Ein haelodaeth yw eich man cychwyn ar gyfer yr ymchwil a’r adroddiadau diweddaraf, cyfleoedd i ymuno â’r ddadl gyda mynediad cyntaf i’n digwyddiadau poblogaidd a bod yn rhan o rwydwaith digyffelyb o arbenigedd o bob cefndir yng Nghymru.

Gyda chymuned gynyddol o bron i 1,000 o aelodau eraill, dros 130 ohonynt yn sefydliadau, a rhwydwaith o arbenigwyr o bob cefndir, gallwn eich rhoi yng nghanol y ddadl Gymreig a’r sgyrsiau sydd wir yn bwysig.

Cawn ein cefnogi gan sefydliadau yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, gan gynnwys yr holl sefydliadau academaidd blaenllaw yng Nghymru, oherwydd ein bod yn gweithio ar faterion sy’n hanfodol i’w llwyddiant, ac yn darparu mewnwelediad unigryw i faterion polisi sy’n effeithio ar eu gwaith.

Drwy ddod yn aelod, byddwch yn gallu:

  • Manteisio ar brif ddadleuon materion cyfoes Cymru gyda’n cylchgrawn uchel ei barch, the welsh agenda, a gyhoeddir ddwywaith y flwyddyn. Nid yn unig y byddwch yn derbyn copïau o’r cylchgrawn am ddim, ond cewch gyfle i osod hysbyseb am ddim.
  • Cysylltu ag eraill trwy ddewis yr adnoddau a’r digwyddiadau sy’n gweithio i chi. Ymuno â’r sgwrs gyda phobl eraill o’r un anian yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
  • Byddwch y cyntaf i gael mynediad at ein hymchwil gadarn sy’n gosod yr agenda, ein harweinyddiaeth feddwl a’n dirnadaeth o feysydd polisi hanfodol.
  • Cynyddwch eich hyder wrth ddeall sut mae tirlun gwleidyddol Cymru yn gweithio gyda thocynnau gostyngol i’n cyrsiau hyfforddi proffesiynol.

Yn bwysicaf oll, bydd eich aelodaeth yn amddiffyn ein hannibyniaeth rhag y llywodraeth a phleidiau gwleidyddol wrth inni ymdrechu i helpu i wella Cymru.

Mae gyda ni sawl categori wahanol o aelodaeth i sefydliadau:

Elusennau a Mudiadau Micro

Bydd aelodaeth elusennol a micro (llai na 5 staff llawn amser) yn cynnwys:

  • 5 copi papur o’n cylchgrawn, the welsh agenda, ddwywaith y flwyddyn
  • E-gylchlythyr yn cynnwys adroddiadau, crynodebau o ddigwyddiadau a phapurau dadansoddol
  • Gwahoddiad i ddigwyddiadau unigryw ein haelodau yn unig gan gynnwys ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
  • Hysbysiad ymlaen llaw am ostyngiadau cynnar ar ein cyrsiau hyfforddi
  • Gostyngiadau ar ein tocynnau cynhadledd a digwyddiad
  • Hysbyseb hanner tudalen am ddim yn the welsh agenda
  • Cefnogaeth i’n hymchwil a’n gwaith drwy eich aelodaeth gwerthfawr

Pris Aelodaeth blynyddol yw £300 heb gynnwys TAW

Talwch am aelodaeth flynyddol


Sefydliad Safonol

Mae aelodaeth busnes safonol ar gyfer mudiadau sydd yn cyflogi llai na 250 o bobl, ac yn cynnwys:

  • 5 copi papur o’n cylchgrawn, the welsh agenda dwywaith y flwyddyn
  • E-gylchlythyr yn cynnwys adroddiadau, crynodebau o ddigwyddiadau a phapurau dadansoddol
  • Gwahoddiad i ddigwyddiadau unigryw ein haelodau yn unig gan gynnwys ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
  • Hysbysiad ymlaen llaw am ostyngiadau cynnar ar ein cyrsiau hyfforddi
  • Gostyngiadau ar ein tocynnau cynhadledd a digwyddiad
  • Stondin am ddim yn un o’n cynadleddau IWA (ar gais ac yn amodol ar argaeledd)
  • Hysbyseb hanner tudalen am ddim yn the welsh agenda
  • Cefnogaeth i’n hymchwil a’n gwaith drwy eich aelodaeth gwerthfawr

Pris aelodaeth blynyddol i fusnesau safonol yw £600 heb gynnwys TAW


Sefydliad Mawr

Mae aelodaeth i fusnesau mawr ar gyfer mudiadau sydd yn cyflogi mwy na 250 o weithwyr, ac yn cynnwys:

  • 5 copi papur o’n cylchgrawn, the welsh agenda dwywaith y flwyddyn
  • E-gylchlythyr yn cynnwys adroddiadau, crynodebau o ddigwyddiadau a phapurau dadansoddol
  • Gwahoddiad i ddigwyddiadau unigryw ein haelodau yn unig gan gynnwys ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
  • Hysbysiad ymlaen llaw am ostyngiadau cynnar ar ein cyrsiau hyfforddi
  • Stondin am ddim mewn dwy o’n cynadleddau IWA (ar gais ac yn amodol ar argaeledd)
  • 2 x tocyn am ddim i’n cynadleddau taledig (yn amodol ar argaeledd)
  • Hysbyseb tudalen lawn am ddim yn the welsh agenda
  • Cefnogi ein hymchwil a’n gwaith drwy eich aelodaeth gwerthfawr

Pris aelodaeth blynyddol i elusennau yw £1200 heb gynnwys TAW

Talwch am aelodaeth flynyddol