Profi’r dyfodol – helpwch i ni wella’n cymwysterau

Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn gyfle i feddwl yn wahanol am addysg. Wrth i Cymwysterau Cymru lansio ei ymgynghoriad cyhoeddus cyntaf ar gymwysterau i gefnogi’r cwricwlwm, mae’r Prif Weithredwr Philip Blaker yn dweud bod angen y ddarpariaeth gywir ar bobl ifanc 16 oed yfory.

 

Wrth i gwricwlwm newydd uchelgeisiol Cymru symud yn nes at fod yn realiti, mae’n anorfod y bydd cwestiynau’n codi ynglŷn â sut y bydd y cwricwlwm yn cael ei ddeddfu. 

 

Fel rheoleiddiwr cymwysterau annibynnol, rydym yn gwybod bod y newid mewn dull a fwriadwyd gan y cwricwlwm yn cynnig cyfle i ailystyried sut rydym yn disgwyl i bobl ifanc 16 oed ddangos eu cyrhaeddiad. 

 

Sut ydyn ni’n mesur llwyddiant mewn dysgu? Beth ydym am i’n pobl ifanc ei wybod erbyn iddyn nhw adael yr ysgol? Beth ddylen nhw allu ei wneud? Sut allwn roi’r cyfle gorau i ddysgwyr Cymru lwyddo? Ni all cymwysterau ateb yr holl gwestiynau hyn. Yn wir, ddylen ni ddim gofyn iddyn nhw wneud hynny – dim ond rhan o brofiad addysgol rhywun all cymwysterau fod ac ni ddylid eu hystyried yn lle cwricwlwm crwn a phrofiad addysgol eang.

 

Fodd bynnag, rydym wedi lansio ein hymgynghoriad cyntaf i ddechrau chwilio am atebion i rai o’r cwestiynau hyn, gan gynnig egwyddorion allweddol i’n helpu i lunio’r dyfodol. Rydym hefyd yn holi am ddiben, dewis a sut mae sgiliau’n cyd-fynd â’r agenda addysg newydd hon. Dyma un o’r cwestiynau rydym yn eu profi drwy’r ymgynghoriad hwn: a ddylem barhau i alw cymwysterau newydd a gynlluniwyd ar gyfer y cwricwlwm newydd yn TGAU?

 

Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wedi cwestiynu rôl cymwysterau yn 16 oed yn ddiweddar, gyda chyhoeddi’r adroddiad Addysg Addas i’r Dyfodol yng Nghymru mewn cydweithrediad â’r Athro Calvin Jones. Roedd y penawdau’n canolbwyntio ar alwad i ddileu TGAU a symud i ffwrdd o obsesiwn gydag arholiadau. Mae’n her amlwg i’r status quo ac yn ddadl iach i’w chael.

 

Heb amheuaeth, TGAU yw’r cymhwyster y mae pobl ifanc 16 oed yng Nghymru yn ei adnabod heddiw. Rydym yn gwybod o’n gwaith yn mesur hyder y cyhoedd bod TGAU yn fesur cadarn, y gellir ymddiried ynddynt a’u deall. Oherwydd hynny, maent yn teithio’n dda er gwaethaf gwahaniaethau nodedig ar draws awdurdodaethau a gyflwynwyd dros y blynyddoedd diwethaf. 

 

Gan roi brand o’r neilltu am ennyd, cwestiwn arall y mae pobl yn ei ofyn yw pam mae angen cymwysterau arnom yn 16 oed o gwbl? Mae’n gwestiwn teg. Mae arweinwyr meddwl sy’n cwestiynu a yw 16 oed yn rhy ifanc i brofi pwysau arholiadau, ac a oes ar bobl wir angen cymwysterau yr oedran hwnnw?

 

Credaf fod angen cymwysterau yn 16 oed o hyd. Mae addysg yng Nghymru yn orfodol hyd at yr oedran hwnnw, yn wahanol i Loegr lle mae addysg yn orfodol hyd at 18 oed. Er bod y rhan fwyaf o bobl ifanc 16 oed yn dewis parhau â’u haddysg, nid yw pob un yn gwneud hynny. Hyd yn oed ymhlith y rhai sy’n gwneud hynny, ni fydd pob un yn cyflawni ymhellach. Felly, mae’n hanfodol bod gan bawb sy’n mynd drwy addysg ffordd o ddangos yr hyn y maent yn ei wybod a’r hyn y gallant ei wneud.

 

Mae rhai arweinwyr meddwl hefyd yn rhagweld y bydd pobl yn newid gyrfa lawer gwaith yn yr economi yn y dyfodol, yn wir mae pobl wedi gwneud hynny ers blynyddoedd lawer eisoes. Yn fy marn i, mae hyn yn gwneud cofnod cyffredinol o gyrhaeddiad yn bwysicach fyth yn 16 oed gan fod y cymwysterau a enillir ar ôl yr oedran hwn yn mynd i fod yn fwy penodol ac efallai na fydd yn galluogi pontio rhwng gyrfaoedd yn nes ymlaen yn eu bywydau.

 

A yw arholiadau TGAU heddiw yn addas ar gyfer yfory? Byddai rhai’n dadlau nad ydynt yn addas o gwbl. Ond mae perygl o golli’r pwynt yma. Mae’n anochel mai oes silff gyfyngedig sydd i gymwysterau, felly mae angen eu diwygio dros gyfnod o amser er mwyn bod yn berthnasol. Ond nid yw hynny’n golygu dweud eich bod yn cael gwared ar yr enw – gallant esblygu ond parhau i fod â’r un teitl o hyd. 

 

Wrth inni edrych ar y ffordd orau o ddatblygu ein cymwysterau heddiw, byddwn yn edrych y tu hwnt i’r manylion technegol. Mewn byd lle mae’r hyn y gall pobl ei wneud yr un mor bwysig â’r hyn a wyddant, byddwn yn defnyddio lens sgiliau ar gyfer cymwysterau lle y gallwn. Rydym eisoes yn gwneud hyn ar gyfer TGAU diwygiedig mewn meysydd pwysig y ‘byd go iawn’ fel technoleg ddigidol a’r amgylchedd adeiledig, a gallwn weld glasbrint defnyddiol a allai weithio ar gyfer cymwysterau eraill.

 

Os ydym am i’n pobl ifanc gael y cyfle gorau mewn bywyd wrth iddynt groesi i fyd oedolion, rhaid inni wneud popeth a allwn i sicrhau bod y ddarpariaeth yn 16 oed y gorau posibl. Wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer Cymru, gan ysbrydoli uchelgais a pharch y tu hwnt i’n ffin genedlaethol.

 

Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn gyfle rhy dda i’w golli ar gyfer cymwysterau. Mae arnom angen i bobl Cymru ddefnyddio ein hymgynghoriad i’n helpu i lunio’r dyfodol. 

 

Mae ymgynghoriad ar-lein Cymwysterau CymruCymwys ar gyfer y Dyfodol’ ar agor tan 5pm ar 7 Chwefror. Gallwch wrando ar recordiad o lansiad yr ymgynghoriad yma.

 

All articles published on Click on Wales are subject to IWA’s disclaimer.

Philip Blaker yw Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru

Also within Politics and Policy