Darlith yr Eisteddfod Sefydliad Materion Cymreig 2017: “Troi’r dŵr/gwynt i felin ein hunain: datrys anghenion ynni lleol yn lleol”

Venue

Pabell y Cymdeithasau 2

Yr Maes Eisteddfod Genedlaethol, Bodedern, Ynys Mon LL65 3SS

Bodedern, Ynys Mon, LL65 3SS

“Troi’r dŵr/gwynt i felin ein hunain: datrys anghenion ynni lleol yn lleol”


Eleni cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn, Ynys Ynni. Mae heriau sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd a chadw’r golau ‘mlaen yn adnabyddus a’r dadleuon o blaid ac yn erbyn cynlluniau cynhyrchu trydan mawr yn gallu bod yn danllyd ar brydiau.



Mae Sefydliad Materion Cymreig mewn partneriaeth â Lab Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor am droi’r chwyddwydr ar beth all unigolion a chymunedau wneud i helpu’n hunain i gwrdd â’r galw, i leihau tlodi tanwydd a pharatoi’n hunain ar gyfer y newid economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol anorfod sydd ar y gorwel.


Mae nifer o fentrau ynni cymunedol yn blaguro ar draws Cymru a bydd cynrychiolwyr rhai o’r rhain yn rhannu gwybodaeth ymarferol addas i gynulleidfa eang ynglŷn â sut i fynd ati. Does dim angen bod yn brofiadol! Byddant yn nodi’r cyfleoedd a’r rhwystrau y byddwch yn debygol o’u cyfarfod ar y ffordd.


Rydym yn awyddus iawn i glywed gan unigolion a chymunedau sydd â diddordeb yn hyn ymlaen llaw. Ein gobaith yw y bydd y digwyddiad yn esgor ar fwy o gydweithio a chyd-greu rhyng-gymunedol ac y bydd syniadau newydd yn deillio o’r digwyddiad.


 


Rhaglen

15:30 Croeso ar ran yr IWA gan yr Atrho Gareth Wyn Jones

Bydd y siaradwyr canlynol yn rhoi trosolwg cryno fydd yn arwain at drafodaeth ddifyr gyda chyfranogiad y gynulleidfa.



  • Dr Paula Roberts: Ynni cymunedol, pam trafferthu? Profiad Ynni Padarn Peris.

  • Meleri Davies: Egni cymunedol ar waith

  • Dr Prysor Williams: Meddwl tu allan i’r bocs: Prosiect Dŵr Uisce


Bydd y trafodaeth yn cael ei gadeirio gan Dr Einir Young, Lab Cynaliadwyedd @ Prifysgol Bangor.


——



Darperir cyfieithu ar y pryd


NODWCH: HYSBYSEB YW HWN AT DDIBENION GWYBODAETH YN UNIG – NID OES ANGEN TOCYNNAU YN AR GYFER Y DIGWYDDIAD HWN.




——————————-—————-—————-—————-—————-—————-—————-




“Diverting the water/wind to our own mill: local solutions to meet local energy needs”


The 2017 National Eisteddfod is being held in Ynys Môn, the Energy Island. Challenges associated with global climate change and keeping the lights on are well known and the arguments for and against large electricity generating schemes can be acrimonious at times.


The Institute of Welsh Affairs in partnership with Bangor University’s Sustainability Lab would like to focus on the positive contributions individuals and communities can make to help themselves meet local energy demand, reduce fuel poverty and prepare ourselves for the inevitable economic, social, environmental and cultural changes.


Several very successful community energy schemes are blossoming in Wales and representatives of these schemes will be present to share practical experiences for a wide audience; prior experience isn’t necessary! Opportunities and barriers that regularly crop up will be shared.


We are keen to hear from individuals and communities who might be interested in developing their own schemes beforehand. Our hope is that as a result of this event inter-community collaboration and co-creating will be facilitated and enhanced and that new ideas will emerge.



Programme

15:30 Welcome on behalf of the IWA, Professor Gareth Wyn Jones

The following speakers will then provide a brief overview, leading to an interesting discussion with audience participation:



  • Dr Paula Roberts: Community energy, why bother? The Ynni Padarn Peris experience.

  • Meleri Davies: Community energy in action

  • Dr Prysor Williams: Thinking outside the box – Dŵr Uisce Project


The discussion will be chaired by Dr Einir Young, Sustainability Lab @ Bangor University and will draw to a close at 16:30.


——–


Monday 7th August, 15:30 – 16:30, Societies Pavilion 2, Bodedern, Anglesey


Simultaneous translation provided


PLEASE NOTE THIS LISTING IS FOR INFORMATION PURPOSES ONLY – TICKETS ARE NOT REQUIRED FOR THIS EVENT.