Auriol Miller
Cyfarwyddwr
Auriol yw Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig, corff syniadau annibynnol mwyaf blaenllaw Cymru.
Cyn ymuno â’r IWA roedd Auriol yn Gyfarwyddwr Cymorth Cymru, y corff ymbarél ar gyfer darparwyr digartrefedd, cymorth tai a gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Cyn ymuno â Chymorth ym mis Medi 2013, gweithiodd Auriol am bron i 20 mlynedd ym maes datblygiad rhyngwladol yn 5 gwlad wahanol, gan gynnwys rolau arweinyddiaeth i Oxfam yn Sudan a Rwsia. Mae ei rolau wedi cynnwys dylanwadu ar lywodraethau cenedlaethol ar bolisi a gweithredu.
Jessica Blair
Rheolwr Polisi a Phrojectau
Jess sydd yn gyfrifol am arwain a datblygu polisi’r Sefydliad.
Mae ganddi radd meistr mewn Llywodraeth Cymru a Gwleidyddiaeth o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae wedi gweithio mewn datblygu polisi yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ac ar gyfer sefydliad Llywodraethau Rhanbarthol ym Mrwsel.
Laura Knight
Rheolwr Partneriaethau a Digwyddiadau
Laura sydd yn gyfrifol am berthynas allanol y Sefydliad. Hi sydd yn datblygu ein aelodaeth a phartneriaethau yn ogystal â rhedeg rhaglen ddigwyddiadau prysur y Sefydliad.
Yn flaenorol bu Laura’n gweithio yn y byd cynhyrchu teledu a radio am sawl blwyddyn cyn dod yn gynorthwyydd personol i Rheolwr Gyfarwyddwr Cynnyrch Cyfrifiadurol Panasonic Ewrop. Cyn ymuno â’r Sefydliad, treuliodd Laura bum mlynedd yn Rheolwr Digwyddiadau ar gyfer Cwmni cyhoeddi ceir ar-lein yn UDA, Ewrop ac India.
Angharad Dalton
Swyddog Polisi a Phrojectau
Angharad sydd yn gyfrifol am ddatblygu polisi a phrojectau y Sefydliad a’u gweithredu nhw.
Cyn iddi gael ei phenodi gyda’r Sefydliad, datblygodd Angharad bortffolio rhagorol o fedrau trosglwyddadwy gan gynnwys rheoli projectau, hyfforddiant a strategaeth/trawsffurfiad ddigidol, ac fe ddysgodd wrth weithio a gwirfoddoli ar gyfer sefydliadau fel Prifysgol De Cymru, ThinkARK, Tradeschool Caerdydd, Cymru Gynaliadwy a StrataMatrix.
Barbara Powell
Rheolwr Cyllid
Barbara sydd yn gyfrifol am reolaeth ariannol y Sefydliad.
Dechreuodd Barbara ei gyrfa ariannol gyda banc o’r stryd fawr ar ôl gadael ysgol. Yna fe aeth Barbara ymlaen i fod yn Reolwr Cyllid mewn amaeth, addysg annibynnol a meddygaeth. Mae hi wedi cymhwyso mewn MAAT ac wedi ennill tystysgrif Y Sefydliad Rheoli Busnes mewn Rheolaeth. Yn 2004, dychwelodd Barbara i “ochr iawn y bont” i ddod yn Reolwr Cyllid Cyfreithwyr NewLaw. Nawr, unarddeg o flynyddoedd yn ddiweddarach yn NewLaw, mae Barbara wedi gwneud y penderfyniad i leihau ei hwythnos waith ac ymuno â’r Sefydliad fel Rheolwr Cyllid, gan weithio dridiau’r wythnos.
Dylan Moore
Golygydd Sylwadau a Dadansoddiad
Dylan sydd yn gyfrifol am olygu cylchgrawn y Sefydliad, the Welsh Agenda; mae hefyd yn cynorthwyo gyda golygu llwyfan ar-lein Click on Wales.
Yn flaenorol, roedd Dylan yn olygydd sylfaenol y Wales Arts Review a bu’n gweithio am sawl blwyddyn fel athro Saesneg mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru a Sbaen. Mae’n cyfuno ei waith ar gyfer y Sefydliad gydag ysgrifennu ar lenyddiaeth, diwylliant a chymdeithas ar gyfer ystod eang o gyhoeddiadau; mae’n byw yng Nghasnewydd lle y bu hefyd yn gweithio ar gyfer The Sanctuary, sef project sydd yn cefnogi ymgeiswyr lloches a ffoaduriaid.
Shea Jones
Swyddog Project Adfywio Cymru
Shea sydd yn gyfrifol am gyflenwi project Adfywio Cymru.
Ymunodd Shea â’r Sefydliad ym mis Ebrill 2016 ar ôl gweithio mewn nifer o swyddi yn Cartrefi Cymunedol Cymru, yn fwyaf nodedig, ef oedd yn gyfrifol am ddylanwadu a datblygu polisi ynni, strategaeth a phrojectau drwy gydol ei gyfnod o fewn y sefydliad. Cyn hynny, gweithiodd Shea ar nifer o gytundebau ymchwil gyda Phrifysgol UWIC a Chymdeithas Tai Merthyr Tudful yn dilyn graddio o Brifysgol Caerdydd gyda Gradd yn y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.
Yn swyddog project Adfywio Cymru gyda’r Sefydliad, Shea sydd yn rheoli a chydlynu project ynni’r Sefydliad fydd yn cyflenwi braslun ymarferol ar gyfer Cymru sydd yn anelu at hybu economi Cymru drwy raglan manwl o arbed a chynhyrchu ynni er mwyn ecsploetio adnoddau ynni adnewyddadwy Cymru. Ymhlith diddordebau Shea mae chwaraeon a datblygu cynaliadwy.