Addysg bwyd: cydweithio rhwng addysg uwch ac addysgwyr yn dod â mewnwelediadau newydd – Food education: collaboration between higher education and educators brings new insights

Jane Powell yn rhannu hanes cryno Grŵp Bwyd Canolfan Arbenigedd Rhanbarthol Cymru ar gyfer Addysg Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Byd Eang

Jane Powell shares a short history of the Food Group of the Wales Regional Centre for Expertise in Education for Sustainable Development and Global Citizenship

Pan ddes i ar draws y syniad o Ganolfan Ranbarthol ar gyfer Arbenigedd addysg gynaliadwy – ac RCE – i Gymru yn 2008, roeddwn yn amheus iawn o’r acronym diweddaraf. Roedd yn swnio mor fiwrocrataidd. Ond wedyn, clywais Julie Bromilow o’r Ganolfan Dechnoleg Amgen yn siarad am RCE roedd hi wedi ymweld ag yn Japan, a dechreuodd y posibilrwydd o fod yn rhan o rwydwaith byd-eang er mwyn datrys problem fyd-eang apelio.

Ar y pryd, roeddwn yn Swyddog Gwybodaeth yng Nghanolfan Organig Cymru yn Aberystwyth, yn trefnu i ysgolion ymweld â ffermydd a phrydau ysgol wedi’i gynhyrchu’n lleol ynghyd â’n nyletswyddau golygu arferol. Roedd yn rhoi boddhad, ond roeddwn yn dyheu am fod yn rhan o rywbeth mwy, i gymharu ein gwaith gyda beth roedd eraill yn ei wneud, a gweld pa mor bell gallwn fynd. Yn fwy na dim, roeddwn yn pendroni am beth yn union roedden i’n ei wneud. Sut roedd ymweld â ffermydd i fod i newid unrhyw beth? Pam roedd prosiectau prydau ysgol mor bwerus, tra roedd sefyll ar stondin mewn digwyddiad weithiau’n gallu bod mor ddiflas?

Meddyliais efallai byddai’r RCE yn gallu bod yn ffordd o ysgogi pethau. Felly neidiais ar y cyfle i ymuno gyda’r is-grŵp oedd yn edrych ar addysg bwyd, ynghyd â Julie, Dr Jane Claricoates o ysgrifenyddiaeth yr RCE ym Mhrifysgol Abertawe a Dr David Skydomre o Brifysgol Glyndŵr. Ein tasg gyntaf, yn 2011, oedd ‘sgwennu papur pynciol, oedd yn archwilio beth allai ‘addysg drawsnewidiol’ olygu yng nghyd-destun bwyd gan dynnu ar ein profiadau perthnasol yn ogystal â’r llenyddiaeth ymchwil.

Aethom ymlaen i drefnu digwyddiad yng Ngholeg Powys lle roeddem yn defnyddio ymbwyllo a thrafodaeth hamddenol i archwilio sut roedd myfyrwyr, darlithwyr a chynhyrchwyr bwyd lleol i gyd yn perthyn i’r gadwyn fwyd. Bwriad hyn oedd rhoi syniad o sut gall addysg bwyd fod yn effeithiol, drwy gysylltu gyda gwerthoedd a dealltwriaeth bresennol pobl. Datgelodd y cyfoeth o’r profiad dynol sydd tu ôl i’r ffigyrau a ffeithiau am y system fwyd.

Yn dilyn hyn, er ein bod wedi atynnu ambell aelod newydd ac yn parhau i gyfarfod am flwyddyn neu ddwy, dechreuodd y grŵp wasgaru. Roedd salwch a newid swyddi yn rhan o hyn, ac efallai bod yr RCE yn rhy ymylol i’n swydd ddisgrifiadau amrywiol i gael y sylw roedd yn ei haeddu. Er hyn, daeth yn amlwg bod y cysyniad canolog o gydweithio rhwng addysg uwch ac ymarferwyr yn un gwydn iawn, fel ein cwestiwn am beth sy’n gwneud addysg bwyd yn drawsnewidiol. Newidiodd y Grŵp Bwyd i fod yn ymholiad oedd yn cael ei hystyried gan rwydwaith llac.

Yn 2014, galluogodd cyllid o Raglen Datblygu Wledig Cymreig i Ganolfan Organig Cymru i symud hyn i lefel newydd gyda phrosiect ymchwil gweithredol o’r enw Gwerthoedd Bwyd. Daeth hyn ac ymchwil o seicoleg gymdeithasol a’i wneud yn berthnasol i addysg bwyd, a daeth yn amlwg ei fod yn ddull pwerus gan ddod a mewnwelediad newydd i nifer ohonom oedd yn gweithio yn addysg bwyd. Yn ddiweddarach daeth yn sail i Faniffesto Bwyd Cymru sy’n cynnal y weledigaeth i’r system fwyd Cymreig sydd wedi ei ddal ynghyd ar werthoedd o ofal, tegwch a chydraddoldeb.

Roedd Gwerthoedd Bwyd yn enghraifft wych o ethos yr RCE, er nad oedd yn dechnegol yn rhan ohono. Roedd yn gydweithrediad rhwng addysg uwch, rhwng Dr Sophie Wynne-Jones a’i chydweithwyr i ddechrau ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yna, ym Mangor, a’r gymdeithas ehangach, er enghraifft Canolfan Ymchwil Diddordeb Cyhoeddus, Canolfan Organig Cymru a nifer o sefydliadau anllywodraethol yn amrywio o Age Concern yng Ngwynedd i’r Synagog Unedig Diwygiedig yng Nghaerdydd. Galluogodd cyfnewid cyfoethog ac ysbrydoledig rhwng academyddion ac ymarferwyr oedd yn fanteisiol i’r ddwy garfan.

Wrth ddysgu grwpiau a threfnu digwyddiadau cymunedol, fel rwy’n ei wneud, mae’n hawdd llosgi’r gannwyll ddau ben a cholli cymhelliant. Mae’r cyswllt gydag ymchwilwyr yn dod a phersbectif ffres sy’n ein galluogi i fynd yn ddyfnach i’n hymarfer, a chael mwy o foddhad o’r hyn ydym yn ei wneud yn dda. I academyddion, dwi’n dychmygu, eu bod yn cael boddhad bod yn rhan o brosiect sy’n dod a buddion yn syth a dangos yr egwyddorion damcaniaethol ar waith mewn bywyd bob dydd. Ni lwyddodd y grŵp wneud cysylltiadau gyda’r rhwydwaith RCE byd-eang, mi fyddai hynny yn amlwg yn ychwanegu hyd yn oed mwy o werth i’r broses.

Mae’r Grŵp Bwyd yn segur ar hyn o bryd, ond mae ei waith yn byw ymlaen, ac mae gymaint mwy gallwn ei wneud. Wrth i ysgolion Cymreig baratoi am ddiwygiad mawr o’r cwricwlwm ac wrth i Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol ddechrau cymryd effaith, mae’r cyfleoedd yn anferth. Gall RCE Cymru ar ei newydd wedd gynnig y cyfle ar gyfer rhagor o gydweithio ar addysg bwyd? Darllenwch ein blog a chysylltwch gyda Jane Powell.

 

Staff a myfyrwyr yn trafod bwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth – staff and students discussing food at Aberystwyth University

 

When I first came across the idea of a Regional Centre for Expertise for sustainability education – an RCE – for Wales, in 2008, I was sceptical about the latest acronym. It sounded so bureaucratic. But then I heard Julie Bromilow of the Centre for Alternative Technology talking about an RCE she’d visited in Japan, and the possibility of being part of a global network to solve a global problem seemed very appealing.

At the time, I was the Information Officer at Organic Centre Wales in Aberystwyth, organizing school visits to farms and locally sourced school meals alongside my regular editorial duties. It was rewarding, but I longed to be part of something bigger, to compare our work with what others were doing, and to see how far we could take it. Above all I wondered what exactly we were doing. How were farm visits supposed to change anything? Why were the school meal projects so powerful, while running a stand at an event could sometimes be very tedious?

Perhaps the RCE could be a way of shaking things up, I thought. So I jumped at the chance to join a subgroup that would look at food education, along with Julie, Dr Jane Claricoates from the RCE secretariat at Swansea University and Dr David Skydmore of Glyndŵr University. Our first task, in 2011, was to write a topic paper, which explored what ‘transformative education’ might mean in the context of food and drew on our respective experiences as well as the research literature.

Next, we organized an event at Coleg Powys at which we used reflection and leisurely discussion to investigate how students, lecturers and local food producers related to the food chain. This was intended to give an idea of how food education could be effective, by connecting with people’s existing understanding and values. It also revealed the richness of the human experience that lies behind the facts and figures of the food system.

After that, although we attracted some new members and continued to meet for a year or two, the group began to disperse. Illness and job changes were part of that, and maybe the RCE was too peripheral to our various job descriptions to get the attention it deserved. However, the central concept of collaboration between higher education and practitioners turned out to be very durable, as did our question about what makes food education transformative. The Food Group morphed into an enquiry held by a loose network.

In 2014 funding from the Welsh Rural Development Programme to Organic Centre Wales allowed us to take this to a new level with an action research project we called Food Values. This took research from social psychology and applied it to food education, and it turned out to be a powerful approach which brought fresh insights to many of us involved with food education. It later became the basis for the Wales Food Manifesto which holds a vision for a Welsh food system that is held together by shared values of care, fairness and equality.

Food Values exemplified the ethos of the RCE, even if it wasn’t technically part of it. It was a collaboration between higher education, in the shape of Dr Sophie Wynne-Jones and her colleagues first at Aberystwyth University, then Bangor, and the wider community, exemplified by the Public Interest Research Centre, Organic Centre Wales and a host of NGOs and individuals, from Age Concern in Gwynedd to the United Reform Synagogue in Cardiff. It enabled a very rich and inspiring exchange between academia and practitioners that benefited both sides.

When you regularly teach groups and organise community events, as I do, it’s easy to get burnt out and demotivated. The connection with researchers can bring a fresh perspective that allows us to go deeper into our practice, and to take more satisfaction from what we are doing well. For academics, I imagine, it must be rewarding to be involved in projects that have an immediate benefit and show theoretical principles at work in everyday life. And although we didn’t manage to make any connections with the global RCE network, that would obviously add yet more value to the process.

The Food Group is dormant now, but its work lives on, and there is so much more we could do. As Welsh schools prepare for a major reform of the curriculum and the Well-Being of Future Generations Act starts to take effect, the opportunities are huge. Could RCE Cymru in its new guise offer the opportunity for another round of collaboration on food education? Read our blog and get in touch with Jane Powell.

 

All articles published on Click on Wales are subject to IWA’s disclaimer.

Gweithiodd Jane Powell i Ganolfan Organig Cymru o 2000 hyd at 2015 ac erbyn hyn mae hi’n ymgynghorydd addysg lawrydd ac ysgrifen wraig. Jane yw’r cydlynydd yng Nghymru ar gyfer LEAF Education, ac aelod o Grŵp Addysg Biosffer Dyfi, a golygydd Maniffesto Bwyd Cymru. Mae hi’n byw yn ardal Aberystwyth ac yn rhan o brosiectau bwyd lleol gan gynnwys gardd yn y Brifysgol. Ei gwefan yw www.foodsociety.wales - Jane Powell worked for Organic Centre Wales from 2000 to 2015 and is now a freelance education consultant and writer. She is Wales coordinator for LEAF Education, a member of the Dyfi Biosphere Education Group, and editor of the Wales Food Manifesto. Based in Aberystwyth she is active in community food projects, including a garden at the university. Her website is www.foodsociety.wales.

Comments are closed.

Also within Politics and Policy