Taith Ynni Padarn Peris / The Ynni Padarn Peris journey

Dr Paula Roberts yn disgrifio ei phrofiad o gefnogi ynni cymunedol / Dr Paula Roberts describes her journey towards championing community energy.

Cychwyn fy siwrne i Ynni Adnewyddol Gymunedol oedd Ynni Padarn Peris

Grŵp o saith o unigolion a ddaeth at ein gilydd o ganlyniad i “rant” gan un ohonom yn y papur bro am ddatblygiad ynni mawr arfaethedig yn y dyffryn. Nid gwrthwynebu’r datblygiad cymaint, ond fod adnoddau ein ardal ni yn mynd i lenwi pocedi unigolion ymhell iawn o Ddyffryn Peris… eto. Yn hytrach na cwyno amdano, gwneud rhywbeth amdano oedd ein dewis.

A dyna yw’r sbardun i’r rhan fwyaf o grwpiau o’r math. Nid o reidrwydd Ynni Adnewyddol ond buddsoddi elw o’n hadnoddau ni yn ein cymunedau ni.

Roedd y ffaith fod grwpiau eraill cyfagos wrthi’n datblygu eu prosiectau nhw hefyd yn sbardun ac mae cael cymunedau eraill yn gwneud pethau tebyg wedi bod o help mawr.

Erbyn hyn mae gennym hydro fach ar Afon Goch yn Llanberis sy’n cynhyrchu hyd at 55kW pan mae’n bwrw ond nid dyna yw diwedd y stori gobeithio.

Un o’r cwestiynau sy’n codi bob tro yw beth yn union yw Ynni Cymunedol? Oes potensial iddo gyfrannu at y cyfanswm o ynni adnewyddol ac i ddatblygiad economaidd mewn ardaloedd?

Fe fyddwn i wrth gwrs yn dweud ‘oes’ i’r ddau bwynt uchod,  ond mae ganddo gyfraniad ychwanegol hefyd. Mae’r manteision cymdeithasol yn mynd ymhellach na’r manteision economaidd yn aml. Mae’n annog nodweddion fel mentergarwch, hyder yn eich gallu ac yng ngallu eich cydweithwyr a.y.y.b.

Beth yw’r prif heriau wrth wireddu cynlluniau o’r fath?

Ar yr un llaw mae hydro yn un o’r ffynonellau cynhyrchu ynni sy’n cael ei adnabod fel un o gonglfeini cynhyrchu mewn dyfodol carbon niwtral. Ond ar y llaw arall, mae’r tirlun gwleidyddol yn amlach na pheidio yn gwneud gwireddu cynlluniau o’r fath yn anodd.

Dwi yn meddwl yn aml fod llywodraethau a chyrff sy’n darparu cefnogaeth yn anghofio mai gwirfoddolwyr yn buddsoddi arian ein ffrindiau ac ein cymdogion ydym ni. Gan amlaf, nid arian banciau mawr o Lundain sy’n talu’r costau datblygu. O ganlyniad, mae grwpiau yn bwyllog iawn wrth wario’r arian hwnnw. Rydym yn aelodau o’n cymuned sy’n gwerthfawrogi pan fo unigolyn sydd heb fawr o arian yn sbâr yn rhoi £250 i ni ac yn gymaint ag y byddwn yn gwerthfawrogi unigolyn cefnog gyda £10k i’w fuddsoddi ac yn teimlo’r cyfrifodeb o’i fuddsoddi ar eu rhan.

Mae cynlluniau o’r fath yn cymryd blynyddoedd i’w hadeiladu. Mae’r rhan helaeth yn cymryd 3+ blwyddyn i’w gwireddu. Blwyddyn i’r grŵp (wedi iddo ddod at ei gilydd) weithio allan beth yw’r busnes, blwyddyn arall i fireinio’r cynllun a blwyddyn o godi arian ac adeiladu.

Yn anffodus mae’r hinsawdd polisi a chefnogaeth yn newid ar raddfa llawer iawn cyflymach na hyn. Ers i YPP gychwyn ar ddatblygu ein prosiect cyntaf, mae’r ‘Feed in Tariffs’ wedi dod i lawr, mae ardrethi busnes wedi mynd i fyny, hyn i gyd yn golygu fod angen addasu cynlluniau busnes, weithiau ar fyr rybydd ac ar ôl i’r arian gael ei fuddsoddi.

Yr her fwyaf i ni yw’r ansefydlogrwydd yma. Mae pob cynllun ynni, beth bynnag ei faint angen amser ond ‘does gan gwmnïau bach mo’r capasiti i ymdopi â’r newidiadau aml. Mae’r rhan helaeth o brosiectau tebyg  wedi bod yn llwyddiannus er gwaethaf polisïau a strategaethau gwleidyddol.
Mi fydda i, Dr Paula Roberts yn egluro mwy am Ynni Padarn Peris mewn cyflwyniad byr ar faes yr Eisteddfod ac yn esbonio rhai o’r heriau a’r buddion i gynlluniau o’r fath.   Mae rhagor o fanylion am y digwyddiad ‘Troi’r dŵr/gwynt i felin ein hunain: datrys anghenion ynni lleol yn lleol’ fydd yn cael ei gynnal ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, gan Sefydliad Materion Cymreig mewn partneriaeth â Lab Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor ddydd Llun y 7fed o Awst 2017 i’w cael ar Eventbrite.  Darperir cyfieithu ar y pryd.
Rydym yn awyddus iawn i glywed gan unigolion a chymunedau sydd â diddordeb yn hyn ymlaen llaw. Ein gobaith yw y bydd y digwyddiad yn esgor ar fwy o gydweithio a chyd-greu rhyng-gymunedol ac y bydd syniadau newydd yn deillio o’r digwyddiad.  Er mwyn cyfrannu at y sgwrs, cysylltwch drwy ein cyfryngau cymdeithasol @planetdotcymru #YnniLleolCymru neu gydag Dr Einir Young ([email protected]) a Dr Gwenith Elias ([email protected]).


My journey to Community Renewable Energy started with Ynni Padarn Peris.

A group of seven individuals came together as a result of a ‘rant’ that one of us had in the papur bro (community paper) about a large energy scheme development that was proposed in the valley.  We weren’t against the development per se, but angry that the area’s resources were being used to line the pockets of individuals far away from the Peris Valley…again.  Instead of complaining about it, we decided to do something about it.

It seems that this has spurred many similar groups into action.  Not necessarily in renewable energy, but investing profits from our resources in our communities.

The fact that other groups nearby were also developing their projects also spurred us on, and other communities doing something similar has been very helpful.

We now have a small hydro on the River Goch in Llanberis that can produce up to 55kW when it rains, but we hope that this is not the end of the story.

One of the questions that is often asked, is what exactly is Community Energy? Is there potential for it to contribute to the total renewable energy and economic development in areas?

I obviously say ‘yes’ to both the above points, and it brings extra benefits too.  The social benefits often go beyond the economic benefits.  It encourages entrepreneurship, confidence in your abilities and in the abilities of your co-workers etc.

What are the main challenges to realising such schemes?

On one hand, hydro is recognised as one of the energy sources forming the cornerstone of a carbon neutral future.  But on the other hand the political landscape more often than not makes schemes of this kind very difficult.

I often think that governments and bodies that provide support forget that we’re volunteers looking to invest our friends’ and neighbours’ money.  More often than not, it’s not money from large London banks that pay for the development.  As a result, groups are very prudent when spending this money.  We are members of our community equally appreciative of the individuals who, despite not having much spare money, give us £250 as a more affluent individual with £10k to invest and feel the responsibility of investing this money on their behalf.

Schemes of this kind take years to build.  The majority take 3+ years to realise.  A year for the group (once they’ve come together) to work out the business, another year to fine tune the scheme, and another year to raise funds and build.

Unfortunately, the policy and support climate changes on a much quicker scale than this.  Since YPP started developing the project, the Feed in Tariffs have reduced, business rates have increased, and all this means that we have to adapt the business plan, often at short notice and after funds have been invested.

The biggest challenge for us is this unstable environment.  Every energy scheme, whatever its size, needs time, but small companies don’t have the capacity to cope with many changes.  The majority of similar projects have been successful despite these policies and political strategies.

I, Dr Paula Roberts, will be explaining more about Ynni Padarn Peris in a short presentation at the Eisteddfod, explaining more about the challenges and benefits of community energy.  Further details about the event ‘Diverting the water/wind to our own mill: local solutions to meet local energy needs’ held at the National Eisteddfod by the Institute of Welsh Affairs in partnership with Bangor University’s Sustainability Lab on Monday the 7th of August 2017 can be found on Eventbrite.  Simultaneous translation will be available.

We are keen to hear from individuals and communities who might be interested in developing their own schemes beforehand. Our hope is that as a result of this event inter-community collaboration and co-creating will be facilitated and enhanced and that new ideas will emerge.  To contribute to the discussion you can use social media @planetdotcymru #LocalEnergyWales or contact Dr Einir Young or Dr Gwenith Elias

 

All articles published on Click on Wales are subject to IWA’s disclaimer.

Mae Dr Paula Roberts yn Uwch Ddarlithydd mewn Rheolaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor / Dr Paula Roberts is a Senior Lecturer in Environmental Management at the University of Bangor

Also within Politics and Policy