Gyda bron i 120 o Gymrodyr, yn dod o bob cefndir ac o bob rhan o Gymru, y DU a hyd yn oed cyn belled â Chyprus a Chaliffornia, mae ein cymrodoriaethau yn cydnabod pobl sy’n gwneud cyfraniadau sylweddol i gymdeithas sifil yng Nghymru yn eu meysydd arbenigedd.

Mae ein Cymrodyr yn chwarae rhan hanfodol wrth gryfhau cymdeithas sifil Cymru ac yn cyfrannu at ein gwaith o sicrhau Cymru gydag economi lwyddiannus, lân, gwyrdd a theg, yn ogystal â democratiaeth gref a hyderus.

Os hoffech drafod dod yn Gymrawd, gan hefyd ein helpu i aros yn annibynnol fel y gallwn barhau â’n gwaith i wella Cymru, cysylltwch ag Auriol Miller yn [email protected].

I Gymrodyr sydd yn dymuno adnewyddu eu haelodaeth, dewiswch un o’r opsiynau isod:

Talu’n fisol drwy ddebyd uniongyrchol Talu am aelodaeth flynyddol