Funding journalism using participatory grantmaking: a guide

The cover of Funding journalism using participatory grantmaking

Yn y DU a ledled y byd rydyn ni’n wynebu argyfyngau lluosog, croestoriadol – argyfyngau yn ein sefydliadau democrataidd, argyfyngau anghydraddoldeb cymdeithasol, ac argyfyngau yn ein hamgylchedd. Mae angen system gyfryngau arnom ar frys a all hwyluso cyfranogiad democrataidd a chydweithio a chefnogi cyd-atebion i heriau mawr fel pandemigau a’r trychineb hinsawdd. Un rhan allweddol o’r system gyfryngau hon yw newyddion a gwybodaeth ddibynadwy a pherthnasol sydd â rôl hanfodol i’w chwarae mewn bywyd democrataidd.

Mae’r cyfnod hwn o ansefydlogrwydd ehangach hefyd wedi cyd-daro â chyfnod o newid mawr yn y ffordd y mae newyddiaduraeth yn cael ei harfer a’i hariannu, yn enwedig newidiadau strwythurol mewn marchnadoedd hysbysebu sydd wedi’i wneud yn fodel cyllido llai cynaliadwy ar gyfer newyddiaduraeth.

Derbynnir yn eang bod angen ffynonellau cyllid newydd bellach i gefnogi newyddiaduraeth, gan y wladwriaeth, gan ddyngarwyr neu gwmnïau technoleg mawr.

Dydy sut y dylid dosbarthu’r arian hwn ddim wedi ei archwilio i’r un graddau. Er mwyn i’r cyfryngau gefnogi bywyd democrataidd go iawn, credwn y dylai’r ffyrdd y caiff ei ariannu hefyd fod yn ddarostyngedig i reolaeth ac atebolrwydd democrataidd. Mae’r canllaw hwn yn amlinellu sut y gellid addasu dysgu ac arferion gorau ym maes grantiau cyfranogol, a ddefnyddir yn eang mewn dyngarwch, i gyllido newyddiaduraeth er mwyn cyflawni’r nod hwn.

Ffrwyth cydweithio rhwng Media Reform Coalition a’r Public Interest News Foundation (PINF) yw’r canllaw hwn, gyda mewnbwn gan ystod eang o sefydliadau ag arbenigedd perthnasol, gan gynnwys y Sefydliad Materion Cymreig. Y prif awdur yw Dr Debs Grayson, sef Cydlynydd ymgyrch BBC and Beyond (2021-2023) yr MRC, gan weithio gyda’r Athro Natalie Fenton o’r MRC a Goldsmiths, Prifysgol Llundain. Mae gan Debs hefyd gefndir mewn grantiau cyfranogol, a hithau’n aelod hirsefydlog o Gronfa Edge, ac wedi cynnal ymgynghoriaeth ar ran Ymddiriedolaeth Elusennol Joseph Rowntree a arweiniodd at sefydlu Cronfa Mudiadau cyfranogol yn 2022.

Syniadau uchelgeisiol, awdurdodol a mentrus.
Ymunwch â ni i gyfrannu at wneud Cymru gwell.