Tu hwnt i Bartneriaeth Gymdeithasol? Ysgogiadau Datganoledig i gefnogi Undebau Llafur yng Nghymru

The cover of Beyond Social Partnership, our report on trade unions in Wales

Mae’r adroddiad hwn yn cefnogi rôl yr undebau llafur i ail-gydbwyso’r economi o blaid pobl ar gyflogau isel a chanolig, mae’n cefnogi gwasgaru buddiannau ffyniant ledled cymdeithas, ac mae’n cyfeirio at yr adnoddau y gall Llywodraeth Cymru eu defnyddio i gryfhau’r mudiad undebau llafur. Darllenwch ein hadroddiad yma.

Cyflwr y mudiad undebau llafur

Mae’r astudiaeth hon yn ystyried rôl undebau llafur wrth helpu i ail-gydbwyso’r economi, ac yn archwilio’r hyn y mae undebau wedi’i wneud ac yn ei wneud o hyd dros weithwyr yng Nghymru. 

Mae misoedd o weithredu diwydiannol wedi rhoi undebau llafur dan y chwyddwydr, ond er gwaethaf rhai llwyddiannau, mae’r mudiad undebau llafur yng Nghymru yn dal i weld dirywiad yn yr hirdymor.

Does dim digon o weithwyr ifanc yn ymuno ag undebau llafur i gymryd lle gweithwyr hŷn sy’n ymddeol; dyw’r mudiad undebau llafur ddim yn bodoli o gwbl mewn sawl rhan o’r sector preifat yng Nghymru; ac mae’n wynebu fframwaith rheoleiddio hynod gyfyngol na all Llywodraeth Cymru ei ddiwygio. 

Hefyd, mae gweithwyr a fyddai’n elwa fwyaf ar undebau llafur, fel y rhai sy’n gweithio yn yr economi gig, ymhlith y lleiaf tebygol o fod yn aelodau. Er bod Cymru mewn sefyllfa well na rhan helaeth o’r DU, mae lefelau ei haelodaeth o undebau yn dal yn bell y tu ôl i’r rhai sydd ar frig y tabl rhyngwladol.

Mae’r adroddiad hwn ac adroddiadau eraill wedi amlinellu nad yw’r ‘argyfwng costau byw’ a’r dirywiad mewn safonau byw yn y DU a Chymru o ganlyniad i sioc dros dro yn llwyr a achoswyd gan chwyddiant uchel yn 2022-23. Yn hytrach, maen nhw’n benllanw dros ddegawd o gyflogau disymud ar gyfer enillwyr isel a chanolig. Mae hyn yn gwbl groes i’r gwledydd y byddai’r DU yn draddodiadol yn eu hystyried yn gymheiriaid economaidd, lle mae’r ffenomen hon wedi bod yn fwy cyfyngedig.

Mae ffactorau sy’n cyfrannu at y broblem strwythurol hon ar gyfer economïau Cymru a’r DU yn cynnwys dirywiad hirdymor yng nghyfran llafur incwm, anghydraddoldeb o fewn  cyflogau, a diffyg cynhyrchiant a thwf economaidd. Mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at rôl undebau llafur wrth fynd i’r afael â’r materion hyn.

Gwelwn fod mwy o ddwyster mewn undebau (cyfran y gweithwyr sy’n aelodau o undeb llafur) a chwmpas cydfargeinio (gweithwyr y mae eu telerau ac amodau neu eu cyflogau yn cael eu gosod o ganlyniad i gyd-drafodaethau yn hytrach na thrafod unigol) yn gallu cydraddoli a chodi cyflogau, gwella amodau gwaith, a chyfrannu tuag at dwf economaidd.

Ein hargymhellion

Yn yr astudiaeth fer hon o’r undebau llafur yng Nghymru, dadleuwn y gallai cryfhau dwysedd a phwerau bargeinio undebau llafur effeithio’n gadarnhaol ar yr economi. Credwn fod gan undebau grymus y potensial i gynyddu cyfran llafur incwm cenedlaethol, a sicrhau bod y ‘gyfran gyflog’ yn cael ei dosbarthu yn fwy cyfartal ar draws enillwyr lefel is, canolig ac uchel. Gallant hefyd gynyddu ansawdd bywyd gwaith i lawer o bobl ar waelod y dosbarthiad incwm, a chyfrannu tuag at dwf economaidd drwy gynyddu’r galw.

Mae ein pedwar argymhelliad allweddol yn cynnwys:

Argymhelliad 1: Dylai Llywodraeth Cymru ddechrau ar unwaith ar y gwaith o sefydlu Cronfa Adnewyddu Undebau yn seiliedig ar gynigion, yn rhannol seiliedig ar hen gronfa Moderneiddio Undebau Llywodraeth y DU a Chronfa Foderneiddio Gwaith Teg a Moderneiddio Undebau Llafur presennol Llywodraeth yr Alban. Dylai hyn ganolbwyntio’n benodol ar feithrin arbenigedd polisi, cynnal ymgyrchoedd, a threfniadau ar gyfer gweithwyr iau, gweithwyr yn y sector preifat, a’r rhai sydd â’r angen mwyaf am gynrychiolaeth undeb fel y rhai mewn cyflogaeth ansicr. Dylid olrhain dwysedd undebau a chyfraddau cydfargeinio ymhlith y grwpiau hyn, a gosod targedau ar gyfer codi’r cyfraddau hyn.

Argymhelliad 2: Dylai Llywodraeth Cymru ddeddfu argymhelliad Gwaith Teg Cymru ar gyfer Achrediad Gwaith Teg, gan ategu’r Achrediad hwn gyda mynediad buddiol at gyllid neu fuddion eraill. Rhaid i fynediad undebau llafur a chydfargeinio ffurfio rhan o unrhyw Achrediad Gwaith Teg.

Argymhelliad 3: Dylai Llywodraeth Cymru greu Carreg Filltir Genedlaethol newydd neu darged penodol arall ar gyfer darpariaeth cydfargeinio a dwysedd undebau, ochr yn ochr â chynllun gweithredu i gyflawni’r targedau hyn. Dylid olrhain dwysedd undebau’r sector preifat a chwmpas cydfargeinio a’u targedu ar wahân.

Argymhelliad 4: Mae’n ymddangos bod achos cryf dros ddatganoli pwerau posibl i reoleiddio undebau llafur. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried gwaith pellach ar ei safbwynt ynghylch datganoli cysylltiadau diwydiannol a chyflogaeth, gan gynnwys y potensial ar gyfer datganoli pwerau i reoleiddio undebau llafur.

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma. Mae recordiad o lansiad yr adroddiad hwn ar gael i’w wylio yma.

Mae’r Sefydliad Materion Cymreig yn cydnabod yn ddiolchgar gefnogaeth y Friends Provident Foundation ar gyfer y gwaith ymchwil hwn.