Grym Cyllidol: Gwneud Polisïau Effeithiol yng Nghymru

The cover of the IWA's report Fiscal Firepower.

Asesiad o effaith Fframwaith Cyllidol Llywodraeth Cymru ar lunio polisi gyda ffocws ar bwerau benthyca.

Yn Fiscal Firepower and Effective Policy Making in Wales, mae Harry Thompson, Arweinydd Polisi Economaidd y Sefydliad Materion Cymreig yn dadlau bod diwygio pwerau benthyca Llywodraeth Cymru yn opsiwn allweddol i alluogi’n well y broses o lunio polisïau trawsnewidiol yng Nghymru.

Er bod gan Lywodraeth Cymru bwerau cymharol gadarn a chyllideb gwerth degau o biliynau, datgelodd ein hymchwil mai dim ond gallu cyfyngedig sydd ganddi i sbarduno prosiectau pwysig i wella bywydau pobl.

Mae Cymru yn wynebu heriau dybryd o ran newid hinsawdd, yr argyfwng costau byw, delio â chanlyniadau pandemig Covid-19 a’i effaith ar wasanaethau cyhoeddus, system dai ddiffygiol a mwy.

Mae’r rhain yn broblemau mawr a fydd yn gofyn am ddatrysiadau mawr. Er bod gan Lywodraeth Cymru bwerau eitha cryf mewn rhai meysydd a chyllideb gwerth degau o biliynau, mae’r Sefydliad Materion Cymreig yn bryderus mai dim ond hanner y stori yw honno.

Credwn fod gan Lywodraeth Cymru ddiffyg ‘grym cyllidol’, gyda rhan enfawr o’i chyllideb wedi’i hymrwymo ymlaen llaw i bob diben i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Nid oes ganddi fawr o gyllid yn weddill, sef yr hyn sydd ei angen i gynnal prosiectau mawr a allai roi economi a chymdeithas Cymru ar y llwybr amgen sydd mawr angen iddyn nhw fod arno.

Dim ond i’r terfynau y mae cyllid yn caniatáu iddynt ymestyn y gall llawer o gynigion polisi wneud hynny. Gallu cyfyngedig sydd gan Lywodraeth Cymru i gynnal polisi hyd yn oed mewn meysydd datganoledig fel trafnidiaeth a thai yn sgil ei chyfyngiadau cyllidol.

Mae’r papur hwn yn ceisio agor trafodaeth ar effaith cyfyngiadau cyllidol ar lunio polisi drwy ganolbwyntio ar gap ar fenthyca cyfyngedig Llywodraeth Cymru.

Mae ein hargymhellion fel a ganlyn:

  1. Mae’r Sefydliad Materion Cymreig yn cefnogi galwadau Llywodraeth Cymru i gael pwerau benthyca darbodus a dylai ddal ati i archwilio’r achos dros hyn. Dylai gyhoeddi ei hachos diweddaraf dros gael y pwerau hyn mewn ymateb i’r adroddiad hwn er mwyn gwthio’r mater pwysig hwn yn fwy llawn ar yr agenda wleidyddol.
  2. Dylai Llywodraeth y DU dderbyn annigonolrwydd fframwaith cyllidol Llywodraeth Cymru a derbyn achos Llywodraeth Cymru dros bwerau benthyca darbodus drwy Gronfa’r Benthyciadau Gwladol, os yw i fedru diogelu ei sefyllfa ei hun o ‘berygl moesol’ benthyciadau ‘bailout’ ymhlyg ar ffurf datganoli trethi ymhellach neu warantau ad-dalu cadarn. Byddai cap ar fenthyca uwch yn sicrhau gwelliannau i’r system bresennol, ond mae’n llai dymunol na phwerau benthyca darbodus ar gyfer Llywodraeth Cymru.
  3. Dylai unrhyw ddiwygiadau yn y dyfodol i’r fframwaith cyllidol geisio sicrhau’r hyblygrwydd gorau i Lywodraeth Cymru o ran ei defnydd o gronfeydd wrth gefn ac o fenthyca, a rhwng adnoddau a chyfalaf. Er enghraifft, dylid pwyso a mesur mwy o hyblygrwydd o fewn pwerau benthyca, gan gynnwys caniatáu benthyca ar gyfer refeniw ynghyd â gwariant cyfalaf er mwyn cynnydd nifer yr opsiynau polisi sydd ar gael i Lywodraeth Cymru.
  4. Dylai’r diffyg grym cyllidol i Lywodraeth Cymru fod yn ystyriaeth graidd i bob lluniwr polisi, academydd a’r Comisiwn Cyfansoddiadol.