Hoffech chi helpu i ddatblygu Cymru well ar gyfer y dyfodol?

Hoffech chi helpu i ddatblygu Cymru well ar gyfer y dyfodol?

Mae Ymddiriedolwyr y Sefydliad Materion Cymreig (SMC) yn falch iawn o fod yn chwilio am bedwar aelod newydd ar gyfer ein Bwrdd.

Rydym yn arbennig o awyddus i sicrhau ein bod yn parhau i fod â detholiad amrywiol o brofiadau ac arbenigedd i oruchwylio cam nesaf datblygiad y felin drafod ddylanwadol hon.  

Hoffem bwysleisio nad oes angen unrhyw brofiad Bwrdd blaenorol. Mae gennym raglen gynefino lawn ar gyfer Ymddiriedolwyr a byddwn yn eich cyfeillio ag Ymddiriedolwr presennol wrth i chi ymgartrefu hefyd. 

Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r hyn y mae’r rôl yn ei olygu, cysylltwch ag Auriol Miller, Cyfarwyddwr SMC, drwy e-bostio [email protected]. Bydd Auriol yn falch o drefnu i chi gael  sgwrs gydag Ymddiriedolwr presennol.  

I wneud cais, anfonwch eich CV atom a llythyr esboniadol byr (dim mwy nag un ochr A4) yn nodi’r hyn y byddech yn ei gyfrannu i’r Bwrdd. Nodwch ei fod er sylw’r Pwyllgor Enwebiadau ac e-bostiwch y cais i [email protected] cyn 9am ddydd Gwener 17 Mawrth 2023. Cynhelir cyfweliadau wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd ddydd Llun 27 Mawrth 2023.

Sefydliad cynhwysol, croesawgar, ar gyfer Cymru gyfan 

Rydym yn rhestru isod y detholiad o sgiliau, mathau o brofiad a safbwyntiau penodol yr ydym yn chwilio amdanyn nhw. Gwyddom ei fod yn ddetholiad eang o opsiynau. Mae hyn oherwydd ein bod yn meddwl am y sgiliau rydym yn eu gwerthfawrogi yn rhai o’r ymddiriedolwyr sydd wedi bod gyda ni hiraf ac a fydd yn camu i lawr yn 2023 yn ogystal â sgiliau, profiadau a safbwyntiau eraill yr hoffem eu cyflwyno i’r Bwrdd. Felly peidiwch â phoeni os mai dim ond un neu ddau o’r rhain sydd gennych – efallai mai dyna’r union rai y bydd eu hangen arnom.  

Sgiliau, profiad a safbwyntiau

  • Craffter gwleidyddol gwirioneddol – mae gennych ddealltwriaeth dda o’r hyn sy’n digwydd yn wleidyddol yng Nghymru, yn San Steffan ac yng ngweddill y DU
  • Craffter masnachol a busnes – gallwch ein helpu i ddatblygu ymhellach ein potensial ar gyfer cynhyrchu incwm
  • Profiad o werthiant – gallwch ein helpu i gyrraedd hyd yn oed mwy o bobl gyda’n cylchgrawn, ein digwyddiadau a’n hyfforddiant
  • Profiad o godi arian neu fentrau cymdeithasol – gallwch ein helpu i ddod o hyd i ffynonellau newydd o arian
  • Economegydd – mae’r rhifau’n bwysig i ni bob amser 
  • Ymgysylltu democrataidd – rydych yn gwybod bod democratiaeth yn bwysig ac mae gennych brofiad o gryfhau a chefnogi democratiaeth mewn ffyrdd arloesol
  • Newid Hinsawdd – dyma her ein cyfnod ni. Dewch i’n helpu i gyfrannu tuag at ddiogelu dyfodol Cymru
  • Siaradwr Cymraeg rhugl – Dewch i’n helpu i wireddu ein huchelgais o fod yn sefydliad dwyieithog erbyn 2025 
  • Yn byw y tu allan i’r de-ddwyrain – rydym bob amser yn awyddus i sicrhau ein bod yn ystyried materion sy’n bwysig ym mhob cwr o Gymru. Mae’r rhain yn wahanol yn dibynnu ar ble rydych yn byw.
  • Ymgysylltu’n wleidyddol â phlaid neu bleidiau gwleidyddol penodol ar lefel Cymru/ y DU – does dim ots pa blaid – mae gennym ddiddordeb ym mhob un 
  • Dan 30 – pobl ifanc yw dyfodol Cymru
  • Heb gael addysg i lefel prifysgol – mae llawer yn meddwl bod yn rhaid meddu ar radd brifysgol i weithio mewn melin drafod neu i fod yn un o ymddiriedolwyr melin drafod. Dyw hyn ddim yn wir. 
  • Nod ein mudiad yw bod yn gynrychiadol o bobl Cymru. Hoffem glywed gan bobl sy’n rhan o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. 

Hoffem sefydlu grŵp cynghori hefyd i gefnogi’r Bwrdd. Efallai y bydd eich sgiliau a’ch profiad yn ddefnyddiol iawn yn hyn o beth hefyd, hyd yn oed os nad ydych yn cael eich penodi i’r Bwrdd y tro hwn. Os oes gennych ddiddordeb yn hyn, rhowch wybod i ni.

Ynglŷn â’r SMC

Ni yw’r Sefydliad Materion Cymreig, prif felin drafod annibynnol Cymru. Cawsom ein sefydlu ym 1987 ac rydym yn dwyn ynghyd profiad ac arbenigedd o bob cefndir i gydweithio ar y materion pwysicaf sy’n wynebu Cymru. Rydym yn sefydliad aelodaeth, yn annibynnol ar y llywodraeth a phleidiau gwleidyddol. Rydym yn elusen (rhif 1078435) a chwmni cyfyngedig drwy warant (rhif 02151006). Rydym yn falch o fod yn gyflogwr Cyflog Byw achrededig, ac yn llofnodwr Dim Hiliaeth Cymru ac mae gennym statws Elusen Ddibynadwy. Mae gennym dîm staff o 8 o bobl.

Ein Gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw helpu i greu Cymru lle gall pawb ffynnu.

Ein Cenhadaeth

Rydym yn felin drafod annibynnol sy’n gweithio i wneud Cymru yn lle gwell i fyw a gweithio. 

Ein strategaeth yw:

  • darparu llwyfannau agored, cynhwysol a gwybodus ar gyfer trafodaethau cadarn
  • rhoi cyfleoedd i bobl yng Nghymru gynyddu eu gwybodaeth am sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud a lleisio eu barn
  • datblygu a sicrhau ymrwymiad i weithredu syniadau a all drawsnewid Cymru yn ein meysydd blaenoriaeth:
    • democratiaeth gref a hyderus
    • economi lwyddiannus, werdd a theg.

Ein gwerthoedd

Mae ein gwerthoedd yn sail i bopeth a wnawn:

  • Rydym yn annibynnol 
  • Nid oes gennym unrhyw deyrngarwch i unrhyw grŵp â buddiant gwleidyddol neu economaidd 
  • Ein nod yw bod yn gynhwysol ac amrywiol
  • Mae ein gwaith yn cael ei lywio gan dystiolaeth
  • Ein hunig fuddiant yw gweld Cymru’n ffynnu fel gwlad i weithio a byw ynddi.

Ein gwaith

Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio ar ddarparu nifer o brosiectau polisi a fydd yn cael effaith a dylanwad. Mae’r rhain yn craffu ar bwerau cyllidol Cymru, cysylltiadau’r farchnad lafur a sut i roi grym i gymunedau dros eu hasedau lleol. Rydym yn archwilio sut i gryfhau tirwedd cyfryngau Cymru a chryfhau ein democratiaeth. Hefyd, rydym yn helpu i agor a llywio’r drafodaeth barhaus ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.

Yn ystod y tair blynedd nesaf, rydym am barhau i edrych ar ffyrdd o wella Cymru. Byddwn yn canolbwyntio ar sut y gall Cymru ddatblygu rhaglen ar gyfer economi decach, fwy gwyrdd a mwy llwyddiannus, ynghyd â democratiaeth gryfach, fwy hyderus. Byddwn yn edrych yn fanwl ar unrhyw ddiwygiadau cyfansoddiadol posibl a chysylltiadau rhynglywodraethol gyda gweddill y DU.

Fel aelod o’n Bwrdd, eich rôl chi yw helpu i osod strategaeth y sefydliad, a diogelu ein hadnoddau a sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar yr heriau a fydd yn wynebu Cymru yn y dyfodol.

Manyleb y Person ar gyfer Ymddiriedolwr y SMC

Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn gyfrifol ar y cyd ac yn unigol am lywodraethu’r Elusen yn gyffredinol ac am ei chyfeiriad strategol, ei chyflwr ariannol, uniondeb ei gweithgareddau a datblygiad nodau, amcanion a thargedau’r sefydliad yn unol â’r ddogfen lywodraethu, canllawiau cyfreithiol a chanllawiau rheoleiddiol. Yn ogystal, rhaid i’r Ymddiriedolwyr ddangos dealltwriaeth o saith egwyddor Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus a dangos eu bod yn eu derbyn: y saith egwyddor yw anhunanoldeb, uniondeb, gwrthrychedd, atebolrwydd, bod yn agored, gonestrwydd ac arweinyddiaeth. 

Dyma ddyletswyddau statudol Ymddiriedolwr:

  • Sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio â’i ddogfen lywodraethu
  • Sicrhau bod y sefydliad yn dilyn ei amcanion fel y’u diffinnir yn ei ddogfen lywodraethu
  • Sicrhau bod y sefydliad yn cymhwyso ei adnoddau yn unol â’i amcanion ac nid i unrhyw bwrpas arall. Ni ddylai’r Elusen wario arian ar weithgareddau nad ydynt wedi’u cynnwys yn ei hamcanion, ni waeth pa mor ‘elusennol’ a ‘gwerth chweil’ yw’r gweithgareddau hynny.
  • Cyfrannu’n weithredol at rôl Bwrdd yr Ymddiriedolwyr drwy roi cyfeiriad strategol cadarn i’r sefydliad, gosod polisïau cyffredinol, diffinio nodau a gosod targedau a gwerthuso perfformiad yn erbyn targedau y cytunwyd arnynt
  • Diogelu enw da a gwerthoedd y sefydliad
  • Sicrhau gweinyddiaeth effeithiol ac effeithlon y sefydliad
  • Sicrhau sefydlogrwydd ariannol y sefydliad
  • Diogelu a rheoli eiddo’r sefydliad a sicrhau bod cronfeydd y sefydliad yn cael eu buddsoddi’n briodol
  • Os yw’r sefydliad yn cyflogi staff, penodi’r Cyfarwyddwr a monitro perfformiad yr unigolyn hwnnw.

Yn ogystal, ac ar y cyd ag Ymddiriedolwyr eraill, dal yr elusen “mewn ymddiriedolaeth” at y dyfodol drwy’r ffyrdd canlynol:

  • Sicrhau bod gan yr Elusen weledigaeth, cenhadaeth a chyfeiriad strategol clir a’i bod yn canolbwyntio ar gyflawni’r rhain
  • Bod yn gyfrifol am berfformiad yr Elusen ac am ei hymddygiad “corfforaethol”; sicrhau bod yr elusen yn cydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol a rheoleiddiol
  • Gweithredu fel gwarcheidwaid asedau’r Elusen, yn asedau diriaethol ac yn asedau annirweddol, gan roi’r holl ofal dyledus i’w diogelwch, eu defnydd a’u cymhwysiad cywir. 
  • Sicrhau bod dulliau llywodraethu’r Elusen o’r safon uchaf posibl.

Yn ogystal â’r dyletswyddau statudol uchod, dylai pob Ymddiriedolwr ddefnyddio unrhyw sgiliau, gwybodaeth neu brofiad penodol sydd ganddo i helpu Bwrdd yr Ymddiriedolwyr i ddod i benderfyniadau cadarn. Gall hyn gynnwys:

  • Craffu ar bapurau’r Bwrdd
  • Arwain trafodaethau
  • Canolbwyntio ar faterion allweddol
  • Rhoi arweiniad ar fentrau newydd
  • Eistedd ar baneli recriwtio, paneli disgyblu a phaneli cwynion cyflogaeth fel y bo’n briodol
  • Materion eraill lle mae gan yr Ymddiriedolwr arbenigedd benodol.

Rhestr ddangosol yn unig o ddyletswyddau yw’r rhestr uchod ac nid yw’n rhestr gynhwysfawr. Bydd disgwyl i’r Ymddiriedolwyr gyflawni’r holl ddyletswyddau ychwanegol dan sylw fel sy’n rhesymol gymesur â’r rôl.

Dylai pob Ymddiriedolwr fod yn ymwybodol hefyd o’i gyfrifoldebau unigol a’i gyfrifoldebau ar y cyd â’r Ymddiriedolwyr eraill a’u deall, ac ni ddylid bod yn or-ddibynnol ar un neu ragor o ymddiriedolwyr unigol mewn perthynas ag unrhyw agwedd benodol ar lywodraethu’r elusen.

Dylai holl Ymddiriedolwyr y SMC ddangos y canlynol:

Gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth

  • Ymrwymiad i’r sefydliad a pharodrwydd i ymroi’r amser a’r ymdrech angenrheidiol
  • Parodrwydd i wneud argymhellion amhoblogaidd i’r bwrdd, a pharodrwydd i ddweud yr hyn sydd ar eu meddwl
  • Parodrwydd i fod ar gael i staff i roi cyngor ac ymdrin ag ymholiadau ar sail ad hoc
  • Crebwyll da, annibynnol, gallu gwneud penderfyniadau’n effeithiol a meddu ar weledigaeth strategol
  • Deall a derbyn dyletswyddau, cyfrifoldebau a rhwymedigaethau cyfreithiol ymddiriedolaeth
  • Y gallu i weithio’n effeithiol fel aelod o dîm
  • Dangos parodrwydd i feithrin a chynnal cysylltiadau â rhanddeiliaid a chydweithwyr allweddol er mwyn cyflawni amcanion sefydliadol
  • Enw da am ymrwymo i hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth 
  • Profiad o arddel tegwch a’r gallu i barchu cyfrinachedd
  • Cyd-ddealltwriaeth eu bod yno i weithredu er budd gorau’r SMC.

Rhinweddau personol 

  • Dangos brwdfrydedd ac ymrwymiad cryf ac amlwg tuag at yr Elusen
  • Arddangos galluoedd rhyngbersonol cryf a’r gallu i feithrin cysylltiadau a rhwydweithiau a bod yn gyfforddus mewn rôl lysgenhadol
  • Dangos doethineb a diplomyddiaeth, gyda’r gallu i wrando ac ymgysylltu’n effeithiol
  • Y gallu i feithrin a hyrwyddo amgylchedd cydweithredol ar gyfer timau
  • Y gallu i ymrwymo amser i ymgymryd â’r rôl yn dda, gan gynnwys mynychu digwyddiadau y tu allan i oriau swyddfa ychydig o weithiau’r flwyddyn yn ogystal â mynychu cyfarfodydd Bwrdd a theithio’n achlysurol iawn.

Telerau

Mae aelodau’r Bwrdd yn gwasanaethu am dymor o bedair blynedd ac yna byddant yn gymwys i gael eu hailbenodi am un tymor ychwanegol. 

Taliadau Cydnabyddiaeth

Mae swyddi ymddiriedolwyr yn ddi-dâl. Fodd bynnag, gellir eu had-dalu’n llawn am unrhyw gostau ariannol y mae angen iddynt wario wrth ymgymryd â busnes y Bwrdd.

Lleoliad

Cynhelir cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn swyddfeydd y Sefydliad Materion Cymreig yng Nghaerdydd, Cymru. Rydym yn rhoi cefnogaeth i’n hymddiriedolwyr i ymuno â chyfarfodydd y Bwrdd yn rhithwir pan nad ydynt yn gallu bod yn bresennol yn bersonol. 

Ymrwymiad amser

Rydym eisiau bod yn gwbl agored ynghylch yr hyn sy’n ddisgwyliedig gan ein Bwrdd. Rydym yn disgwyl i’r Ymddiriedolwyr fynychu o leiaf 4 cyfarfod Bwrdd y flwyddyn, gyda phob cyfarfod yn para dwy awr (dau ar-lein, dau yn bersonol, ac mae gofyn am uchafswm o 2 awr o waith baratoi ar gyfer pob un) ac un diwrnod cwrdd i ffwrdd blynyddol ar gyfer y Bwrdd y bydd angen mynychu’n bersonol. Unwaith y bydd Ymddiriedolwyr wedi bod trwy broses cynefino, mae opsiwn i fod yn aelod o is-grŵp, er nad yw pob ymddiriedolwr yn gwneud hynny. Mae is-grwpiau’n cyfarfod yn chwarterol am 2 awr, ac mae gofyn am uchafswm o 2 awr o waith baratoi ar gyfer pob cyfarfod.. Gwahoddir aelodau’r Bwrdd i 2 gyfarfod aelodau’r SMC y flwyddyn hefyd ac wrth gwrs mae croeso iddynt ym mhob un o ddigwyddiadau eraill y SMC. Cynhelir rhai o’r rhain gyda’r nos, er enghraifft ein cyfres trafodaethau.

Pecyn gwybodaeth ar gyfer recriwtio aelodau Bwrdd (EN / CY).

Cyhoeddwyd Chwefror 2023