The Power of Tourism: Valuing Visitors while Sustaining our Communities

Venue

Pontio Arts Centre

Bangor University Deiniol Rd, Bangor, LL57 2TQ

Bangor, Gwynedd, GB, LL57 2TQ

Join us for a thought-provoking discussion on the future of Welsh tourism, part of our partnership with Bangor University.

Grym Twristiaeth: Gwerthfawrogi Ymwelwyr tra’n Cynnal ein Cymunedau

Ymunwch â ni am drafodaeth a fydd yn gwneud i chi feddwl am ddyfodol twristiaeth yng Nghymru, fel rhan o’n partneriaeth â Phrifysgol Bangor.

Mae degawdau o dwf dilyffethair ym maes teithio a thwristiaeth wedi rhoi sawl lle – a rhai o ecosystemau mwyaf gwerthfawr a bregus y byd, mewn perygl – yn amgylcheddol, yn economaidd ac yn gymdeithasol ddiwylliannol.

Yn wir, gyda chyrchfannau mewn perygl o golli’r union asedau sy’n denu twristiaid yn y lle cyntaf, mae sefydliadau rheoli cyrchfannau a byrddau croeso bedwar ban byd yn rhoi blaenoriaeth i strategaethau cynaliadwyedd i wneud iawn am gostau cudd twristiaeth. Mae llawer, gan gynnwys dinasoedd mawr fel Paris, Rhufain, Berlin, Fenis ac Amsterdam, yn dewis treth dwristiaeth fel ffordd i helpu cyrchfannau i ymdopi â’r lliaws o dwristiaid, gan ysgafnhau’r pwysau ar seilwaith, gwasanaethau brys, cyfleusterau a chymunedau lleol.

Yng nghyd-destun Cymru, gyda GYC o £3.4 biliwn, neu gyfraniad o 5% at yr economi, mae twristiaeth yn hanfodol. Ond gyda nifer cynyddol o dwristiaid bob blwyddyn, rhagor o bwysau ar ein hamgylchedd adeiledig a naturiol a’r pwysau o ganlyniad ar y cymunedau sy’n eu croesawu a’u diwylliant, ac yng ngoleuni ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y pwnc yn yr hydref, a ddylai Cymru ddilyn yr un drefn a chyflwyno treth ar ymwelwyr dros nos? A fyddai hyn yn helpu awdurdodau lleol i reoli a buddsoddi mewn cyrchfannau i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd, neu a fyddai treth yn fantais i’r gystadleuaeth ac yn gwneud Cymru yn lle llai atyniadol?

Ymunwch â ni am drafodaeth banel gyffrous, a gyflwynir mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, wrth i ni bwyso a mesur y manteision a’r anfanteision a logisteg treth dwristiaeth bosibl yng Nghymru, a dewch i fwrw golwg ehangach ar faterion fel perchnogaeth ail gartrefi a chynaliadwyedd y sector i’r dyfodol.

Agenda:

  • 5.30yp Cyrraedd a lluniaeth
  • 6.00yp Croeso
  • 6.10yp Cyflwyniad gan Dr Ed Jones, Darlithydd Economeg, Prifysgol Bangor
  • 6.20yp Trafodaeth Banel
  • 7.00yp Sesiwn Holi ac Ateb gyda’r Gynulleidfa
  • 7.30yp Derbyniad diodydd
  • 8.30yp Gorffen

-———————————————————————–

Decades of unfettered growth in travel and tourism have put many places – and some of the world’s most precious and fragile ecosystems, at risk – environmentally, economically and socio-culturally.

Indeed, with destinations at risk of losing the very assets that attract tourists in the first place, destination management organisations and tourism boards across the world are prioritising sustainability strategies to offset the hidden costs of tourism. And many, including major cities like Paris, Rome, Berlin, Venice and Amsterdam, are choosing a tourist tax as a way to help destinations cope with the influx of tourists, easing the pressures on infrastructure, emergency services, facilities and local communities.

In a Wales context, with a GVA of £3.4 billion, or a 5% contribution to the economy, tourism is vital. But with an ever-growing number of tourists each year, further pressures on our built and natural environment with consequential pressures on the host communities and culture, and in light of a Welsh Government consultation on the subject in the autumn, should Wales follow suit and introduce a tax for overnight visitors? Would this help local authorities manage and invest in destinations for both locals and tourists alike, or would a tax be in favour of the competition and make Wales a less attractive proposition?

Join us for an exciting panel discussion, delivered in partnership with Bangor University, as we explore the pros, cons as well as the logistics of a potential tourist tax in Wales, and take a wider look at issues such as second home ownership and the sector’s future sustainability.

Agenda:

  • 5.30pm Arrival and refreshments
  • 6.00pm Welcome
  • 6.10pm Presentation by Dr Ed Jones, Lecturer of Economics, Bangor University
  • 6.20pm Panel Discussion
  • 7.00pm Q&A with the Audience
  • 7.30pm Drinks Reception
  • 8.30pm Close

Bydd y digwyddiad hwn ar gael yn Gymraeg a Saesneg / This event will be available in both Welsh and English.

Credyd llun: Croeso Cymru / Picture credit: Visit Wales