Darlith yr Eisteddfod Sefydliad Materion Cymreig – Arian Ewrop — ai diwylliant dibyniaeth diweddaraf Cymru?

Darlith yr Eisteddfod Sefydliad Materion Cymreig – Arian Ewrop — ai diwylliant dibyniaeth diweddaraf Cymru?

Darlith IWA

Cyflwyniad

Dyma fy nhrydedd ymddangosiad mewn gwahanol gyfarfodydd yn ystod yr Eisteddfod arbennig hon ac hyd yma ymddengys fod pob ymddangosiad o’r fath wedi ymwneud a fy safbwyntiau ynghylch materion Ewropeaidd boed hynny’n banel hawl i holi ym mhabell Undeb Amaethwyr Cymru neu’n ddarlith flynyddol ‘chydig yn esoteric ar gyfer Cylchgrawn Barn yn trafod ‘Diwedd aelodaeth Cymru o’r Undeb Ewropeaidd – Y Gwersi o Awstria-Hwngari’

O ystyried fy mod yn un o noddwyr mesur preifat James Wharton, AS Stockton South, sy’n galw am refferendwm yn 2017 ynghylch ein dyfodol o fewn yr UE ac fy aelodaeth a chyfraniad i Brosiect ‘Fresh Start’, gan gynnwys bod yn un o awduron dogfen y prosiect sy’n galw am Undeb Ewropeaidd fwy hyblyg efallai nad oes gennyf neb ond fi fy hun i’w feio am ymddangos fel un sydd ag obsesiwn gydag materion Ewropeaidd.

Serch hynny, nid darlith am fethiant Brwsel nag Ewrop yw hon heddiw.  Mae methiant Cymru i elwa o fuddsoddiad Ewropeaidd enfawr ers 2000 yn syrthio ar ysgwyddau ni’r Cymry a hynny o ran arweinyddiaeth gwleidyddol a diffygion enbyd strategaeth y Cynulliad.

Yn wir mae’r holl jambori Ewropeaidd wedi datblygu’n gronfa gyllid i awdurdodau lleol, byd addysg ynghyd a chyrff yn y drydedd sector gyda’r sector breifat, y sector hynny o’r economi a ddylai fod yn cyfrannu at dwf economaidd yn cael nesaf peth i ddim rhan o’r gacen gyllidol.

Pa syndod ein bod, o esgeuluso’r union ran o’r economi sydd yno i greu cyfoeth, wedi gweld perfformiad economaidd cymharol Cymru yn mynd ar ei ol yn hytrach nag yn datblygu er gwell yn ystod cyfnod o bron bymtheg mlynedd bellach o gyllido prosiectau ar hyd ag ar led Cymru a ddylai fod wedi cyfrannu at ein lles economaidd ond a wnaeth ddim o’r fath.

Complaince not Outcomes!

Cyn gorffen gyda hyn o gyflwyniad fe anelaf un gic fychan (a phwysleisiaf, un yn unig) tuag at Frwsel.  Fel aelod o’r Pwyllgor Materion Cymreig yr wyf wedi mwynhau dau ymweliad digon gwerthfawr a defnyddiol a Brwsel.

Mae ein Cadeirydd, David Davies, AS Mynwy, er gwaethaf ei amheuon sylweddol am berthynas y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, yn gryf o’r farn y dylem adnabod Brwsel ac yn bwysicach felly adnabod sut mae’r lle’n gweithio.

Mae’r ddau ymweliad hyd yma wedi bod yn dra defnyddiol ac mae’n deg nodi fod y cyd-weithrediad rhwng ein pedwar aelod seneddol Ewropeaidd yn un amlwg ac adeiladol.  Rhyfedd o beth yw’r ffaith fod y cyd-weithrediad hwn wedi gwella o weld ethol ASE UKIP!

Ond at fy nghwyn, fis Medi 2012 cawsom gyfarfod gyda’r swyddog o fewn y comisiwn sy’n ymwneud ag cronfeydd rhanbarthol.  Pe byddai aelod o lywodraeth Cymru neu staff WEFO yn bresennol fe fyddent wedi bod wrth eu boddau.

“We consider Wales an exemplar region” oedd ei union eiriau.

‘Rwan, o ystyried pa mor ddifrifol yw perfformiad economaidd Cymru ers dyfodiad Arian Amcan 1 yn 2000 yr oeddwn yn gweld y sylw hwn yn un rhyfeddol.  Felly dyma ofyn sut oedd modd cyfiawnhau’r fath osodiad mewn cyd-destun perfformiad economaidd mor ddifrifol heb son am y ffaith ein bod yn parhau’n gymwys am fuddsoddiad Ewropeaidd bron bymtheg mlynedd yn ddiweddarach?

Yr oedd yr ateb yn ddadlennol;

“We measure compliance not outcomes” oedd geiriau’r swyddog.

Felly dyna ni slogan newydd i’r Gymru ddatganoledig;

Anghofiwch am yr economi, yn hytrach ‘drychwch ar safon ein gwaith papur.

Wrth gwrs, tydi gwaith papur safonol ddim am drawsnewid unrhyw economi ond mae’n golygu cael eich gweld fel llywodraeth gydwybodol gan swyddogion Brwsel tra’n cadw eich byddionedd o weision sifil mewn swyddi cyfforddus.

Efallai mai bwriadol yw strategaeth o’r fath wedi’r cyfan.

Cefndir

Yr hyn sy’n corddi dyn am fethiant ein hymdrechion fel gwlad i wneud defnydd o arian Ewropeaidd yw’r ffaith fod yna drac record o fethiant yn bodoli cyn i ni hyd yn oed lwyddo i greu map artiffisial o Gymru er mwyn denu’r gyfradd uchaf o genfogaeth.

Cyn i neb gam ddeall gadewch i mi nodi’n glir nad wyf yn beio neb am drefnu’r map rhyfeddol o Gymru fu’n sail i wneud Cymru’n gymwys am arian Ewropeaidd.  Er gwaethaf y problemau y mae’r map hwn wedi ei greu ers 2000 gadewch i mi ddatgan rwan fod y rhesymeg dros greu map o’r fath yn un adeiladol a dealladwy.

Ein methiant i ddefnyddio’r arian yn effeithiol sydd wedi arwain at fy nghred fod y map rhyfeddol hwn yn rhan o’r broblem bellach ond fe ddof yn ol at hyn maes o law.

Cyllid Ewropeaidd 5B – dysgu dim

Na, y pwynt sydd gennyf yw ein bod yma yng Nghymru wedi llwyddo i ddenu arian Ewropeaidd cyn dyfodiad Amcan 1 ac yn wir, fe gychwynodd fy hunangyflogaeth trwy waith ddaeth i’m llaw trwy gyfrwng cynllun gyllidwyd gan Amcan 5b a chredaf fy mod hefyd yn gywir wrth ddatgan i mi ddenu arian 5b ar gyfer prosiect ‘Welsh Slate’ yng nghanol y nawdegau, sef y cynllun mwyaf o dan Arian 5b oedd dan arweiniad y Sector Breifat.

A dyna’r cefndir oedd yn amlwg hyd yn oed cyn dyfodiad arian Amcan 1.  Yr oedd tueddiad i weld arian Ewropeaidd, er mae’r bwriad oedd cryfhau’r economi, fel modd o gyllido rhaglenni ag ymyraeth yn yr economi leol gan Awdurdodau Lleol a Chyrff yn y Drydydd Sector ac nid fel modd o gryfhau’r sector breifat.

Gwnaethpwyd y pwynt hwn gennyf mewn adolygiad o wariant Arian 5b yng Ngwynedd cyn dyfodiad Arian Amcan 1 ac dwi’n cofio’n glir drafod yr union fater gyda’r Athro Phil Williams a Dafydd Wigley mewn cynhadledd yn Ngwesty’r Seiont Manor yn nechrau eu cyfnod fel Aelodau Cynulliad.

Gwrthod fy mhryderon ddaru’r ddau gan ddadlau yn achos Phil Williams y byddai swm y cyfraniad Ewropeaidd dan Amcan 1 mor sylweddol nes y byddai ynddo’i hun yn trawsnewid agweddau a brwdfrydedd y Sector Breifat dros fuddsoddi yn Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd.

Er gwaetha’r ffaith nad oes unrhyw un o allu cyfatebol wedi’i ethol i’r Cynulliad ers colli Phil Williams, ac mae hynny’n parhau yn gywir er gwaethaf ethol mab darogan diweddaraf Plaid Cymru ddechrau Awst, yr oedd yr ateb hwn yn adlewyrchu naifrwydd academydd yn hytrach nag agwedd ymarferol gwr busnes.

Gellir dadlau y byddai disgrifiad o’r fath yn wir am y ddwy rownd o arian Ewropeaidd a gafwyd ers hynny ond mewn cymhariaeth a Phill Williams gallu academaidd go wantan sydd gan y rhai hynny sydd wedi creu y rhaglenni Ewropeaidd aneffeithiol a gafwyd yng Nghymru ers 2000.

Serch hynny, o ran cefndir nid mater o feirniadau gydag mantais profiad sydd gennyf heddiw ond parhad o rwystredigaeth sydd wedi bod yn dan ar fy nghroen trwy gydol fy nghyfnod yn ymwneud ag arian Ewropeaidd tra’n hunangyflogedig am bymtheg mlynedd ynghyd a fy mhrofiad ers fy ethol yn 2010.

Perfformiad Economi Cymru ers 2000

Wrth gwrs, os am brofi fy honiad fod Arian Ewropeaidd wedi ategu’r diwylliant o ddibyniaeth sydd ganddom yma yng Nghymru mae’n debyg fod angen i mi brofi i rai ohonoch yn y gynulleidfa ein bod yn trafod stori o fethiant llwyr.  Wedi’r cyfan, wrth drafod fy mhryderon am y mater hwn yr ateb a gaf gan aml i wleidydd yw y byddai’r sefyllfa wedi bod yn saith gwaeth heb arian o’r fath.  Er fod rhiddyn o gyfiawnhad ffeithiol dros ddatganiad o’r fath dadl wan yw hi wrth ymateb i’n methiant i wneud yn well gyda chyfle ymddangosai i Phil Williams yn 1999 fel un unigryw.

Y gwir plaen yw fod perfformiad economaidd Cymru ers 1999 wedi bod mor drychinebus nes profi yn ddi-amheuol i mi fod ein defnydd o arian Ewropeaidd wedi bod yn fethiant llwyr.

Rhanbarthau Amcan 1 – 1999 v 2010

Yn y man cyntaf mae’n werth nodi fod 57 rhanbarth Ewropeaidd wedi bod yn gymwys am arian Amcan 1 o fewn Ewrop yn 1999, Ewrop nad oedd, wrth gwrs, yn cynnwys unrhyw un o wledydd dwyrain Ewrop.  Ni ddaeth gwledydd megis Latvia, Estonia, Gwlad Pwyl, Gwladwriaeth Tsiec neu Slofacia’n rhan o’r UE tan 2004.

Y gri gan arweinwyr gwleidyddol yng Nghymru oedd fod yn rhaid manteisio ar arian Amcan 1 gan na fyddem fyth eto’n elwa o gefnogaeth o’r fath gan na fyddem yn syrthio dan y trothwy o 75% o GDP yr UE wedi dyfodiad gwledydd y Dwyrain i’r Undeb.  Dagrau’r sefyllfa yw ein bod wedi parhau yn gymwys nid yn unig yn 2007 ond eto fyth o 2014 ymlaen.

Beth yn union mae hynny’n ddweud amdanom o ystyried aelodaeth gwledydd megis Romania a Bwlgaria o’r UE ers 2007 Duw yn unig a wyr.

Dau allan o Bedwar ar Ddeg

Ond yn ol at y pwynt, o’r 57 rhanbarth oedd yn derbyn cefnogaeth arian rhanbarthol Ewrop ar y lefel uchaf yn 1999 pedwar ar ddeg sy’n parhau yn gymwys yn 2014 ac o’r rhai hynny dim ond dau ranbarth sydd ddim o fewn Gwlad Groeg, De’r Eidal neu Bortiwgal.  Y mae gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn un o’r ddau ranbarth sy’n ymuno gydag ardaloedd tlotaf Gwlad Groed, Yr Eidal ag Portiwgal trwy barhau i dderbyn arian Ewropeaidd ar y lefel uchaf.

Mewn cyfnod welodd pob un o ranbarthau Iwerddon yn colli cefnogaeth a felly hefyd pob un o ranbarthau Dwyrain yr Almaen gomiwnyddol gynt heb son am bob un ond un o ranbarthau Sbaen oedd yn derbyn y gefnogaeth ar y lefel uchaf yn 1999 y mae perfformiad Cymru yn fethiant go ryfeddol.  Methiant wnaethpwyd yma yng Nghymru.

Hyd yn oed ym Mhrydain gwelwyd Gogledd Iwerddon, Glannau Mersi ac Ucheldir yr Alban yn dangos datblygiad ond nid felly ein rhanbarth ni a grewyd yn un swydd er mwyn denu cyllid Ewropeaidd.

Beth felly am y perfformiad Cymreig, pa mor wael yw hwn wedi bod?

Fyddai’r gair erchyll ddim yn gor ddweud y sefyllfa!

Y ffon fesur a ddefnyddir ar gyfer cymorth Ewropeaidd yw ffigwr GDP y pen.  Efallai nad mesur perffaith mo hwn ond dyna a ddefnyddir ym Mrwsel er mwyn penderfynu i ba gyfeiriad y dylid anelu cefnogaeth arian Ewropeaidd ac wrth gwrs fe grewyd gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn benodol fel rhanbarth Ewropeaidd er mwyn sicrhau fod rhanbarth gymharol sylweddol o Gymru yn syrthio o fewn y proffil o fod yn ardal gyda GDP o lai na 75%.

Dengys ystadegau Eurostat fod GDP Cymru yn 89% o’r cyfartaledd Ewropeaidd yn 1999 gyda Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn sefyll yn dalog ar ganran o 75%.  Erbyn 2010 y ffigyrau cyfatebol yw cwymp ym mherfformiad Cymru i 81% o’r cyfartaledd Ewropeaidd gyda’r rhanbarth sy’n derbyn arian amcan 1 yn syrthio i 70%.

Llwyddiant = gwneud fymryn yn well na gweddill Cymru!

Mewn geiriau eraill fe gwympodd GDP cymharol Cymru tua 9% o’i fesur yn erbyn gweddill yr UE gyda gorllewin Cymru a’r cymoedd yn syrthio tua 7%.  Efallai felly fod modd dadlau fod perfformiad cymharol gorllewin Cymru o fesur yn erbyn gweddill Cymru yn llwyddiant gan fod y dirywiad ychydig yn llai ond pa syndod gyda’r arian sylweddol a fuddsoddwyd gan yr UE heb son am yr arian cyfatebol a ddenwyd er mwyn cyllido rhai o’r prosiectau unigol.  Ac wrth gwrs, tydi dirywiad cymharol well na gweddill Cymru ddim yn sail arbennig o dda ar gyfer hawlio llwyddiant.

Fe ddylai’r ystadegau hyn sobri pob gwleidydd, pob gweinidog wasanaethodd lywodraeth y Cynulliad ers 1999 ynghyd a phob adran ddatblygu economaidd cynghorau y Gorllewin a’r Cymoedd.

Go brin y digwyddith hynny fodd bynnag gyda datganiadau o falchder bron yn dod o gyfeiriad y cyrff hyn wrth glywed fod y rhanbarth tlotaf ym Mhrydain unwaith eto am dderbyn arian Ewropeaidd ar y lefel uchaf.  Ymhyfrydu mewn methiant a hynny gan fod swyddi a chyflogau bras y dethol rai yn cael eu diogelu gan eu union fethiant.  Fe ddof yn ol at y pwynt hwn!

Ystadegau Di-Weithdra

I’r rhai hynny ohonoch sy’n codi cwestiwn am effeithlonrwydd ystadegau GDP fel ffon fesur yna ystyriwch lefelau di-weithdra y Gorllewin Cymru a’r Cymoedd rhwng 1999 a 2010.

Fe gynyddodd diweithdra o 7.5% i 9.2%, cynnydd cymharol o tua 20% sy’n cyfateb bron yn union gyda’r cynnydd a welodd Cymru gyfan.  Serch hynny, mae’r neges a ddaw o’r ystadegau am ddiweithdra tymor hir yn cau pen y mwdwl fe fyddwn yn dadlau ar yr achos dwi’n wneud fod arian ewropeaidd wedi methu’n llwyr a thrawsnewid economi gorllewin Cymru a’r Cymoedd.

Cafwyd cynnydd o bron 80% yn nifer y di-waith tymor hir yng ngorllewin Cymru a’r cymoedd rhwng 1999 a 2010, ffigwr sy’n uwch na’r cynnydd cyfatebol dros Gymru ac ers 2010 wedi parhau i gynyddu y mae’r ystadegyn hwn o fewn y rhanbarth gan gofnodi cynnydd o 100% rhwng 1999 a 2012.  Unwaith yn rhagor eurostat yw ffynhonell yr ystadegau.

Dyn dewr fyddai’n fodlon dadlau llwyddiant yng ngwyneb y fath ystadegau ac meiddier neb awgrymu y gallai pethau fod wedi bod yn waeth.  Yr hyn sydd ganddom yn yr ystadegau hyn yw tystiolaeth ddi-amwys o fethiant Cymreig – ein methiant ni, nid Ewrop yw hwn.

Ystyriwch o ddifrif fod rhanbarthau o fewn y wladwriaeth Tsiec ac hefyd o fewn Slofacia sydd bellach yn mwynhau lefelau GDP y pen ddwy waith yr hyn sydd yn cael ei fwynhau yng ngorllewin Cymru a’r cymoedd!

Ystyriwch y bydd y Wladwriaeth Tsiec yn troi i fod yn gyfranwr net i gyllidebau Ewrop prin chwarter canrif wedi dianc rhag llaw farw comiwnyddiaeth.

Ystyriwch fod hyd yn oed rhanbarthau tlotaf Lloegr wedi perfformio’n well na gorllewin Cymru a’r Cymoedd a gofynwch pam.

Enghreifftiau

O dderbyn ein methiant efallai y ceir gobaith am wyrdroi y sefyllfa, ond fyddwn i ddim yn dal fy ngwynt.

Y tro diwethaf i mi ystyried ac astudio’r ystadegau ynghylch prosiectau a gefnogwyd gan arian Ewropeaidd yr hyn welwyd oedd fod prosiectau dan arweinyddiaeth y sector breifat yn cynrychioli llai nag 1% o’r buddsoddiad a wnaethpwyd gan WEFO.

Yn wir, yng Nghanolfan Fwyd Bodnant yn Nyffryn Conwy mae gennyf y fraint o gynrychioli un o’r amlycaf o brosiectau o’r fath.  Rhy gynnar yw hi i ddatgan y bydd y cynllun hwn yn llwyddiant gan wrthgyferbynu gyda methiannau cymaint o brosiectau ar hyd ag ar led Cymru oedd dan arweiniad llywodraeth leol neu’r drydedd sector ond hyd yma mae pethau’n argoeli’n dda gyda pobl lleol yn gweithio mewn adeiladau addaswyd gan gwmniau lleol gan werthu a paratoi cynnyrch Cymreig ar gyfer ymwelwyr a thrigolion y gogledd.  Hei lwc.

Serch hynny gwarth yw nodi nad yw’r nifer o brosiectau dan ofal ac arweiniad y sector breifat ddim uwch heddiw nag yr oedd dan Amcan 5b ddiwedd yr ugeinfed ganrif.

Creu Dibyniaeth yn Anuniongyrchol

Beth felly am y prosiectau hynny a gefnogwyd oedd yn syrthio o fewn yr hyn oedd yn dderbyniol gan WEFO?

Wel dyma flas o ambell gynllun a’r hyn a ddaeth ohonynt.

Cinema La Scala ym Mhrestatyn

Grant Ewropeaidd o £376k a chostau llawn o £572k.  Yn ol safle we WEFO fe fyddai’r prosiect hwn yn cyfrannu at “essential mainstream services which will encourage community economic regeneration”

Bellach, wedi cau am gyfnod a wynebu methdaliad y mae’r La Scala yn derbyn cyfraniad refeniw gan Gyngor Sir Ddinbych o £54,000 yn flynyddol.  Anodd cweit deall sut fod cynllun oedd am hyrwyddo datblygu economaidd cymunedol yn llwyddo i wneud hynny o arddangos yr angen am gymhorthdal llywodraeth leol er mwyn dal ei dir.

Ac o drafod y Cinema ymddengys fod yma batrwm yn datblygu gyda Theatr Mwldan yn Aberteifi hefyd yn cynnwys dwy screen os dwi’n cofio’n iawn a hynny, ynghyd a’r Theatr, wedi ei ddarparu yn dilyn grant Ewropeaidd o £1.6 miliwn fel rhan o gynllun gostiodd, coeliwch neu beidio, £7.7miliwn.  I ddyfynu WEFO fe fyddai’r prosiect hwn yn;

“ensure the creation of a new, local, rural economic development centre to encourage diversification and growth in new markets with new skills and products”

Ar hyn o bryd mae Cyngor Ceredigion yn darparu grant refeniw o £28,000 yn flynyddol i’r ganolfan hon.

Ac wrth gwrs mae ‘na fwy!

Theatr Gogledd Cymru yn derbyn grant Ewropeaidd o £4.8m o gyllideb ail-ddatblygu oedd yn £12m ond fel rhan ganolog o wasanaethau Cyngor Conwy doedd yr awdurdod lleol ddim yn fodlon, yn dilyn fy ymholiadau, darparu ffigwr ar gyfer y gefnogaeth a dderbynir gan y Theatr er mwyn gweithredu.

Ac yna fy ffefryn.

Ar safle WEFO cyfeirir at ‘Rural Life and Sculpture Centre – Phase 1’.  I’r rhai ohonoch o ardal Bala Canolfan Cywain yw hwn.  Grant Ewropeaidd o £900k mewn cynllun gwerth £2.2m yn ol WEFO ond £3.44m yn ol Cyngor Gwynedd.  Efallai fod yr ail ffigwr yn cynnwys Phase2?!

Bwriad y prosiect oedd, a dwi’n dyfynu eto;

“to create a centre to allow all sectors of the community to participate in the economic and social development of the area”

Dwi ddim yn sicr sut mae hynny’n debygol a’r ganolfan wedi cau ond dyna ni – fe fu ar agor tra y parodd y grantiau refeniw.  Serch hynny, mae gweddill y blurb ar safle WEFO yn rhyfeddol.  O ystyried lleoliad y ganolfan yn un o ardaloedd Cymreiciaf Cymru fe ddatgelir y bydd y grant yn sicrhau;

“a centre which will offer visitors a unique cultural experience celebrating the Welsh language, heritage and contemporary rural life”

Gyda’r ganolfan bellach yn sefyll yn wag ystyriwch o ddifrif nad yw’r Bala yn gallu cynnig canolfan lwyddiannus i ddathlu’r iaith a’r diwylliant er o ran dathlu bywyd gwledig heddiw yn y Gymru sydd ohoni mae’n debyg fod canolfan sydd wedi cau ohewrydd diffyg cefnogaeth grantiau neu gefnogaeth ariannol gan lywodraeth leol yn dra nodweddiadol ac yn addas iawn.

Un arall i gloi a dwi’n gaddo symud yn fy ‘mlaen.

Pantyfedwen Pavillion – A Catalyst for Regeneration

Grant Ewropeaidd o bron £1.4m gyda’r prosiect yn costio dim llai na £3.2m.  Unwaith eto i ddyfynu WEFO;

“the project will act as a catalyst for the regeneration of the village providing direct employment and creating spin-off benefits through the attracting of significant visitors utilising the natural strengths of the are such as it’s cultural diversity”

Wel doedd hynny ddim cweit yn gywir chwaith gyda’r ymdrech yn fethiant o tair blynedd.

A chyn i neb ddweud fy mod yn dewis a dethol dwi wedi anwybyddu degau o esiamplau eraill er fod digonedd ohonynt sy’n llawn mor gywilyddus a’r rhai y bu i mi ddewis.

Ac felly hefyd gyda phrosiectau dan arweinyddiaeth mwy uniongyrchol y llywodraeth megis prosiect Genesis oedd yn fethiant llwyr ynghyd a nifer sylweddol iawn o brosiectau i ail hyfforddi yr hyn a elwir yn unigolion economaidd anweithredol – yr ‘economically inactive’.

Y mae’r prosiectau sydd yn amlwg wedi methu dim ond o ystyried y cynnydd sylweddol yn nifer y rhai hynny sydd wedi bod yn ddi-waith am gyfnodau maith.

Crynhoi fy Nadl Gyntaf – Creu Ymdeimlad o Ddibyniaeth

A dyna’r esiampl gyntaf mewn ffordd o fy nadl ganolog, sef fod y defnydd o Arian Ewropeaidd wedi atgyfnerthu, nid rhyddhau ein cymunedau a’n pobl o’r syniad hwn o ddibyniaeth ar y wladwriaeth.  Mewn achosion di-ri yr hyn a gafwyd oedd prosiectau oedd yn bodoli yn syml oherwydd grantiau, cyfalaf gan Ewrop efallai gyda’r arian refeniw yn dod gan gyfuniad o Ewrop neu Awdurdodau Lleol.  Neges o ddibyniaeth nid anibyniaeth economaidd a geir mewn achosion o’r fath.

Yn hytrach na magu’r archwaeth a’r amgylchiadau i lwyddo a mentro yr hyn a geir yw hanesion cyson am swyddi yn cael eu colli gan fod cyfnod y grant yn dirwyn i ben.  Mewn amryw o achosion yr ydym hefyd wedi gweld canolfannau sylweddol a drudfawr yn cau gan fod cynnal y fath adnoddau yn fasnachol yn ein byd o ddibyniaeth ar arain cyhoeddus wedi bod yn ormod o her.

Pa neges yn union yw hon i gymunedau ac unigolion yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd?

Heb os credaf fod profiadau a thystiolaeth i gymunedau ar hyd ag ar led Cymru yn creu ymdeimlad na all prosiectau a mentrau weithredu’n llwyddiannus heb gymhorthdal ac wrth ystyried natur rhai o’r ceisiadau anodd, os nad amhosib, yw peidio dod i’r casgliad nad oedd y swyddogion oedd yn ystyried y ceisiadau hyn, yn cynghori’r ymgeisywr ac yn gwneud eu hargymhellion, yn llwyr ymwybodol nad oedd gobaith am lwyddiant.

Yn wir, cymaint y methiant mewn llawer o’r esiamplau hyn nes fod rhywun bron yn credu fod yna, o fewn isymwybod y swyddogion, bron dderbyniad o’r ffaith fod y cynlluniau hyn am fethu.  Wedi’r cyfan os na fyddai’r prosiectau’n profi i fod yn ‘catalyst for economic regenration’ yna parhau i fod angen cefnogaeth fyddai y rhanbarth gan gadw o leiaf rhai o’r swyddogion mewn swyddi bras.

Dibyniaeth Uniongyrchol

Rwan y rheswm i mi gynnig yr esiamplau hyn yw fod yna broses hirfaith a chymleth sy’n llawn biwrocratiaid ac ymgynghorwyr – ac yma dwi’n hapus iawn i ddatgan diddordeb, fe fu i mi hefyd wneud amryw i gais Ewropeaidd cyn fy ethol gan gael fy nhalu yn hael am wneud hynny.

Fel yr ydych eisioes wedi ei glywed yr oedd yna ieithwedd benodol fyddai o gymorth ac ni chredaf fod yna’r fath barch arwynebol erioed wedi cael ei ddangos i’r Gymraeg a’r diwylliant Cymreig na’r hyn a welir o fewn y ceisiadau hyn.

Wedi’r cyfan o roi tic yn y bocs ‘diversity’ yr oedd modd sgorio pwynt neu ddau arall ar gyfer eich cais.

Ond y pwynt pwysicat yn y fan yma yw fod yna niferoedd helaeth o staff yn uniongyrchol ddibynnol am eu cyflogaeth ar yr hyn a ystyrir yn broses o ddenu arian Ewropeaidd – proses oedd yn creu defnydd o iaith gyfoglyd gynhwysol oedd yn dweud cyn lleid a phosib gyda defnydd eithafol o iaithwedd y fiwrocratiaeth Gymreig.

Cynhwysol, cynaladwy, catalydd, cymunedau, diwylliant, arall-gyfeirio, amgylcheddol ayyb.  Pob gair yn ateb gofynion gwleidyddol gywir gan sicrhau fod gofynion y rhaglenni Ewropeaidd (ddatblygwyd yma yng Nghymru fach) yn cael ei hateb ac hynny mewn dulliau oedd yn ‘croes-gyffwrdd’ gan sicrhau fod y ‘themau aml ddisgyblaeth’ yn cael adlewyrchiad o fewn y prosiect diweddaraf oedd am gyfrannu at adfywio economi’r fan a fan.

A chyn i neb ofyn tydw i ddim yn deall hanner y dermenoleg Ewropeaidd Gymreig yma – yr oll sy’n sicr yw nad oes a wnelo’r eirfa na’r hunanbwysigrwydd amlwg ddim oll a chreu economi gadarnach.  Ond yr oedd y cyfan yn cyfiawnhau swyddi i’r sector gyhoeddus.  A’r fath niferoedd!

WEFO

Yn WEFO ceir dim llai na 163 aelod o staff wedi’i dosbarthu o fewn swyddfeydd ym Merthyr, Aberystwyth, Caerfyrddin a Chyffordd Llandudno.  Rhai o’r ‘chydig swyddi oedd yn fwy nag addewid mewn cais wrth i ni drafod yr addewidion am draws newid yr economi Gymreig!

Ac wrth gwrs nid o fewn WEFO yn unig y cafwyd y swyddi uniongyrchol hyn.

Cyfaddefodd amryw o gynghorau Gorllewin Cymru a’r Cymoedd fod ganddynt swyddogion Ewropeaidd penodol, unigolion sydd yno i gynnig cymorth (nid llunio’r cais ond dehongli gofynion gan amlaf) i gyrff oedd a’i bryd ar ddenu arian Ewropeaidd.  Tri yng Nghonwy, dau a hanner ym Mon, dau a hanner yng Ngwynedd, dau ym Mlaenau Gwent a thri yn Nhorfaen i gynnig blas i chi’n unig.

A chyn i neb ddechrau meddwl nad yw niferoedd o’r fath yn afresymol cofier hefyd am y staff hynny o fewn cynghorau Sir o fewn y rhanbarth dan sylw sy’n gweithio ar brosiectau a gyllidwyd yn llwyr gan Ewrop.  Ugain yng Ngwynedd, dau ar bymtheg yn Nhorfaen ac fe allwn fynd yn fy mlaen.  Gydag unarddeg o Gynghorau o fewn Gorllewin Cymru a’r Cymoedd anodd credu nad oes rhwng 250 a 300 o swyddogion awdurdodau lleol y rhanbarth sydd a’i swyddi yn ddibynol ar gyllid Ewropeaidd neu’r fiwrocratiaeth sy’n mynd lawn yn llaw a chyllid o’r fath.

Mewn geiriau eraill ceir o fewn llywodraeth ganol a lleol tua 450 i 500 o staff sy’n gyflogedig yn syml oherwydd arian Ewrop.  Nid gor ddweud yw awgrymu fod yna nifer swympus iawn o staff llywodraeth lleol neu o fewn WEFO sy’n llawn ymwybodol fod parhau i weithredu a rheoli rhaglen gyllidol Ewropeaidd yn ganolog i’w cyfleoedd o gynnal eu cyflogaeth.

Rhyfedd o fyd lle ceir cymaint o swyddogion sy’n ddibynnol ar gyllid Ewropeaidd am eu cyflogaeth ac eto fy mhrofiad yw fod llunio a chyflwyno cais bron bob amser yn gyfrifoldeb a syrthiau ar ysgwyddau eraill – boed hwy’n ymgynghorwyr neu’n aelodau o staff o fewn cyrff oedd yn paratoi’r cais (gan dderbyn cyngor yn unig gan staff y cynghorau).

Amhosib yw rhoi nifer i chwi ond ystyriwch y sector addysg bellach ag uwch yn unig a buan iawn y canfyddwch fod yna fyddin fychan o swyddogion Ewropeaidd o fewn y cyrff hyn hefyd yn bodoli er mwyn godro’r system a sicrhau fod addysg uwch yn derbyn arian er mwyn hyn llall ag arall a ddylai fod yn rhan o’i gwaith beunyddiol.

Ac rhaid codi fy het yma i Brifysgol Bangor, er gwaethaf bodolaeth y Galeri yng Nghaernarfon (Grant Ewrop) ag Theatr Gogledd Cymru yn Llandudno (Grant Ewrop) ac Theatr digon taclus a oedd ym Mangor (Theatr Gwynedd) fe lwyddodd swyddogion Ewropeaidd y Brifysgol i ddenu symiau rhyfeddol o gyllid ar gyfer canolfan gelfyddydol arall fydd, maes o law fe haeraf, yn chwilio am gyllid rfefeniw gan gyfuniad o gwangos celfyddydol, y Brifysgol ac Awdurdodau Lleol.

Mewn cynhadledd ddiweddar yng Nghaerdydd i swyddogion Ewropeaidd y byd addysg bu i mi anerch cynulleidfa o dros hanner cant ar y pwnc hwn – go bring fod pob un swyddog o’r fath yno ac hawdd meddwl ein bod yn  son am 100-150 o swyddogioon uniongyrchol eto yn y maes hwn sy’n ddibynnol ar fodloaeth ‘cyllid Ewropeaidd’ am eu bywoliaeth.

Y Drydedd Sector

Parhau i gynyddu wna’r niferoedd wrth ystyried y drydedd sector – cynigiaf un esiampl o gorff clodwiw iawn, sef Menter Mon.

Yn wreiddiol sefydlwyd y corff hwn i ddosbarthu arian LEADER ym Mon a hynny trwy gyfrwng Prif Swyddog ac aelod o staff cynorthwyol rhan amser.

Wrth baratoi y llith hon bu i mi holi Menter Mon faint oedd yn gyflogedig ganddynt bellach.  Yr ateb oedd tua 70.  Rwan ystyriwch, bwriad Menter Mon wrth ei sefydlu tua 1996 oedd cryfhau economi Mon trwy ddefnyddio arian o gronfeydd Ewrop.  O ystyried twf sylweddol, yn wir syfrdanol y cwmni, fe fyddai dyn yn disgwyl i hanes trawsnewid economi Mon fod yn un o lwyddiant rhyfeddol ers pymtheg mlynedd a mwy.

Ond nid felly y gwirionedd.  Parhau i edwino wna economi’r Ynys i bwynt lle fod demograffeg Mon yn awgrymu cymedithas a chymunedau nad ydynt yn gynaliadwy.  Un cwestwin sydd ei angen ym Mon wrth ystyred economi’r Ynys a hynny yw lle mae’r bobl ifan rhwng 18 a 34?  Nid ar yr Ynys gan fwyaf yw’r ateb.

Rwan gadewch i mi bwysleisio – llwyddiant yw Menter Mon o ran cyfrifoldeb cwmni i weithredu er budd ei staff ac er mwyn sicrhau mantolen gref a llif arian cadarn.  Serch hynny, anodd yw osgoi’r gwirionedd plaen fod y llwyddiant hwnnw’n adlewyrchiad o fethiant economi’r Ynys.

Mwya’r methiant mwya’r cyfle i Fenter Mon ddenu cyllid i brosiectau amrywiol.  Efallai nad ydynt yn gwneud fawr ddim sylfaenol i newid y patrwm economaidd ond y meant, o leiaf, yn rhoi’r argraff o weithredu i’r rhai sy’n rhannu’r grantiau.

Un o nifer yw Menter Mon – cyrff trydydd sector cymharol hael eu telerau cyflogaeth sy’n gwbwl ddibynol ar unai gynlluniau arianir yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gan arain Ewropeaidd.

Oes ganddynt reswm gwirioneddol dros ddymuno creu newid go iawn i sefyllfa economaidd y cymunedau a’r ardaloedd y meant yn honni ei gwasanaethu?

Rhesymol casglu fod y penderfyniad Menter Mon i gynnig gwasnaeth yng Ngwynedd, Conwy a Dinbych yn awgrym gweddol amlwg mae sicrhau dyfodol Menter Mon yw’r flaenoriaeth beth bynnag y ddelfryd wreiddio.  Un o nifer yw Menter Mon fel y bu i mi nodi.  Nid afresymol fyddai awgrymu fod yna bymtheg cant o staff mewn cyrff cyfatebol o fewn y drydedd sector sy’n bodoli ar sail grantiau Ewropeaidd o fewn Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.

Bellach nid am ganoedd o swyddi uniongyrchol yr ydym yn son ond rhai miloedd.  Onid naturiol yw fod yr unigolion hyn, o leiaf yn eu his-ymwybod, yn ymwybodol fod eu dyfodol yn mynd law yn llaw a gallu Cymru i ddenu cyllid rhanbarthol Ewropeaidd?

Y wladwriaeth ddibynol Gymreig – hyd yn oed o fewn y cyrff hynny sy’n galw am greu mentergarwch.  Dibyniaeth ar y sector gyhoeddus trwy gyfrwng arian Ewrop sy’n sicrhau dyfodol cyrff megis Menter Mon, Menter a Busnes, Antur Teifi, Menter hyn ag Menter arall, ‘Initiative this ag Initiative that’ os ydych yn y cymoedd.  Pob un yn anog mentergarwch ond yn gwneud hynny trwy broses o ddibyniaeth.  Dim ond yng Nghymru! 

Dibyniaeth y  Llywodraeth

Fel dwi wedi dadlau mae Cymunedau wedi cael profiadau chwerw trwy Gymry o bwysigrwydd dibyniaeth ar y pwrs cyhoeddus a hynny, i raddau, wrth i fentrau sylweddol dderbyn arian cyfalaf mawr, arian refeniw am gyfnod ac wedyn wynebu grym y farchnad ac methu.

Fe fyddwn yn dadlau fod yna rai miloedd o swyddogion amrywiol mewn llywodraeth ganol, llywodraeth leol, y sector addysg a chyrff y drydedd sector sy’n llwyr ddibynol ar fethiant economaidd er mwyn sicrhau parhad eu prif ffynhonellau cyllid.  Ysgogiad i lwyddo?  Anodd credu.

Ac wedyn beth am ein Llywodraeth ym Mae Caerdydd

Yn anffodus mae nhwythau hefyd yn llwyr ymwybodol o’r angen i weld parhad o’r cyffur cyllidol Ewropeaidd.  Sut yn wir allent fodoli heb gyllid o’r fath?

Cynigiaf un esiampl ymysg nifer

Business Connect = Business Eye

Ystyriwch y broses cefnogi busnes a mentergarwch yma yng Nghymru.  Business Connect oedd yn bodoli o tua 2003 hyd 2008.  Yn anffodus, fel y bu iddo ddechrau ennill ei blwyf yr oedd y cyllid o gronfeydd Ewrop yn dirwyn i ben.  Beth oedd yr ateb?  Sut i gadw cymaint a phosib o’r staff

Yr ateb?

Ail lansio’r cyfan fel Business Eye – neu Llygad Busnes.

Esiampl arall o newid hurt yng ngolwg busnesau Cymru wrth i gynllun oedd yn dechrau ennill ei blwyf ddod i ben a chynllun newydd, rhyfeddol o debyg ond gydag digon o wahniaethau i fod yn niwsans i ddefnyddwyr, gael ei lansio a’r cyfan gan fod rheolau Ewropeaidd yn golygu na ellir cyllidol yr un prosiect ddwy waith gan y byddai hynny’n brawf o ddiffyg cyneladwyedd prosiect o’r fath yn y man cyntaf.

Y dewis i lywodraeth ddibynol oedd ail greu’r olwyn i raddau fyddai’n ddigonol i ddenu cyllid Ewropeaidd ar gyfer prosiect newydd.  Dim ystyriaeth i’r effaith ar y defnyddwyr – yr hyn oedd yn allweddol oedd cynnal cyflogaeth y sector gyhoeddus o fewn cynllun Llywodraeth Cymru a gyllidwyd yn rhanol gan Arian Ewropeaidd.  Parhad y ddibyniaeth oedd yn cyfrif ac nid y broses o roi cefnogaeth i fusnesau.

Crynhoi

O lywodraeth ganol i lywodraeth leol i’r drydedd sector i’r effaith ar ein cymunedau – neges ein defnydd o gyllid Ewropeaidd yw mai cenedl a phobl ddibynnol ydym yn byw ar ein gallu i brofi cymaint ein hangen fel y gallwn barhau i gynnal rhai swyddi cymharol gyfforddus ar gorn tlodi mwyafrif ein cyd-drigolion o fewn cymunedau’r Gorllewin a Chymoedd y De.

Oes ‘na ateb?

Fel rhan o brosect ‘Fresh Sart’ yr wyf wedi dadlau y dylid cyfyngu Arian Rhanbarthol Ewropeaidd i’r gwleyddd hynny gyda GDP o llai na 90% o’r cyfartaledd Ewropeaidd.

Ar hyn o bryd y mae cyfran helaeth o gronfeydd strwythurol Ewrop yn cael eu darparu ac hefyd eu derbyn gan Aelod Wladwriaeth sydd a chyfran GDP o 90% neu fwy o’r cyfartaledd Ewropeaidd.  Oes ‘na unrhyw synnwyr mewn trosglwyddo arian o Brydain i Frwsel er mwyn gweld yr arian wedyn yn cael ei drosglwyddo yn ei flaen i Baris neu Stokholm tra fod Stokholm a Pharis yn cyfrannu i Frwsel er mwyn trosglwyddo i brydain.  Dyna sy’n digwydd ar hyn o bryd.

O dargedu y cronfeydd Ewropeaidd ar y gwledydd hynny sydd a chyfran GDP y pen o 90% neu lai o’r cyfartaledd Ewropeaidd yr hyn sy’n diwgydd yw cynnal y cyfraniad i wledydd tlotaf yr Undeb tra’n arbed arian i’r cyfranwyr mwyaf.

Yn achos cyfraniad Prydain fe fyddai dilyn polisi 90% neu fwy yn golygu arbediad i’r Trysorlys o rhywle rhwng £4.6bn a £5bn gan ddibynnu ar ein dewis o linyn mesur yn y man cyntaf (GDP neu GNI y pen).  O dderbyn y swm isaf, sef £4.6bn fe fyddai y Trysorlys yn gallu cyllidol’n llawn y cyfraniad ddaw i Gymru a rhanbarthau eraill o Brydain sy’n derbyn arian o Ewrop a hynny gan hefyd arbed arian sylweddol (dros £2bn) yn ganolog.

Clywaf rhai yn nodi y byddai newid o’r fath yn fantais i Lundain ond ai felly Cymru?

Fe fyddwn, serch hynny’n awgrymu y byddai newid o’r fath yn cynnig manteision sylweddol i Gymru.  Fe fyddai’r rhain yn cynnwys;

  1. Diwedd ar ein defnydd o ardaloedd daearyddol megis Gorllewin Cymru a’r Cymoedd sy’n bodoli ar gyfer derbyn arian Ewropeaidd yn unig.  Dylid defnyddio’r cyllid rhanbarthol i Lundain o fewn ardaloedd economaidd sy’n cydnabod sefyllfa economaidd Cymru fel ag y mae yn hytrach na’r hyn y byddai rhai o’n gwleidyddion yn ddymuno!
  1. Llai o ddibyniaeth ar raglenni wedi ei cytuno ym Mrwsel trwy drafodaeth gyda biwrocratiaeth Gymreig sydd wedi cael cyfle ac wedi methu.  Gyda chyllido mewn partneriaeth rhwng San Steffan a Bae Caerdydd onid oes modd creu Partneriaethau Economaidd Lleol sy’n cael eu cyllidol i raddau sylweddol fydd a’r gallu i wneud gwahaniaeth?
  1. Diwedd ar arall-gyfeirio cyllid Cymreig a Phrydeinig er mwyn sicrhau arian Ewropeaidd.  Dr oar ol tro gwelwyd methiannau amlwg mewn prosicetau Ewropeaidd ond dagrau’r sefyllfa yw fod gwireddu’r prosiectau hyn hefyd wedi mynnu cyfraniad o gyllid gan yr aelod wladwriaeth neu gronfeydd eraill megis arian loteri neu arian o’r sector breifat.  Mewn geiriau eraill er mwyn gwastraffu arian Ewrop yr ydym hefyd wedi gwastraffu arian cyfatebol Cymreig a Phrydeinig fyddai, heb or ddweud, wedi gallu cael ei wario yn fwy effeithlon heb fodolaeth y cronfeydd Ewropeaidd.
  1. Gallwn sicrhau cyfundrefn sy’n cosbi methiant yn hytrach na chanolbwyntio ar waith papur safonol.  Os am barhau i ddenu cyllid rhanbarthol llwyddiant nid fethiant ddylai fod yn llinyn mesur.  Rhyfedd o beth fod datganiad o’r fath yn groes i’r llinyn mesur Ewropeaidd lle ceir gwobr am fethu – meddylfryd sydd wedi apelio at ein biwrocratiaeth newydd Gymreig.

Nid bychan newid o’r fath ac gallaf glywed rwan y gwyn na fyddai gan Lundain ddiddordeb mewn polisi rhanbarthol ‘go iawn’.  Ond, ac fe orffennaf gyda’r ond hwn, y mae’r dewis amgen o ddatblygu rhanbarthol mewn partneriaeth rhwng Fae Caerdydd a Brwsel wedi cael pedair blynedd ar ddeg i lwyddo ac wedi methu’n llwyr.  Dwi’n fodlon datgan yma heddiw na fydd y cyfnod o 2014 hyd 2020 yn ddim gwahanol.

Y mae’n gyfrifoldeb arnom bellach i gydnabod y methiant hwn a chydnabod, os am greu economi gadarn a rhoi cyfle i’n pobl weithredu yn economaidd o fewn eu cymunedau, fod angen trio rhywbeth newydd.  Unai hynny neu dderbyn fod methiant economaidd yn rhan anorfod o fywyd Cymreig.

Guto Bebb Aelod Seneddol Aberconwy

Also within Politics and Policy