Y newid mawr yn y cyfryngau

Darlith Euryn Ogwen Williams yn Eisteddfod Wrecsam a’r Fro, ar y goblygiadau ar gyfer yr iaith Gymraeg a diwylliant y chwyldro digidol

Braint ac anrhydedd ydy cael y cyfle i draethu’r cyntaf o ddarlithoedd coffa Owen Edwards yma yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni.  Er mai cyfnod byr o gydweithio gafodd Owen a minnau, rhyw saith mlynedd i gyd, roedd yn saith mlynedd hynny’n gyfnod dwys a byrlymog rhwng 1981 a 1988 yn sefydlu S4C.

Dydw i ddim yn bwriadu defnyddio’r ddarlith yma i adrodd hanes y cyfnod hwnnw.  Mae’r Dr Elain Price wedi sgrifennu cyfrol swmpus ar sail tystiolaeth llawer o’r rhai oedd yn bresennol ar y pryd, yn cynnwys Owen a minnau ac aelodau’r awdurdod, ac fe gyhoeddir honno yn fuan.  Yn hytrach, rydw i am edrych ymlaen a cheisio dehongli beth fydd yn digwydd i gyfathrebu a chreadigrwydd yn yr iaith Gymraeg dros y blynyddoedd nesaf. A  hynny yn erbyn cefndir y newid mawr digidol yr ydym yn byw drwyddo.

Un o hoff ddelweddau Owen yn y dyddiau cynnar hynny, wrth iddo fynd o gwmpas Cymru o ddigwyddiad i ddigwyddiad yn esbonio beth oedd S4C yn ei wneud, oedd delwedd y gyrrwr yn ei gar.  Ein cyfrifoldeb, medde fo, oedd edrych ymlaen wrth symud tua’r dyfodol, a tharo golwg bob hyn a hyn yn y drych i weld beth oedd tu cefn i ni.  Dwi’n siŵr y byddai’n fodlon i mi fenthyg y ddelwedd honno i roi patrwm i’r hyn sydd gen i heddiw.

Rydw i’n cofio pan gyrhaeddodd Myfanwy S4C ar ddechrau 1982.  Paham mae dicter, o, Myfanwy? Fe gafodd ei hystafell ei hun ar dop y grisiau yng Nghlos Soffia.  Dwi ddim yn cofio beth oedd yr enw iawn – roedd yn llawn llythrennau a rhifau – ond fe’i bedyddiwyd yn Myfanwy gan y deugain o staff oedd yn S4C ar y pryd.  Cyfrifiadur oedd Myfanwy ac i lawer ohonom ni dyma’r profiad cyntaf o weithio gyda llond stafell o beiriannau. Chwarae teg i Myfanwy, weles i erioed ddicter yn ei llygaid duon hi ar waethaf y ffaith nad oedd gen i syniad sut roedd hi’n gweithio. Ac roeddwn yn gorfod gofyn yn aml, Pa beth a wneuthum, O Myfanwy, I haeddu gwg dy ddwyrudd hardd? Ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, mae gen i iPhone yn fy mhoced sy’n llawer gwaith mwy pwerus a llawer iawn rhatach na’r stafell yna o beiriannau cyfrifiadurol wnaeth helpu i roi S4C ar ei draed.

Dyma’r trydydd tro i mi gael yr anrhydedd o draddodi darlith yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar y byd digidol.  Y tro cyntaf oedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn 1998, a’r testun oedd “Byw ynghanol y Chwyldro”.   Bryd hynny, rhywbeth i’r geeks oedd y byd digidol ac roedd nifer sylweddol yn y gynulleidfa yn credu mod i wedi “colli fy marblis”, a doedden nhw ddim yn swil o ddweud hynny! Ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf, ffordd o feddwl oedd digidol – wedi ei gyfyngu i bobl ifanc a phobl fusnes.  “Dim byd i’w wneud gyda ni”, oedd agwedd y sefydliad Cymreig bryd hynny.   Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, mi gefais wahoddiad i wneud cyflwyniad yn Eisteddfod Caerdydd a’r testun oedd “Beth wnest ti yn y Chwyldro”    Erbyn hynny roedd digidol wedi dod yn ffordd o fyw a’r byd yn newid wrth i’r mwyafrif fabwysiadu’r dechnoleg.  Roedd y chwyldro bellach yn nwylo’r bobl.  Yn y tair blynedd ers hynny, mae’r chwyldro wedi cyflymu ac mae’r defnydd o’r dechnoleg wedi ymdreiddio i bobman a dechrau creu ei chwyldro ei hun.

Mae’r cyfan yn cychwyn yng Nghaliffornia yn 1967. Roedd B-52s Awyrlu’r Unol Daleithiau yn gollwng 800 tunnell o fomiau bob dydd yn Fietnam; roedd Red Guards Mao Zedong yn rheoli China; roedd miloedd o blant yn Biafra yn marw o newyn, a miloedd hefyd yn marw yng nghyflafan y rhyfel cartref . Roedd hi’n haf poeth ac ar draws dinasoedd America roedd y terfysg hiliol ar ei anterth.  Dyna pryd y llifodd can mil o bobl i San Francisco ac er fod yr hipis wedi cyrraedd nifer o ddinasoedd America, yno yn ardal Haight – Ashbury yr oedd canol y chwyldro.  Cyffuriau seicadelig, rhyddid, creadigrwydd a gwleidyddiaeth – y coctel grymus a gychwynnodd y Newid Mawr.

Mae’n bosibl y byddai’r ffenomenon rhyfeddol hwnnw wedi aros fel pennod ddifyr yn hanes yr ugeinfed ganrif  pe na bai rhywbeth arall yn digwydd yr un pryd.  I lawr arfordir Califfornia, ym Mhrifysgol Stanford, roedd tîm o ymchwilwyr wedi bod yn gweithio ar ddatblygu’r dechnoleg gyfrifiadurol newydd ac yn ymestyn ei defnydd mewn meysydd y tu hwnt i’r byd milwrol ac addysgol, ac i greu yn rhywbeth fyddai ar gael i lawer mwy.  Ar y 9fed o Ragfyr y flwyddyn honno roedd Douglas C. Engelbart a grŵp o 17 ymchwilwyr yn arddangos y system ar-lein gyntaf i’r cyhoedd yng Nghanolfan Gynadledda San Francisco.  Roedd y cyflwyniad hefyd yn cynnwys ymddangosiad cyntaf y llygoden gyfrifiadurol ac yr oedd tua mil o arbenigwyr yn bresennol.  Roedd y cyflwyniad yn para awr a hanner; fe ddangoswyd hyperdestun am y tro cyntaf a chafwyd sgwrs fyw dros y rhyngrwyd – y fideo gynadledda dros rwydwaith am y tro cyntaf rhwng dau leoliad.

Tua’r un pryd, unwaith eto yn yr Unol Daleithiau, roedd Gordon Moore, un o sylfaenwyr cwmni Intel, yn cyhoeddi fformiwla ddaeth i’w hadnabod fel Deddf Moore. Mae’r fformiwla’n datgan y bydd y nifer o ficro brosesyddion y gellir eu gosod ar sglodyn silicon yn dyblu bob deunaw mis.  Roedd hyn y golygu y byddai grym y cyfrifiadur yn dyblu, a’i faint a’i bris yn haneru bob deunaw mis a chan mai gronynnau tywod, rhywbeth na fyddwn byth yn brin ohono, neu goleuni oedd y deunydd craidd, nad oedd unrhyw reswm i gredu y byddai’r sefyllfa’n newid yn y dyfodol.

Yn yr wythdegau cynnar, yr oedd Deddf Metcalfe yn cael ei ffurfio.  Mae’r fformiwla hon yn dweud fod effeithiolrwydd neu werth rhwydwaith gyfathrebu electronig yn cynyddu’n esbonyddol gyda’r cynnydd mewn nifer peiriannau sy’n gysylltiedig.  Addaswyd y fformiwla hon gan George Gilder yn nawdegau’r ganrif ddiwethaf i’r niferoedd o unigolion oedd yn cysylltu ar y we wrth iddo ragweld cynnydd mawr yn y rhwydweithiau cymdeithasol y blynyddoedd diwethaf.

Mae hyn i gyd yn bwysig i ni’r Cymry, yn enwedig i’r diwylliannau Cymraeg, gan ei fod yn tanlinellu’r prif reswm am ein habsenoldeb o’r chwyldro dros y degawd diwethaf.

Mae absenoldeb y Gymraeg o’r chwyldro hwn yn mynd yn ôl i’r chwedegau.     Hanner canrif yn ôl y traddododd Saunders Lewis ei ddarlith Radio, Tynged yr iaith a roddodd fodolaeth i “ddim llai na chwyldro” yma yng Nghymru. Roedd y chwedegau yng Nghymru yn ddeffroad newydd o ymwybyddiaeth cenedlaethol ac aeth yr egni creadigol a gynhyrchwyd yn y deffroad i sicrhau ein bod ni yma heddiw yn dathlu ein Cymreictod gyda hyder a gobaith.  Fe’n gwnaeth yn ymwybodol o’r trysor oedd yn cael ei afradu o genhedlaeth i genhedlaeth. Yr un ysbryd yn y saithdegau roddodd fodolaeth i S4C ac yn y nawdegau i’n Cynulliad Cenedlaethol. Gosodwyd seiliau adeiladu cenedl wrth i’r hen sefydliadau wegian.  Roedd y chwedegau yn ddegawd diffiniol yn ein hanes pan gawsom ein deffro o gwsg ein difaterwch a chychwyn ar y gwaith.  Hwn oedd ein chwyldro unigryw ni ac yr oedd yn llawer mwy real na’r hyn oedd yn digwydd yng Nghaliffornia bell.

Ond fe newidiodd y byd a’n gadael ar ôl. Tra bo gwledydd bychan yn Sgandinafia, y Ffindir yn arbennig, gyda’u llywodraethau eu hunain wedi mabwysiadu’r dechnoleg ddigidol yn gynnar, roedd economi Cymru’n dal i ddibynnu ar y diwydiannau trymion. Pan edwinodd y diwydiannau hynny, doedd y sgiliau ddim ar gael, na’r grym gwleidyddol i newid cyfeiriad.  Roedd ein trafodaeth ni o gwmpas yr hen, hen bethau.

Erbyn i ni gael  ein gorsaf radio, ein sianel deledu, ein Bwrdd Iaith a’n Cynulliad cenedlaethol, roedd natur ein hymgyrch wedi ei ddiffinio.  Roeddem yn deall sut i droi’r gwres gwleidyddol ar y system Brydeinig.  Llundain oedd y gelyn oedd yn ein uno fel cenedl, ond wrth i’r cyfrifoldebau gael eu trosglwyddo dros y blynyddoedd, fe ddaeth yn anos i fudiad protest fod yn effeithiol.  Yr un eithriad oedd darlledu, neu gyfathrebu electronig, lle roedd ariannu a goruchwylio’r gwasanaethau Cymraeg yn dal yn gyfrifoldeb Prydeinig.  Felly, roedd yn hawdd, pan oedd S4C angen help, i wneud y gelyn traddodiadol yn darged; roedd gennym bolyn totem i ddawnsio o’i gwmpas.  Ond roedd hyn hefyd yn golygu osgoi wynebu realiti.

Mae’n newyddion da iawn fod ein Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu edrych ar y sefyllfa o ddifrif a gweithredu arni yn mis Medi; mae cyfuno’r cyfryngau cyfathrebu a chynnwys cyflwr newyddiaduraeth yn Gymraeg a Saesneg mewn un astudiaeth gynhwysfawr yn bwysig.  Mi fydd yna hefyd Gomisiynydd Iaith yn ei le erbyn hynny ac mi fydd hynny’n newid deinameg y sefyllfa.  Mae’n bryd i ni aeddfedu a chymryd y cyfrifoldeb am y maes fel cenedl.  Mae llawer o arian cyhoeddus yn cael ei wario ar gynnal gwahanol sefydliadau ac mae angen gweledigaeth sy’n cwmpasu’r ddwy iaith ac sy’n cynnwys yr holl weithgaredd sy’n cynnal a hyrwyddo’r diwylliannau Cymraeg.  Yn bersonol, dwi ddim yn credu ei fod yn rhesymegol i gyfuno’r ddwy iaith ar un gwasanaeth teledu mewn oes aml sianelog.  Mi fyddai’n llawer mwy hyblyg i weithio ar y brand Cymraeg sy’n cynnwys sianel deledu a honno’n ymestyn ar draws y diwylliannau, ynghyd a gorsaf Radio Cymru . Yr her wedyn fyddai osgoi yr ‘howl-round’ diwylliannol cul sydd mor beryglus i ffyniant iaith.

Yn ystod yr hanner canrif diwethaf mae’r agwedd at y Gymraeg wedi newid yng Nghymru.  Mae pob plaid wleidyddol bellach yn gefnogol i fesurau sy’n hyrwyddo ac amddiffyn y Gymraeg.  Mae gwahaniaeth rhwng plaid a phlaid mewn brwdfrydedd a blaenoriaethau, efallai, ond nid yw’r dadleuon rhyngddynt yn peryglu’r broses o greu cenedl ddwyieithog.  Mi fyddai ariannu’r cyfan o gynnwys teledu yn y Gymraeg o gyllideb y Cynulliad yn rhoi straen mawr ar y consensws presennol ond mae cymryd gorolwg dros y sefydliad canolog a’i ariannu yn drefn naturiol o fewn y sefyllfa o gonsensws gwleidyddol.

Mae costau dosbarthu cynnwys yn gostwng yn sylweddol a chan mai dosbarthydd yw S4C, mi fydd yn anodd cyfiawnhau gwariant sylweddol ar strwythur canolog.  Fel mae pethau heddiw, mae’r trefniant ariannu o’r drwydded yn 2014 yn golygu y bydd y £74 miliwn sy’n dod trwy Ymddiriedolaeth y  o incwm y drwydded yn cael ei wario ar greu cynnwys o’r sector gynhyrchu annibynnol yng Nghymru; mae’n dilyn mai £7 – 8 miliwn o’r trysorlys a rhyw ddwy neu dair miliwn o incwm nawdd a hysbysebu fydd ar gael i redeg y sefydliad.

Byddai’n braf gweld egni gwleidyddol Cymdeithas yr Iaith a Chylch yr Iaith yn canolbwyntio ar greu amgylchiadau fydd yn sicrhau rhyddid creadigol i gynhyrchwyr a newyddiadurwyr mewn sefyllfa lle bydd y gorolwg dros y weledigaeth gan ein Cynulliad Cenedlaethol a’r cyllid ar gyfer y gwasanaethau Cymraeg ond nid eu rheoli yn dod o’r ffi drwydded drwy’r BBC.  Mae gen i ofn nad ydw i’n gweld unrhyw bwynt mewn gwastraffu’r egni hwnnw ar ymgyrchu yn erbyn realiti cyllido S4C.  Mae manteision i gyllido cynnwys S4C allan o system sy’n sicrhau rhyddid oddi wrth bwysau gwleidyddol a masnachol.

Fe gafodd yr S4C cynnar ei feirniadu sawl tro gan unigolion am fentro arbrofi y tu allan i gylch cyfyng ein profiad diwylliannol.  Daeth cyfres Reslo, er enghraifft, a hyd yn oed Sgorio o dan y lach.  Roedd ambell i newyddiadurwr a beirniad teledu yn feirniadol o Superted.  Hoffwn i ddim dweud wrthoch chi  sawl llythyr gafodd  Owen a minnau yn y dyddiau hynny, oedd  yn cynnwys y cwestiwn, “Ai er mwyn hyn y gweithredodd Gwynfor Evans?”  Mi fyddai llawer iawn wedi bod yn hapusach yn gweld S4C yn methu am iddo darfu ar eu cylch cysur bach cul, a doedden nhw ddim yn swil o adael i ni wybod hynny. Ond, yn sicr, doedd Gwynfor ddim yn un o’r rheini ac ni phallodd ei gefnogaeth i ni yn y dyddiau cynnar hynny.

Ym myd y ddrama, er enghraifft, fe ddefnyddiodd ein hawduron a’n cynhyrchwyr annibynnol y rhyddid i herio’r gynulleidfa.  Roedd yna regi, golygfeydd rhywiol, defnydd o’r Saesneg ac arbrofi technegol i greu  a chyfrannu at drafodaeth gyhoeddus am natur ein cymdeithas a lle Cymru yn y byd.  Yn aml, cafodd hyn ei werthfawrogi y tu allan i’r sefydliad Cymraeg lawer mwy nac o’i fewn ac yr oedd dod i’r steddfod bob blwyddyn yn brofiad anghysurus pan fyddai llawer o bobl y pethe yn cael y cyfle i sefyll ar ben eu tomen a chlochdar yn uchel am werthoedd cenedl.  Roedd hynny lai na deng mlynedd ar hugain ôl ac mae rhywun yn ymwybodol fod y math yna o drafodaeth wedi mynd ar goll.  Sôn am strwythurau ydan ni bellach ac nid am natur ein creadigrwydd a’n cenedligrwydd.  Mae yna ddifaterwch peryglus wedi cymryd drosodd a’r tabŵ mawr ydy wynebu’r gwirionedd fod yr hyn a grëwyd gan y Torïaid yn yr wythdegau a’r nawdegau mewn Deddf Iaith a Deddf Addysg wedi ymestyn potensial ein hiaith y tu hwnt i’n gwerthoedd traddodiadol cul.

Mae ffigyrau gwylio absoliwt i raglenni penodol yn ddiystyr yn y byd digidol, ond mae niferoedd yn bwysig.  Erbyn hyn mae’r canran sy’n ymgysylltu â’n sefydliadau diwylliannol yn lleihau oherwydd fod y niferoedd sy’n dod drwy’r system addysg yn cynyddu’r bydysawd Cymraeg ond heb yr archwaeth i fod yn rhan o’r diwylliant prif ffrwd. Dyma yw brwydr y Gymraeg yn yr unfed ganrif ar hugain, sut mae gwasanaethu pobl sydd ddim yn dymuno cysylltu a’u Cymreictod.  Llinell fawr y ffilm “Field of Dreams” yw “Build it and they will come.”  Beth ydyn ni’n ei adeiladu ac os adeiladwn ni rhywbeth, ydyn nhw’n debygol o ddod?

Mae’r ffordd ymlaen yn astrus. Mewn gwirionedd, mae dwy ffordd yn cyrraedd yr un gyrchfan ac mi fydd yn rhaid i’r diwylliannau Cymraeg deithio’r ddwy ffordd yr un pryd.  S4C fydd yn teithio’r ffordd gyntaf ac mae’r amserlen yn dynn.  Erbyn 2015 bydd natur gwasanaethau S4C dros weddill y degawd a thu hwnt wedi cael ei ddiffinio a bydd y sefydliad yn gwybod beth fydd ei swyddogaeth wrth ofalu am y gwasanaethau hynny.  Dyma’r unig beth sy’n bwysig i S4C dros y pedair blynedd nesaf.  Mae’n bwysig  fod ffrindiau S4C yn sylweddoli hynny ac yn osgoi tynnu’r sylw oddi ar y nod.

Y broblem i ni Gymry y tro yma ydy fod mwy nag un ateb cywir i bob cwestiwn ac fe allai cyfres o atebion sy’n gywir yn y tymor byr ein harwain i’r gyrchfan anghywir yn yr hir dymor. Ac nid ydym wedi arfer meddwl yn y ffordd yna. Yr hyn sy’n bwysig, felly, ydyw bod yn hollol glir am ein cyrchfan a pha bryd y byddwn yn debygol o’i chyrraedd a bod yn barod i newid cyfeiriad yn hyderus os yw’r amgylchiadau yn mynnu hynny.

Dowch inni ddychmygu’r gyrchfan yn 2020.  Yn gyfundrefnol, ymhen deng mlynedd, mi fydd ein cynulliad cenedlaethol wedi magu mwy o hyder ac wedi etifeddu mwy o bwerau.  Mae’n anodd credu na fydd y cyfrifoldeb dros gyfathrebu yng Nghymru, yn cynnwys darlledu, yn un o’r pwerau hynny.  Y cwestiwn yw, a fydd y cynulliad yn gallu ariannu’r cynnwys fydd ei angen yn ei holl amrywiaeth, a sicrhau rhyddid creadigol i’r sector gynhyrchu?  Mae cael atebion i’r cwestiwn yna yn ganolog i ddewisiadau fydd angen eu hwynebu dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.

Un peth i’w osgoi yw brwydr flynyddol a chystadleuaeth ffyrnig o fewn y byd cyfathrebu a rhwng anghenion dwy iaith am gyllid digonol i greu cynnwys.  Ni fyddai hynny’n gyrchfan ddymunol.  Mae traddodiad ariannu darlledu yn y Deyrnas Unedig yn seiliedig ar ddwy egwyddor; yn gyntaf, nad oes cysylltiad uniongyrchol rhwng ffynhonnell y cyllid a’r  rhaglenni ac, yn ail, y sicrwydd fod y cryf yn cynnal y gwan o fewn y patrwm Prydeinig.   Mae’n bryd cymryd golwg yn y drych.

Yn y ddoethineb ryfeddol a roddodd S4C at ei gilydd yn 1981, penderfynwyd defnyddio dwy system gyllido, sef y ffi drwydded ac arian hysbysebu.  Cafodd y BBC gynnydd bychan yn y ffi drwydded a gafodd ei glustnodi ar y pryd i gyfoethogi’r 10 awr o raglenni Cymraeg bob wythnos i S4C.  Roedd y cyllid i redeg y sefydliad ac i brynu rhaglenni yn fasnachol yn dod o incwm hysbysebu system ITV ac roedd ITV yn cael yr hawl i werthu’r hysbysebion ar S4C a Channel 4.  Roedd y fformiwla (20% o 17% o incwm hysbysebu blynyddol ITV) yn pennu’r union swm. Yn mis Rhagfyr bob blwyddyn mi fyddai ITV yn cyfrif yr incwm hysbysebu am y flwyddyn flaenorol ac S4C yn cael gwybod faint oedd y gyllideb am y flwyddyn ganlynol – hynny yw, fis cyn i’r flwyddyn gychwyn.   Roedd rheolau llym gan yr Awdurdod bryd hynny i sicrhau nad oedd costau rhedeg y sefydliad yn uwch na deg y cant o’r incwm hwnnw.  Am y deng mlynedd cyntaf arhosodd S4C yn rhydd o unrhyw gyllid uniongyrchol gan y llywodraeth a manteisiodd ar  gynnydd sylweddol mewn incwm hysbysebu pan dyfodd economi’r Deyrnas Unedig yng nghanol yr wythdegau.

Yn ystod y degawd nesaf mi fydd economi’r diwydiant cyfathrebu masnachol traddodiadol yn crebachu wrth i hysbysebwyr symud o’r teledu i’r we am ffyrdd mwy effeithiol o gyrraedd eu targed.

Ar hyn o bryd mae incwm hysbysebu Google yn y Deyrnas Unedig tua £2.5 biliwn o’i gymharu a tua £1.75biliwn i ITV.  Mae’r gwahaniaeth yn tyfu gan fod cynnydd o tua 20% y flwyddyn  i Google o’i gymharu a 15% mewn blwyddyn dda i ITV.  Erbyn diwedd y degawd hwn mi fydd y gwahaniaeth incwm rhwng darlledu traddodiadol un-i-lawer a darlledu un-i-un yn sylweddol.  Nid yr effaith ariannol yn unig fydd yn creu newid ond yr effaith ar y ffordd o fesur gwerth ac effeithiolrwydd.

O dipyn i beth mi fydd dylanwad systemau traddodiadol BARB o fesur cynulleidfa, sy’n seiliedig ar fodel darlledu analog, yn lleihau.  Mae hi’n drefn gostus iawn a grëwyd i roi gwybod i hysbysebwyr am werth eu hysbysebion ac ar yr un pryd roi syniad i ddarlledwyr a gwylwyr o’r niferoedd a chyrhaeddiad rhaglenni unigol.  Mae’r system draddodiadol yma’n gwegian yn y byd digidol. ac erbyn hyn mae’n cynhyrchu gwybodaeth ddiystyr (ar gost hynod o uchel) am sianeli fel S4C.  Pan oedd S4C yn cychwyn doedd dim dewis ond bod yn rhan o BARB, gan  mai’r hysbysebwyr oedd yn ariannu’r sianel, er ei bod yn deg dweud fod y BBC wedi dadlau yn erbyn hynny yn y misoedd cyn lansio’r gwasanaeth.

Os mai newydd da ydy y bydd dulliau mesur niferoedd absoliwt BARB yn mynd yn llai perthnasol o fewn y degawd gan arbed arian i S4C a dileu’r dadleuon ffôl am fesur gwerth cynnwys ar sail data diystyr o faint cynulleidfa, y newyddion drwg yw fod  data o’r “engagement” digidol – yr ymson digidol – yn mesur nid yn unig faint sy’n gwylio ond pwy ydyn nhw, lle mae nhw’n byw ac yn y pen draw ar beth mae nhw’n gwario eu harian.  Dyma groesffordd arall sy’n wynebu’r rhai sy’n ymwneud â chyfathrebu a chreadigrwydd yn yr iaith Gymraeg.  Mae’r wybodaeth hon yn hanfodol i benderfynu effeithiolrwydd gwariant cyhoeddus ar hybu’r Gymraeg ac i sicrhau nad ydyw’n mynd i gynnal un haen denau o’r gymdeithas, sy’n uchel ei chloch ac yn benderfynol o gadw’r iaith o fewn un diwylliant ac un cywair.  “Nid gwaith sianel deledu yw achub iaith” oedd un o ddatganiadau Owen ond arferai ychwanegu, “Ond os ydy hynny’n un o’r sgìl effeithiau, gorau oll.”  Mae’n bwysig gwybod fod y gwasanaethau yn cyrraedd  pob rhan o’r gymdeithas a phob un o’r diwylliannau, neu fydd dim sgìl effeithiau.

Mae darlledwyr eraill, yn cynnwys y BBC a Sky, yn gwneud gwaith diddorol ar fesur teyrngarwch ar hyn o bryd ac mi fyddai mynd i’r cyfeiriad yma yn llawer mwy defnyddiol i fesur effaith y cyfryngau ar y defnydd o’r Gymraeg.  Mae’r dewisiadau cywir o sut i fesur gwerth ac effeithiolrwydd y cyfryngau yn y Gymraeg yn gorfod digwydd nawr, ac mae angen addysgu ambell i newyddiadurwr, a hyd yn oed ambell i ddarlledwr a ddylai wybod yn well, fod y ffon fesur bresennol yn anaddas i’r pwrpas.  Ar y llaw arall, mae angen i bob cyfrwng Cymraeg i sylweddoli fod cychwyn ymgom (neu ‘engagement’) gyda phob haen o gymdeithas yn sgil soffistigedig iawn ac na ellir ei gyfyngu i gylch cysur pobol y pethe yn ddigon yng nghyfnod y Newid Mawr. Mae angen i’n trafodaeth fod yn ehangach na’r hyn a gawn yn y wasg Gymraeg neu mewn cyfarfodydd cyhoeddus, waeth pa mor anghysurus fyddai hynny ar adegau.

Rhaid i ni ddeall effaith y chwyldro ar ein cymdeithas dros yr hanner canrif diwethaf.

Ar ddechrau’r haf, dangoswyd cyfres fer o ffilmiau gan Adam Curtis ar BBC2, “All watched over by machines of loving Grace”.  Roedd yn ymchwilio’r syniad inni gael ein cytrefu gan y peiriannau rydym ni wedi eu creu.  Er nad ydym yn sylweddoli hynny, rydym yn gweld popeth yn y byd erbyn hyn trwy lygaid y cyfrifiadur.  Mae llawer yn credu fod y drefn naturiol fel peiriant statig a bod pobl yn ymddwyn fel olwynion yn y peiriant hwnnw.  Mewn oes sydd wedi ei dadrithio gan wleidyddiaeth, datblygodd y cysyniad mai cymdeithas iwtopaidd yw honno lle nad yw grym canolog neu hierarchaidd yn rheoli’r byd ond fod cymdeithas heb arweinwyr na gwladwriaethau ac mae Facebook a Twitter, yn awgrymu fod hyn yn bosibl.

Mae’n nodweddiadol o’r llwyfannau cyfathrebu yma eu bod yn tanseilio sefydliadau oherwydd eu bod yn dileu preifatrwydd.

Pam fod hyn yn berthnasol?  Mae’n rhaid cael y math yma o drafodaeth yn y Gymraeg wrth ystyried sut mae’n goroesi’r cyfnod nesaf.  Mae dyddiau’r  sloganau a’r ystrydebau drosodd.  Does dim amser i’w wastraffu ar fympwy  unigolion sy’n dweud mai’r hyn sydd ei angen ydy rhaglen dda – hynny yw, rhywbeth fydd yn fy siwtio chwaeth bersonol i ac na fydd yn achosi gormod o gwynion.  Mae’r darn nesaf o’r ffordd yn rhy galed ac yn rhy astrus i osgoi cael y drafodaeth sylfaenol am rôl y cyfryngau digidol yn nyfodol y cymunedau a’r diwylliannau Cymraeg.  Fel dwedodd Bill Shankly am bêl droed, dydy o ddim yn fywyd a marwolaeth, – mae’n bwysicach na hynny.

Mae hi wedi bod yn gyfnod gwael i sefydliadau – yn fanciau, llywodraethau, papurau newydd, capeli a darlledwyr. Un o nodweddion y chwyldro digidol yw ei bod yn amhosibl sicrhau cyfrinachedd bellach, ac mae’r rhan fwyaf o’r hen sefydliadau yn dibynnu ar  weithredu yn y dirgel a chynnal trefn hierarchaidd.  Yn y byd darlledu, mae’r pris i’w dalu am fethu neu wrthod addasu i her y dechnoleg yma yn uchel.  Bu bron i ITV ddiflannu dan arweiniad Charles Allen, tra bod y BBC, beth bynnag oedd eich barn am deyrnasiad John Burt, wedi llwyddo i ragweld beth fyddai’n angenrheidiol i ateb yr her.  Gwraidd y broblem yw mai defnydd pobl o’r dechnoleg sy’n newid y byd ac nid y dechnoleg ei hun ac mae methu dehongli’r newid yn gyfystyr a cholli dealltwriaeth o  ewyllys y bobl.

Mae chwilio am atebion yng nghyd-destun y chwyldro yr ydym yn ei ganol yn gyffrous tu hwnt.  Ond i fwynhau’r profiad, mae’n rhaid deall yr hyn sy’n digwydd.  Nid deall ‘polisi’ darlledu Prydeinig, neu bwysigrwydd y cyfryngau ond y broses yma sy’n  digwydd yn rhyngweithiol y tu allan i’r sefydliadau, rhwng pobl go iawn.

Dydw i ddim yn sôn am droi’r cyfathrebu yn fersiwn electronig o sgwrs yn y Goat yn Llandwrog yn yr wythdegau neu unrhyw sgwrs tafarn arall lle mae pobl ragfarnllyd efo lleisiau uchel yn hawlio llwyfan, a rhyw gylch bach o gant neu ddau o unigolion yn bwydo’u rhagfarnau eu hunain.  Dyna, ysywaeth, yw’r ymson Gymraeg ar Twitter yn rhy aml y dyddiau hyn ynghyd â llifeiriant o frawddegau corfforaethol gan y sefydliadau.  Dim byd yn goglais, dim byd yn agor trafodaeth gall; alla i ddim dychmygu hwn yn llwyfan i oroesi unrhyw fath o chwyldro.   Roedd llygedyn o obaith y gallai fod yn wahanol yn ddiweddar wrth ddilyn y trydar o gwmpas Cariad@iaith.  Yn lle bod y darlledwr yn rheoli, roedd y selebs eu hunain yn trydar a phob un a’i ddilynwyr yn ail- drydar a rheini’n ail- drydar ac yn y blaen; yn gyflym iawn roedd ymson gadarnhaol am S4C a dysgu Cymraeg, yn Gymraeg a Saesneg, yn hedfan o gwmpas.  Nid penderfyniad y sefydliad gychwynnodd hyn ond gweithred y bobl. Mae Twitter ar hyn o bryd yn un o’r arfau mwyaf pwerus ar y ddaear i newid ffordd o feddwl cymunedau a chenhedloedd

Gofynnwch i chi eich hunain a fyddai creisis  ymherodraeth Murdoch wedi digwydd chwarter canrif yn ôl.  Un ateb y tro hwn a Na! ydy hwnnw.  Doedd yna ddim ffônau i’w hacio i ddechrau, ac mi fyddai’r sefydliad wedi cau’r hatsus a dibynnu nad yw cŵn y wasg yn bwyta’i gilydd.  Erbyn hyn mae cyfathrebu’n digwydd y tu allan i ffiniau ei ymherodraeth ac ar waethaf yr holl rym a’r cyfoeth, doedd dim modd rheoli’r stori.  Aberthu i’r bobl wnaeth News Corp.  Y News of the World i ddechrau, Coulson wedyn. Rebekah ar ôl hynny, cyn cyrraedd at y teulu.  Pwy a beth nesa’, ‘sgwn i?

Dyna’r pwynt am sefydliadau.  Pobl yn gweithredu mewn ffyrdd arbennig sy’n symud y sefydliad yn ei flaen ond, yn yr hen ddyddiau, os oedd pobl yn gwneud moch o bethau, mi fyddai’r sefydliad yn cau’r drysau ac yn rhoi pethau mewn trefn y tu ôl i ddrysau caeedig cyn bod y byd wedi sylweddoli. Yn yr hinsawdd presennol, mae’r cyfan yn digwydd yn gyhoeddus ac ar garlam oherwydd fod yn rhwydwaith o gysylltiadau.  Roedd gweithred Rupert Murdoch yn aberthu sefydliad 168 o flynyddoedd oed, dylanwadol a rhyfeddol o llwyddiannus yn ariannol, er mwyn diogelu’r ymherodraeth fawr fyd-eang, yn dweud y cyfan am bwysigrwydd sefydliadau yn ein dyddiau ni.  Un y cant o’i ymherodraeth o oedd y News of the World, mi fyddai wedi bod yn werth y pris, pe bai wedi llwyddo i brynu’r cyfan o BSkyB. Mae oes papurau newydd yn dirwyn i ben yn erbyn cystadleuaeth y we a newyddion bedair awr ar hugain y dydd ar deledu.

Cyn gadael y News of the World, mae’n werth sylwi fod y rhifyn olaf wedi denu dros 8 miliwn o ddarllenwyr.  Yn ôl yr ystadegau roedd ychydig dros bump y cant o’r rheini yng Nghymru, ac mae’n deg amcangyfrif fod ugain y cant o’r rheini’n siarad Cymraeg, hynny yw tua 80 mil.  Mwy na fu mewn capel yng Nghymru ar Orffennaf  11eg; mwy nag a ddarllenodd gopi o Golwg drwy’r haf, hanner y nifer sy’n gwrando ar Radio Cymru mewn wythnos a mwy nag sy’n gwylio S4C ar unrhyw noson.  Mae’n debygol, hefyd, fod cyfran helaeth o’r 80 mil yn perthyn i ddiwylliannau nad yw’n sefydliadau traddodiadol byth yn cyffwrdd a nhw.

Mae pob sefydliad mewn perygl os ydyw’n gweithredu y tu hwnt i’w werthoedd craidd.  Nid y mentro sy’n beryglus ond pa mor bell o’r gwerthoedd craidd mae’r sefydliad yn symud.  Dyna ddigwyddodd i Enron ac Arthur Anderson, dyna ddigwyddodd i’r banciau a dyna ddigwyddodd yn News International.  Dylai bob asesiad  risg i sefydliad cyhoeddus gychwyn a gorffen gyda gwerthoedd craidd y sefydliad hwnnw ac os yw’r fenter y tu allan i’r gwerthoedd hynny ni ddylid ymgymryd â hi.

Mae angen adnabod yr hyn sy’n digwydd i gael y wybodaeth angenrheidiol i’w lwytho yn ein sat nav diwylliannol.  Fel mae’r hen weddi yn ei ddweud, “Duw, dyro i ni’r gras i dderbyn yn siriol y pethau na ellir eu newid, y dewrder i newid y pethau y dylid eu newid, a’r Doethineb i wahaniaethu y naill oddi wrth y llall.”  Hanfod yr hyn sydd wedi digwydd dros y trigain mlynedd diwethaf yw fod unigolion wedi mabwysiadu’r dechnoleg ddigidol a’i throi’n llwyfan cyfathrebu a chymdeithasu.  Roedd yn amlwg fod hyn yn mynd i ddigwydd yng nghanol y nawdegau ond,  am wahanol resymau, llugoer fu ymateb y gyfundrefn  Gymraeg  a’i sefydliadau allweddol.  Wnaeth neb luchio’i hunain i mewn i’r dyfodol digidol yn llwyr a rhyw chwarae gydag o ar yr ymylon fu’n hanes.  Mae’n werth nodi fod y Facebook Cymraeg wedi ei greu heb unrhyw benderfyniad oddi uchod, nac unrhyw arian cyhoeddus; mewn ychydig fisoedd daeth yr holl lwyfan yn rhugl yn y Gymraeg oherwydd dygnwch ac ewyllys cymuned o wirfoddolwyr oedd yn rhannu’r un nod ac yn gwybod sut i’w chyrraedd.

Erbyn hyn mae gennym genhedlaeth ddigidol sydd ddim yn gwybod beth oedd analog.  Pe bai’n sefydliadau, ac rwy’n cynnwys Y Cynulliad, Bwrdd yr Iaith, y Cyngor Llyfrau, S4C, Radio Cymru, Golwg a’r byd addysg, wedi sylweddoli beth oedd y newid yn ei hanfod a pha mor gyflym roedd o’n digwydd, fe allai pethau fod yn wahanol.  Ein hesgus dros beidio dehongli’r newid yn iawn oedd bod daearyddiaeth Cymru yn arafu dyfodiad band llydan, felly rhaid oedd creu gwefannau analog costus hollol gorfforaethol fyddai’n gweithio ar y cyflymder isaf.  Doedd yna ddim brand nac arddull Gymraeg nac arloesi.  Pan ddaeth dyddiau’r aps fe lwyddodd rhai o’r cwmnïau  digidol newydd fel FiaFo a Cube i greu cornel fach i ni yn y byd newydd, ond fel cymuned Gymraeg wnaethom ni ddim yn agos at ddeall y byd digidol. Ac os ydyn ni’n credu fod y newid yn gyflym rhwng 1998 a 2008, roedd fel llwybr malwen o’i gymharu a’r hyn fydd wedi digwydd erbyn 2018.

Mae yna waith diddorol a phell gyrhaeddol yn cael ei wneud gan bobl fel Rhodri ap Dyfrig a Carl Morris drwy Hacio’r Iaith ac, os ceir gweledigaeth gyfansawdd, dylai gynorthwyo’r sefydliadau i ddeall beth sy’n digwydd.  Ond i ddeall, rhaid gwrando ac nid yw hynny’n un o rinweddau sefydliad. Ymylol yw’r newid yng ngwleidyddiaeth ein sefydliadau a thalu gwrogaeth symbolaidd sy’n digwydd ar hyn o bryd.

Mae cydgyfeiriant y dechnoleg wedi dod i’w oed ac mae’r cynnwys oedd gynt ar gyfrifiaduron ac wedyn ar ffonau smart yn cyrraedd y set deledu.  Os ydych chi wedi prynu set deledu newydd yn ystod y chwech mis diwethaf, neu’n bwriadu gwneud hynny yn y dyfodol agos, cofiwch yn ôl Deddf Moore mae nhw’n mynd yn rhatach a mwy pwerus bob dydd, ac os oes gennych fand eang yn y tŷ, mi fyddwch yn rhoi cebl ethernet yn y cefn, ynghyd ag erial ac mae You Tube, Iplayer y BBC ac ambell i wefan gynnwys arall ar y remote control, a Clic i’w gael wrth bwyso’r botymau. Eich dewis chi yw beth ydych chi’n ei wylio bellach a phryd a sut.  Mae Sky newydd ryddhau ap i’w danysgrifwyr i wylio’r rhaglenni chwaraeon a ffilmiau ar eu ffôn neu Ipad.  Felly, peidiwn ag aros yn rhy hir.  Mae YouTube, rhan o ymherodraeth fyd-eang Google, yn gyfundrefn ddarlledu sy’n cael ei rheoli gan gynhyrchwyr y cynnwys a’r gwyliwr/ddefnyddiwr.  Does yna ddim sefydliad yn y canol ac nid yw dosbarthu’r cynnwys yn costio dim i’r naill na’r llall ac y mae digon o gynnwys Cymraeg ar YouTube sy’n osgoi’r gyfundrefn ddarlledu swyddogol.  Mae YouTube yn cynnig ugain awr o gynnwys newydd bob munud o’r dydd yn rhad ac am ddim.

Dyma fydd cefndir y ddeddf gyfathrebu newydd ymhen rhyw bum mlynedd. Bydd yn diffinio natur y diwydiant am weddill y degawd a thu hwnt.  Mi fydd dyfodol S4C, yn dilyn adolygiad annibynnol, yn cael ei benderfynu yn y ddeddf honno fel y bydd darlledu cyhoeddus yn gyffredinol.  Yn dilyn honno mi fydd trafodaeth am Siarter newydd i’r BBC.  Faint o reoleiddio fydd yn bosibl erbyn hynny.  Fydd yna le i Ofcom ac Ymddiriedolaeth y BBC?  Tra’n bod ni yn sefyll ar y groesffordd yma heddiw, mae’r rhai sy’n prynu set deledu newydd yn edrych ar raglenni drwy’r erial ( wedi eu rheoleiddio), drwy flwch Sky (wedi eu rheoleiddio) ac o’r rhyngrwyd sydd ddim wedi ei reoleiddio.  O bwyso’r botwm rhyngrwyd, mi allwch chi wylio rhaglenni o’r we sydd heb eu rheoleiddio o gwbl.  Yr un set deledu, yr un stafell, yr un gwyliwr a chynnwys gwahanol iawn.

Heb greadigrwydd arloesol, dychymyg ac ymddiriedaeth yn ein pobl greadigol mi fyddwn ni mewn lle anghysurus iawn erbyn diwedd y degawd.  Hanfod creadigrwydd ydy hawl i fethu a phrofiad i allu newid.  Mae o fel colli’r set gyntaf o dair mewn gem tenis ac ennill y ddwy olaf neu fynd ar ei hôl hi o ddwy gôl mewn gem bêl-droed, sgorio tair ac ennill y gêm.  Does yna ddim creadigrwydd ar sail barn y mwyafrif neu ddilyn y ffasiwn.  Rhaid cychwyn gyda’r dychymyg creadigol i roi rhywbeth i’r gynulleidfa i ymateb iddo, wedyn mae cynulleidfa’n ymateb. Mae’r dechnoleg ddigidol, fel y soniais yn gynharach, yn mynd i roi gwybod beth yw’r ymateb hwnnw, ond godidowgrwydd gwasanaeth cyhoeddus yw ei fod yn rhoi cyfle i gyfresi aeddfedu.  Dyma lle daw sgiliau golygyddol y darlledwr a’r cynhyrchydd i’r hafaliad.  Mae angen amynedd, doethineb, dewrder, gostyngeiddrwydd a gweledigaeth glir i sicrhau nad yw creadigrwydd yn cael ei aberthu’n ddifeddwl.

Mae angen sefydliad hyderus i arwain cynulleidfa.  Nid yw gwasanaethu yr un peth a bod yn wasaidd. Mewn cyfnod lle mae yna sianeli i bob chwaeth, mae ceisio plesio pawb yn sicr o siomi’r mwyafrif.  Mae’r cymunedau a’r diwylliannau Cymraeg mor wahanol erbyn hyn nid oes dewis ond defnyddio’r cyllid i greu cynnwys fydd yn adlewyrchu pob twll a chornel yn y gymdeithas a gwasanaethu trwy arwain chwaeth yn ddewr ac amrywiol.  Dyna yw creadigrwydd.  Wedyn daw’r mesur a phwyso.  Mae hynny’n gyfuniad o farn, rhagfarn ac unplygrwydd creadigol.

Mae’r drafodaeth ar ddyfodol S4C dros y misoedd diwethaf wedi troi o gwmpas un gair – Annibyniaeth.  Gair o’r lecsicon gwleidyddol ydy hwn a dydy o ddim yn eistedd yn gyfforddus yn lecsicon y cyfryngau.  Yn ei hanfod mae darlledu’n ddibynnol ar nifer o gyfundrefnau ac amgylchiadau – cynhyrchwyr cynnwys, cynhyrchwyr offer, gweithredwyr lloerennau, trosglwyddyddion, trefnwyr digwyddiadau, hysbysebwyr a’r gwylwyr.  Mae galw am annibyniaeth i ddarlledwr fel rhoi llwyth o arian i blentyn yn y ffair. Yn hwyr neu hwyrach mi fydd yn colli cysylltiad gyda realiti’r byd go iawn.  Dwi ddim am ymddiheuro am dreulio amser yn ymdrin a geiriau.  Mae dewis y gair anghywir yn creu ansicrwydd.

Y gair allweddol yn lecsicon y cyfryngau ydy Rhyddid.  Rhyddid i alluogi creadigrwydd, a rhyddid i benderfynu cydbwysedd gwariant rhwng gwahanol gynnwys a dulliau dosbarthu.  Gair awdurdodol ac anhyblyg ydy annibyniaeth.  Mae iddo ystyron gwahanol i wahanol garfannau ac, os oes rhaid ei ddiffinio, rhaid bod yn fanwl iawn am ei nodweddion.  Mae’r diffiniad hwnnw’n creu cyflwr statig.  Ond mae rhyddid yn gyflwr sy’n newid ac addasu’n gyson i wahanol amgylchiadau.  Y gwrthwyneb yw caethiwed – boed hynny i’r gorffennol, neu hen syniadaeth, neu i gyfundrefn arall, neu i dechnoleg, neu i wleidyddiaeth y dydd.  Mae’r Gwanwyn Arabaidd wedi dangos i’r byd fod modd bod yn annibynnol ac yn gaeth yr un pryd yn y byd digidol.

Nid yw sefydliad annibynnol yn unrhyw warant o ryddid creadigol.  Blaenoriaeth sefydliadau yw goroesi fel sefydliad a chreu naratif sy’n sicrhau hynny.  Blaenoriaeth creadigrwydd yw creu a rhannu a gadael i amser benderfynu pa mor hir yw hoedl y greadigaeth.

Un o benderfyniadau diffiniol cynharaf Awdurdod S4C oedd penderfynu mai strwythur cyhoeddi ac nid cynhyrchu fyddai i’r sefydliad newydd. Fel Channel 4, ni fyddai’r darlledwr newydd yn cynhyrchu ei raglenni ei hun.  Ar sail hynny y daeth amrywiaeth o ffynonellau i fod ac, yn achos S4C, ymestyn y mewnbwn golygyddol ar draws Cymru.  Does dim pwynt cael nifer o ffynonellau os oes rhywun yn y canol yn tra arglwyddiaethu dros y cynnyrch cyn dechrau.  Mae hynny’n dileu plwraliaeth a chaethiwo creadigrwydd yr un pryd.

Mae galluogi a chefnogi creadigrwydd mewn system gyhoeddi yn hollol wahanol i’r drefn hierarchaidd o reoli cynhyrchu.  Dwi ddim yn credu fod y BBC nac ITV wedi deall yn iawn sut mae’n gweithio, hyd heddiw.  Rhaid i’r corff sy’n ariannu a chomisiynu weld y darlun mawr yn hollol glir a chyflwyno hwnnw i’r sector greadigol.  Bydd y ddeialog sy’n dilyn yn seiliedig ar ymddiriedaeth fod cwmni a’r gallu i ymateb i’r darlun mawr a bydd y broses greadigol yn digwydd.  Nid lle’r cyhoeddwr yw micro-reoli’r cynhyrchiad na’r busnes o gynhyrchu.  Mae sector gynhyrchu aeddfed gyda gwahanol faintioli a mathau o gwmnïau ledled Cymru, i wireddu’r darlun mawr.

Mae’r Cyngor Llyfrau yn enghraifft amlwg o sefydliad sy’n gweithredu’r un system.  Gosod y blaenoriaethau, sicrhau safon a gweithredu trefn ddosbarthu mae’r Cyngor Llyfrau, tra bod yr awduron a’r gweisg yn gwneud y gwaith creadigol.  Dyna’n hollol syml, yw gwaith y darlledwr cyhoeddus yng Nghymru.  Dim manylu, dim rheoli, dim “command and control”.  Galluogi.  Does dim ffordd arall yn gynaliadwy.  Mae’r creadigrwydd yn ddibynnol ar bartneriaeth effeithiol gyda chynhyrchwyr.  Mae’r cwestiwn o faint y cwmni yn amherthnasol, er fod rhai wedi ceisio creu rhyw ddirgelwch a myth o gwmpas y syniad hwnnw.

Dydy llawer o gwmnïau bach ac ychydig o gwmnïau mawr yn gwneud dim gwahaniaeth i greadigrwydd cynhyrchydd unigol.  Mae’n well gan rai weithio ar eu pennau eu hunain, tra bod eraill yn fwy creadigol mewn cyflogaeth mwy sefydlog mewn strwythur sy’n edrych ar ôl y materion gweinyddol a rheolaeth – cyflogau, treth, treth ar werth, cytundebau ac yn y blaen er mwyn cael y rhyddid i ganolbwyntio ar y cynnwys.  Mae cwmnïau cynhyrchu bychan yn gallu ymgymryd a phrosiectau llai ond mae angen strwythurau busnes i gynnal cyfresi hir ac amrywiaeth genres a chynnig prisiau is.  Mae cwmnïau mawr yn fwy tebygol o gyfrannu at yr economi drwy gyflogaeth a rhoi sefydlogrwydd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad talentau creadigol.  Pobol sydd ddim yn deall creadigrwydd sydd wedi creu’r myth fod yna wahaniaeth ideolegol rhwng cwmni bach a chwmni mawr.  Eleni mae rhai wedi ceisio manteisio ar wendid y sefydliad i greu y myth. Y gwirionedd yw fod angen y ddau fath i gynnal ecoleg cynhyrchu amrywiol ac fel sy’n digwydd yn ecoleg byd natur, mae’r sefyllfa’n newid yn gyson.  Camgymeriad mawr yw credu y byddai ymgais i reoli’r ecoleg yn cyfrannu gwerth ychwanegol i’r gwasanaeth, ond fe allai gael effaith negyddol ar rai cannoedd o weithwyr, ar yr economi ac ar gyrhaeddiad y gwasanaeth yn y pen draw.

Mae’n werth cofio mai datblygiad organig oedd y sector annibynnol o’r cychwyn.  Unigolion creadigol yn penderfynu gadael caethiwed cyfundrefnau darlledu ac yn datblygu yn ôl eu gweledigaeth, yn creu partneriaethau newydd a gwahanol. Oedd, yr oedd yna dipyn o gynllunio cymdeithasol ac yr oedd ambell i blanhigyn angen mwy o ofal  ond o’r cyfundrefnau y daeth y cynhyrchwyr ar y cychwyn ac ar yr ail don ar ddiwedd yr wythdegau pan ddechreuodd HTV ddadfeilio.  Ond roedd y cyfan yn broses organig fel, yn wir, sydd wedi digwydd gyda’r partneriaethau ddaeth at ei gilydd yn y blynyddoedd diwethaf i greu unedau economaidd cryfach a mwy effeithiol.  Camgymeriad mawr fyddai ceisio rheoli trefn naturiol yn yr ecoleg yma.  Mae gan y sefydliad canolog bethau pwysicach i’w gwneud.

Mae i ddarlledu cyhoeddus ei egwyddorion sylfaenol; gostyngeiddrwydd, gonestrwydd, tryloywder a pharch at gynulleidfa. Mae’r egwyddorion hyn yn berthnasol i bob gwasanaeth cyhoeddus a dweud y gwir, sut bynnag mae’r gwasanaeth yn cael ei ariannu a’i ddefnyddio.  Yn achos y BBC ac S4C mae yna gylch cyflawn rhwng y cyllid a’r gwasanaeth tra bod y cysylltiad yn llai uniongyrchol yn achos ITV a Channel 4 ond yr un yw’r egwyddorion.  Mae’r dechnoleg ddigidol yn sicrhau fod gan bawb yr hawl i ddarlledu; dyna yw’r we – llwyfan i bob creadur ar y ddaear i ddweud ei ddweud ac mae’r dewis gan bawb i wrando, gwylio neu anwybyddu.  Yn y penrhyddid hwn mae problemau hollol newydd yn codi gan fod natur y we ers pan ei crëwyd yn hollol rydd, a’r pris i’w dalu am hynny yw colli preifatrwydd.  Dyna’r hafaliad a beth bynnag yw dymuniad unigolion a gwladwriaethau, nid oes modd newid hwn.  Dyma’r ddemocratiaeth buraf.  Fel byddai’r Groegiaid yn ei ddweud: Nicodemos! – buddugoliaeth y bobl.  Nid hwn yw byd y darlledwr cyhoeddus, ond all y darlledwr cyhoeddus ddim ymddieithrio ohono chwaith. Dyma lle mae’r egwyddorion yn bwysig.  Rhaid i’r darlledwr cyhoeddus rannu’r un llwyfannau a sefyll allan ynghanol y dryswch;  yr egwyddorion sylfaenol fydd yn nodweddu’r brand beth bynnag fo’r cynnwys.

Fe gollwyd golwg ar yr egwyddorion pan ddechreuodd y chwyldro ddylanwadu ar ddarlledu yn yr wythdegau.  Bryd hynny, cyfnod Margaret Thatcher, derbyniwyd y cysyniad fod cystadleuaeth yn sicrhau safon a bod “moesoldeb y farchnad”, fel y’i galwyd gan yr Arglwydd Brian Griffiths o Fforest-fach, un o gynghorwyr economaidd y Prif Weinidog, yn sicrhau tegwch a rhyddid o ormes y wladwriaeth.  Fe newidiodd natur y diwydiant bryd hynny.  Roedd yn rhaid i’r darlledwyr cyhoeddus masnachol gystadlu gyda’i gilydd a her ffordd newydd o ddarlledu drwy loeren a chynlluniau busnes hollol wahanol oedd yn seiliedig ar danysgrifio a bwndelu sianeli. Roedd gan y darlledwyr traddodiadol gystadleuaeth amhosibl.  Daeth ‘spin’ yn bwysicach na’r sylwedd gan mai cadw tanysgrifwyr oedd nod y gyfundrefn newydd ac er na fydden nhw byth yn gallu cystadlu gyda’r darlledwyr traddodiadol am y niferoedd, os oedden nhw’n gallu cadw’r tanysgrifwyr, roedden nhw’n gallu prynu hawliau ar gyfer ffilmiau, cyfresi Americanaidd llwyddiannus a chwaraeon.  Fel y gwelsom yr wythnos diwethaf mae’n creu elw sylweddol iawn.  Dyma oedd yn diffinio llwyddiant bellach ac yr oedd pawb yn anghofio am egwyddorion sylfaenol yr hen ddarlledwyr cyhoeddus. Roedd “pay-tv” yn gallu bod mor elitaidd a chyfyng ag y dymunai os oedd yn ennill a chadw tanysgrifwyr.  A dros nos, bron, edwinodd yr hen gyfundrefn fasnachol a gadael y BBC i chwifio baner cyffredinolrwydd (universality) a gwasanaeth rhad ac am ddim ar y pwynt derbyn.

Roedd S4C mewn perygl o fynd ar goll y tu hwnt i’r ymylon ynghanol y rhan yma o’r chwyldro.  Roedd darlledu digidol yn dod yn nes, ac fe wnaeth Huw Jones ac Awdurdod S4C benderfyniad doeth a blaengar yn 1997 i sicrhau na fyddai’r Gymraeg yn cael ei boddi yn nwndwr aml sianelau y byd digidol.  Aeth S4C i ganol y frwydr gyda phartneriaid masnachol cryf a phrynu rhan o’r sbectrwm digidol a rhedeg un o’r plethiadau digidol newydd.  Er i lawer o Gymry, oedd ddim yn deall arwyddocâd y chwyldro digidol, feirniadu menter y penderfyniad hwnnw, rydw i’n hollol argyhoeddedig na fyddai S4C yn bodoli fel gwasanaeth teledu ‘annibynnol’ heddiw pe na bai wedi cymryd y cam hwnnw.  Erbyn hyn, mae cronfa sylweddol o arian masnachol wrth gefn gan S4C wedi gwerthu ei rhan o’r sbectrwm i ITV.

Mae’r dechnoleg ddigidol wedi creu cwmnïau byd eang, cyfoethog iawn mewn amser byr.

Fe glywsom yr wythnos diwethaf fod gan gwmni Apple fwy o arian parod i’w wario na llywodraeth yr Unol Daleithiau – dros 74 biliwn o ddoleri.  Dyna fydd yn diffinio’r math o gymdeithas fydd yn cael ei chreu gan y dechnoleg ddigidol dros y blynyddoedd nesaf. Mae yna sôn am brynu Barnes and Noble, y dosbarthwyr llyfrau, a Netfflix, dosbarthwyr ffilmiau.  Y llynedd fe fuddsoddon nhw filiynau o ddoleri mewn partneriaeth gyda’u cystadleuwyr pennaf – Microsoft – i brynu patentau defnyddiol gan gwmnïau o Ganada.  Does neb yn siŵr beth fydd y cam nesaf, ond yn ôl trefn arferol Apple pan ddaw’r cyhoeddiad, mi fydd yn creu cyffro mawr ac yn dylanwadu ar ein ffordd o fyw.

Mae’n debygol mai yn maes rhwydweithiau cymdeithasol y bydd y newid mawr.  Mae Google, sydd hefyd ag arian mawr wrth gefn, wedi lansio fersiwn beta o Google+, sy’n mynd yn syth i’r maes y mae Facebook wedi ei reoli ers chwe mlynedd.  Ond mae gwasanaeth rhannu fideo Google, Hangout, wedi derbyn canmoliaeth fawr gan ei fod yn caniatáu i ddeg o bobl gysylltu gyda’i gilydd yr un pryd.  Mae hyn yn her i Facebook, gyda’i saith gant a hanner o filiynau o ddefnyddwyr, gan eu bod newydd brynu Skype.  Ar hyn o bryd dim ond dau fydd yn gallu cysylltu ar fideo gyda’i gilydd yn fyw ar yr un pryd ar Facebook.  Ond yn ystod y misoedd nesaf mi fydd hynny’n cynyddu. Mae unrhyw un sydd wedi defnyddio Skype i sgwrsio am ddim gyda’r teulu ymhell i ffwrdd yn deall sut mae hynny’n newid bywydau pobl a nawr, fe allwch ei wneud ar y teledu!

Mae defnyddwyr Facebook erbyn hyn yn treulio dwywaith yr amser ar y wefan ag oedden nhw flwyddyn yn ôl ac yn rhannu pedair biliwn o eitemau, yn lluniau a nodiadau bob dydd.

Rydan ni’r Cymry’n gwneud defnydd helaeth o Facebook i rannu profiadau’r funud, boed nhw ar ffon, neu gyfrifiadur.  Ond rydan ni hefyd yn hoff iawn o Google ac y ystyried ei ddefnyddio fel prif gyfieithydd gweithgareddau’r cynulliad yn ôl pob hanes.  Cam yn rhy bell, efallai, gan mai dysgwr cyflym ydy Google a thrafodaethau’r cynulliad oedd ei athro. Beth bynnag, brwydr am deyrngarwch dros y misoedd nesaf rhwng y ddau fydd un o’r pethau fydd yn cael effaith ar sefyllfa’r Gymraeg yng Nghymru ymhen deng mlynedd. Rydan ni hefyd yn poblogi rhwydweithiau proffesiynol fel Linkedin.  Mi fydd y gwahanol ddiwylliannau Cymraeg yn defnyddio’r rhwydweithiau hyn i rannu cynnwys personol a chyhoeddus.  Mae angen gweledigaeth glir i weld sut mae modd harnesu’r defnydd rhwydweithiau hyn i gynnal a hyrwyddo’n diwylliannau yn effeithiol.  Mae’n werth cofio mai yn 2005 y sefydlwyd Facebook ac mae wedi denu 750 miliwn – bron i deirgwaith poblogaeth Ewrop – i ymuno erbyn hyn.

Y 2006 y sefydlwyd Twitter, ac er nad ydyn ni fel Cymru yn trydar llawer o’i gymharu a’n defnydd o Facebook, mae 65 miliwn y dydd o negeseuon hyd at 140  llythyren yn cael eu gyrru bob dydd, ac 800 mil o ymholiadau.  Pa bynnag lwyfan fydd yn ennill y dydd, neu pa bynnag lwyfan newydd ddaw i’r amlwg, rhwydweithiau cymdeithasol ar gyfer ffrindiau a theulu, diwylliannau, cymdeithasau a chymunedau o bob math fydd yn gyrru’r newid mawr dros y blynyddoedd nesaf.  Yr wythnos yma fe  welwyd buddsoddwyr yn rhoi gwerth o 8 biliwn o ddoleri ar Twitter, er nad ydyw’r cwmni yn agos at wneud elw hyd yn hyn.

Mi fydd cwmnïau’n mynd a dod, ond fydd yna ddim bybl yn byrstio’r tro hwn fel y digwyddodd ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf.  Y rhai llwyddiannus fydd y rhai sy’n gallu creu incwm o’r llwyfan.  Mae Twitter yn defnyddio mesur “levels of engagement”, i asesu ei ddefnyddioldeb i’r defnyddiwr a’r hysbysebwyr.  Mae yna wers yna, efallai.

Roedd yna gwmni arall yn y busnes yma yn 2004, flwyddyn cyn Facebook.  Yr enw oedd MySpace.  Mae yna wers i’w dysgu fan hyn, hefyd.  Wedi dechrau llwyddiannus, fe’i prynwyd gan News Corp, Behemoth y byd analog a chwmni Rupert Murdoch.  Fe dalodd $580 miliwn amdano yn 2005 ac fe’i gwerthodd eleni am $35miliwn.  Dydy’r hen fyd analog ddim yn deall y byd digidol, ac mae’n bwysig nad ydyn ni yng Nghymru yn syrthio i’r trap o gynnal unrhyw fenter analog ei meddylfryd.

Yn 1965, ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth, fe gyflwynodd Hywel Davies – pennaeth rhaglenni’r BBC yng Nghymru ddarlith radio yn Llundain. Roedd yna frwydr rhwng y canol a’r rhanbarthau am gyllid digonol a rhyddid golygyddol o fewn y BBC ar y pryd.  Teitl ei ddarlith oedd “What is Welshness”  ac wedi disgrifio Cymreictod i’w gynulleidfa digon Seisnig oedd yn dangos ein bod yn wahanol iddyn nhw, aeth ati i ddiffinio beth oedd y BBC yn ei olygu i Gymru.  Y BBC, meddai, yw’r theatr genedlaethol, y Neuadd Gyngerdd, y Tŷ Opera a’r senedd.  Mae clip o’r ddarlith ar y we yn archif y BBC ac mae’n bleser pur i wrando ar ei lais melfedaidd yn cloi’r ddarlith.   Mewn llai na hanner canrif mae’r dadleuon yna i gyd dros ddarlledwr cyhoeddus wedi diflannu.  Mae’r sefydliadau yno.  Ond dwi ddim yn siŵr os oes gennym ddiffiniad newydd o beth yw darlledwr cyhoeddus, y BBC neu S4C, ynghanol y newid yma.  All y darlledwr  ddim perchnogi’r lle canol ar yr un sail bellach.  Ond rhywsut neu’i gilydd, mae’n rhaid iddo fod yn y canol i allu cyrraedd at bawb.  Neu a oes rhaid iddo?

Mae’n bryd i ni gymryd naid fel cenedl ac osgoi cael ein llusgo’n ddiymadferth i ganol y newid.  Yng Nghymru fe ddylid datgysylltu’r elfen ddosbarthu mae sefydliad S4C yn gyfrifol amdano a’r sector gynhyrchu.  Busnes a diwydiant yw cynhyrchu ac mae angen iddo fodoli fel busnes go iawn.  Dylai’r Cynulliad Cenedlaethol afael yn yr awenau a chymryd gorolwg strategol dros y gwasanaethau Cymraeg, o leiaf, os nad y rhai Saesneg hefyd.  Ond yn sicr, yn y Gymraeg dylai’r holl sefydliadau rannu’r un weledigaeth a blaenoriaethu’r gwasanaethau ar sail ymestyn teulu’r Gymraeg i gynnwys pob cymuned a chymdeithas a diwylliant sy’n fodlon ei defnyddio.  Dyma’r unig ffordd i oroesi yng nghyfnod y Newid Mawr.

Hanfod cyfathrebu yn yr oes ddigidol ydyw’r ymgom sy’n digwydd rhwng yr un sy’n creu a’r un sy’n defnyddio.  Mae ymgom yn broses ddwy ffordd ac mae rôl y crëwr a’r defnyddiwr yn gallu newid yn ôl ac ymlaen wrth i’r ymgom ddigwydd.  Mae’r genhedlaeth ddigidol yn deall hyn, dyma yw eu chwarae a’u haddysg. Y sefydliadau sy’n ei chael yn anodd i rannu yn y ffordd newydd gan eu bod yn dal i weld y gynulleidfa fel torf i’w hannerch a’i pherswadio. Ond mae oes y megaffon yn dirwyn i ben a dyna, mae’n debyg yw natur y Newid Mawr. Fe allwn gysuro’n hunain drwy ddweud, nid yn fy nyddiau i neu rhywbeth i’r genhedlaeth nesaf ydy hyn. Nid dyna fel bydd hi. Os nad yw’r ymgom yn digwydd ac os nad yw’r Gymraeg yn cael ei pherchnogi gan y gymdeithas eang, mi fydd y cyfan a gyflawnwyd dros yr hanner canrif ddiwethaf yn ofer. Mae cychwyn yr ymgom yn fater o frys ond nid tan i ni gael y weledigaeth genedlaethol y byddwn i gyd yn gallu ei rhannu a’i gweithredu. Does yna ddim amser i’w wastraffu ar ymgecru sefydliadol nac i ofyn pwy sydd flaenaf.  Mae pawb yn gyfartal yn yr ymgom hon yn ei holl amrywiaeth ac fel y dywedais yn gynharach, does yna ddim un ateb cywir.  Rhes o gwestiynau yw’r weledigaeth hon, ac mi fydd gwahanol atebion am mai ymgom ydy hi.

Nid yn y newid mawr mae nghartref naturiol i. Rydw i’n dod o fan arall – roeddwn i’n ddeg oed cyn gweld set deledu am y tro cyntaf! Rydw i o’r genhedlaeth sydd wastad yn edrych yn ôl ac yn dweud i ni fwynhau oes aur darlledu; cenhedlaeth sy’n methu credu pa mor lwcus oedden ni yn cael bod yn rhan o’r fath gyffro a hwyl.  Ond rydan ni wedi dal at bethau’n rhy hir a rhaid i ni dderbyn na ddaw neb a ddoe’n ôl.  Mae pethau’n wahanol yn yr yfory newydd ac mae angen inni dderbyn fod meddylfryd a sgiliau gwahanol i ddarlledu cyhoeddus hefyd.  Rydw i wedi penderfynu gwneud fy ngorau i fwynhau cyffro a hwyl y Newid Mawr.

Nid cynulleidfa sydd allan yna bellach ond rhan-ddeiliaid ac mae gan bob un ei ddisgwyliadau a’i ddyheadau o ddarlledu cyhoeddus.  Efallai, fod y canol wedi mynd, wedi methu dal y cyfan at ei gilydd a bod rhaid wrth athroniaeth hollol newydd ar gyfer ein gwleidyddiaeth, ein gweithgaredd dros yr iaith a’n perthynas gyda’r aml ddiwylliannau gwasgaredig. Efallai, mai dyna fydd y Newid Mawr.  Un peth sy’n sicr, rhaid i ni weithredu yn y byd go iawn a pheidio creu ffantasi o naratif drwy  anwybyddu realiti ac osgoi tryloywder a thrylwyredd.  Mae yn ein DNA, er gwell neu er gwaeth, i gynnal y myth yn hytrach na wynebu gwirioneddau annymunol. Ond mae hi yn werth cofio nad oes neb yn ymestyn ei einioes wrth anwybyddu pris eirch!

Euryn Ogwen Williams was S4C’s Director of Programmes in the channel’s first decade

Also within Politics and Policy