Cydweithio’n Well : Sut gall y sectorau diwylliannol a treftadaeth wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a chymunedau Cymru?

Venue

Y Deml Heddwch

Parc Cathays Caerdydd, Cardiff, CF10 3AP

Cardiff, GB, CF10 3AP

Cydweithio’n Well : Sut gall y sectorau diwylliannol a treftadaeth wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a chymunedau Cymru?


Dymuna Cronfa Dreftadaeth y Loteri, mewn partneriaeth â’r felin drafod annibynnol, y Sefydliad Materion Cymreig eich gwahodd i fynychu Trafodaeth Treftadaeth Cymru 2014. Bydd y digwyddiad yn gyfle i gydweithwyr a phartneriaid o bob rhan o sector treftadaeth a diwylliannol Cymru gyfnewid syniadau am themâu a chwestiynau sydd yn bwysig nawr.

Mewn cyfnod o ansicrwydd a chyfyngiadau ariannol parhaol a gyda agendâu economaidd a chymdeithasol yn amlwg iawn ar dirwedd treftadaeth, bydd y digwyddiad yma yn galluogi y sector i ystyried blaenoriaethau yng Nghymru a’r ffyrdd gorau i ddelio â hwy. Gyda phwyslais ar ddod o hyd i atebion pragmatig i gyflawni dyheadau mewn cyfnod anodd, bydd y digwyddiad yn dod â threftadaeth a gweithwyr proffesiynol cymunedol at ei gilydd i gyfnewid syniadau, i herio, pryfocio ac ysbrydoli.

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o raglen o ymgysylltu ledled y DU lle mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri – gyda 20 mlynedd o brofiad o fuddsoddi – yn hyrwyddo gwydnwch a chynaliadwyedd treftadaeth, gan helpu i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio, i oroesi a ffynnu ac i ddysgu oddi wrth ei gilydd.