Partneriaeth Dysgu Fyw: Eich Stori Pandemig

Mae’r byd yn wahanol nawr. Mae coronafeirws wedi newid y ffordd yr ydym yn byw, gweithio a chwarae.

Newidiodd rhai pethau er gwell, eraill er gwaeth – a rydym eisiau dysgu o hyn i wneud pethau’n well yn y dyfodol, ar gyfer pawb.

I ddod i’r afael ag effaith y pandemig ar unigolion, gwaith, y gymuned a’r byd o’n cwmpas, rhaid i ni wrando ar brofiadau ein gilydd.

Ar 8 Rhagfyr 2020, lansiodd y Sefydliad Materion Cymreig a Chanolfan Cydweithredol Cymru, ynghyd a 8 sefydliad arall, declyn straeon ar-lein (Sensemaker®) i ddeall effaith parhaus y pandemig. Y Bartneriaeth Dysgu Fyw yw enw ein cydweithrediad.

Yn wahanol i holiaduron eraill, mae Sensemaker® yn cyfuno straeon a rhifau i sicrhau fod data meintiol yn cyd-fynd gyda naratif ansoddol.

Nid y bwriad yw casglu gwybodaeth bersonol. Bydd y teclun yn cael ei ddefnyddio i ddarganfod tueddiadau a phatrymau cyffredinol i ni ddeall sut mae’r pandemig wedi effeithio ni i gyd.

Byddwn yn fawr gwerthfawrogi os allech chi gyfrannu at ein gwaith. Dilynwch y ddolen yma i adio eich stori yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Y Sefydliad Materion Cymreig a Chanolfan Cydweithredol Cymru, yw cyd-arweinwyr Y Bartneriaeth Dysgu Fyw, yn ogystal â:

• Business In the Community (BITC)
• Cardiff Business School (Cardiff University)
• Care Forum Wales
• Community Housing Cymru (CHC)
• Cymorth Cymru
• The Ethnic Minorities and Youth Support Team (EYST)
• Wales Council for Voluntary Action (WCVA)
• Y Lab (Cardiff University/Nesta)

Mae rôl y SMC yn y brosiect hon wedi’i hariannu yn rannol gan Gronfa Cymunedol y Loteri Cenedlaethol.