Blaenoriaethau Economaidd i Lywodraeth Nesaf Cymru


Mae’r Sefydliad Materion Cymreig wedi bod yn ymchwilio, dadansoddi ac ymgysylltu yn ystod y pum mlynedd diwethaf i ddatblygu syniadau ymarferol er mwyn sicrhau economi lwyddiannus, lân, gwyrdd a theg i Gymru.

Rydym wedi datblygu cyfres o flaenoriaethau wedi’u hymwreiddio yn y gwaith hwn. Gan ganolbwyntio ar y potensial ar gyfer Ynni Adnewyddadwy, yr Economi Sylfaenol a diwygiadau hanfodol i sut mae polisi economaidd yn cael ei lunio a’i roi ar waith ar ôl Brexit.

Mae’r economi yn bwnc eang, ac nid ydym yn ceisio creu dogfen gynhwysfawr ar bob agwedd ar bolisi economaidd.

Mae ein hadroddiad Blaenoriaethau Economaidd i Lywodraeth Nesaf Cymru yn amlinellu’r argymhellion manwl, ymarferol, y credwn y dylai Llywodraeth nesaf Cymru eu rhoi ar waith.

Rydym yn cydnabod y gwaith pwysig sy’n cael ei wneud gan sefydliadau eraill i dynnu sylw at faterion economaidd pwysig eraill, yn enwedig wrth fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb, ac effaith Covid-19.

Blaenoriaethau’r Economi Ynni

  1. Ysgogiadau carbon isel, gan ganolbwyntio ar:
  • Datgarboneiddio cartrefi
  • Gwasanaeth Ynni wedi’i ailwampio, sy’n canolbwyntio ar ddigidol, a’r system ynni sy’n newid yn gyflym iawn
  1. Canolbwyntio ar gyflawni:
  • Sicrhau bod gan y sector cyhoeddus y wybodaeth, y sgiliau a’r capasiti i gyflawni’r weledigaeth
  1. Grid sy’n addas ar gyfer y dyfodol:
  • Cyfrannu at ddiwygiadau i rwydweithiau ynni i lywio’r system yn y dyfodol

Blaenoriaethau’r Economi Sylfaenol

  1. Gwell cydbwysedd o ran cymorth busnes
  • Ymgysylltu gwell a mwy eang gyda BBaChau
  • Annog cydweithio rhwng cwmnïau drwy dalebau a rhwydweithiau
  • Cyllid a chymorth ar gyfer datgarboneiddio
  • Gweithgareddau rhagwelediad a thueddiadau’r dyfodol a noddir gan y Llywodraeth
  • Dull mwy gronynnol o ddiffinio blaenoriaethau a phennu targedau.
  1. Gwell rheoleiddio, nad yw’n rhoi cwmnïau sylfaenol dan anfantais
  2. Cymorth yn yr hirdymor ar gyfer arloesedd a gwell chynhyrchiant yn yr economi sylfaenol

Cael y Strwythurau yn Iawn

  • Rhoi Economi, Ynni a Thrafnidiaeth yn yr un portffolio gweinidogol
  • Ymgynnull fforymau i ddatblygu cynigion llwyddiannus, dylanwadol ar gyfer cyllid datblygu economaidd ar ôl Brexit
  • Datblygu strategaeth ddeng mlynedd ar gyfer datblygu economaidd, gyda chefnogaeth drawsbleidiol

Darllenwch yr adroddiad llawn yma.

Aethom ati i ofyn cwestiynau penodol am ein blaenoriaethau i’r pleidiau a oedd yn sefyll yn etholiadau’r Senedd 2021. Gallwch ddarllen eu hymatebion yma.

Gallwch hefyd ddarllen ein dadansoddiad o’r ymatebion a ddaeth i law.