Ymddiriedolwyr Newydd i’r SMC

Mae’r Sefydliad Materion Cymreig yn falch o gyhoeddi apwyntiad Yr Athro Alison Wride, Leena Farhat, Sarah Prescott a Shereen Williams i Fwrdd y SMC.

Mae’r Sefydliad Materion Cymreig yn falch o gyhoeddi apwyntiad pedwar Ymddiriedolwr newydd i Fwrdd y SMC.

Dywedodd Bethan Darwin, Cadeirydd y Bwrdd, ‘Mae hi’n bleser croesawu Alison, Leena, Sarah, a Shereen i Fwrdd y SMC. Rydym yn ymrwymo i fod yn sefydliad sydd wir yn gynrychiolgar o bobl Cymru. Mae ein Ymddiriedolwyr newydd yn ychwanegiadau ardderchog sydd hefyd yn tanlinellu ein hymrwymiad i amrywiaethu bywyd cyhoeddus. 

Y SMC yw melin graffu blaenllaw Cymru a fydd profiad ac arbenigedd ein Ymddiriedolwyr newydd yn ein galluogi ni i barhau i siapio a gwella ein democratiaeth, gwasanaethau cyhoeddus ac economi, yn ystod y cyfnod hollbwysig yma. Rydw i’n edrych ymlaen i weithio gyda nhw am flynyddoedd i ddod.’

 

Yr Athro Alison Wride

Athro Economeg sy’n arbenigo mewn economeg polisi cymdeithasol yw Alison. Mae ganddi arbenigedd mewn dylunio, cyfathrebu a gweithredu polisi ac mae ganddi ddiddordeb arbennig yn yr heriau sy’n wynebu llywodraethau wrth iddyn nhw geisio creu economïau cadarn a theg. Alison sydd wrth y llyw yn EML Learning, un o ddarparwyr hyfforddiant sector cyhoeddus mwyaf blaenllaw y DU. Ymhlith y prif gleientiaid mae Trysorlys EM, y DCMS, y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Llywodraeth yr Alban.

Treuliodd Alison nifer o flynyddoedd mewn swyddi uwch reoli ym maes addysg uwch. Wedi pymtheng mlynedd ym Mhrifysgol Caerwysg, fe’i penodwyd yn bennaeth Coleg Busnes, Economeg a’r Gyfraith Prifysgol Abertawe. Yna daeth yn bennaeth coleg Addysg Uwch annibynnol yn Llundain. Mae’r sector yn annwyl iawn iddi o hyd ac ar ddechrau 2020 ymunodd â Phrifysgol Bangor i arwain yr ysgol fusnes drwy raglen o dwf a newid.

‘Braint yw cael ymuno â’r Bwrdd y Sefydliad Materion Cymreig fel Ymddiriedolwr. Rwy’n teimlo’n hynod freintiedig o gael cynnig rôl a fydd yn caniatáu i mi gyfrannu at lywio dyfodol Cymru. Rydyn ni’n byw mewn cyfnod o ansefydlogrwydd ac ansicrwydd mawr, y tu hwnt i unrhyw beth mae’r rhan fwyaf ohonom wedi’i brofi o’r blaen. Ond mae cyfle hyd yn oed yn yr oriau tywyllaf. Credaf fod Cymru mewn sefyllfa wych i feithrin cadernid a chreu economi sy’n newid pethau er gwell.’

Leena Farhat

Mae Leena newydd gwblhau cwrs gradd Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth lle’r oedd yn ymddiddori’n gryf mewn dulliau prosesu iaith naturiol ddwyieithog. Magwyd hi ym mhob cwr o’r byd a chwblhaodd ei haddysg yng Ngenefa. Hi yw Swyddog Amrywiaeth Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, yn ogystal â chadeirydd Grŵp Hawl. Mae’n arbenigo mewn materion gwledig, amrywiaeth a phynciau sy’n ymwneud â’r Gymraeg. Mae’n angerddol dros greu Cymru agored a goddefgar, gwlad â meddylfryd byd-eang, cryf.

‘Mae’n anrhydedd cael fy mhenodi i ymuno â’r Bwrdd fel Ymddiriedolwr i’r Sefydliad Materion Cymreig. Rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at gefnogi’r sefydliad i lywio’r blynyddoedd bywiog nesaf hyn i Gymru. Mae ein cenedl ar gyfres o groesffyrdd, ac mae angen inni sicrhau ein bod yn darparu gwaith radical a blaengar i amrywiaeth eang o bobl i’w helpu i gael gwybodaeth, meddwl yn ehangach a chreu’r Gymru y carem ei gweld.’

Sarah Prescott

Mae Sarah Prescott yn gyfrifydd profiadol gyda’r “pedwar prif gwmni” (FCA) ac mae ganddi radd mewn economeg. Mae wedi byw a gweithio yng Nghymru drwy’i hoes ac wedi treulio’i gyrfa yn y trydydd sector, gyda phwyslais arbennig ar dai cymdeithasol. Mae ganddi ddiddordeb mewn materion ehangach hefyd fel cydraddoldeb ac amrywiaeth, hanes, dysgu, hyfforddi a datblygu, adfywio economaidd, y trysorlys a llywodraethiant.

Mae ganddi ddiddordeb angerddol dros greu Cymru well, ac yn gwerthfawrogi gwaddol ei theulu (hanes Cymru yw arbenigedd ei thad). Mae’n aelod o Fwrdd Tai Pawb, elusen cydraddoldeb ac amrywiaeth tai Cymru, ac yn weithgar gyda Cartrefi Cymunedol Cymru, y corff sy’n cynrychioli tai cymdeithasol yng Nghymru, a Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW) yn lleol ac yn genedlaethol (mae’n aelod o’r pwyllgor lleol, y panel tai cymdeithasol, panel SORP a Bwrdd Strategaeth ICAEW Cymru).

‘Rwyf wrth fy modd yn ymuno â Bwrdd Ymddiriedolwyr y Sefydliad Materion Cymreig ar adeg mor dyngedfennol i Gymru ac rwy’n gobeithio y gallaf ddod â’m sgiliau a’m diddordebau proffesiynol i’r Bwrdd er mwyn cefnogi’r Sefydliad wrth iddo barhau ar ei daith.’

Shereen Williams MBE OStJ

Shereen Williams yw Prif Swyddog Gweithredol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.

Cyn ymuno â’r Comisiwn ym mis Ionawr 2019, bu’n gweithio ym maes llywodraeth leol am bron i ddegawd. Fel swyddog llywodraeth leol, bu Shereen yn gweithio ar draws awdurdodau lleol Casnewydd a Sir Fynwy gan reoli timau a oedd yn gyfrifol am gyflawni blaenoriaethau strategol gan gynnwys mudo, atal eithafiaeth dreisgar, cydraddoldeb a chydlyniant cymunedol.

Cyn hynny, dechreuodd ei bywyd gwaith yng Nghymru yn y sector gwirfoddol yn fuan ar ôl symud o Singapore yn 2005. Mae wedi gwneud cyfweliadau radio a theledu di-ri ar faterion ffydd, eithafiaeth, hil ac amrywiaeth. Mae Shereen wedi dal sawl rôl gyhoeddus dros y blynyddoedd, ac roedd yn un o 4 a benodwyd drwy gystadleuaeth agored i fod yn un o’r 16 aelod o Gonfensiwn Cymru Gyfan. Ar hyn o bryd, mae’n ynad ar fainc Gwent ac yn Ymddiriedolwr gydag Ambiwlans Sant Ioan Cymru.

‘Rwy’n hynod falch o gael fy enwebu i ymuno â Bwrdd y Sefydliad Materion Cymreig ac yn edrych ymlaen at gyfrannu at drafodaethau cenedlaethol ar sut mae Cymru yn llwyddo i ymateb i heriau ein hoes gyda chreadigrwydd, arloesedd ac ymrwymiad i wella bywydau pob un ohonom ni.’

 

Syniadau uchelgeisiol, awdurdodol a mentrus.
Ymunwch â ni i gyfrannu at wneud Cymru gwell.

Also within Newyddion SMC