Gwneud penderfyniadau yng Nghymru

Trosolwg
Bydd y cwrs rhithiol deuddydd hwn yn rhoi dealltwriaeth i chi o sut mae’r Llywodraeth a gwleidyddiaeth yn gweithio yng Nghymru. Bydd yn rhoi trosolwg o rolau’r Senedd a Llywodraeth Cymru, ac yn egluro sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud yn ein gwlad. Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys trafodaeth am Gwestiynau’r Prif Weinidog.

Deilliannau dysgu
Ar ddiwedd y cwrs, byddwch yn teimlo’n hyderus i ddeall:

  • Rôl Gweinidogion ac Aelodau o’r Senedd
  • Sut mae’r Senedd a’r Cabinet yn gweithio
  • Y gwahaniaethau rhwng y pleidiau gwleidyddol
  • Datblygiad datganoli
  • Y berthynas rhwng Cymru a San Steffan, ac effeithiau Brexit
  • Sut mae cyllid cyhoeddus yn gweithio yng Nghymru

Archebu trwy Eventbrite

Dylanwadu ar ganlyniadau gwleidyddol

Trosolwg
Mae ein cwrs uwch ar ymgyrchu yn cael ei gynnal dros ddau ddiwrnod ar Zoom. Bydd yn rhoi dealltwriaeth fwy treiddgar i chi o ddatganoli a gwaith Llywodraeth Cymru a’r Senedd, ac yn egluro sut y gallwch chi weithio’n effeithiol i ddylanwadu arnynt. Mae’r cwrs hwn yn cynnwys sesiwn holi ac ateb fyw gydag Aelod o’r Senedd sy’n gwasanaethu.

Deilliannau dysgu
Ar ddiwedd y cwrs, byddwch yn teimlo’n hyderus i wneud  y canlynol:

  • Deall datganoli ar lefel uwch
  • Meithrin sgiliau i ddylanwadu ar lunwyr polisi yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a’r Senedd
  • Sefydlu a rheoli ymgyrchoedd yn effeithiol, gan sicrhau eu bod yn cael yr effaith orau bosibl
  • Sefydlu, rheoli a marchnata digwyddiadau a chyfleoedd i hyrwyddo ymgyrchoedd i lunwyr polisi yng Nghymru

Archebu trwy Eventbrite

Ar gyfer pwy mae’r cyrsiau?

Mae ein cyrsiau hyfforddiant proffesiynol yn addas i unrhyw un sydd am gael dealltwriaeth ymarferol o strwythurau llywodraethol Cymru, sut maen nhw’n ffitio o fewn cyd-destun y DU, a beth sy’n dylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau.

Mae ein cwrs uwch ar Ddylanwadu ar Ganlyniadau Gwleidyddol wedi’i anelu at weithwyr proffesiynol polisi neu gyfathrebu, sydd am ehangu eu dylanwad o fewn y maes gwleidyddol yng Nghymru a sicrhau bod eu hymgyrchoedd yn fwy effeithiol.

 

Pwy fydd yn cyflwyno’r cwrs?

Cyflwynir y cyrsiau gan Reolwr Polisi a Materion Allanol y Sefydliad Materion Cymreig, Joe, gyda chefnogaeth ein cyfarwyddwr Auriol a’n Harweinwyr Polisi Economaidd.

Fel un sy’n gyfrifol am ein portffolio ein hunain o waith polisi, mae gan Joe brofiad o ddatblygu atebion polisi a sicrhau effaith sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau’r genedl.

 

Sut i gadw lle

Gallwch archebu’n uniongyrchol gyda cherdyn talu trwy’r ddolen isod. Fel arall, cysylltwch â ni a gallwn gynnig dulliau talu eraill.

 

Manylion cyswllt

Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn am ein cyrsiau, neu os hoffech drafod diwrnod hyfforddiant pwrpasol ar gyfer eich sefydliad, e-bostiwch [email protected].

Archebu trwy Eventbrite