Pweru Ynys Ynni a’i phobl / Powering the Energy Island and its People

Venue

M-SParc

Menai Science Park, Gaerwen, LL60 6AG

Gaerwen, Anglesey, GB, LL60 6AG

Join us as we discuss the north Wales ‘Energy Island’ and look at how we can create a secure and sustainable energy future for our community

Pweru Ynys Ynni a’i phobl

Ynys Ynni / Energy Island: yn creu dyfodol ynni diogel, llewyrchus a chynaliadwy

Mae’r ffordd rydyn ni’n pweru ein cymunedau’n ddiogel, yn ddibynadwy ac yn gynaliadwy wrth wraidd y weledigaeth ar gyfer ein cyd-ddyfodol sero net. Mae hyn yn arbennig o wir ar Ynys Môn, lle mae’r cyfleoedd sydd o’n blaenau yn niferus.

Mae’r Porthladd Rhydd a gyhoeddwyd yn gynharach eleni yn cynnig sicrhau effaith drawsnewidiol i’r rhanbarth ac ysgogi buddsoddiad, gyda chynhyrchu ynni wrth wraidd yr ymdrech hon. Ond pa brosiectau sydd â’r cyfle gorau i gael effaith gadarnhaol ar yr hinsawdd, ar gymunedau ac ar yr economi leol? Beth yw rôl y sector cyhoeddus o ran dangos yn glir y ffordd ymlaen? A sut y bydd pobl yn profi manteision buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy ar Ynys Môn?

Wedi’i gyflwyno fel rhan o bartneriaeth barhaus y Sefydliad Materion Cymreig, gyda Phrifysgol Bangor, bydd y digwyddiad hwn yn ail-sbarduno’r ddadl ar ynni yng ngogledd Cymru. Wrth wneud hynny, bydd yn rhoi llwyfan i brosiectau ynni’r presennol a’r dyfodol sy’n cynnig trawsnewid nid yn unig ynni’r rhanbarth, ond ei ddyfodol economaidd hefyd.

Ymunwch â ni wrth i ni glywed gan randdeiliaid ledled y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector am eu huchelgeisiau ar gyfer dyfodol ynni’r rhanbarth, a’r rôl y gall Ynys Môn ei chwarae wrth ddefnyddio ynni carbon isel.

Agenda:

  • 5.30yp Cyrraedd a lluniaeth
  • 6.00yp Croeso
  • 6.10yp Cyflwyniad gan Yr Athro Simon Middleburgh (Sefydliad Dyfodol Niwclear)
  • 6.20yp Cyflwyniad gan Yr Athro Simon Neill (Ysgol Gwyddorau Eigion)
  • 6.30yp Trafodaeth Banel gan Virginia Crosbie AS, Andy Billcliff (Morlais), Dylan Williams (Cyngor Sir Ynys Mon) a Debbie Jones (M-SParc)
  • 7.10yp Sesiwn Holi ac Ateb gyda’r Gynulleidfa
  • 7.30yp Derbyniad diodydd
  • 8.30yp Gorffen

-———————————————————————–

Ynys Ynni / Energy Island: creating a secure, prosperous and sustainable energy future

How we power our communities securely, reliably and sustainably sits at the heart of the vision for our collective net zero future. This is especially the case on Ynys Môn, where the opportunities ahead are many.

The Freeport announced earlier this year offers to deliver a transformative impact to the region and stimulate investment, with energy generation sitting at the core of this endeavour. But which projects have the best chance of having a positive impact on climate, communities and the local economy? What is the role of the public sector in providing a clear direction of travel? And how are the benefits of investment into renewables on Ynys Môn going to be felt by its people?

Delivered as part of the IWA’s ongoing partnership with Bangor University, this event will unpick the debate on energy in north Wales. In doing so, it will platform the current and future energy projects that offer to transform not only the region’s energy picture, but its economic future, too.

Join us as we hear from stakeholders across the public, private and third sectors about their ambitions for the region’s energy future, and the role Ynys Môn can play in low carbon energy deployment.

Agenda:

  • 5.30pm Arrival and refreshments
  • 6.00pm Welcome
  • 6.10pm Presentation by Prof Simon Middleburgh (Nuclear Futures Institute)
  • 6.20pm Presentation by Prof Simon Neill (School of Ocean Sciences)
  • 6.30pm Panel Discussion with Virginia Crosbie MP, Andy Billcliff (Morlais), Dylan Williams (Anglesey County Council) and Debbie Jones (M-SParc)
  • 7.10pm Q&A with the Audience
  • 7.30pm Drinks Reception
  • 8.30pm Close

Bydd y digwyddiad hwn ar gael yn Gymraeg a Saesneg / This event will be available in both Welsh and English.

Credyd llun: v2osk / Picture credit: v2osk