Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) / Public Services Ombudsman (Wales) Bill

Simon Thomas yn nodi’r rhesymeg a’r agweddau allweddol ar gyfer y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) a gynigiwyd yn ddiweddar / Simon Thomas sets out the rationale and key aspects of the recently proposed Public Services Ombudsman (Wales) Bill

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, roeddwn yn falch o osod y  Bil Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)  a’r  Memorandwm Esboniadol cysylltiedig gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ffurfiol ar 2 Hydref 2017. Dyma’r tro cyntaf i Bwyllgor gyflwyno Bil ers i’r Cynulliad ennill pwerau deddfu sylfaenol llawn. Mae’r Bil hwn yn adlewyrchu’r gwaith sylweddol a wnaed dros nifer o flynyddoedd gan y Pwyllgor Cyllid yn ystod y Cynulliad hwn a’r Pedwerydd Cynulliad.   

Mae rôl yr Ombwdsmon yn hollbwysig, sef sicrhau bod unrhyw un sy’n credu ei fod wedi dioddef anghyfiawnder oherwydd achos o gamweinyddu neu oherwydd iddynt gael gwasanaeth annigonol gan gorff cyhoeddus yn gallu cyflwyno cwyn gan wybod y bydd yr Ombwdsmon yn ymdrin yn deg ac yn annibynnol â’r gŵyn honno.

Ar hyn o bryd, mae’r Ombwdsmon yn gweithredu o dan Ddeddf Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005. Er i’r Ddeddf hon ei gwneud yn haws i’r cyhoedd ddefnyddio gwasanaethau’r Ombwdsman, a rhoi trefniadau ar waith i ddatrys achosion o anghydfod a gwneud iawn am gamweddau, mae arfer gorau a safonau rhyngwladol sy’n berthnasol i ombwdsmyn drwy’r byd i gyd wedi newid. Mae’r Bil hwn yn ailddatgan y Ddeddf honno ac mae hefyd yn cynnwys nifer o bwerau newydd i gryfhau’r rôl, a hynny mewn un darn o ddeddfwriaeth ddwyieithog a fydd yn cael ei gynnwys yn llyfr statud Cymru.

Mae’r Bil hwn yn dilyn galwadau gan yr Ombwdsmon presennol, Nick Bennett, a’i ragflaenydd Peter Tyndall, i ymestyn pwerau’r Ombwdsmon yng Nghymru. Mae Nick a Peter wedi ymgymryd â’r swydd o dan y ddeddfwriaeth gyfredol ac maent yn credu bod angen ei diweddaru i sicrhau y bydd yn addas yn y dyfodol ac yn helpu’r rhai mwyaf agored i niwed, sef y rhai sydd, yn aml, yn dibynnu fwyaf ar ein gwasanaethau cyhoeddus.

Yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymgynghoriad cyhoeddus i gael gwybodaeth ar gyfer ei ymchwiliad i’r cynigion i ymestyn pwerau’r Ombwdsmon. Ar ôl cael ei ddarbwyllo gan y dystiolaeth a glywodd, cytunodd y Pwyllgor fod angen newid y ddeddfwriaeth ac, yn gynnar ym mis Hydref 2015, ymgynghorwyd ynghylch y Bil drafft. Oherwydd prinder amser erbyn diwedd y pedwerydd Cynulliad, ni lwyddodd y Pwyllgor Cyllid hwnnw i gyflwyno’r Bil ond argymhellodd y dylai’r Pwyllgor nesaf fwrw ymlaen â’r gwaith yn y Pumed Cynulliad.

Roedd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad hwn yn awyddus i barhau â’r gwaith. Ystyriwyd y Bil drafft, cafwyd tystiolaeth gan yr Ombwdsmon, a thrafodwyd y costau a’r buddion tebygol a oedd ynghlwm wrth ddarpariaethau newydd y Bil. Rydym yn hynod o falch ein bod yn cyflwyno’r Bil Pwyllgor cyntaf. Credwn y bydd swydd yr Ombwdsmon, o ganlyniad, yn canolbwyntio mwy ar y dinesydd. Gobeitho y bydd tryloywder ac atebolrwydd yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn gwella o ganlyniad i ddarpariaethau newydd y Bil. Bydd pedair agwedd bwysig ar y  ddeddfwriaeth yn newid:

Derbyn cwynion llafar – bydd y darpariaethau newydd yn caniatáu i’r Ombwdsmon dderbyn cwynion llafar gan wella cyfiawnder cymdeithasol a chyfle cyfartal ac ategu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu Cymru deg a chyfiawn. Bydd yn hwyluso a gwella’r broses gwyno i’r rhai mwyaf agored i niwed a difreintiedig yn ein cymdeithas, gan gynnwys pobl ag anawsterau dysgu, pobl ddigartref a’r henoed.

Drwy ddileu’r gofyniad i gyflwyno cwyn yn ysgrifenedig, bydd y Bil hefyd yn sicrhau y bydd y modd y mae pobl yn cysylltu â’r Ombwdsman yn addas y dyfodol, gan ganiatáu i’w swyddfa ddatblygu canllawiau i ymateb i ddatblygiadau yn y dyfodol, fel datblygiadau ym maes technoleg.

Pŵer i’r Ombwdsmon ymchwilio ar ei liwt eich hun – Bydd y grwpiau agored i niwed hynny nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed yn aml, hefyd yn cael eu cynorthwyo heb iddynt orfod mynd drwy broses gwyno gan fod y Bil yn cynnwys darpariaeth i’r Ombwdsmon gynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun. Er y bydd yn rhaid sicrhau bod rhai meini prawf penodol yn cael eu bodloni cyn dechrau ymchwiliad, bydd y pŵer i gynnal ymchwiliadau o’r fath yn gyfrwng i ddiogelu’r rhai mwyaf agored i niwed a rhoi sylw i urddas unigolion. Mae buddion ehangach ynghlwm wrth y trefniadau hyn; maent yn galluogi’r Ombwdsmon i fedru ymateb yn well i anghenion dinasyddion gan eu bod yn caniatáu iddo ymchwilio i faterion yn ddi-enw, gan gryfhau llais y dinesydd.

Ymchwilio i wasanaethau iechyd preifat –  O dan Ddeddf 2005, mae gan yr Ombwdsmon awdurdodaeth i ymchwilio i achosion pan fo’r GIG yn talu am driniaeth feddygol preifat i gleifion ond nid pan fo cleifion eu hunain yn talu am driniaeth o’r fath. Os yw cleifion yn talu am driniaeth breifat, ar hyn o bryd mae’n rhaid iddynt gyflwyno cwyn am yr elfennau cyhoeddus a phreifat ar wahân – y naill i’r Ombwdsmon a’r llall i’r darparwr yn y sector preifat. Bydd y Bil hwn yn caniatáu i’r Ombwdsmon ymchwilio i faterion sy’n ymwneud â’r elfen honno o’r gŵyn sy’n ymwneud â’r gwasanaethau iechyd preifat (sy’n cynnwys triniaeth feddygol a gofal nyrsio) gan ddilyn llwybr cyhoeddus / preifat. Bydd hyn yn galluogi’r Ombwdsmon i archwilio’r gŵyn yn ei chyfanrwydd, sy’n golygu y gall ymchwiliadau ymdrin â’r dinesydd yn hytrach na’r sector.

Cysoneb yn y modd y mae’r holl wasanaethau cyhoeddus yn ymdrin â chwynion – Bydd darpariaethau’r Bil hefyd yn ysgogi newidiadau a fydd yn gwella gwasanaethau cyhoeddus a’r broses o ymdrin â chwynion ledled Cymru. Ar hyn o bryd, mae polisi cwynion enghreifftiol ar waith i helpu i sicrhau cysondeb drwy’r holl wasanaethau cyhoeddus. Er bod y sefyllfa’n gwella, mae tystiolaeth yn dangos, fodd bynnag, nad yw’r polisi’n cael ei fabwysiadu’n gyson drwy’r sector cyhoeddus. Gobeithio y bydd y Bil yn mynd i’r afael â hyn.

Mae’r darpariaethau ar gyfer ymdrin â chwynion a gweithdrefnau’n cynnig bod Cymru yn mabwysiadu trefniadau tebyg i’r hyn sydd ar waith yn yr Alban. Gan hynny, am y tro cyntaf, bydd data rheolaidd a dibynadwy am gwynion ar gael ar gyfer y sector cyhoeddus cyfan, a bydd modd cymharu’r data hwnnw. Bydd hyn yn cryfhau atebolrwydd ac yn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn gwella, yn gwneud y broses o gofnodi cwynion yn fwy tryloyw ac yn grymuso’r broses graffu y mae data a gwybodaeth yn rhan hanfodol ohoni.

Mae angen i’r cyhoedd fod yn hyderus y bydd yr Ombwdsmon yn ymchwilio os ydynt yn credu eu bod wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi oherwydd achos o gamweinyddu neu oherwydd iddynt gael gwasanaeth annigonol. Gobeithio y bydd y Bil gwneud rhywfaint i sicrhau hyn.

 

people

 

As Chair of the Finance Committee, I was pleased to formally lay the Public Services Ombudsman (Wales) Bill and accompanying Explanatory Memorandum before the National Assembly for Wales on 2 October 2017. This is the first time that a Committee has introduced a Bill since the Assembly gained full primary law-making powers. This Bill represents a significant amount of work undertaken over a number of years by the Finance Committee of this Assembly and in the Fourth Assembly.   

The Ombudsman in Wales has a vital role in ensuring that any member of the public who believes they have suffered injustice or hardship through maladministration or service failure by a public body is able to make a complaint with the reassurance that their complaint will be dealt with fairly and independently by the Ombudsman.

The Ombudsman’s role is currently governed by the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2005. Whilst this Act has facilitated public access to the Ombudsman’s services, enabling the resolution of disputes and providing redress for individuals, best practice and international standards for ombudsmen around the world has moved on. This Bill restates that Act whilst also setting out a number of new powers to strengthen the role, in one piece of bilingual legislation that will form part of the Welsh statute book.

This Bill is the result of calls by the incumbent Ombudsman, Nick Bennett and his predecessor Peter Tyndall to extend the powers of the Ombudsman in Wales. Both Nick and Peter have held office under the current legislation and believe it needs updating to ensure it is future-proofed and helps the most vulnerable members of society, who are often most reliant on our public services.

In the Fourth Assembly, the Finance Committee undertook a public consultation to inform its inquiry into the proposals to extend the Ombudsman’s powers. Having been persuaded by the evidence it heard, the Committee agreed that changes were required to the legislation and in early October 2015, consulted on the draft Bill. Due to time constraints towards the end of the fourth Assembly, that Finance Committee was unable to introduce the Bill but recommended that a future Committee take it forward in the Fifth Assembly.

The Finance Committee of this Assembly was keen to continue with this work. We considered the draft Bill, took evidence from the Ombudsman, as well as considering the estimates of the costs and benefits of the new provisions in the Bill. We are incredibly proud to be introducing this first Committee Bill, which we believe will make the office of the Ombudsman more citizen focused. We hope the new provisions in the Bill will further improve transparency and accountability in the public sector in Wales. There are four major changes to the legislation:

Accepting oral complaints – the new provisions would allow the Ombudsman to accept oral complaints which will improve social justice and equal opportunities and contribute to the Welsh Government’s commitment to create a fair and equitable Wales. It will facilitate and improve the making of complaints by the most vulnerable and deprived members of society, including people with learning difficulties, the homeless and the elderly.

By removing the requirement to make a complaint in writing, the Bill will also ‘future proof’ access to the Ombudsman’s services, allowing his office to develop guidance to respond to future developments, such as advances in technology.

Power to investigate on own initiative – The seldom heard and vulnerable groups will also be supported without going through a complaints process since the Bill includes provision for the Ombudsman to conduct own initiative investigations. While requiring criteria to be satisfied prior to beginning an investigation, the power to conduct own initiative investigations will provide a mechanism to protect the most vulnerable and give attention to the dignity of individuals. It also has wider benefits, enabling the Ombudsman to be more responsive to citizens since it allows him to investigate matters reported anonymously, strengthening the citizen’s voice.

Investigating private health services – Under the 2005 Act, the Ombudsman has jurisdiction to investigate where the NHS commissions private medical treatment for patients but not where such treatment is commissioned by patients themselves. Where patients commission private treatment, they currently have to make separate complaints for the public and private elements to the Ombudsman and private sector provider respectively. This Bill will allow the Ombudsman to investigate matters relating to the private health services (which includes medical treatment and nursing care) element of a complaint in a public/private pathway. This will enable the Ombudsman to explore the whole of a complaint meaning that investigations can follow the citizen and not the sector.

Complaints-handling across public services – The provisions of the Bill will also drive improvements in public services and in complaint handling across Wales. Currently, a model complaints policy is in place to help achieve consistency across public services. Evidence shows that, while the position is improving, adoption across the public sector is not consistent. We hope the Bill will address this.

The provisions in the Bill for complaints-handling and procedures propose a similar approach for Wales as that in Scotland. This means that, for the first time, there will be regular, reliable and comparable data on complaints across the public sector. This will drive accountability and improvement in public services, transparency in reporting and empowering the scrutiny process for which data and information are critical.

The public needs to have confidence in the Ombudsman to investigate where they believe they have suffered injustice or hardship through maladministration or service delivery. Hopefully this Bill will go some way to achieving this.

 

All articles published on Click on Wales are subject to IWA’s disclaimer.

Simon Thomas, Aelod Cynulliad Canolbarth a Gorllewin Cymru a Chadeirydd Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru / Simon Thomas an Assembly Member for Mid and West Wales, and Chair of the National Assembly for Wales' Finance Committee

Also within Politics and Policy