Drwy ymuno â’r Sefydliad fel Aelod Corfforaethol fe fyddwch chi mewn Cwmni da. Caiff y Sefydliad ei gefnogi gan rhai o fusnesau, elusennau a sefydliadau academaidd pwysicaf Cymru oherwydd ein bod yn gweithio ar faterion syddyn hanfodol i’w llwyddiant, ac yn cynnig mewnolwg unigryw i faterion polisi sydd yn effeithio ar eu gwaith.
Bydd sefydliadau yn chwarae rhan hanfodol wrth gyfrannu tuag at waith y Sefydliad. Bydd cefnogaeth eich mudiad yn ein caniatau i:
- Helpu Cymru i ffynnu drwy ddatblygu polisi mewn ystod o feysydd a herio perfformiad lle bo angen
- Sicrhau fod pobl wedi eu hymgysylltu â’r materion polisi sydd yn wynebu Cymru
- Cynnig gofod pwysig yng Nghymru ar gyfer lledu syniadau a thrafodaeth
Yn gyfnewid am eich cyfraniad fel aelod corfforaethol, bydd gyda chi’r cyfle i gael mynediad at weithgarwch unigryw y Sefydliad, fel adroddiadau, crynoedbau o ddigwyddiadau a phapurau dadansoddol, yn ogystal â phris mynediad gostyngol i gynadleddau’r Sefydliad a hysybyseb am ddim yn ein cylchgrawn, the welsh agenda.
Byddwch cystal ag ymaelodi â ni, ac ymunwch â’r drafodaeth.
Dewiswch lefel o aelodaeth sydd yn adlewyrchu eich mudiad:
Bydd aelodaeth elusennol yn eich galluogi i gael y canlynol:
- 5 copi papur o’n cylchgrawn, the welsh agenda, ddwywaith y flwyddyn
- Cylchlythyr aelodau drwy e-bost sydd yn cynnwys uwchgysylltiadau (hyperlinks) i adroddiadau, crynodebau o ddigwyddiadau a phapurau dadansoddol
- Mynediad am bris gostyngedig i un cynhadledd gan y Sefydliad y flwyddyn
- Rhybudd o flaen llaw ynglŷn â gostyngiadau i bobl prydlon ar ein cynadleddau a chyrsiau hyfforddiant
- Hysbyseb chwarter tudalen am ddim mewn un copi o Agenda (rhaid bod gyda chi dystysgrif yn cadarnhau eich bod yn elusen)
- Cefnogi ein hymchwil a’n gwaith drwy eich aelodaeth gwerthfawr
Pris Aelodaeth blynyddol i elusennau yw £300 gan gynnwys TAW
Mae aelodaeth busnes safonol ar gyfer busnesau sydd yn cyflogi llai na 250 o bobl, ac mae’r pecyn aelodaeth yn cynnig:
- 5 copi papur o’n cylchgrawn, the welsh agenda dwywaith y flwyddyn
- Cylchlythyr aelodau drwy e-bost sydd yn cynnwys uwchgysylltiadau (hyperlinks) i adroddiadau, crynodebau o ddigwyddiadau a phapurau dadansoddol
- Gwahoddiad i’n cyfarfod blynyddol yn yr haf
- 2 docyn am ddim i un gynhadledd gan y Sefydliad bob blwyddyn, a gostyngiadau o 50% ar bob o un o’n cynadleddau
- Prisoedd gostyngol ar lefydd ar gyrsiau hyfforddi’r Sefydliad
- Hysbyseb hanner tudalen am ddim mewn un copi o Agenda
- Stondyn am ddim yn un o’n cynadleddau, ar ofyn
- Cefnogi ein hymchwil a’n gwaith drwy eich aelodaeth gwerthfawr
Pris aelodaeth blynyddol i fusnesau safonol yw £600 gan gynnwys TAW
Mae aelodaeth i fusnesau mawr ar gyfer busnesau sydd yn cyflogi mwy na 250 o weithwyr, ac mae’r pecyn aelodaeth yn cynnig:
- 5 copi papur o’n cylchgrawn, the welsh agenda dwywaith y flwyddyn
- Cylchlythyr aelodau drwy e-bost sydd yn cynnwys uwchgysylltiadau (hyperlinks) i adroddiadau, crynodebau o ddigwyddiadau a phapurau dadansoddol
- Gwahoddiad i’n cyfarfod blynyddol yn yr haf
- 4 tocyn am ddim y flwyddyn a gostyngiadau o 50% ar bob un o’n cynadleddau
- Prisoedd gostyngol ar lefydd ar gyrsiau hyfforddi’r Sefydliad
- Hysbyseb tudalen llawn am ddim mewn un copi o Agenda
- Stondyn am ddim mewn dau o’n cynadleddau, ar ofyn
- Cefnogi ein hymchwil a’n gwaith drwy eich aelodaeth gwerthfawr
Pris aelodaeth blynyddol i elusennau yw £1200 gan gynnwys TAW