Ond roedd hi wastad yn ffaith i bob un o’r darpariaethau hyn gael eu creu yn San Steffan.

Nawr, gall pob darn o ddeddfwriaeth a gaiff ei basio gan y Senedd yng Nghaerdydd olygu bod trosedd newydd yn cael ei chreu. Mae’r dirwyon a roddir i berchnogion siop sy’n gwrthod codi pris am fagiau plastig, neu am ysmygu mewn llefydd gwaharddedig yn enghraifft o hyn.

Felly, mae gweithredu’r gyfraith yng Nghymru yn dargyfeirio o Loegr. Os yw cyfreithwyr sy’n ymarfer cyfraith amgylcheddol, troseddol, teuluol a chyfraith weinyddol, yn amlwg, yn dymuno ymarfer y gyfraith yng Nghymru, yna mae’n rhaid iddynt feddu ar wybodaeth drylwyr o gorff cyfraith Gymreig – y corpus juris Cymreig.

Wrth gwrs, byddai sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol Gymreig ar wahân yn cael effaith ar y gyfraith gwlad sydd wedi esblygu o dan awdurdodaeth unol Cymru a Lloegr, gan fod esblygiad dros gyfnod o amser yn rhan o natur cyfraith gwlad.

Byddai cyfreithiau ac awdurdodaethau gwahanol, ynghyd â gwahanol gefndiroedd cymdeithasol a diwylliannol y ddwy genedl, yn golygu bod cyd-destun yr esblygiad yn wahanol, fel y byddai rhwng Cymru a Lloegr. Rhaid ystyried hyn yn ddatblygiad cadarnhaol.

Mewn modd tebyg, byddai cyfraith statud sydd ond yn ymestyn i awdurdodaeth gyfreithiol Gymreig ar wahân, yn cael ei chydnabod fel cyfraith mewn awdurdodaethau eraill o fewn y DG – yn yr un modd, mae corff cyfraith yr Alban yn cael ei gydnabod tu hwnt i ffiniau’r Alban.

Byddai cyfraith statud o’r fath yn hawlio sylw’r awdurdodaethau eraill gan ei bod yn arfer gan lysoedd gyfeirio at y gyfraith gyfredol o fewn awdurdodaethau eraill wrth gynorthwyo gyda’r broses o ddehongli’r gyfraith.

Er enghraifft, ac fel y gwyddoch yn iawn, ym meysydd cyfreithiau camwedd yng Nghymru a Lloegr, mae’r llysoedd wedi edrych ar awdurdodau Canada, Awstralia a Seland Newydd yn aml, yn ogystal ag awdurdodaethau cyfraith cyffredin eraill.

Ceir dadlau fod y cyfeiriadau hyn yn aml wedi creu cyfreithiau camwedd yn y modd y cânt eu gweithredu ar hyn o bryd yng Nghymru a Lloegr.

Mae hyn yn bwydo’r cwestiwn ehangach o beth sy’n ofynnol er mwyn sefydlu awdurdodaeth ar wahân. Y meini prawf a ddefnyddir fel arfer yw:

– y dylai’r awdurdodaeth weithredu mewn tiriogaeth wedi diffinio

– y dylai’r awdurdodaeth gael corff cyfreithiol ar wahân

-y dylai gael ei gefnogi gan ei strwythur llysol a sefydliadau cyfreithiol ei hun.

 

Ers Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae Cymru wedi bod yn diriogaeth wedi ei diffinio.  Mae gan Gymru gorff cyfreithiol ar wahân sy’n tyfu – (mae’r cwestiwn ‘a yw’n ddigon mawr?’ yn un dadleuol). Fel y nodwyd yn flaenorol, mae gan Gymru ei hawdurdodaeth ei hun eisoes, gan fod cyfreithiau a gaiff eu pasio gan y Cynulliad yn ymwneud â Chymru’n unig.

 

 

Gyda threigl amser, tyfu wnaiff yr angen i’r corff cynyddol o gyfraith Gymreig gael ei gefnogi gan ei strwythur llysoedd a sefydliadau cyfreithiol ei hunan.

 

 

O ran y cwestiwn ‘a oes angen Uchel Lys  a Llys Apêl ar wahân i Gymru?’, gellir dwyn cymariaethau gyda’r sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon, lle mae Goruchaf Lys y DG yn ymddwyn fel y tribiwnlys apêl terfynol.

 

 

Fel yn achos awdurdodaethau eraill y DG, mae’r Goruchaf Lys ond yn ymwneud â materion sy’n codi pwyntiau cyfreithiol o bwysigrwydd cyhoeddus cyffredinol. Mae Llys a barnweinyddiad Gogledd Iwerddon yn cynnwys y Llys Apêl, yr Uchel Lys a Llys y Goron.

 

 

Cafodd aelodau o fy mhlaid, Plaid Cymru, eu siomi yn ddiweddar o glywed na fyddai’r Comisiwn Silk yn argymell sefydlu awdurdodaeth Gymreig ar wahan, er gwaetha’r ffaith fod y comisiwn yn argymell datganoli heddlu. Yn wir, mae hyn yn gam yn ôl ble fo’n dadl ni yn y cwestiwn.

 

 

Awgrymodd yr adroddiad y dylid cynnal adolygiad o fewn y degawd nesaf ar ddatganoli cyfrifoldeb deddfwriaethol dros y gwasanaeth llysoedd, dedfrydu, cymorth cyfreithiol, Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r farnwriaeth i’n Cynulliad. Hynny yw, creu Awdurdodaeth Gyfreithiol.

 

 

Fel y nododd ymateb Plaid Cymru ar y pryd, os oes achos argyhoeddiadol dros ddatganoli’r meysydd hyn yn bodloni’r barod, pam aros cyhyd?

 

 

Wrth gwrs, nid yw awdurdodaeth Gymreig ar wahan yn rhagamod i fwy o bwerau i’r Cynulliad, a gall datganoli barhau hebddi. Ond mae cap wedi’w osod ar allu’r Cynulliad – a rhaid taclo hyn yn y blynyddoedd nesaf.

Ond cyn i mi orffen fy sylwadau, hoffwn amlinellu – yn fyr – sut y gall datganoli cyfiawnder gymryd lle yn ymarferol yn y dyfodol.

 

 

Yn gyntaf ac yn bwysicaf, byddai’n rhaid addasu Atodlen neu ‘Schedule 7 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 i gynnwys gweinyddiad cyfiawnder. Ar ben hyn, byddai gwasanaeth erlyn annibynnol yn cael ei sefydlu yng Nghymru, a byddai Cymru’n cymryd cyfrifoldeb dros weinyddiad pellach y llysoedd.

Byddai Comisiwn Apwyntiadau Cyfreithiol Cymreig yn cael y dasg o ddewis y farnwriaeth, ynadon ac aelodau’r tribiwnlysoedd sy’n gweithredu yng Nghymru.

 

 

Yn y tymor hir, ac yn dilyn Deddf Llywodraeth Cymru newydd, gall Cymru edrych tuag at ddatganoli Gwasanaeth Erlyn y Goron drwy sefydlu ‘Swyddfa’r Goron’; cyfrifoldebau dros y gwasanaeth prawf, carchardai a heddlu; system lles a budd-daliadau ar wahan; system cymorth cyfreithiol wedi’w gweinyddu ar sail Cymru-yn-unig; ac efallai cymhwysterau ar wahan ar gyfer proffesiwn cyfreithiol Cymreig.

 

 

Bydd angen cyrraedd consensws o ran a fyddai hyn yn gofyn am gymhwyster penodol Cymreig ar gyfer ymarferwyr yng Nghymru, ac a ddylai’r trefniadau penodi ar gyfer y farnwriaeth adlewyrchu anghenion yr hyn a fydd yn gorff cyfreithiol mwy deublyg.

 

 

Yn anochel, fe fydd goblygiadau hefyd ar gyfer ymarferwyr traws-ffiniol.

 

 

Eto, mae’r gymhariaeth gyda Gogledd Iwerddon yn bwysig.

 

 

Cafodd y gweithdrefnau ar gyfer cymhwyso a chael hawliau ymddangos eu cadw ar wahân yng Ngogledd Iwerddon a does dim hawl awtomatig i gael ymarfer yng Nghymru a Lloegr (mae’r un peth yn wir i’r gwrthwyneb).

 

 

Gall y sawl sy’n dymuno gweithio mewn awdurdodaeth arall wneud trefniadau a chydymffurfio gyda gofynion a osodwyd gan gyrff proffesiynol.

 

 

Ceir trefniadau wedi’u symleiddio ar gyfer bargyfreithwyr sy’n cynnal achos penodol neu achosion eraill mewn awdurdodaeth arall, yn hytrach na’r rhai hynny sy’n awyddus i ymarfer yno yn barhaol.

 

 

I’r rhai sy’n dymuno gweithio yn y Bar yng Ngogledd Iwerddon (ond) sydd yn gymwys fel bargyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr, yr oll sydd ei angen yw cwblhau ambell ffurflen a thalu ffȋ am hawl ymddangos dros-dro gydag awdurdodaeth Gogledd Iwerddon.

 

Yn yr un modd, yn yr Alban, defnyddir profion pontio cyfreithwyr cymwysedig (neu QLTTs) fel profion pontio o fewn y DG. Gall cyfreithwyr sydd yn gymwys i ymarfer mewn rhannau eraill o’r DG eistedd y profion hyn er mwyn gallu ymarfer yn yr Alban.

 

 

Caiff y profion eu cynnal ddwywaith y flwyddyn fis Mai a Thachwedd, er mai nifer fach o bobl sy’n dueddol o’u sefyll (roedd niferoedd diweddar rhwng 10 a 24). Unwaith y byddant wedi pasio’r prawf, gall cyfreithwyr ymgeisio i fod yn gyfreithwyr yn yr Alban yn barhaol.

 

 

Ond dylid ystyried ymarferoldeb mabwysiadu’r system QLTT hefyd, pe bai cymwysterau gwahanol yn datblygu yng Nghymru.

 

 

Yn ariannol, byddai angen i’r Cynulliad gael gafael ar ddarpariaethau ychwanegol er mwyn gallu talu am gostau system y llys a gweinyddu cyfiawnder.

 

 

Mae’r system gyfiawnder yng Ngogledd Iwerddon yn cyflogi tua 16,000 o bobl, gan gynnwys yr heddlu a swyddogion carchardai, staff y gwasanaeth prawf, cyfiawnder ieuenctid a gwasanaethau’r llysoedd; mae’n gwbl amlwg sut y gall economi Cymru a’r farchnad swyddi elwa o sefydlu awdurdodaeth ar wahân.

 

 

I raddau helaeth felly, gallai’r gost o sefydlu awdurdodaeth ar wahân gael ei gosod yn ffafriol yn erbyn cyflogaeth a hwb i’r economi.

 

 

Mae’r rhain oll yn faterion sydd angen eu hystyried dros y blynyddoedd nesaf. Fel yr wyt wedi nodi’n glir, rwy’n siomedig fod cyfle i ddatganoli’r system gyfiawnder yn y dyfodol agos wedi’w golli. Ond mae’r frwydr yn parhau ac mae amserlen yng nghorff yr Adroddiad Silk.

 

Fe fydd yna sawl her sylweddol, yn ymarferol a chyfansoddiadol, yn wynebu system gyfreithiol Cymru, ond yn fy  marn i, maen nhw’n heriau mae’r wlad a’i strwythurau yn fwy na pharod i’w diwallu. Mae’r amser yn sicr wedi dod i roi’r newidiadau hanfodol hyn ar waith yng Nghymru. Byddant yn mynd law yn llaw gyda hyder ac aeddfedrwydd cynyddol y broses ddemocrataidd yng Nghymru ac yn gam sylweddol ymlaen ar y ffordd tuag at gwblhau’r broses o adeiladu cenedl yng Nghymru.

 

Diolch am wrando, a chroeso i unrhyw sylwadau neu gwestiynau sydd gennych.

Also within Politics and Policy