Uwchgynhadledd y Cyfryngau SMC 2021

Ym mis Mawrth 2021, byddwn yn cyhoeddi Archwiliad o’r Cyfryngau SMC 2021 a Maniffesto’r Cyfryngau SMC a fydd yn cynnwys argymhellion manwl ar yr hyn sydd angen i wleidyddion a phenderfynwyr eraill ei wneud i sicrhau bod y diwydiant cyfryngau yng Nghymru yn cael ei gefnogi.

Gan adeiladu ar waith Archwiliad o’r Cyfryngau SMC 2015, bydd yr adroddiad hwn yn edrych ar gyflwr y cyfryngau, gan ddadansoddi arferion gwylio a dewisiadau, sut mae pobl yn cael eu newyddion, mynediad at y rhyngrwyd ac effaith ffrydio a’r cyfryngau cymdeithasol ar y diwydiant.


Roedd Uwchgynhadledd y Cyfryngau SMC 2021 yn gyfres o ddigwyddiadau a oedd yn canolbwyntio ar y diwydiant cyfryngau yng Nghymru.

Mae’r digwyddiadau isod ar gael i’w gwylio ar ein sianel YouTube, ar gael i wrando arnynt ar Apple Podcasts, Spotify ac ar ein gwefan.


The State of Play

Wrth lansio ein huwchgynhadledd, fe wnaeth ‘The State of Play’ edrych ar brif ganfyddiadau Archwiliad o’r Cyfryngau 2020 SMC cyn cynnal trafodaeth banel yn edrych ar y dirwedd newydd, ôl-Covid.

Ymhlith y cyfranwyr:

  • Dr. Marlen Komorowski, Ymgynghorydd Archwilio’r Cyfryngau, SMC
  • Helen Mary Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, y Senedd 
  • Gerwyn Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cymru Greadigol
  • Eleanor Marks, Cyfarwyddwr, OFCOM Cymru


The Future of Screen Work

Yn yr ail ddigwyddiad, ‘The Future of Screen Work’, lansiwyd adroddiad ‘Gwaith Sgrin 2020’ Clwstwr a oedd yn archwilio’r sectorau Ffilm, Teledu, Animeiddio, Gemau, VFX ac ôl-gynhyrchu a daeth i’r casgliad – heb strategaeth – bod y diwydiant mewn risg o fod yn anghynaliadwy.

Ymhlith y cyfranwyr:

  • Yr Athro Ruth McElroy, Prifysgol De Cymru/Clwstwr
  • Faye Hannah, Prifysgol De Cymru
  • Michelle Matherson, Partner Amrywiaeth Creadigol BBC 
  • Joedi Langley, Pennaeth Datblygu Sector, Cymru Greadigol 
  • Luned Whelan, Rheolwr Gweithredol, Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC)
  • Yr Athro Doris Ruth Eikhof, Athro Economi Ddiwylliannol a Pholisi, Prifysgol Glasgow


Fact or Opinion? Who Decides What’s News?

Canolbwyntiodd ein trydydd digwyddiad, ‘Fact or Opinion? Who Decides What’s News?’ ar sut mae pobl yn cael eu newyddion yng Nghymru a bu’n pwyso a mesur sut gallwn ni gefnogi newyddion annibynnol a dibynadwy ar lefel genedlaethol a lleol yng Nghymru.

Ymhlith y cyfranwyr:

  • Ifan Morgan Jones, Golygydd, Nation.Cymru
  • Geraint Evans, Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes, S4C
  • Emma Meese, Cyfarwyddwr Newyddiaduraeth Gymunedol, JOMEC
  • Sian Powell, Prif Weithredwr, Golwg


S4C: Ariannu, Covid a’r Dyfodol

Dyma’r digwyddiad olaf yn yr uwchgynhadledd. Y newyddiadurwr Guto Harri oedd yn cyfweld Owen Evans, Prif Weithredwr S4C ar sut mae’r sianel wedi ymateb i Covid-19, beth yw’r cyfyngiadau i gydweithio â’r BBC ac a yw’n addasu i’r dirwedd cyfryngau newydd.

Gellir gwylio’r digwyddiad yn Gymraeg isod neu yn Saesneg yma.