Cleaner Rivers
Welsh rivers are in a dire state. Pollution has poisoned many of our waterways, and freshwater biodiversity is suffering. Salmon and Sea Trout (who migrate between rivers and the sea) numbers are in freefall, with 70% lost over the past decade and every salmon river now recognized as being at the highest risk.
This problem has not arisen overnight and is a legacy of environmentally damaging practices and ineffective regulation, alongside lax monitoring and enforcement regimes. As Wales heads toward 2030, and the almost certainty that it will fail to meet key water quality goals, this webinar will identify what actions must be taken by the next Welsh Government to clean up our waterways before it’s too late.
This webinar will look to both to understand what actions are underway to reduce pollution, and what more needs to be done in policy, regulation and funding to drive Wales toward a healthy freshwater environment in the next decade.
We will also look to the experience of local communities and learn how those communities are taking action into their own hands to help clean up their rivers.
The webinar, chaired by IWA’s Co-Director Joe Rossiter, will bring together a panel of experts and practitioners to identify priority recommendations for the next Welsh Government. Joe will be joined by:
- Gail Davies-Walsh, CEO, Afonydd Cymru
- Kate Strong, Community Leader, Taff Tidy
- Rhodri Lloyd-Williams, Moelgolomen Farm
- Steve Wilson, Chief Operations Officer, Dŵr Cymru
————————————————————————————–
Afonydd Glanach
Mae afonydd Cymru mewn cyflwr enbyd. Gwenwynwyd llawer o’n dyfrffyrdd gan lygredd, ac mae bioamrywiaeth dŵr croyw yn dioddef. Mae niferoedd eogiaid a sewin (sy’n mudo rhwng afonydd a’r môr) yn plymio, a chollwyd 70% ohonynt yn ystod y degawd diwethaf. Bellach, mae pob afon ag eogiaid ynddynt yn cael eu hadnabod fel y rhai sy’n wynebu’r risg mwyaf.
Nid yw’r broblem hon wedi digwydd dros nos. Yn hytrach mae’n waddol arferion a niweidiodd yr amgylchedd a phrosesau rheoleiddio aneffeithiol, ochr yn ochr â gwaith monitro a chyfundrefnau gorfodi llac. Wrth i Gymru nesáu at 2030, mae bron yn sicr o fethu targedau allweddol o ran ansawdd dŵr. Bydd y gweminar hwn yn nodi pa gamau gweithredu mae’n rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru eu cymryd i lanhau ein dyfrffyrdd cyn ei bod yn rhy hwyr.
Bydd y gweminar hwn yn ceisio deall pa gamau gweithredu sydd ar y gweill i leihau llygredd, a beth arall sydd angen ei wneud o ran polisi, rheoleiddio a chyllid i yrru Cymru at gael amgylchedd dŵr croyw iach yn ystod y degawd nesaf.
Byddwn hefyd yn edrych ar brofiadau cymunedau lleol ac yn dysgu sut y maent yn cymryd camau gweithredu eu hunain er mwyn helpu i lanhau eu hafonydd.
Bydd y gweminar, dan gadeiryddiaeth Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig Joe Rossiter, yn dod â phanel o arbenigwyr ac ymarferwyr at ei gilydd er mwyn adnabod argymhellion polisi ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru. Yn ymuno â Joe bydd:
- Gail Davies-Walsh, Prif Swyddog Gweithredol Afonydd Cymru
- Kate Strong, Arweinydd Cymunedol, Taff Tidy
- Rhodri Lloyd-Williams, Fferm Moelgolomen
- Steve Wilson, Prif Swyddog Gweithrediadau, Dŵr Cymru