Gyda goblygiadau i’r cynnwys rydym yn ei wylio, gwrando arno a’i fwynhau bob dydd, mae dyfodol darlledu yn effeithio ar ein dychymyg a’n hunaniaeth ar y cyd ni oll.
Mae’n cyflwyno her ddeddfwriaethol ac mae tipyn o gystadleuaeth am bwerau dros gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, gyda thrafodaethau parhaus ar ddau ben yr M4 ynghylch y potensial i’r gwledydd datganoledig gymryd perchnogaeth o’u gwasanaethau darlledu eu hunain.
Mae’r Sefydliad Materion Cymreig wedi cydweithio ag ymchwilwyr o Media Cymru, Dr Marlen Komorowski a Dr Enrique Uribe-Jongbloed, i arwain prosiect ymchwil sy’n asesu cyflwr presennol rheoleiddio ac atebolrwydd i ddarlledwyr yng Nghymru, ac yn arolygu’r dewisiadau sydd ar gael ar gyfer modelau rheoleiddio yn y dyfodol.
Ein hadroddiad
Rhannwyd y prosiect yn 3 rhan:
Rhan 1
Yn rhan gyntaf yr ymchwil hwn, rydym yn mapio’r adnoddau cyfredol sydd ar gael i reoleiddwyr a llunwyr polisi sy’n ceisio trawsnewid rheoliadau darlledu yng Nghymru, gyda’r nod o ateb y cwestiwn: sut gall Cymru gael y cyfryngau sydd eu hangen arni? Mae’r map rheoleiddio hwn yn cynnig atebion y tu hwnt i sefyllfa ddeuaidd o ‘datganoli’ a ‘dim datganoli’, ac yn awgrymu dull rheoleiddio a fydd yn gwneud y gorau o’r adnoddau polisi presennol yng Nghymru a’r DU.
Gallwch ddarllen Rhan 1 o’r prosiect hwn yma.
Rhannau 2 a 3
Mae Rhan 2 o’r adroddiad hwn yn cynnwys pedair astudiaeth achos o wledydd sydd â fframweithiau darlledu datganoledig ac maent yn rhoi cymariaethau defnyddiol â Chymru. Mae enghreifftiau wedi’u cymryd o Sbaen, yr Almaen, Gwlad Belg a’r Iseldiroedd, ac rydym yn nodi fframweithiau amrywiol ar gyfer llunio llywodraethu darlledu ac yn pwyntio at fanteision a diffygion y dull hwn.
Yn Sbaen, mae rhai pwerau darlledu wedi’u datganoli i Catalunya, Galisia a Gwlad y Basg, ac mae tystiolaeth yn dangos y gall rheoleiddwyr rhanbarthol gydfodoli ag un rheoleiddiwr cenedlaethol. Ond mae Sbaen hefyd yn dangos perygl pleidgarwch gwleidyddol mewn darlledu rhanbarthol.
Yn yr Almaen, mae pwerau dros ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus yn cael eu ‘crynhoi’ o fewn cyrff annibynnol, a dyma mae’r Sefydliad Materion Cymreig yn ei argymell fel ffordd bosib ymlaen i Gymru.
Mae Gwlad Belg a’r Iseldiroedd ill dau yn fwy pwyllog yn draddodiadol, gyda phroblemau’n cynnwys rhaniadau rhwng cymunedau iaith, marchnadoedd cyfryngau hollol ar wahân a rhaniadau yn y boblogaeth, yn ogystal â llai o gyllid i ddarlledwyr rhanbarthol.
Mae Rhan 3 yn cymhwyso’r canfyddiadau hyn ac yn gwneud argymhellion ar gyfer atebion posibl, yn rhai rheoleiddiol ac yn rhai nad ydynt yn ymwneud â rheoleiddio, er mwyn mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu Cymru.
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma.
Ein Hargymhellion
Argymhelliad 1
Dylai Llywodraeth y DU drosglwyddo rhai swyddogaethau sy’n ymwneud â darlledu o DCMS (pob penodiad i fyrddau sy’n llywodraethu darlledwyr, cyfrifoldeb polisi ar gyfer darlledu masnachol, a phenderfyniadau sy’n gysylltiedig â Siarter y BBC, Cytundeb y BBC a Ffi’r Drwydded Darlledu) i:
(a) Lywodraeth Cymru
Neu
(b) Gomisiwn annibynnol
Argymhelliad 2
Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu Sefydliad y Cyfryngau yng Nghymru cyn diwedd tymor presennol y Senedd ym mis Mai 2026. Dylai’r sefydliad fod yn annibynnol o lywodraethau, a chael cylch gwaith i wasanaethu buddiannau dinasyddion a chynulleidfaoedd yng Nghymru.
Cefnogir ymchwil yr IWA ar reoliadau darlledu gan Ymddiriedolaeth Elusennol Joseph Rowntree.