Bariau’r Steddfod: amser i alw ‘stop tap’?

Lleu Williams yn trafod manteision ac anfanteision o gael bar ar faes yr Eisteddfod.

Mae hi dros ddegawd bellach ers i’r Eisteddfod Genedlaethol agor bar ar y maes gyda Eisteddfod Casnewydd 2004 yr un cyntaf i werthu alcohol. Bu cryn dipyn o gwestiynu y newid polisi yma ar y pryd ond erbyn heddiw mae gwerthu alcohol ar y maes yn rhan allweddol o unrhyw Eisteddfod Genedlaethol.

Yn ôl adroddiad gwerthuso yr Eisteddfod yn 2014 mae Llwyfan y Maes (sef ardal y bar) nawr yn rhan “annatod o’r adloniant sydd ar gael yn ystod y dydd a chyda’r nos.” Mae hyn yn ddigon clir i unrhyw un sydd wedi mentro i’r Bar Gwyrdd ar ddiwedd pnawn caled o ‘steddfota.

Eisteddfod Sir Gâr yn Llanelli y llynedd oedd y tro cyntaf i’r Eisteddfod ddychwelyd i’r dref ers cyn cyflwyno’r bariau i faes yr Eisteddfod. Cafodd Meifod yr un profiad eleni. Yn y ddwy Eisteddfod hon yr hyn wnaeth fy nharo i oedd cymaint roedd tafarnwyr lleol yn sôn am ba mor dawel oedd hi arnyn nhw yn ystod wythnos yr Eisteddfod o gymharu â’r tro diwethaf yr oedd y brifwyl yn y fro.

Mae’n hen hanes bod yr Eisteddfod yn dod â llu o fuddion economaidd i unrhyw ardal leol. Mae rhain yn cynnwys gwariant lleol, pobl yn aros mewn gwestai ac ati, ond mae’n eithaf amlwg dros yr eisteddfodau diwethaf bod tafarnwyr lleol yn dechrau dioddef.

Yn ôl un person yn Meifod eleni fues i’n siarad â nhw, y tro diwethaf i’r brifwyl fod yn Meifod roedd nifer y rhai oedd yn yfed yn y dafarn yn llifo allan i’r brif heol a doedd dim lle i symud yn y dafarn. Rhannwyd sawl stori tebyg yn Llanelli llynedd pan yn cymharu â’r Brifwyl yn 2000. Cymharwch hynny ag Eisteddfod Meifod eleni, prin oedd yr Eisteddfodwyr oedd er enghraifft mewn tafarn yn y pentref. Am gyfnod dim ond pedwar ohonom oedd yno.

Mae’n eithaf amlwg i mi felly – ac i’r rhai y buais i’n siarad â nhw ar y maes eleni – bod yna broblem. Rydym ni i gyd wedi ei wneud. Prynu tocyn i’r maes, ac aros ar y maes gyda’r hwyr. Does dim angen gadael pan mae yna ddetholiad o gwrw, bwyd o bedwar ban byd a cherddoriaeth wych yn chwarae. Y cyfan yng nghwmni hen ffrindiau. Be well? Wi wedi bod yn ei wneud bob blwyddyn. Ond canlyniad hyn oll yw bod tafarnau lleol (llawer yn wynebu nifer o broblemau economaidd yn barod) yn colli allan. Ac o beth wela i, colli allan yn ddifrifol i gymharu â tro diwethaf.

Dylid nodi bod yna rai sydd wrth gwrs yn sicrhau bod yna yfed yn digwydd mewn tafarnau lleol. Yn sicr fe wnaeth Clwb Rygbi Ffwrnes yn Llanelli (fy hen glwb i gyda llaw) a Chlwb Rygbi y COBRA ym Meifod gael budd mawr o gynnal gigs Cymdeithas yr Iaith. Ond dyw hyn yn ddim i gymharu ag eisteddfodau’r gorffennol lle byddai eisteddfotwyr lu yn mentro i’r pentrefi a threfi lleol i gael peint, bwyd a chymdeithasu. Mae’r hen arfer yma wedi marw bron.

Gyda chymunedau yng Nghymru yn codi hyd at ryw £300,000 i gynnal yr Eisteddfod, mae’n bwysig dangos bod yna fudd economaidd i gynnal yr ŵyl. Mae hyn yn cynnwys gwariant mewn tafarnau a bwytai lleol. Os na fydd yna gefnogaeth o’r fath yn y dyfodol, poeni ydw i pan ddaw hi i ofyn am gefnogaeth y cymunedau hyn yn y dyfodol, mai troi cefn fydd rhai.

Beth yw’r ateb fan hyn? Rwy’n ansicr iawn am ateb penodol. Ai cyfyngu ar nifer oriau bariau’r steddfod h.y. eu cau am 6pm? Gwahodd tafarnau lleol i sefydlu bariau pop up ar faes y steddfod a’r maes carafanau? Neu – yr opsiwn eithafol – cael gwared ar y bar ar y maes yn gyfan gwbl?

Bu sôn dros y penwythnos diwethaf mai un opsiwn ar gyfer Eisteddfod 2018 yn y brifddinas yw ei chynnal mewn gwahanol adeiladau ar draws Caerdydd. A fyddai’r model yma yn gorfodi pobl i fynd i lefydd gwahanol? Pwy a ŵyr, ond mae’n bendant yn syniad gwerth ei drafod.

Yn ôl yr Athro Terry Stevens yn ei adroddiad Yr Eisteddfod Genedlaethol: Y Ffordd Ymlaen (atodiad 4);

“Un o brif nodweddion yr Eisteddfod yw ei natur symudol. Mae hyn yn caniatáu i gymunedau ledled Cymru gynnal y digwyddiad, gan greu nifer o gyfleoedd i elwa yn ieithyddol, yn ddiwylliannol ac yn economaidd yn y tymor byr a chanolig.”

Mae’n rhaid edrych eto ar sut mae’r Eisteddfod yn creu cyfleoedd i gymunedau lleol elwa’n economaidd. Mae’n amlwg yn barod bod yna nifer o fuddion i westai, ond beth am y tafarndai a’r bwytai lleol? Efallai nad oes ‘na ateb perffaith ond fe ddylai’r mater gael ei ystyried gan yr Eisteddfod er budd dyfodol y brifwyl.

Mae Lleu Williams yn gweithio ym Mae Caerdydd ac yn eisteddfodwr brwd. Mae’n trydar fel @LleuW.

6 thoughts on “Bariau’r Steddfod: amser i alw ‘stop tap’?

  1. Mae ‘na ochr arall i’r geiniog hefyd. Mi fûm yn byw yn, neu’n agos i, dair tref Eisteddfod cyn cyfnod y bar ar y Maes. Yr hyn welais ym mhob un oedd tafarnau a siopau a fu dan eu sang yn cael eu gwerthu’n fuan wedi’r Eisteddfod gyda phris y busnes wedi ei selio ar lyfrau oedd wedi eu chwyddo yn afresymol oherwydd y ‘Steddfod. O fethu a chael yr adenillion ar y buddsoddiad aeth y perchenogion newydd i’r wal, a chollwyd adnoddau’r siop a’r dafarn i’r dref.

    Mae sôn mae yn Sir Conwy bydd Eisteddfod 2019. Rwy’n byw mewn pentref yn y sir efo un Siop ac un Dafarn. Pe bai’r Wŷl yn fy ngardd cefn, fel petai, byddwn yn falch o wybod bod y ddau wedi cael bonws bach o’r ymweliad; wrth bryderu’n fawr am golli’r unig siop a’r unig dafarn pe baent yn cael eu gwerthu am brisiau afresymol ar ôl gwneud ffortiwn ar gefn yr ymweliad.

  2. Mae’n anodd. Mae angen i fusnesau lleol gael budd o’r Eisteddfod, wrth gwrs ond mae angen rhoi hwb i’r diwylliant Cymraeg hefyd a pha ffordd well o wneud hynny na’r nosweithiau mawr ar y maes gyda phobl fel Jarman, Ywain Gwynedd a’r Ods. Pobl o bob oed a phob cefndir yn mwynhau eu hunain gyda’i gilydd mewn awyrgylch cyfeillgar. Mae’n rhoi teimlad o ŵyl hapus i’r Steddfod. Mae’n gyfle i deuluoedd fwynhau adloniant Cymraeg gyda’i gilydd. Hir oes i far y maes!

  3. Ond un peth sy’n bwysig yw nad yw tafarnau’r ardal yn cael eu camarwain am nifer y bobl sy’n debygol o ddod yno yn ystod yr wythnos a’r budd tebygol iddynt. Roedd yn eitha anodd cyrraedd pentre Meifod o’r maes i fynd am beint os nad oedd rhywun yn manteisio ar y bysus bach i COBRA.

  4. Mae lle i ddatblygu’r syniad o beidio cael maes yn ambell i Steddfod – yn enwedig mewn trefi marchnad traddodiadol (mae Caerdydd ac Abertawe yn achosion arbennig, dwi’n meddwl) lle byddai cyfuniad o ddapariaeth Eisteddfodol a darpariaeth leol (arddangosfeydd, llwyfannau, stondinau, bwyd a bariau) ond gyda’r brif fantais yn dod o broffil uchel iawn yn yr ardal dros gyfnod y Steddfod – byddai’r cylch yn cael ei drochi mewn Cymreictod Eisteddfodol.

    Ar y llaw arall, faint o fudd mae Glastonbury a’r pentrefi cyfagos yn cael o’r Wŷl arbennig honno, bob tro – chydig iawn, dwi’n meddwl – dim byd ond tagfyedd traffig dibendraw. Mae rhai lleoliadau yn ffafrio maes cynhwysol cyflawn – mae Meifod yn enghraifft dda.

    Mae cyfraniad diweddar arall, a’r ymateb iddo, yn Click on Wales (‘The Eisteddfod Angst’ Jasmin Donahaye) wedi tynnu sylw at y berthynas rhwng y gair ‘Eisteddfod’ a’r gair ‘Genedlaethol’, sydd yn drafodaeth ddiddorol iawn. Mae’r broses honno a ddieithriodd cyfran sylweddol o siaradwyr Cymraeg yr 20fed ganrif oddiwrth yr iaith yn parhau, er ddim mor gryf, ac mae’n llechu mewn dadleuon sydd yn honni mai ystryw gwleidyddol yw siarad Cymraeg, ei fod yn costio ffortiwn i’w chynnal yn artiffisial, ei fod yn elitaidd, ayb. ayb.. Dyw creu ghetto blynyddol ddim yn helpu tanseilio’r farn honno, a siawns ein bod ni’n ddigon hyderus y gallwn ni groesawu bobl i’n plith ar ein telerau ni, bellach, heb deimlo cywilydd a thaeogrwydd. Mae angen dileu y ‘ni a nhw’.

    Mae’r Eisteddfod yn parhau i fod yn beth byw a bywiol ac mae ei fffyniant yn ddibynnol ar esblygiad grymus, gofalus ond effeithiol. Mae anhawsterau ymarferol yn lyffethair ar bob cam adeiladol, ond fedrai ddim ond meddwl mai peth cadarnhaol yw llwyddiant y llwyfan perfformio a’i far a’i fwyd (cadarnhaol) yn hytrach na cytuno i ganiatau bar ar y maes (negyddol).

  5. Mae cwestiwn arall ‘da fi. Pam fydd y steddfod yn dychwelyd i’r un lle bob amser? Yn mlynyddoedd diweddar mae’r steddfod wedi mynd i Lanelli dwywaith, i Meifod dwywaith ac nawr bydd e’n dychwelyd i Gaerdydd. Beth am drefi sylweddol fel Cwmbran, Merthry neu Aberdare? Dydan nhw ddim wedi gweld y steddfod am ddegawdau. Os ydych chi’n mynd i fod mor anheg, man a man i chi aros yn yr un lle a chynilo arian.

  6. Cefnogi tafarndai lleol yn syniad grêt – ond doedd dim ffordd i gyraedd Meifod o’r maes heb car eleni! (Wel, cyn Cymdeithas wedi trenfu cwpl o dacsis) Dim bws gwennol, hyd yn oed i’r Trallwng ar ôl chwech o gloch.

    Oedd bysiau i bobman yn Llanelli llynedd ac oedd y maes yn agosach at y dre. Oedd mae’r maes yn y cefn glwad (syn neis hefyd) mae’n bwysig dros ben i drefnu bysian da oedd yn ni’n moyn cyfle i wario arian yn lleol!

Comments are closed.

Also within Culture

Become an IWA Member

Fighting for a Wales that is 100% powered by renewables by 2035.

Advocating for a stronger Welsh media through our Media Audits.

Bringing through new, unheard writers with our New Voices Fund.

We’re working to make Wales better.
Your support can help us do more.