Hanes

O’r argyfwng gwleidyddol a diwydianol a wynebai Cymru yn yr 1980au mae’ gwreiddiau’r Sefydliad Dros Faterion Cymreig yn tarddu, yn dilyn gwrthod datganoli democratidd yn refferendwm 1979 a thrawma streic y glowyr yn 1984-85.

Yn 1986, amlinellodd bapur a gyhoeddwyd gan y Gweithredwr Teledu, Geraint Talfan Davies a chyfreithiwr o Gaerdydd, Keith James, yr achos dros gorff ‘ a allai gynnig her deallusol i arferion presennol ymhob agwedd o fywyd a gweinyddiaeth Cymru allai effeithio ar ein perfformiad diwydiannol ac economaidd.’ Rhoddwyd grant cychwynnol o £50,000 gan Brif Weithredwr Awdurdod Datblygu Cymru, David Waterstone, ac ymgorfforwyd y Sefydliad ar Orffennaf 27, 1987.

Cadeirydd cyntaf y Sefydliad oedd Henry Kroch, Llywydd AB Electronics; ei Ddirprwy Gadeirydd oedd Syr Donald Walters, cyfreithiwr blaenllaw a dyn busnes. Daeth aelodaeth y Bwrdd Ymddiriedolwyr o bob rhan o sbectrwm cymdeithas sifig.

Sefydlwyd y corff syniadau hyn fel elusen annibynol diduedd, heb deyrngarwch i unrhyw grŵp gwleidyddol na economaidd, a hwn oedd y corff syniadau cyntaf i gael ei ddatblygu ar sail model aelodaeth.

Hyd at 1996 gweithredai’r Sefydliad fel corff hollol wirfoddol o dan gadeiryddiaeth Geraint Talfan Davies. Fodd bynnag, gyda chyfuniad o nawdd gan yr Awdurdod Datblygu, grŵp Hyder a Syr Julian Hodge, llwyddodd y Sefydliad benodi cyfarwyddwr llawn amser y flwyddyn honno.  Y gohebydd John Osmond oedd yn gyfrifol am gynhyrchu cyfnodolyn uchel ei barch y Sefydliad, sef, Agenda, yn ogystal â bod yn gyfrifol am lawer o ymchwil a dadansoddiad.

Dros y ddegawd a hanner nesaf fe wnaeth y Sefydliad:

  • Helpu i gyflwyno’r achos deallusol dros greu Cynulliad i Gymru, ac wedi helpu sicrhau ei sefydlu, bu’n monitro ei ddatblygiad ac yn cefnogi ei dwf
  • Gyflwyno’n gyhoeddus yr achos dros statws Amcan 1 yr UE ar gyfer rhannau helaeth o Gymru, gan helpu i sicrhau cannoedd o filiynau o bunnoedd o fuddsodiad ychwanegol gan yr UE
  • Ymgyrchu’n llwyddianus dros gyflwyno Baglwriaeth Gymreig er mwyn ail-lunio’r cwricwlwm ar gyfer pobl 16-19 ac i godi safonau a gwella perfformiad addysgol
  • Osod y ddadl dros gael canolfan perfformio’r celfyddydau yng Nghaerdydd, a arweinodd at adeiladu Canolfan Mileniwm Cymru, a drawsffurfiodd y tirwedd diwyllianol yng Nghymru gan roi llwyfan rhyngwladol i Gymru
  • Ddadlau’r achos, drwy gyfres o gyhoeddiadau a thrafodaeth gyhoeddus, dros fabwysiadu’r cysyniad o rhanbarth dinesig, sydd erbyn hyn yn rhan allweddol o bolisi Llywodraeth Cymru

Datblygodd y Sefydliad enw da fel ffynhonell gredadwy o ymchwil a dadansoddiad annibynnol, a chyda hanes o ymglymiad cyhoeddus ar faterion sydd yn effeithio ar les diwyllianol, cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd Cymru.

Er taw nifer fach o staff oedd gan y Sefydliad fe gynhrychodd lif cyson o gynadleddau, seminarau ac adroddiadau ymchwil. Yn 2010 fe lawnsiom wefan Click on Wales er mwyn i bobl allu cynnig sylwadau a dadansoddiadau sydd wedi dod yn brif borth ynglŷn â thrafodaeth cyhoeddus yng Nghymru.

Ym mis Ebrill 2013, olynwyd John Osmond fel cyfarwyddwr gan Lee Waters, oedd gynt wedi rhedeg yr elusen amgylcheddol Sustrans Cymru a chyn hynny’n brif Ohebydd Gwleidyddol ITV Wales. Flwyddyn wedi hynny, penodwyd sylfaenydd y cwmni cyfreithiol llwyddianus o Gaerdydd NewLaw, Helen Molyneux, yn Gadeirydd.

Yn dilyn ymgynghoriad gyda’i aelodau, datblygodd y Sefydliad strategaeth newydd a welodd yr elusen yn canolbywntio ar ddatblygu syniadau ymarferol dros newid hir-dymor  mewn pedwar  maes blaenoriaeth: sef yr economi, addysg, iechyd, llywodraethu a’r cyfryngau.

Cyfranodd y corff syniadau tuag at arloesi datblygu dulliau o gyfrannu torfol er mwyn datblygu polisi gyda thri phroject blaengar – gan gynnwys Confensiwn cyfansoddiadol ar-lein uchelgeisiol dros Gymru a welodd 12,000 o bobl yn ymglymu gyda thrafodaeth ar ddyfodol y Deyrnas Gyfunol yn dilyn canlyniad y refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban, a’r project Trafod Canser – a gafodd ei redeg mewn partneriaeth â Gofal Cancr Tenovus– a ddatblygodd profiadau uniongyrchol cleifion mewn i argymhellion ymarferol ar gyfer diwygio.

Taniodd awdit Cyfryngau Cymru 2015, a ddilynodd asesiad tebyg o dirwedd y cyfryngau yng Nghymru yn 2008, drafodaeth am amlygrwydd Cymru yn y cyfryngau a’r ffordd y caiff ei bortreadu a’i lywodraethu. Fe fwydodd y Sefydliad adroddiadau i’r Cynulliad Cenedlaethol a Thŷ’r Cyffredin ac fe gafodd ei ddisgrifio gan Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, yr Arglwydd Tony Hall, yn “amhrisiadwy wrth ddiweddaru’r drafodaeth”.

Adroddiad y Sefydliad ar yr economi ym Mis Mawrth 2015 oedd yr astudiaeth mwyaf cynhwysfawr o gyflwr economi Cymru ers datganoli. Dangosodd raddfa’r her sy’n ein wynebu i gau’r bwlch gyda gweddill y DG. Ymhlith ei argymhellion am brjectau creiddiol fyddai’n cyflyrru a sbarduno twf oedd y syniad i ffrwyno adnoddau naturiol Cymru drwy ddod yn allforiwr net o ynni adnewyddadwy. Mae hyn wedi ffurfio sail project diweddaraf y Sefydliad, Adfywio Cymru (Re-energising Wales).