Gwyl Deall Lleoedd Cymru / Understanding Welsh Places Festival

 

Cynhaliwyd Gŵyl Deall Lleoedd Cymru ar Zoom rhwng 10 a 12 Tachwedd 2020.

Cyfres oedd hon o ddigwyddiadau ar-lein yn cefnogi ac ysbrydoli cymunedau lleol, penderfynwyr, cynllunwyr a llunwyr polisi i wneud newidiadau cadarnhaol i’r lleoedd rydym ni’n byw a gweithio ynddynt a rôl gwefan Deall Lleoedd Cymru.


Diwrnod 1 – Deall Data Eich Lle 

Dydd Mawrth, 10 Tachwedd, 10am – 12pm

I ddechrau’r Ŵyl Deall Lleoedd Cymru, cawsom ein tywys drwy wefan Deall Lleoedd Cymru gan ein harbenigwr data yr Athro Scott Orford. Eglurodd y data, dadansoddi, sut gall y wefan weithio i chi a rhoi diweddariad manwl ar y data newydd sy’n dod ar y wefan.

Clywsom hefyd gan Delyth Jones ar sut mae cynghorau tref a chymuned Sir Gaerfyrddin wedi defnyddio’r wefan i wneud newidiadau cadarnhall yn eu cymunedau.


Diwrnod 2 – Llywio Dyfodol Ein Trefi a Chymunedau 

Dydd Mercher, 11 Tachwedd, 10am – 12pm

Mae pandemig Covid-19 wedi tynnu sylw at bwysigrwydd ble rydym yn byw, ble rydym yn cael ein bwyd a ble’r ydym yn cael mynediad at ein gwasanaethau lleol. Er da neu ddrwg, mae’r pandemig wedi golygu bod y rhan fwyaf ohonom yn dod i adnabod ein cynefinoedd yn well nag erioed.

Efallai ein bod yn sylwi am y tro cyntaf ar faint sydd gennym ar garreg ein drws, neu sylwi ar yr hyn nad oes gan ein lleoedd. Trafodwyd sut y gallwn ddefnyddio’r syniadau hyn i lywio dyfodol ein trefi a’n cymunedau.

Siaradwyr:
Chris Blake – The Green Valleys
Russell Greenslade – AGB Abertawe
Elin Hywel – Cwmni Bro Ffestiniog
Peter Williams – The Means

Ymunodd Matt Baker â ni hefyd, sef Cyfarwyddwr Strategol Midsteeple Quarter yn Dumfries, a rannodd yr hyn yr oedd ef wedi’i ddysgu am ddatblygu cymuned a thref.

Cymdeithas budd cymunedol yw Midsteeple Quarter sydd wedi rhoi chwa o awyr iach i ganol tref Dumfries trwy ailddatblygu eiddo gwag ar y Stryd Fawr i greu cymdogaeth newydd gyda gwahanol ddeunyddiau yn seiliedig ar egwyddorion ffyniant a lles lleol.

Adnoddau defnyddiol:

Dolan Project
Project skyline
Ffederasiwn Busnesau Bach – adroddiad The Future of Towns in Wales
Prosiect Cadwyn Ogwen
Cymunedau’n Creu Cartrefi
Carnegie UK Trust – adroddiad Power and Making Change Happen
Sefydliad Materion Cymreig – adroddiad Re-energising Wales 


Diwrnod 3 – Dweud Hanes Eich Lle 

Dydd Iau, 12 Tachwedd, 10am – 12pm

Ar ddiwrnod olaf yr Ŵyl Deall Lleoedd Cymru, rydym wedi edrych o fewn Cymru am leoedd sydd wedi cymryd eu hamser i ddeall eu natur unigryw a’u hunigoliaeth er mwyn helpu eu lleoedd i ffynnu.

Yn y lle cyntaf, dysgom am waith y Cynghorydd Clive Davies, Maer Tref Aberteifi.

Mae Aberteifi ar arfordir y Gorllewin, mae’n lle reit wledig, ond dros y blynyddoedd diwethaf mae Aberteifi wedi bod yn esiampl o dref yn manteisio i’r eithaf ar ei hasedau. Mae Clive yn ein tywys drwy sut maent wedi llwyddo i greu lle sy’n ymateb i anghenion y gymuned. Mae cyflwyniad y Cynghorydd Clive Davies ar gael yma. 

Yn ail, clywsom gan Adrian Emmett o Dreorci.

Mae Treorci wedi bod ar dipyn o daith dros y blynyddoedd diwethaf a chafodd ei choroni yn stryd fawr orau Prydain. Tywysodd Adrian, landlord y dafarn The Lion a chadeirydd y Siambr Fasnach ni drwy’r daith hon.

Gallwch weld y cyflwyniadau eraill o’r gweithdai yma:

Adnoddau defnyddiol eraill: