A yw dyfodol addysg uwch yn Agored ac Ar-lein?

Mae Michelle Matheron yn gofyn os yw Cymru yn gallu dilyn y ffordd wrth darparu Addysg Uwch

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad arwyddocaol ar bwnc sydd o bwys mawr i’r gwaith o gynllunio a chyflwyno addysg uwch (AU) yng Nghymru yn y dyfodol.  Mae ‘Agored ac ar-lein: Adroddiad y Gweithgor Dysgu Digidol Ar-lein‘ yn adroddiad pwysig y mae’n werth i unrhyw un sy’n gweithio yn y sector AU ac, yn benodol, y rheini sydd â diddordeb mewn ymarfer addysgol, ei ddarllen.

Mae’r adroddiad yn benllanw gwaith ‘Gweithgor Adnoddau Digidol Ar-lein’ annibynnol a sefydlwyd ym mis Chwefror 2013 gan y cyn-Weinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews.  Gofynnwyd i’r grŵp, sydd wedi’i gadeirio gan gyn-Lyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Andrew Green, ac sy’n cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o’r sector addysg a thu hwnt, i archwilio potensial dysgu digidol ar-lein a sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo’r sector addysg uwch yn y maes datblygol hwn. Mae’r adroddiad yn gwneud yn union hynny, gan ddarparu cipolwg clir o arferion cyfredol yn y maes hwn sy’n newid yn gyflym iawn a chynnig cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru a Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru.

Mae dwy agwedd ar yr adroddiad y mae’n werth rhoi sylw manwl iddynt yn sicr, yn bennaf am eu bod yn ymwneud yn uningyrchol â dau o feysydd blaenoriaeth Llywodraeth Cymru – ehangu mynediad i AU a datblygu sgiliau.

Yn ystod y degawd diwethaf, gwelwyd cynnydd aruthrol mewn diddordeb a gweithgarwch ledled y byd ym maes datblygu a defnyddio deunyddiau addysgu a dysgu digidol, a gwelwyd cyrsiau ac adnoddau’n cael eu cynnig am ddim ar y rhyngrwyd. Mae fy sefydliad fy hun, y Brifysgol Agored, wedi bod yn defnyddio cyfryngau darlledu fel cyfrwng ar gyfer ei adnoddau addysgol ers degawdau ac, mewn sawl ffordd, mae’r symud i gyflwyno ein cyrsiau ar-lein wedi bod yn estyniad naturiol o’r rhaglenni hwyrnos hynny a ddarlledwyd ar BBC2 yn y 1970au.  Ond yn 2006 lansiodd y Brifysgol Agored OpenLearn – llwyfan dysgu ar-lein sy’n cynnig y cyfle i astudio darnau o gyrsiau’r Brifysgol Agored am ddim yn eich amser chi eich hun.  Cafodd OpenLearn 96,000 o ymwelwyr o Gymru’n unig yn 2012-13.  Rydym hefyd wedi gweld cynnydd aruthrol yn natblygiad llwyfannau MOOC fel Coursera ac EdX sy’n eich galluogi i astudio cyrsiau byr gan rai o Brifysgolion gorau’r byd ar-lein ac am ddim mewn ffordd strwythuredig.  Lansiwyd y llwyfan MOOC cyntaf sef Futurelearn yn y DU yn 2013 gyda chyrsiau gan sefydliadau ledled y byd, gan gynnwys Prifysgol Caerdydd.

Ni wyddys i ba raddau y bydd y datblygiadau hyn yn amharu ar y broses o gyflwyno AU yn y dyfodol.  Er enghraifft, mae llawer na wyddys amdano o hyd ynghylch y mathau o fyfyrwyr sy’n cofrestru ar gyfer MOOCS (yn ôl un astudiaeth gan Brifysgol Caeredin o’i chwrs MOOC Coursera, roedd 70.3 y cant o’r ymatebwyr a oedd yn astudio’r cwrs eisoes yn meddu ar radd) a’r graddau y byddant yn annog myfyrwyr i gymryd cam pellach o ran astudiaethau AU.  Mae adroddiad ‘Open & Online’, yn gywir ddigon, yn cydnabod mai dim ond rhan o’r stori yw rhoi cyrsiau ar-lein. Mae gan Adnoddau Addysgol Agored y potensial i ehangu mynediad i AU ond ni fyddant yn llwyddo i wneud hynny heb ymyriadau a chymorth pellach.

Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu’r potensial sydd gan yr adnoddau hyn i ddatblygu sgiliau yn y gweithle a rhoi hwb i economi Cymru.  Yn ddiweddar, lansiodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu ar gyfer Sgiliau a dengys ffigurau UKCES fod 28 y cant o gyflogwyr yng Nghymru yn nodi bod bylchau yn sgiliau eu gweithlu.   Gallai dysgu ar-lein chwarae rôl bwysig yn yr agenda datblygu sgiliau hon.  Er mwyn uwchsgilio ein gweithlu presennol a chynnig cyfleoedd dysgu, rhaid i ni feddwl nid yn unig am yr hyn rydym yn ei addysgu (a phwy sy’n talu amdano) ond hefyd sut rydym yn cyflwyno’r dysgu hwnnw. Mae’r potensial yn anferth ac mae’n bosibl mai dyma’r unig opsiwn os ydym o ddifrif ynghylch datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnom i gystadlu yn yr economi – ni allwn ddibynnu ar raddedigion 21 oed neu’r rheini a all ariannu eu hastudiaethau annibynnol eu hunain yn unig. Gallai dod o hyd i ffyrdd newydd i gyflogeion a’r rheini sy’n ceisio gwaith astudio ar-lein gael effaith fawr ar ein heconomi.

Heddiw, gwelir datblygiad pellach yn stori Adnoddau Addysgol Agored yng Nghymru wrth i’r Brifysgol Agored yng Nghymru lansio OpenLearn Cymru – llwyfan dysgu ar-lein am ddim ar gyfer astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.  Mae OpenLearn Cymru, sy’n gweithio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yn ceisio ategu’r ddarpariaeth sydd ar gael eisoes drwy Y Porth, yn cynnig cyrsiau am ddim (gyda deunydd o astudiaethau achrededig y Brifysgol Agored) ac adnoddau o ystod eang o ddisgyblaethau gan gynnwys hanes Cymru; sgiliau a chyflogadwyedd; gwaith cymdeithasol a seicoleg.  Gallai’r gallu i gyrraedd dysgwyr ym mhob rhan o Gymru (a thu hwnt), heb fod angen iddynt ddod at ei gilydd i astudio, gael effaith fawr ar y cyrsiau sydd ar gael a phwy sy’n dewis eu hastudio.

Mae’n gyfnod cyffrous i Adnoddau Addysgol Agored yng Nghymru ac mae gwaith ardderchog yn mynd rhagddo, megis y grŵp arbenigol Adnoddau Addysgol Agored Addysg Uwch yng Nghymru, a phorth dysgu Cadarn, ond mae hon yn agenda sy’n newid yn gyflym ac mae angen i ni fod ar flaen y gad. Ceir llawer o sôn am allu Cymru i “wneud yn well na’r disgwyl” mewn meysydd fel ymchwil academaidd ond dylai Cymru anelu at wneud hynny hefyd wrth gyflwyno addysg a dod yn arweinydd ym maes Adnoddau Addysgol Agored.  Efallai mai nid sianeli ar-lein fydd yr unig ffordd o gyflwyno addysg uwch yn y dyfodol ond, yn sicr, mae angen i ni fod yn agored i’r posibilrwydd a’r potensial.

Michelle Matheron yw Rheolwr Polisïau a Materion Cyhoeddus y Brifysgol Agored yng Nghymru.

Also within Politics and Policy