Delivering wellbeing and resilience through community ownership

Venue

Ty Gwyrddfai

Penygroes Industrial Estate, Penygroes, LL54 6DB

Penygroes, Caernarfonshire, GB, LL54 6DB

Join us as we discuss the vital role of social enterprises and community ownership models in tackling local economic challenges.

Adeiladu o’r Gwaelod: Darparu lles a gwytnwch trwy berchnogaeth gymunedol

Ymunwch â’r Sefydliad Materion Cymreig a Phrifysgol Bangor i drafod rôl hanfodol modelau perchnogaeth gymunedol a mentrau cymdeithasol wrth fynd i’r afael â heriau economaidd lleol.

Mae awdurdodau lleol a Chynghorau Cymuned ledled Cymru’n wynebu heriau ariannol, yn ei chael hi’n anodd cadw asedau a chyfleusterau i fynd, ac yn gorfod gwneud mwy a mwy o doriadau arwyddocaol i gyllidebau yn ystod y flwyddyn. Gyda thoriadau yn y sector cyhoeddus a rhagolygon economaidd llwm parhaus, mae grwpiau a mentrau lleol yn dod at ei gilydd i brynu, rheoli a chynnal eu hasedau. Mae hyn yn eu galluogi i fynd i’r afael â rheoli’r economi leol sylfaenol.

Bydd y digwyddiad hwn yn archwilio twf mentrau cymunedol a pherchnogaeth leol fel enghreifftiau o ddatrysiadau o’r gwaelod i fyny mewn perthynas â’r heriau lleol y mae cymunedau gogledd Cymru’n eu hwynebu. Mae ymdrechion o’r fath yn dangos bod rhyddhau capasiti i gymunedau’n grymuso pobl leol i ddod o hyd i ddatrysiadau diriaethol, a rhoi’r datrysiadau hynny ar waith, wrth feithrin gwytnwch lleol. Ymunwch â ni wrth i ni archwilio amrywiaeth o faterion, gan gynnwys tai, iechyd, trafnidiaeth ac ynni cymunedol, ac ystyried rôl bwysig modelau perchnogaeth gymunedol a mentrau cymdeithasol yn y gogledd.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gadeirio gan yr Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-ganghellor, Prifysgol Bangor, ac yn ymuno ag ef, bydd:

  • Dr Edward Thomas Jones, Uwch Ddarlithydd mewn Economeg, Prifysgol Bangor
  • Selwyn Williams, Cadeirydd, Cwmni Bro Ffestiniog
  • Meleri Davies, Prif Swyddog, Partneriaeth Ogwen
  • Grant Peisley, Cyfarwyddwr, Datblygiadau Egni Gwledig
  • Jess Silvester, Rheolwr Rhaglen Cymru, People’s Economy

Agenda

9:30 – 10:00 Cyrraedd a lluniaeth

10:00 – 10:10 Croeso gan Iwan Trefor Jones, Prif Weithredwr, Adra

10:10 – 10:15 Croeso gan yr Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-ganghellor, Prifysgol Bangor

10:15 – 10:25 Cyflwyniad gan Dr Edward Jones, Uwch Ddarlithydd mewn Economeg, Prifysgol Bangor

10:25 – 11:00 Trafodaeth Banel

11:00 – 11:45 Sesiwn Holi ac Ateb gyda’r Gynulleidfa

11:45 – 12:00 Lluniaeth a Gorffen (posibilrwydd o daith fer o amgylch Tŷ Gwyrddfai i rheini gyda diddordeb)

– ———————————————————————–

Building from the Bottom: Delivering wellbeing and resilience through community ownership

Join the IWA and Bangor University as we discuss the vital role of social enterprises and community ownership models in tackling local economic challenges.

Across Wales, local authorities and Community Councils are on a financial tight-rope, struggling to keep assets and facilities running, and are increasingly having to make significant in-year budget cuts. With public sector cuts and an ongoing bleak economic forecast, local groups and enterprises are coming together to purchase, manage and sustain their assets. In doing so, they are taking a stake in managing the foundational local economy.

This event will explore the growth of community enterprises and local ownership as examples of communities’ own bottom-up solutions in the face of local challenges in north Wales. Such endeavours show how, through releasing capacity to communities, local people can be empowered to find and deliver tangible solutions while building local resilience. Join us as we examine a range of issues including housing, health, transport and community energy, and consider the important role of social enterprises and community ownership models in the north of the country.

The event will be chaired by Professor Andrew Edwards, Pro Vice-Chancellor, Bangor University, who will be joined by:

  • Dr Edward Thomas Jones, Senior Lecturer in Economics, Bangor University
  • Selwyn Williams, Chair, Cwmni Bro Ffestiniog
  • Meleri Davies, Chief Officer, Partneriaeth Ogwen
  • Grant Peisley, Director, Datblygiadau Egni Gwledig
  • Jess Silvester, Wales Programme Manager, People’s Economy

Agenda

9:30 – 10:00 Arrival and Refreshments

10:00 – 10:10 Welcome by Iwan Trefor Jones, Chief Executive, Adra

10:10 – 10:15 Introduction and setting the scene by Professor Andrew Edwards, Pro Vice-Chancellor, Bangor University

10:15 – 10:25 Presentation by Dr Edward Jones, Lecturer of Economics, Bangor University

10:25 – 11:00 Panel Discussion chaired by Prof Andrew Edwards

11:00 – 11:45 Q&A with the Audience

11:45 – 12:00 Refreshments and Close (possibility of short Tŷ Gwyrddfai tour for those interested)

Bydd y digwyddiad hwn ar gael yn Gymraeg a Saesneg / This event will be available in both Welsh and English.

Credyd llun: Polly Thomas / Picture credit: Polly Thomas