Cysylltiadau Rhyng-Seneddol: ‘Missing Links’


Mae academyddion, gwleidyddion, a swyddogion sy’n gweithio’r seneddau wedi cytuno ers tro byd bod cysylltiadau rhyng-seneddol yn y DU yn faes y mae angen ei ddiwygio.

Mae goblygiadau cyfansoddiadol ymadawiad y DU â’r UE wedi gwneud hwn yn fater o fyrder, yn enwedig o ran craffu ar sut y gwneir penderfyniadau rhynglywodraethol yn y DU ddatganoledig.

Daw ‘Missing Links‘ i’r casgliad canlynol:  

  • Mae strwythurau rhyng-seneddol yn aml yn rhy anffurfiol ac ad hoc,
  • Dydy datganoli anghymesur ddim yn gweithio i unrhyw un o’r pedair gwlad,
  • Mae hyn wedi arwain at fwlch mewn craffu democrataidd. 

 

Mae’r adroddiad yn cynnig cynllun pum pwynt i fynd i’r afael â’r cysylltiadau coll mewn atebolrwydd democrataidd.

  1. Arbrofi, mentro a dysgu drwy wneud
    Mae angen i ddeddfwrfeydd y DU arbrofi gyda modelau hyblyg o waith rhyng-seneddol. Dylid sefydlu gweithgor yn cynnwys aelodau o bob senedd er mwyn sefydlu consensws ar ffordd ymlaen.
  2. Ffurfioli rôl seneddau wrth graffu ar gysylltiadau rhynglywodraethol
    Dylid datblygu cytundebau ysgrifenedig rhwng Senedd y DU, Llywodraeth y DU, deddfwrfeydd datganoledig, a’r llywodraethau datganoledig ar fframwaith o graffu rhyng-seneddol. Dylai deddfwrfeydd datganoledig fod â mynediad at wybodaeth cyn cyfarfodydd rhynglywodraethol a derbyn adroddiadau’r trafodion a’u canlyniadau.
  3. Cryfhau rôl seneddau datganoledig mewn cyd-destun deddfwriaethol
    Mae angen ailwampio’r broses Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol i gynnwys aelodau etholedig deddfwrfeydd. Dylai pasio deddf gan San Steffan ar ôl i gydsyniad gael ei ddal yn ôl ofyn am brosesau ffurfiol yn Senedd y DU a deialog rhyng-seneddol a allai fod yn ffurfiol. 
  4. Dysgu o arferion gorau presennol
    Dylid defnyddio’r Fforwm Brexit rhyng-seneddol lled-ffurfiol fel man cychwyn ar gyfer modelau o arferion gorau yn y dyfodol. Dylid comisiynu ymchwil bellach i adolygu cysylltiadau rhyng-seneddol.
  5. Gwella gwybodaeth y cyhoedd am gysylltiadau rhyng-seneddol, a phrosesau gwneud penderfyniadau

Bydd angen gwell gwybodaeth gyhoeddus ac addysg ar fater craffu rhyng-seneddol. Dylai gwell gweithio rhyng-seneddol ddigwydd mewn ffordd sydd hefyd yn gwella dealltwriaeth pobl o’r prosesau newydd.

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma: ‘Missing Links: Past, present and future inter-parliamentary relations in the devolved UK’

Gallwch wylio’r recordiad fideo o ddigwyddiad ‘Inter-Parliamentary Relations: Missing Links’ yma

Gallwch wrando ar bodlediad o ddigwyddiad ‘Inter-Parliamentary Relations: Missing Links’ yma

Syniadau uchelgeisiol, awdurdodol a mentrus.
Ymunwch â ni i gyfrannu at wneud Cymru gwell.