Twf cenedlaetholdeb Seisnig – cyfaill ta gelyn?

Darlith Blynyddol Sefydliad Materion Cymreig yn yr Eisteddfod 2014 gan Simon Brooks

Darlith y Sefydliad Materion Cymreig, Eisteddfod Genedlaethol, Llanelli, 2014

Mae’n flwyddyn beryglus yng Nghymru. Fis nesaf, mae’r Albanwyr am fentro i’r bythau pleidleisio er mwyn penderfynu a ydynt am i’r Alban fod yn wlad annibynnol ai peidio. Os ydynt yn dweud Ie, mae rhai’n credu y bydd Cymru hithau’n wlad annibynnol cyn pen dim. Mae hynny’n bosib, mae popeth mewn bywyd yn bosib. Ond llawer mwy tebygol yw bod Cymru a Lloegr yn cael eu huno’n un wladwriaeth am ddegawdau lawer, efallai am byth. Enw’r wladwriaeth honno ar lafar gwlad fydd Lloegr. Yr un fydd ei thiriogaeth yn y bôn â’r deyrnas honno, Teyrnas Lloegr, yr oedd Cymru wedi ei choncro ganddi, ac yn rhan ohoni rhwng 1282 a 1707. Er gwaetha ei holl ffaeleddau, o leiaf yr oedd olynydd pwysicaf honno, Teyrnas Gyfunol Prydain Fawr ac Iwerddon, yn wladwriaeth amlgenedl, ac yr oedd yno, mewn theori o leiaf, falans lled gydradd rhwng Sacson a Chelt. Yn 1841, nid oedd y Saeson yn ffurfio ond oddeutu 60% o boblogaeth y Deyrnas Gyfunol. Ond os yw’r Alban yn pleidleisio dros annibyniaeth, bydd y Saeson yn cyfrif am 93% o’r boblogaeth, 95% pe baem yn eithrio gogledd Iwerddon, o’r wladwriaeth y bydd Cymru’n aelod ohoni. Gwladwriaeth Seisnig fydd Prydain heb yr Alban er cynnwys o’i mewn y Cymry yn lleiafrif cenedlaethol, lleiafrif a gaiff gadw ei sefydliadau datganoledig cyhyd ag y bo’r Saeson yn goddef hynny.

Mae’n ddegawd beryglus yng Nghymru. Wedi’r etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf, rwy’n rhagdybio y cawn lywodraeth Geidwadol arall yn San Steffan ar sail ffydd y Saeson y bydd y Torïaid yn gofalu’n well am yr economi na’r Blaid Lafur. Cynhelir yn fuan wedi hynny, efallai yn 2017, refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb  Ewropeaidd. Fyddwn i ddim yn rhyw obeithiol iawn ynglyn â’r canlyniad. Mae yna ben draw i amynedd Berlin efo ubain cwynfannus Llundain ynghylch pob dim Ewropeaidd, ac ni fydd pob Ewropead yn barod i blygu glin gerbron Prydain Fawr, ynteu ai Prydain Fach fydd hi erbyn hynny, er mwyn ei chadw yn yr Undeb Ewropeaidd. Os yw’r Alban yn gadael Prydain, a Phrydain yn gadael Ewrop, bydd Prydain Fach yn gweld ei hun fwyfwy fel caer y Saeson. Mae’n mynd i fod yn Little Britain go-iawn hefyd, a’r Cymro druan fydd ‘the only Celt in the village’.

At hynny gall fod yn ganrif o fewnfudo sylweddol i Gymru, yn bennaf o Loegr ond hefyd o rannau eraill o’r byd. Yn ôl y Cyfrifiad, nid yw ond 72% o boblogaeth Cymru wedi’u geni yng Nghymru. Dydi hynny o angenrheidrwydd ddim yn broblem. Wedi’r cwbl dim ond 63% o boblogaeth Llundain sydd wedi’u geni ym Mhrydain. Ond nid Llundain mo Cymru. Gwlad dlawd, ymylol yw Cymru, mewn perthynas ddibynnol â’i chymydog drws nesaf, ac yn meddu ar hunaniaeth leiafrifol. Mae gwlad felly yn llawer mwy agored i fygythiadau i’w hunaniaeth yn sgil newidiadau o ran demograffeg na diwylliannau mwyafrifol.

Wrth gwrs, does yna ddim cysylltiad uniongyrchol rhwng cael eich geni yng Nghymru ac ymdeimlo neu gydymdeimlo â chenedligrwydd Cymreig. Mae yna ddegau o filoedd o bobl yng Nghymru a aned yn Lloegr sy’n siarad Cymraeg, a degau o filoedd yn fwy sy’n eu hystyried eu hunain yn Gymry. Dywedaf hyn yn ddiffuant fel hogyn o Lundain y mae ei chwaer ymhlith ffans pennaf tîm rygbi Lloegr! Serch hynny bydd Seisnigo pellach ar Gymru o ran y ganran a aned y tu allan i’r wlad efo goblygiadau gwleidyddol o safbwynt hunaniaeth Gymreig. Nid mewnfudo ar ei ben ei hun sy’n broblematig i genedl ddiwladwriaeth fel Cymru, ond yr anawsterau mae diwylliant lleiafrifol yn ei wynebu wrth geisio integreiddio newydd-ddyfodiaid.

Dydw i ddim eisiau mynd o flaen gofid ond mae yna bosibilrwydd cryf y bydd Prydain y dyfodol yn lle llawer mwy Seisnig nag y bu hyd yma, ac mae’n ddigon bosib y bydd Cymru yn lle llawer mwy Seisnig hefyd. Mae’r peryglon sydd ynghlwm wrth hyn yn cael eu dwysáu gan natur gynyddol adweithiol a gwrth-amlddiwylliannol diffiniadau diweddar o Seisnigrwydd, o leiaf fel y’i gwelir ar ffurf twf pleidiau gwleidyddol fel Ukip.

Felly cwestiwn poenus i ninnau fel lleiafrif cenedlaethol yw a ydy senoffobia diweddar cenedlaetholdeb Seisnig megis yn rhoi cychwyn ar drywydd newydd yn hanes diwylliannol Lloegr ble bydd lleiafrifoedd yn clywed y gwynt yn llawer meinach, ynteu ai drycin dros dro ydyw

Mae natur anoddefgar presennol cenedlaetholdeb Seisnig a’i agwedd cyffredinol tuag at leiafrifoedd yn peri pryder. Yn sicr, nid yw’n ddiarwyddocâd. Mewn gwladwriaethau mawrion, yn hanesyddol o leiaf, mae yna duedd i agweddau gwrthnysig tuag at leiafrifoedd ethnig mewnfudol gyd-rodio efo amheuaeth ddofn o fodolaeth lleiafrifoedd cynhenid. Tybed a fydd cenedlaetholdeb Seisnig yn morffio ymhen deng neu ugain mlynedd i dargedu lleiafrif cenedlaethol y Cymry? Cawn weld ond byddem yn anghyfrifol i anwybyddu’r posibiliad y gallai hyn ddigwydd.

Felly, ai cyfaill ta gelyn yw cenedlaetholdeb Seisnig?

Cyfaill ydyw i’r raddau y bydd yn creu cyfleoedd inni hogi ein hunaniaeth ein hunain yn ei erbyn. Mae gwladwriaethau amlgenedl yn aml yn dechrau ymddatod pan fo cenedlaetholdebau cryfion yn datblygu ymhlith ei chenhedloedd pwysicaf, fel y digwyddai yn yr Ymerodraeth Awstro-Hwngaraidd yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac fel sy’n digwydd yn Lloegr a’r Alban heddiw. Efallai mai’r gobaith y bydd bygythiad twf cenedlaetholdeb Seisnig yn esgor megis yn ddilechdidol ar ragor o genedlaetholdeb Cymreig sy’n peri i gynifer o genedlaetholwyr fod o blaid annibyniaeth i’r Alban. Hynny yw, bod annibyniaeth i’r Alban yn datgelu natur hanfodol Seisnig y wladwriaeth Brydeinig ac yn cymell felly y Cymry mewn gwrthsafiad yn ei erbyn.

Ond gelyn yw cenedlaetholdeb Seisnig hefyd am fod y fath beth yn bodoli â grym cymdeithasol. Yn wir, dengys methiant Cymru a’r Alban i ennill ymreolaeth ar yr un adeg ag Iwerddon, sef ar ddiwedd y rhyfel byd cyntaf, nad yw’n anorfod y bydd ymerodraeth o golli un drefedigaeth am ildio’r lleill hefyd. Yn wir, fe all ddal ei gafael yn fileinach nag o’r blaen yn yr hyn sy’n weddill: siawns nad ydi hanes diweddar Rwsia yn tystio i hyn. Ac yn y dyfodol gallai cenedlaetholdeb Seisnig fod yn rymus iawn. Yn wir, pe bai cenedligrwydd Seisnig yn dechrau mynd ar drywydd gwrth-Gymreig ni fyddai gennym obaith caneri o’i wrthsefyll. Byddai’r Gymraeg yn barot marw, chwedl John Cleese. Yr un mor farw â pharot Cernyweg Ifor ap Glyn, os ydi rhai ohonoch chi’n cofio’r sgets anfarwol honno.

Oherwydd hyn oll, ni allwn anwybyddu’r drafodaeth am genedligrwydd a dinasyddiaeth sy’n mynd rhagddi yn Lloegr ar hyn o bryd.

Rydym ni wedi arfer meddwl am genedlaetholdeb Seisnig fel creadur anoddefgar ac anghynnes. Yn anffodus, mae hynny’n wir ond mae hefyd yn wir mai’r hyn sy’n digwydd yn Lloegr yw trafodaeth sifig ddigon synhwyrol am natur dinasyddiaeth. Pwy sy’n cael bod yn ddinesydd Seisnig, a beth yw dyletswyddau a chyfrifoldebau’r cyfryw ddinasyddion? O dan ba amodau y dylid caniatáu mewnfudiad, gan bwy ac i ba raddau? A ddylid cymathu mewnfudwyr yn ieithyddol, ynteu ai gwell yw gadael i fewnfudwyr ddefnyddio eu hiaith eu hunain os mai dyna yw eu dymuniad?

Yn ddigon amlwg, gallai’r rhain fod yn themâu Cymreig hefyd. Yn wir, tan yn ddiweddar, dim ond yng Nghymru yr oedd y cwestiynau yma yn cael eu codi. Mae’n beth od ar y naw felly nad ydy hyn yn rhan o’r drafodaeth wleidyddol Gymreig heddiw. Mae’n bizarre fod y diwylliant Cymraeg wedi treulio hanner canrif yn trin y pynciau yma, ond wrth i’r drafodaeth gael ei dilysu yn Lloegr, rydym ni yng Nghymru yn rhoi’r gorau i’r drafodaeth! Mae hynny’n hynod annoeth oherwydd os na wnawn ni ddiffinio dinasyddiaeth Gymreig ein hunain, cawn ein diffinio gan yr hyn sy’n digwydd yn Lloegr. Ac yn wir dyna sy’n digwydd ar hyn o bryd.

Neges Ukip yw y dylai mewnfudwyr yng Nghymru fod yn Brydeinwyr da, a dylen nhw siarad Saesneg. Ond beth yw ein neges ni?

Am ddegawdau bu ymgyrchwyr iaith yn ceisio trin rhai o’r themâu hyn ynghylch mewnfudo, dinasyddiaeth ac iaith. Ystyrier er enghraifft drafodaethau aeddfed Cynog Dafis ar bwysigrwydd cymhathu’r di-Gymraeg yn Mewnlifiad, Iaith a Chymdeithas (1971) a Cymdeithaseg Iaith a’r Gymraeg (1979). Mae gennym ni draddodiad deallusol o drafod y pethau yma yng Nghymru.

Ac at hynny mae yna draddodiad rhyngwladol rhyddfrydol a fyddai’n gallu dilysu trafodaeth o’r fath. Yng ngwaith rhai athronwyr rhyddfrydol cyfoes, ceisir cysoni rhyddfrydiaeth fel athroniaeth wleidyddol â’r awydd sydd gan leiafrifoedd i ddiogelu eu diwylliannau. Efallai mai’r ysgolhaig mwyaf adnabyddus yn y maes yw’r theorïwr gwleidyddol rhyddfrydol o Ganada, Will Kymlicka. Gan fod gan bob gwladwriaeth ei rheolau mewnfudo, a fydd at ei gilydd yn gwarchod buddiannau mwyafrifaf ethnig y Wladwriaeth, dywed Kymlicka y gall fod yn dderbyniol i leiafrifoedd diwladwriaeth gael rheolaeth ar natur mewnfudiad i’w tiriogaethau hwythau, a bod hyn yn ‘consistent with liberal principles of equality’. Meddai ymhellach: ‘what distinguishes a liberal theory of minority rights is precisely that it accepts some external protections for ethnic groups and national minorities’.

Yng nghyd-destun mewnfudo, cwbl ddilys, meddai Kymlicka, yn wir angenrheidiol, yw bod rhyddfrydwyr athronyddol nid yn unig yn caniatáu i’r lleiafrif cenedlaethol ‘exercise some control over the volume of immigration, to ensure that the numbers of immigrants are not so great as to overwhelm the ability of the society to integrate them’ ond hefyd reolaeth ar ‘the terms of integration.’ Er enghraifft, os yw’n dderbyniol i grwpiau ethnig mwyafrifol osod prawf iaith ar fewnfudwyr, ar ba sail y gellid gwarafun i leiafrifoedd yr un hawl? Yn wir, heb gael dylanwad at y broses o integreiddio, hwyrach y caiff y lleiafrif ei draflyncu. Mae hynny’n neilltuol bwysig pan fo’r mwyafrif yn y wladwriaeth yn mynnu fod mewnfudwyr i’w diriogaeth, ac i diriogaeth y lleiafrif hefyd gan fod y mwyafrif yn ystyried honno yn y bôn yn ymestyniad o’i diriogaeth ei hun, yn ymgymhathu i’r diwylliant mwyafrifol ac nid i’r diwylliant lleiafrifol.

Mae hyn yn andwyol i ddiwylliannau lleiafrifol, ac nid mewn gwirionedd am fod mewnfudwyr o gefndir lleiafrifol ethnig sy’n ochri â’r diwylliant mwyafrifol yn ychwanegu at niferoedd absoliwt y gymuned fwyafrifol – ymhob rhan o’r ardaloedd Cymraeg, mae’r niferoedd hynny yn rhy isel i beri shifft iaith. Y niwed sy’n cael ei wneud yw fod y broses o sefydlu’r Saesneg yn iaith integreiddiad sifig ar gyfer mewnfudwyr o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd mewn ardaloedd Cymraeg yn dynodi’r Saesneg fel iaith sifig ar gyfer y gymuned gyfan. Y Saesneg felly yw’r iaith i’w defnyddio mewn cyfathrebu rhwng grwpiau ethnig neu grwpiau iaith sydd yn ei dro yn symud oddi ar fewnfudwyr o Loegr unrhyw ddyletswydd foesol i ddysgu’r Gymraeg.

Gall hyn arwain wedyn at y lleiafrif brodorol yn ymgymhathu i’r diwylliant mwyafrifol yn ei diriogaeth ei hun; hynny yw, gall diwylliant brodorol ymgymhathu i ddiwylliant mewnfudol, os mai’r diwylliant mewnfudol yw diwylliant y wladwriaeth.

Ni welir goblygiadau hyn yn gliriach nag yn y drafodaeth Brydeinig ddiweddar am fewnfudo, dinasyddiaeth ac iaith.

Ceir consensws trawsbleidiol yn Lloegr y dylai mewnfudwyr i Brydain ddysgu Saesneg ac y dylai’r wladwriaeth hyrwyddo hyn. Mae pob un o’r pedair prif blaid Brydeinig o blaid cyswllt diamwys rhwng dysgu’r iaith Saesneg a dinasyddiaeth Brydeinig. Mae agwedd y llywodraeth Con-Dem yn Llundain ar hyn yn ddigon clir, megis wrth gynnig yn ddiweddar na ddylai’r di-Saesneg gael pres dôl oni bai eu bod yn barod i ddysgu Saesneg. Tebyg yw agwedd y Blaid Lafur hefyd, ac yn wir daeth Ed Milliband i ogledd Cymru yn ystod ymgyrch yr etholiadau Ewropeaidd er mwyn ein hatgoffa drachefn, fel pe na baem eisoes yn gwybod, o ddyletswydd mewnfudwyr i Brydain i ddysgu Saesneg. Bu’r Blaid Lafur yn canu’r gân hon ers tua deng mlynedd bellach. Cyflwynodd David Blunkett, pan oedd yn Ysgrifennydd Cartref rhwng 2001 a 2004 yn llywodraeth Lafur Newydd Tony Blair, nifer o fesurau a olygai na fyddai’n bosib derbyn dinasyddiaeth Brydeinig heb basio prawf iaith. Ac fel y gwyddom dyfodol yr iaith Saesneg yw un o gonyrns mawr Ukip. Pwy na theimlodd drueni dros Nigel Farage nad oedd yr iaith fain i’w chlywed ar drên y bu’n teithio arno rhwng Llundain a Swydd Gaint yn ddiweddar?

Mae negeseuon o’r fath yn dod atom dros y ffin o Loegr, yn effeithio arnom ac yn dylanwadu arnom. Go brin fod hyn yn syndod; wedi’r cwbl, y wasg Lundeinig yw prif ffynhonnell newyddion y Cymry. O ganlyniad, ceir gwrthwynebiad mewn rhannau o Gymru i elyn dychmygol nad yw mewn gwirionedd yn bodoli, sef mewnfudiad poblogaeth ddi-Saesneg. Yn y dyfodol mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith gall fod gornest rhwng rhethreg uniaith Saesneg y wladwriaeth Brydeinig a rhethreg ddwyieithog yr egin-wladwriaeth Gymreig ac ni allwn ni fod yn sicr y bydd y wladwriaeth Gymreig yn ennill y frwydr hon. Dwy ddimai, smarties sydd gan y Comisiynydd Iaith, Meri Huws, i wario ar y frwydr; mae’r Daily Mail yn cael ei chyhoeddi bob dydd. Yn ddios, bydd rhethreg Ukip a chenedlaetholdeb Seisnig yn hyn o beth yn tanseilio hyder y gymuned Gymraeg i fynnu fod y Gymraeg yn aros yn iaith gymunedol, ac yn rhoi hyder newydd i bobl sy’n dymuno gwrthwynebu hynny.

Ac eto, beth fu ymateb y sefydliad Cymreig i hyn oll? Rhoi pen yn y tywod! Bu cyndynrwydd i afael yn y drafodaeth o gwbl!

Mae’r cyndynrwydd yn deillio o broblem mewn syniadaeth Gymreig. Ceir consensws gwleidyddol yng Nghymru y dylid arddel cenedlaetholdeb sifig sy’n cael ei ddiffinio yn erbyn yr hyn a elwir, yn anghywir yn fy marn i, yn genedlaetholdeb ethnig. Mae’r sefydliad gwleidyddol Cymreig wedi rhoi’r Gymraeg mewn bocs ethnig, er y gellid yn ddigon rhwydd ei rhoi mewn bocs sifig wrth greu dinasyddiaeth Gymreig. Am eu bod yn credu fod iaith yn perthyn i’r bocs ethnig, dyw gwleidyddion ddim yn barod i ddweud wrth fewnfudwyr fod unrhyw ddisgwyliadau ar eu cyfer, o safbwynt y Gymraeg beth bynnag, pan maen nhw’n symud i Gymru.

Maen nhw’n rhyw deimlo y byddai ’na elfen o ddiffyg croeso ynghlwm wrth hynny, a rhyw annhegwch hefyd, a’n bod ni yng Nghymru yn sefyll ar wahân i hyn oll. Wrth gwrs, dadl ffug yw’r un fod dysgu iaith yn orfodaeth ethnig oherwydd yn Lloegr caiff y Saesneg ei dysgu am resymau sifig, sef er mwyn i’r dinesydd fedru iaith y wlad a mwynhau breiniau sifig heb anfantais. Ond y safbwynt yng Nghymru yw na fedr y wladwriaeth Gymreig osod rhwymedigaethau neilltuol ar neb.

Er y gall hyn ymddangos ar un wedd yn ddigon goddefgar, mae hefyd yn bolisi sy’n anwybyddu realiti grym cymdeithasol. Mae hwnnw bob tro ym Mhrydain ac yng Nghymru yn pwyso’n gryf o blaid y Saesneg a’r Prydeinig, ac yn debyg o bwyso mwy felly yn y dyfodol. Polisi laissez-faire ydi’r polisi hwn o beidio â diffinio dinasyddiaeth Gymreig. Y drafferth gyda pholisïau laissez-faire mewn maes fel iaith neu genedligrwydd, fel ym maes economeg, yw fod y cryf bob tro’n debyg o gario’r dydd. Ceir eironi anferth ynghanol hyn. Canlyniad ymarferol mabwysiadu polisi o beidio â diffinio dinasyddiaeth Gymreig yw gwneud gwaith Ukip drostyn nhw wrth i fewnfudwyr gael eu cymell i arddel gwerthoedd dinesig Prydeinig yn unig.

Mae cyfrifoldeb arnom i ymateb i’r sefyllfa wleidyddol ym Mhrydain fel y mae’n datblygu ar hyn o bryd. Y ffordd i’w wneud yw inni ddatblygu cysyniad o ddinasyddiaeth Gymreig gynhwysol.

Rwyf am ddangos yn awr sut y ceisid creu dinasyddiaeth gynhwysol ar un adeg yn ein hanes, a hynny wrth gymharu agweddau cenedlaetholwyr a rhyddfrydwyr at genedligrwydd ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Nid oedd dinasyddiaeth yn broblem ddeallusol i Ryddfrydwyr Prydeinig ac anghydffurfiol ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a dechrau’r ugeinfed. Tueddai Rhyddfrydwyr Cymru i ddiffinio’r genedl ar sail crefydd gan weld y Cymry fel capelwyr Cymraeg, a phawb arall, pobl ddi-Gymraeg ynghyd ag Anglicaniaid, Catholigion, Iddewon ac eraill fel estroniaid. Doedd ganddyn nhw ddim diddordeb o safbwynt cymathu’r bobl yma neu eu troi nhw’n Gymry. A’r rheswm am hynny yw nad oedden nhw am weld sefydlu gwladwriaeth Gymreig. Gan nad oedden nhw’n chwennych gwladwriaeth Gymreig, doedd y cwestiwn o ddinasyddiaeth Gymreig, a phwy oedd yn perthyn i’r genedl, ddim yn bwysig iddynt.

Fodd bynnag, roedd cenedlaetholwyr Cymreig yn gorfod diffinio dinasyddion Cymru am eu bod yn dymuno sefydlu gwladwriaeth Gymreig ac ni ellid hynny heb drafod lle holl drigolion Cymru ynddi. Nid oedd modd cael gwladwriaeth Gymreig heb gael dinasyddion Cymreig.

Ateb Saunders Lewis i hyn oedd seilio dinasyddiaeth ar sail iaith. Gwnaeth hyn yn rhannol am fod Cymru yn wlad efo cyfansoddiad ieithyddol gwahanol i un Gymru heddiw. Ond roedd cenedlaetholwyr hefyd am wneud hyn am fod modd dysgu iaith, tra y byddai newid man geni yn amhosibl, a ffeirio crefydd nid yn unig yn amhosib ond hefyd yn annheg. Wrth newid crefydd, rydych yn ildio hen hunaniaeth ond wrth ddysgu iaith rydych yn ychwanegu hunaniaeth newydd heb orfod ildio’r hen un. Wrth ddysgu Cymraeg, dydi rhywun ddim yn gorfod gollwng eu gafael ar y Saesneg.

Nid ymdrech i gau pobl allan o’r genedl, fel y tybir yn gyffredinol, oedd penderfyniad Plaid Genedlaethol Cymru i roi pwyslais ar y Gymraeg, ond ymdrech i’w cynnwys.

Yng nghyhoeddiad cyntaf, seminal y Blaid, Egwyddorion Cenedlaetholdeb (1926), pwysleisiodd Saunders Lewis y gellid troi mewnfudwyr yn Gymry. Dadl oedd hon yn y bôn o blaid rhyddhau’r Gymraeg o fod yn iaith ethnig a siaredid gan y Cymry ethnig yn unig, sef ‘ar aelwydydd y Cymry Cymreig’, a’i throi’n iaith sifig yn eiddo i bobl o bob math o wahanol gefndiroedd:

Os cedwir y Gymraeg a diwylliant Cymreig yn unig ar aelwydydd y Cymry Cymreig, yna fe fydd yr iaith a’r diwylliant farw yn hir cyn diwedd y ganrif hon. Canys fe ddaw estroniaid fwyfwy i Gymru, i’r wlad yn y Gogledd ac i’r trefi a’r pentrefi poblog yn y De; a thrwy eu hymwthio hwy a’u lluosogrwydd yr ydys yn gyflym yn troi llif bywyd Cymru yn Seisnig. Mudiad politicaidd yn unig a’n hachub ni. Rhaid troi’r estroniaid – petawn Roegwr fe ddywedwn, y barbariaid, – rhaid eu troi’n Gymry, a rhoi iddynt y meddwl Cymreig, y diwylliant Cymreig, a’r iaith Gymraeg. Hynny a wna’n ddiogel y gwareiddiad sy’n unig yn draddodiadol yng Nghymru.

Er gwaetha’r defnydd anghynnes o’r gair ‘barbariaid’, gweler fod y ddadl hon yn nodi dyletswyddau a chyfrifoldebau’r mewnfudwr: yn fyr, theori ynghylch dinasyddiaeth Gymreig ydyw. Mae’n arwyddocaol nad oedd Saunders Lewis yn disgwyl i fewnfudwyr i Gymru roi heibio eu hethnigrwydd eu hunain. Fe allai’r Ffrancwr aros yn Ffrancwr ond iddo ddod yn ‘Gymro’ hefyd, sef wrth ddysgu Cymraeg. Mewn erthygl, ‘Cymreigio Cymru’, a gyhoeddwyd yn Y Faner yn 1925, fe ymhelaethodd Lewis ar hyn gan nodi:

gall y Sais, yr Albanwr, y Ffrancwr, bob un yn ol y deffiniad hwn fyw a ffynnu yng Nghymru, dal swyddau cyfrifol a phwysig, a bod yn athro ac yn brif-athro, yn faer neu’n henadur neu’n glerc tref, a chymryd rhan gyflawn ym mywyd cymdeithasol a gwleidyddol y wlad, – ar un amod syml, teg, priodol, cyfiawn, sef ei fod yn ei waith swyddogol – hynny’n unig ond hynny’n llwyr a diwyro – yn defnyddio’r iaith Gymraeg, yr iaith a fu’n gyfrwng gwareiddiad erioed yng Nghymru.

Mae ’na ymgais yn hyn oll i greu dinasyddiaeth sifig, gydradd ar sail iaith. Nawr, gadewch inni fod yn gwbl glir. Allwn ni ddim seilio dinasyddiaeth Gymreig ar sail iaith heddiw. Roedd Plaid Genedlaethol Cymru yn deisyfu Cymru uniaith Gymraeg, a gan hynny yr oedd gosod cymathu ieithyddol yn gonglfaen dinasyddiaeth Gymreg yn gwneud synnwyr hollol. Nid dyna’r nod heddiw, ac os nad ydi cyfundrefn wleidyddol yn mynnu fod brodorion yn dysgu Cymraeg, sut yn y byd mawr gall hi fynnu fod mewnfudwyr yn gwneud hynny? Ar ba sail y gellid mynnu fod dyn o Wlad Pwyl sy’n symud i fyw i Lanelli yn dysgu Cymraeg, a ninnau’n gwybod mai Saesneg yw dewis iaith mwyafrif llethol y boblogaeth leol? Ond mae’r agwedd na ddylid disgwyl i fewnfudwyr ddysgu Cymraeg yn llai teg, ac yn fwy problemus, mewn rhannau eraill o Gymru ble mae’r Gymraeg wedi dal ei thir yn well.

Beth felly a olygwn wrth ddinasyddiaeth Gymreig yn y Gymru sydd ohoni? Byddai dinasyddiaeth Gymreig yn cynnwys wrth reswm ddinasyddiaeth yn yr ystyr gyfreithiol, ond byddai’n hyrwyddo hefyd polisïau yn ymwneud ag integreiddiad mewnfudwyr mewn cymunedau lleol.

Cysylltwn ddinasyddiaeth gyfreithiol gan amlaf â’r genedl-wladwriaeth, ac fe’i cynrychiolir yn y meddwl poblogaidd gan y pasbortau sy’n dynodi, yn achos y rhan fwyaf ohonom, ein bod yn ddinasyddion y Deyrnas Gyfunol. Mae’n werth nodi y gall dinasyddiaeth gyfreithiol fodoli ar fwy nag un lefel; yn wir sonnir mewn cylchoedd academaidd am ddinasyddiaeth aml-lefel. Rydym oll sy’n ddinasyddion y Deyrnas Gyfunol yn ddinasyddion Ewropeaidd, er enghraifft. Mae dinasyddiaeth aml-lefel hefyd yn codi’r posibiliad o ddinasyddiaeth Gymreig heb ein bod yn ymwadu â’r cysyniad o ddinasyddiaeth Brydeinig o angenrheidrwydd. Felly byddai’n gwbl briodol inni geisio datblygu cysyniad ystyrlon o ddinasyddiaeth Gymreig cyn, neu yn absenoldeb, annibyniaeth.

Mae dinasyddiaeth iswladwriaethol o’r fath wedi’i datblygu mewn rhai cenhedloedd diwladwriaeth eraill, yn benodol yn Quebec ac i ryw raddau hefyd yn Catalwnia. Gan ddilyn eu hesiampl, dylai sefydlu dinasyddiaeth ar lefel Gymreig fod yn rhan o’r prosiect datganoli yng Nghymru. A hynny am sawl rheswm, ond nid y lleiaf yw ei bod yn ateb cwestiwn ethnig mewn dull sifig.

Sut mae mynd ati? Yn lle’r ‘gwerthoedd Prydeinig’ sy’n dod o Loegr, cyfeirbwynt dinasyddiaeth o’r fath fyddai ‘gwerthoedd Cymreig’. Gellid diffinio’r rhain wrth gael trafodaeth genedlaethol yn eu cylch.

Mae rhai o nodweddion tebygol y ddinasyddiaeth Gymreig hon eisoes yn lled amlwg. Mewn materion yn ymwneud â hil, crefydd, cefndir ethnig, man genedigaeth ac ati, byddai Cymru yn mabwysiadu math sifig iawn o ddinasyddiaeth. Yn wir, y pwyslais hwn ar y sifig yw un o nodweddion pennaf pymtheng mlynedd cyntaf datganoli, ac mae’n dra gwahanol i bwyslais y drafodaeth gyfoes yn Lloegr.

Ond byddai dinasyddiaeth hefyd yn cynnig ateb synhwyrol inni yng nghyd-destun y broblem iaith, gan gofio y gellid meddwl am iaith fel nodwedd sifig yn hytrach nag ethnig. Gall osod canllawiau ynghylch sut i integreiddio mewnfudwyr mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith. Mae Cymru’n wlad ddwyieithog ac mae ganddi ddwy iaith gydradd, a dwy gymuned ieithyddol gydradd hefyd. Byddai modd defnyddio cysyniadau o ddinasyddaeth er mwyn rhoi rhywfaint o gig ar esgyrn y cydraddoldeb damcaniaethol hwn. Ni ddylid dehongli dwyieithrwydd i olygu hawl ddilyffethair pobl ddi-Gymraeg sy’n symud i fyw i gymunedau Cymraeg i beidio dysgu Cymraeg, gan orfodi’r gymuned leol i newid iaith ar eu cyfer. Ni ddylai’r cyfrifoldeb am integreiddio cymdeithasol gael ei ysgwyddo mewn cymunedau Cymraeg gan y boblogaeth frodorol yn unig. Cyfrifoldeb ar y cyd yw’r cyfrifoldeb i feithrin cydlyniant cymdeithasol mewn cymunedau Cymraeg, a byddai creu syniadau dinesig ar gyfer sut i wneud hynny yn ffordd graff o fynd i’r afael â hyn.

Yn ddamcaniaethol o leiaf, byddai’n deg disgwyl i fewnfudwyr integreiddio i’r gymuned Gymraeg yn ogystal ag i’r gymuned Saesneg, a dylid anelu at roi i fewnfudwyr rai sgiliau dwyieithog fel bo modd iddynt fedru ymgymryd â rhai tasgau dwyieithog elfennol o leiaf. Byddai’n braf cael datganiad syml gan Lywodraeth Cymru y byddai’n ddymunol i bobl sy’n symud i gymunedau Cymraeg eu hiaith ddysgu Cymraeg. Ni fyddwn yn rhagweld y byddai unrhyw gamau gorfodi yn deillio o hyn, ac yn achos mewnfudwyr o Loegr ni allwn gyflwyno camau gorfodi hyd yn oed pe baem yn dymuno gwneud hynny. Ac eto, byddai datganiad o’r fath yn help garw o ran hyrwyddo parhad y Gymraeg yn iaith gymunedol yn yr ardaloedd Cymraeg gan mai dysgu Cymraeg fyddai’r disgwyliad cymdeithasol, a byddai’r pwysau seicolegol ar y gymdeithas frodorol i droi popeth Cymraeg yn ddwyieithog, a phopeth dwyieithog yn Saesneg, gymaint â hynny’n llai.

Mewn erthygl dreiddgar ddiweddar ynghylch dinasyddiaeth a’r Gymraeg i’r Cyngor Prydeinig, mae Gwennan Higham yn nodi i’r drafodaeth am iaith yng Nghymru ddwyn i’r Saesneg yr holl fanteision sy’n deillio o fod yn iaith cynhwysiant cymdeithasol. Mae hyn yn ei dro yn nacáu i’r Gymraeg ei hawl i fod yn iaith sifig, ac yn ei israddoli fel iaith grŵp ethnig, gan ei dynodi o’r herwydd fel iaith nad oes disgwyl i fewnfudwyr ei dysgu. Adlewyrchir yr annhegwch gan bolisi cyhoeddus ym maes mewnfudo. Felly er bod gwersi dysgu Saesneg fel ail iaith, English for Speakers of Other Languages, yn cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru yn rhad ac am ddim i bob mewnfudwr di-Saesneg yng Nghymru sy’n dymuno eu dilyn, nid oes unrhyw ddosbarthiadau yn bodoli wedi’u teilwra ar gyfer mewnfudwyr sy’n dymuno dysgu’r Gymraeg wrth ymgymhwyso ar gyfer dinasyddiaeth. Mae’n rhaid i’r sefyllfa hon newid. Ni ddylai dinasyddiaeth Brydeinig yng Nghymru fod yn fersiwn o ddinasyddiaeth Seisnig. Mae’n wir fod dosbarthiadau dysgu Cymraeg i Oedolion yn bodoli. Ond mae’n rhaid talu am y rheini, sy’n amlygu’r anghydraddoldeb eto fyth.

Ac i wneud pethau’n waeth, mae’n ymddangos fel pe bai Llywodraeth Cymru yn gosod hyd yn oed llai o bwyslais ar y maes heddiw nag o’r blaen. Pa ffordd arall sydd o ddehongli datganiad diweddar y llywodraeth ei bod am gwtogi 15% ar wariant ym maes dysgu Cymraeg i Oedolion? Arian yw hwn yn rhannol ar gyfer cymathu mewnfudwyr sy’n symud i ardaloedd Cymraeg eu hiaith. Pa neges sy’n cael ei chyfleu gan y ffaith ein bod yn lleihau’r gwariant yma ar yr un pryd ag y mae’r Wladwriaeth Brydeinig yn gorfodi pob un mewnfudwr i ddysgu Saesneg?

Mae’r agwedd mewn gwlad fel Quebec yn wahanol. Yno dilynir polisi penodol er mwyn galluogi a chymell mewnfudwyr i ddysgu Ffrangeg. Yng Nghatalwnia hefyd, cais llywodraeth Barcelona sicrhau fod mewnfudwyr sy’n symud i fyw i Gatalwnia yn cael eu hintegreiddio trwy gyfrwng y Gatalaneg yn hytrach na’r Gastileg. Wrth gwrs mae cyfansoddiad ieithyddol Cymru’n wahanol i’r ddwy wlad hyn. Byddai’n well inni feddwl am gymathu mewnfudwyr i’r ddwy gymuned ieithyddol yn ein gwlad, yn hytrach nag i’r gymuned Gymraeg neu’r gymuned Saesneg yn unig.

Ceir hefyd mewn cenhedloedd diwladwriaeth fel Catalwnia a Quebec rywbeth lled unigryw yn y byd gorllewinol sy’n rheswm arall o blaid creu dinasyddiaeth Gymreig. Yn y drafodaeth am fewnfudo mewn gwledydd mawrion fel Lloegr a Ffrainc mae mewnfudwyr yn cael eu gweld mewn termau negyddol iawn fel bwrn ar y gymdeithas leol. Ond mewn cenhedloedd diwladwriaeth, mae natur yr ysgarmes rhwng cenedligrwydd y wladwriaeth a chenedligrwydd y genedl ddiwladwriaeth yn creu sefyllfa sy’n fwy cadarnhaol o safbwynt mewnfudwyr. Mae mewnfudwyr yn cael eu gweld yn aml fel ffordd o gyfnerthu’r gymdeithas leiafrifol, ac yn wir fel adnodd, gan eu bod yn ychwanegu at niferoedd y gymuned dan sylw, ynghyd â dynodi bod eu hieithoedd yn ieithoedd amlethnig a sifig. Felly yn Quebec mae cenedlaetholwyr wrth eu boddau fod mewnfudwyr yn dysgu Ffrangeg. Mae hyn yn cryfhau Quebec. Dyma ddisgwrs mwy cadarnhaol na’r negyddiaeth sy’n bodoli ar hyn o bryd yn Lloegr ac sydd yn anffodus wedi dod dros y ffin i Gymru.

Felly ar bob lefel – amddiffyn y diwylliant Cymreig a Chymraeg, rhoi sgiliau i fewnfudwyr, hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, llunio cymdeithas amlethnig ffyniannus, datblygu modelau sifig o berthyn i politi Cymreig, datblygu disgwrs gwahanol i un mwy senoffobaidd cenedlaetholdeb Seisnig, ac hefyd sicrhau y gall Cymru aros yn lle Cymreig mewn Prydain a all fod yn llawer mwy Seisnig yn y dyfodol – byddai sefydlu dinasyddiaeth Gymreig yn beth buddiol iawn.

Dinasyddiaeth fyddai hon sy’n gynhwysol o bawb yng Nghymru ond sydd hefyd yn Gymreig.

SIMON BROOKS

Mae Simon Brooks yn academydd, awdur a newyddiadurwr

Also within Politics and Policy