Siarter Lleoedd Cymru


Mae’r Sefydliad Materion Cymreig wedi bod yn ymchwilio, dadansoddi ac ymgysylltu i ddatblygu Siarter Llefydd Cymru, dan arweiniad Ellen Jones, ein harweinydd Deall Llefydd Cymru a Grŵp Dylanwadu Llefydd Cymru.

Rydym wedi datblygu cyfres o argymhellion yn sgil y gwaith hwn, gyda ffocws penodol ar gryfhau democratiaeth leol a chynyddu ffyniant fel ffordd o gyfrannu at les.

Credwn y byddai’r mesurau hyn yn cyfrannu at gynyddu cydnerthedd llefydd Cymru, gan eu helpu i ddatrys problemau hirdymor sydd wedi’u gwaethygu gan y pandemig.

Mae’r adroddiad yn cynnwys cyfres o argymhellion i gryfhau democratiaeth leol.

Mae’r rhain yn cynnwys Cronfa Datblygu Cynghorau Tref a Chymuned, cyflwyno adnoddau democratiaeth fwriadol, Cronfa Alluogi Gymunedol, a mesurau pendant i hyrwyddo amrywiaeth.

Mae naw o argymhellion i gyd sydd â’r nod o gryfhau democratiaeth leol, ac fe’u gwelir yn yr adroddiad llawn ac rydym hefyd wedi cyflwyno cyfres o argymhellion sy’n amlinellu sut y gellir creu llefydd Cymru ffyniannus sy’n galluogi lles i ffynnu.

Mae’r argymhellion hyn yn cynnwys mesurau i gynnal dull o roi canol trefi yn gyntaf, cyflwyno Cronfa Dyfodol Trefi Cymru a sefydlu Menter Trefi Deallus.

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma.

Aethom ati i ofyn cwestiynau penodol am ein blaenoriaethau i’r pleidiau a oedd yn sefyll yn etholiadau’r Senedd 2021. Gallwch ddarllen eu hymatebion yma.