Joe Rossiter

Joe Rossiter – Cyd-gyfarwyddwr Dros Dro

Mae Joe yn gyfrifol am gyflwyno portffolio polisi ac ymchwil eang y SMC. Mae’n canolbwyntio ar gyflawni effaith sy’n helpu i greu Cymru well i bawb.

Cyn ymuno â’r SMC ym mis Tachwedd 2022, gweithiodd Joe yn Sustrans Cymru a Stonewall Cymru, lle helpodd i ddatblygu datrysiadau polisi cydraddoldeb a thrafnidiaeth gynaliadwy.

Maria Drave – Cyd-gyfarwyddwr Dros Dro

Maria sy’n gyfrifol am y strategaeth farchnata, integreiddio digidol a phortffolio digwyddiadau’r Sefydliad Materion Cymreig.

Yn wreiddiol o Fwlgaria, symudodd Maria i Gymru yn 2009. Cwblhaodd ei graddau israddedig ac ôl-raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan ganolbwyntio ar dwristiaeth gynaliadwy a marchnata, a threuliodd flwyddyn yn astudio yn Ffrainc.

Cyn ymuno â’r Sefydliad Materion Cymreig ym mis Ebrill 2021, roedd gan Maria rôl ganolog yng ngwasanaeth cymorth busnes Llywodraeth Cymru, ac yno bu’n helpu i feithrin a gwella brand Busnes Cymru drwy ymgyrchoedd marchnata a chyfathrebu llwyddiannus.

Lucy Biggs – Swyddog Cyllid

Lucy sy’n gyfrifol am reolaeth ariannol y Sefydliad Materion Cymreig.

Gan ddechrau yn sector y gyfraith ac yna gweithio ym maes cyllid manwerthu am yr 8 mlynedd a hanner diwethaf, mae Lucy yn dod â chefndir cyllid gyda hi sy’n ymestyn dros 15 mlynedd. Mae hi’n edrych ymlaen at weithio mewn sector cyllid gwahanol o fewn elusen a rhoi ei sgiliau a’i gwybodaeth ar waith.

Symudodd i Gaerdydd o Aberhonddu yn 18 oed i’r brifysgol lle mae hi bellach yn byw gyda’i gŵr a dau o blant ifanc.

Lydia Godden

Lydia Godden – Swyddog Polisi Economaidd ac Ymchwil

Mae Lydia yn gyfrifol am gydlynu gwaith ymchwil a gwaith polisi economaidd y Sefydliad Materion Cymreig.

Cyn ymuno â’r Sefydliad, bu’n gweithio i’r cwmni materion cyhoeddus Cadno Communications, yn cefnogi amrywiaeth o ddatblygwyr ynni adnewyddadwy i gyflawni prosiectau seilwaith cynaliadwy.

Mae hi hefyd wedi bod yn rhan o’r ymgyrch lwyddiannus i sicrhau cynllun Peilot Incwm Sylfaenol yng Nghymru.

Marine Furet is pictured smiling in Bute Park, Cardiff. She is wearing a colourful shirt.

Marine Furet – Cydgysylltydd y Wasg, Cyfathrebiadau, ac Ymgysylltu

Mae Marine yn gyfrifol am olygu the welsh agenda  ar-lein, sicrhau bod ein haelodau yn parhau i ymgysylltu â’n gwaith a sicrhau bod yr IWA yn cyrraedd ac yn dylanwadu ar gymaint o bobl â phosibl drwy’r cyfryngau cymdeithasol a thraddodiadol.

Mae Marine newydd orffen ei thraethawd doethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hi hefyd wedi gweithio yn y Senedd a Chanolfan Polisi Cyhoeddus yr Alban, ac wedi byw ym Mharis a Glasgow cyn symud i Gymru. Mae hi wedi gwirfoddoli mewn amryw o brosiectau ymgysylltu â’r cyhoedd ac academaidd yng Nghymru a’r Alban, ac mae ei gwaith wedi’i gyhoeddi gan The Conversation, Wales Arts Review, a Plays to See.

Shelley Quick – Cynorthwyydd Marchnata a Digwyddiadau

Mae Shelley yn astudio Rheolaeth Busnes (Marchnata) ym Mhrifysgol Caerdydd. Ar hyn o bryd mae hi ar leoliad gwaith am flwyddyn gyda’r Sefydliad Materion Cymreig (IWA) fel Cynorthwyydd Marchnata a Digwyddiadau.

Cyn ymuno â’r IWA, cafodd Shelley brofiad marchnata a gwerthu yn y sefydliad deallusrwydd talent, Stratigens. Mae Shelley yn edrych ymlaen at gymhwyso ei gwybodaeth ac ehangu ei harbenigedd yn y sectorau busnes a gwleidyddol mewn cyd-destun bywyd go iawn.