Alison Copus

Mae Alison Copus yn Ymgynghorydd Marchnata. Fe’i ganed ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a graddiodd o Brifysgol Bryste.

Mae Alison wedi arbenigo mewn marchnata rhyngwladol ac mae wedi gweithio mewn amrywiaeth eang o ddiwydiannau o wasanaethau ariannol i gwmnïau hedfan, y cyfryngau digidol ac addysg, gyda rolau marchnata uwch yn American Express, Virgin Atlantic a TripAdvisor. Yn ystod ei chyfnod yn Virgin Atlantic, roedd yn rhan o’r tîm rheoli oedd yn gyfrifol am dwf y cwmni hedfan o bedair awyren i 40. Lansiodd The Branson School for Entrepreneurship yn Ne Affrica i ddarparu addysg busnes a chronfeydd sbarduno ar gyfer pobl ifanc o’r gymuned a oedd yn ddifreintiedig yn flaenorol. Yn ystod ei chyfnod gyda TripAdvisor, roedd Alison yn gyfrifol am farchnata Ewropeaidd  i ddechrau ac yn dilyn hynny roedd yn gyfrifol am lansio ffrydiau refeniw newydd yn fyd-eang. Cyn dychwelyd i Gymru, roedd Alison yn Brif Swyddog Marchnata ar gyfer Nord Anglia Education. Yn ystod ei chyfnod yno, tyfodd y grŵp ysgolion rhyngwladol i 43,000 o fyfyrwyr gan ddyblu o ran gwerth.

Sam Evans

Yn hanu o’r Porth yn y Rhondda, mae Sam wedi treulio ei yrfa broffesiynol yn gwella canlyniadau a disgwyliadau rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. P’un ai drwy ddemocratiaeth, technoleg neu addysg, mae’n uwch arweinydd profiadol sy’n rhoi effaith y gellir ei mesur wrth galon popeth a wna.

Treuliodd Sam ran gyntaf ei yrfa yn addysgu, gan gyflawni Rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth Teach First yn Coventry, cyn dechrau ar rôl yn San Steffan gyda’r Comisiwn Ewropeaidd. Yno bu Sam yn goruchwylio rhaglenni addysg ac allgymorth y Comisiwn a Senedd Ewrop yn y DU. Pan ymadawodd y Deyrnas Unedig â’r UE, arweiniodd gyfres o egin-fusnesau newydd ym meysydd democratiaeth ac addysg ar raddfa genedlaethol, gyda’r nod o roi mynediad uniongyrchol i bobl ifanc yn y DU at liferi pŵer. Ar hyn o bryd mae’n helpu Robert Peston i redeg ei elusen symudedd cymdeithasol fel Pennaeth Rhaglen (Profiad).

Mae gan Sam radd a gradd Meistr mewn Hanes, mae’n gyn-gadeirydd bwrdd llywodraethu Ysgol Gynradd ac yn gyn-aelod o Blaid Cymru.  Mae’n chwaraewr sboncen brwd a gellir dod o hyd iddo’n aml gyda raced yn ei law.

Leena Farhat

Mae Leena Sarah Farhat yn astudio am radd meistr mewn Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor gyda diddordeb arbennig mewn gweithio ar dechnoleg ar gyfer ieithoedd nad ydynt yn derbyn llawer o adnoddau. Magwyd hi ym mhob cwr o’r byd a chwblhaodd ei haddysg yng Ngenefa. 

Hi yw Swyddog Amrywiaeth Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ac mae’n ymgyrchydd profiadol. Mae’n arbenigo mewn materion gwledig, amrywiaeth a phynciau sy’n ymwneud â’r Gymraeg. Mae’n angerddol dros greu Cymru agored a goddefgar, gwlad â meddylfryd byd-eang, cryf.

Dr Elizabeth Haywood

Mae Elizabeth wedi bod yn Gadeirydd Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd ers 2020.  Mae hi’n Gyfarwyddwr Anweithredol ac yn Gadeirydd profiadol. Cyn hynny, roedd hi’n aelod o Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn Gadeirydd ei Bwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd, yn aelod o Fwrdd Scottish Power Energy Networks, Grŵp Hendre, Leonard Cheshire, yn aelod annibynnol o Fwrdd Taliadau Swyddfa Archwilio Cymru, ac yn Gadeirydd cyntaf WCVA Services Ltd. Bu’n gadeirydd Tasglu Gweinidogol Llywodraeth Cymru ar Ddinas-ranbarthau.

Treuliodd ei gyrfa gynnar yn Senedd Ewrop ac Asiantaeth Datblygu Cymru, cyn cael ei phenodi’n Gyfarwyddwr CBI Cymru, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Cymdeithas y Cwmnïau Gweithredu Trenau ac yna bu’n rhedeg cwmni chwilio gweithredol yng Nghaerdydd a Llundain.

Mae ganddi radd economeg o Brifysgol Caerdydd, PhD a doethuriaeth er anrhydedd o Abertawe. Hi dderbyniodd Gwobr Menyw y Flwyddyn Cymru y tro cyntaf i’r wobr gael ei chyflwyno ac mae’n Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant. Dechreuodd ysgrifennu yn ddiweddar a chyhoeddwyd ei nofel hanesyddol gyntaf yn 2021.

Kelly Huxley-Roberts

Gyda gradd Meistr mewn Addysg Oedolion ar gyfer Newid Cymdeithasol a deng mlynedd o brofiad ym maes datblygu cymunedol, ymchwil gyfranogol a threfnu cymunedol, mae Kelly yn cyfrannu arbenigedd mewn ymgyrchoedd strategol, ymgysylltu â dinasyddion, a dylanwadu i’r bwrdd.

Yn wreiddiol o Ynys Môn ond bellach wedi ymgartrefu ger Wrecsam, dechreuodd Kelly astudio Sbaeneg ac Almaeneg yn St Andrews cyn symud i Dde America a dechrau gyrfa yn canolbwyntio ar adeiladu pŵer cymunedol er newid cadarnhaol. Mae hi bellach yn gweithio fel Rheolwr Polisi a Phartneriaethau Cymru ar gyfer Sefydliad Lloyds Bank, rôl sy’n canolbwyntio ar gryfhau partneriaethau a chynyddu gallu elusennau i ddylanwadu yng Nghymru. Cyn hynny, hi oedd Arweinydd Pobl, Ymgyrchoedd a Dysgu TCC Cymru, lle bu’n gweithio gyda grwpiau cymunedol a chynghreiriaid i ddylanwadu ar faterion yn ymwneud â lliniaru tlodi, tegwch a chynhwysiant yng Nghymru.

Mae Kelly yn siarad Cymraeg ar lefel ganolradd, ac yn ei hamser hamdden mae’n aelod gweithgar o’r Clwb Clebran yn Wrecsam, sy’n ceisio hyrwyddo’r defnydd o Gymraeg yn Wrecsam. Mae hi hefyd yn datblygu menter NEW Thinking Space, sy’n ceisio annog meddylwyr y Gogledd-ddwyrain i ddod at ei gilydd a meddwl yn wahanol.

Jessica McQuade

Jessica McQuade yw Rheolwr presennol Rhaglen Wholescape WWF UK sy’n datblygu dull systemau sy’n seiliedig ar dystiolaeth o adfer yr amgylchedd naturiol ar lefel ranbarthol. Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad o weithio mewn cymdeithas sifil, gan arwain a galluogi newid polisi, gwleidyddiaeth a deddfwriaeth yng Nghymru, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) a Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae hyn wedi arwain at wybodaeth helaeth ar draws yr agenda newid hinsawdd ac adfer natur. Ar hyn o bryd, mae’n sianelu ei holl egni i mewn i’r ‘her driphlyg’ o fynd i’r afael â’r materion hyn wrth bontio i system fwyd gynaliadwy. Mae ganddi hefyd flynyddoedd lawer o brofiad o gyd-gynhyrchu a grymuso cymunedol ac mae wedi ymrwymo i lunio polisïau cynhwysol. Yn ddiweddar, symudodd Jessica i Orllewin Cymru o Gaerdydd ac yn ei hamser hamdden mae’n ymgyrchu gyda grwpiau lleol ar ansawdd dŵr ymdrochi ac iechyd afonydd. Hi yw un o 100 o Ysgogwyr Newid cyntaf Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru.

Ben Joakim 

Mae Ben Joakim yn entrepreneur cymdeithasol, gyda phrofiad o gychwyn ac ehangu sefydliadau sy’n cael eu harwain gan ddibenion penodol. Mae ei yrfa wedi ei weld yn symud i lu o wahanol leoliadau a diwydiannau. O arwain strategaeth ar gyfer cwmni cydfuddiannol mwyaf Cymru; i adeiladu olrheiniadwyedd ariannol ar gyfer cymorth byd-eang; a buddsoddi mewn mentrau cymdeithasol ledled Affrica Is-Sahara.

Mae Ben yn Gyfarwyddwr Anweithredol yn Fintech Wales, sy’n cefnogi cwmnïau technoleg ariannol i ddatblygu yng Nghymru a thu hwnt. Cyn hynny, roedd yn Bennaeth Strategaeth Cymdeithas Adeiladu’r Principality, gan wasanaethu yn y Tîm Arwain Gweithredol.

Mae Ben yn aelod o UWC a Phrifysgol Caerdydd ac yn byw ym Mro Morgannwg.

Helen Mortlock

Mae Helen Mortlock yn Gyfarwyddwr Cyfreithiol yn Eversheds-Sutherland LLP.

Mae Helen yn Gyfarwyddwr Cyfreithiol yng ngrŵp sector addysg genedlaethol y cwmni ac mae wedi gweithio yn y grŵp hwn ers 1994. Mae’n arwain tîm gwasanaeth cyfan sy’n gweithredu ar ran y rhan fwyaf o brifysgolion a cholegau cymru a De-orllewin Lloegr, ynghyd a sawl sefydliad yn Llundain a De-ddwyrain Lloegr.

Yn ystod ei gyrfa, mae Helen wedi ymdrin â nifer o faterion cymhleth ac uchel eu proffil ar gyfer Prifysgolion, gan gynnwys diwygio’r statud enghreifftiol, amddiffyn hawliadau gan staff a delir fesul awr a oedd yn hawlio cydraddoldeb â staff academaidd safonol, trefniadau ailstrwythuro, uno a chyd-wasanaethau niferus, ymdrin â honiadau chwythu’r chwiban yn ymwneud â chynghorau ymchwil, a chyngor ar gontractau academaidd clinigol.

Sarah Prescott

Mae Sarah Prescott yn gyfrifydd profiadol gyda’r “pedwar prif gwmni” (FCA) ac mae ganddi radd mewn economeg. Mae wedi byw a gweithio yng Nghymru drwy’i hoes ac wedi treulio’i gyrfa yn y trydydd sector, gyda phwyslais arbennig ar dai cymdeithasol. Mae ganddi ddiddordeb mewn materion ehangach hefyd fel cydraddoldeb ac amrywiaeth, hanes, dysgu, hyfforddi a datblygu, adfywio economaidd, y trysorlys a llywodraethiant.

Mae ganddi ddiddordeb angerddol dros greu Cymru well, ac yn gwerthfawrogi gwaddol ei theulu (hanes Cymru yw arbenigedd ei thad). Mae’n aelod o Fwrdd Tai Pawb, elusen cydraddoldeb ac amrywiaeth tai Cymru, ac yn weithgar gyda Cartrefi Cymunedol Cymru, y corff sy’n cynrychioli tai cymdeithasol yng Nghymru, a Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW) yn lleol ac yn genedlaethol (mae’n aelod o’ pwyllgor lleol, y panel tai cymdeithasol, panel SORP a Bwrdd Strategaeth ICAEW Cymru).

Anthony Pickles

Mae Anthony Pickles yn arweinydd polisi cyhoeddus ar gyfer cwmni cyfreithiol rhyngwladol. Mae wedi gweithio mewn nifer o swyddi polisi yn sector twristiaeth y DU a’r sector fodurol fyd-eang ac fel Pennaeth Staff y Ceidwadwyr Cymreig. Mae wedi bod yn ymgeisydd seneddol mewn etholiadau cyffredinol ac Ewropeaidd ac wedi gweithio’n helaeth mewn ymgyrchoedd a gwaith darparu maniffesto, gan helpu i gydlynu ymgyrch etholiad cyffredinol 2015 yng Nghymru. Yna aeth ymlaen i ddatblygu cais llwyddiannus diwydiant twristiaeth y DU am gytundeb sector yn strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU a gweithredu fel llefarydd i’r sector am nifer o flynyddoedd. Mae’n frwdfrydig dros Gymru a llwyddiant y wlad yn y dyfodol. Fe’i haddysgwyd yn Aberystwyth ac mae’n ysgrifennu cylchlythyr wythnosol ar ddatganoli o’r enw ‘State of the Union’.

Shereen Williams MBE OStJ

Shereen Williams yw Prif Swyddog Gweithredol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.

Cyn ymuno â’r Comisiwn ym mis Ionawr 2019, bu’n gweithio ym maes llywodraeth leol am bron i ddegawd. Fel swyddog llywodraeth leol, bu Shereen yn gweithio ar draws awdurdodau lleol Casnewydd a Sir Fynwy gan reoli timau a oedd yn gyfrifol am gyflawni blaenoriaethau strategol gan gynnwys mudo, atal eithafiaeth dreisgar, cydraddoldeb a chydlyniant cymunedol.

Cyn hynny, dechreuodd ei bywyd gwaith yng Nghymru yn y sector gwirfoddol yn fuan ar ôl symud o Singapore yn 2005. Mae wedi gwneud cyfweliadau radio a theledu di-ri ar faterion ffydd, eithafiaeth, hil ac amrywiaeth.

Mae Shereen wedi dal sawl rôl gyhoeddus dros y blynyddoedd, ac roedd yn un o 4 a benodwyd drwy gystadleuaeth agored i fod yn un o’r 16 aelod o Gonfensiwn Cymru Gyfan. Ar hyn o bryd, mae’n ynad ar fainc Gwent ac yn Ymddiriedolwr gydag Ambiwlans Sant Ioan Cymru.