Llais a Phleidlais i Genhedlaeth Newydd yng Nghymru

Rhaid sicrhau ein bod yn addysgu pobl ifanc Cymru i osgoi colli cyfle i’w treiddio yn nemocratiaieth ein gwlad, ysgrifenai Rhydian Thomas.

Wrth nodi dechrau blwyddyn newydd, rwy’n credu bod pawb yn gobeithio y gwnaiff y deuddeg mis nesaf ddod â mwy o newyddion da a chyfleoedd i ddathlu, o’r diwedd. 

Mae eisoes gan y rheiny ohonom sy’n ymddiddori yn ein prosesau democrataidd reswm dros sirioli, oherwydd eleni gall mwy o bobl bleidleisio yng Nghymru nag erioed o’r blaen.

Am y tro cyntaf, mae gan bobl 16 ac 17 oed yr hawl i bleidleisio, sy’n golygu y bydd gan oddeutu 66,000 yn rhagor o bobl ifanc lais yn etholiadau’r Senedd.  

Dyma ddatblygiad hynod bwysig yn natblygiad ein democratiaeth ac yn hanes y Senedd. 

Ond dim ond y cam cyntaf yw rhoi’r bleidlais i bobl ifanc; mae sicrhau eu bod yn ymwybodol o’u hawliau ac eu bod yn gwybod sut i’w harddel yr un mor bwysig. 

Dyna pam y bu i’r Comisiwn Etholiadol lansio’r ymgyrch “Croeso i’ch pleidlais”. Ei nod oedd codi ymwybyddiaeth ymysg y grwpiau hynny sydd newydd eu rhyddfreinio ynghylch sut mae pleidleisio a bwrw pleidlais gyda hyder.

“Nid dros nos y mae datblygu cenhedlaeth o bleidleiswyr… gall gymryd amser i bobl o bob oedran deimlo’n hyderus a gwybodus ynghylch etholiadau.”

Gallai’r etholiad nesaf fod yn un unigryw, o ystyried y sefyllfa iechyd cyhoeddus, ond mae’r hanfodion heb newid: rhaid i bob etholwr cymwys fod ar y gofrestr etholiadol a phenderfynu p’un a fyddant yn pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio, trwy’r post, neu drwy ddirprwy.

Rôl y Comisiwn Etholiadol yw cynyddu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd, a sicrhau ei huniondeb. Ond rydym hefyd yn credu bod gennym rôl i’w chwarae wrth addysgu pleidleiswyr cyfredol a phleidleiswyr y dyfodol ynghylch ein democratiaeth, a chefnogwyd hyn gan ymchwil ddiweddar. 

Os yw pleidleiswyr yn ymddiddori yn gynnar, maent yn fwy tebygol o fod yn bleidleiswyr ymrwymedig a gweithredol am eu bywydau cyfan – dyna sail rydym am adeiladu arni.

I helpu i wireddu hyn, rydym wedi creu set newydd o adnoddau llythrennedd gwleidyddol i addysgu pobl ifanc ynghylch eu pleidlais a’n democratiaeth ehangach yng Nghymru. 

Fe’i rhennir yn ddau faes: un ar gyfer pobl ifanc; a’r llall ar gyfer addysgwyr. Mae’r ddau’n cwmpasu tri modiwl: dy bleidlais; ymgyrchu; a sut i bleidleisio. Mae’r wefan yn rhyngweithiol, ac mae’n cynnwys fideos, cwisiau, llawlyfrau, a gweithgareddau. 

Gall gwleidyddiaeth fod yn bwnc anodd ei drafod, ond rydym am ddangos i bobl ifanc ei bod yn effeithio arnyn nhw a phopeth o’u hamgylch. O ba mor hir maent yn aros yn y system addysg, i reolau rhentu; o argaeledd 5G, i ba mor aml y caiff biniau eu casglu. Mae’r offerynnau wedi eu dylunio i helpu athrawon a myfyrwyr i deimlo’n fwy cyffyrddus a gwybodus wrth eu trafod. 

Gwyddom fod effaith COVID-19 ar addysgwyr ac amgylcheddau dysgu wedi bod yn anferthol, gan adael llai o ofod, o bosib, i gwmpasu llythrennedd gwleidyddol yn yr ystafell ddosbarth, ac mae nifer o fyfyrwyr wedi blino ar ddysgu ar-lein.

Ond afraid dweud, nid dros nos y mae datblygu cenhedlaeth o bleidleiswyr, ac mewn gwirionedd, gall gymryd amser i bobl o bob oedran deimlo’n hyderus a gwybodus ynghylch etholiadau. 

Syniadau uchelgeisiol, awdurdodol a mentrus.
Ymunwch â ni i gyfrannu at wneud Cymru gwell.

Tra bod y pandemig wedi helpi i godi ymwybyddiaeth, mewn nifer o ffyrdd, ynghylch datganoli ar draws Cymru, mae sicrhau bod pleidleiswyr yn deall y gwahaniaeth rhwng gwaith Senedd Cymru a Senedd y DU yn parhau i fod yn her. 

Rydym wedi cynnwys gwybodaeth ynghylch cyfrifoldeb y Senedd a’i Aelodau fel rhan o’r adnoddau addysgol, gan obeithio cynyddu’r ddealltwriaeth hon ymysg pleidleiswyr mor gynnar â phosib.

Nid oes ateb syml o ran sicrhau bod pleidleiswyr wastad yn teimlo eu bod ynghlwm wrth ein democratiaeth a’n sefydliadau gwleidyddol, ac ni all un corff na sefydliad fod yn gyfrifol am hynny ar ei ben ei hunan. Credwn fod partneriaeth yn allweddol.

Rydym yn gweithio gydag ystod o fforymau llywodraethol, sefydliadau democrataidd, sefydliadau llawr gwlad, elusennau, ac arweinwyr cymunedol i godi ymwybyddiaeth gyhoeddus ynghylch digwyddiadau etholiadol, a hybu cyfranogiad. 

Gobeithiwn y bydd pob person yr ydym yn eu cyrraedd gyda’n hadnoddau a’n negeseuon i bleidleiswyr yn trosglwyddo’r hyn maent wedi ei ddysgu i’w teulu a’u ffrindiau. Felly, megis gyda phob etholiad, wrth i fis Mai agosáu, rydym yn annog cynifer o bobl â phosib i gymryd rhan, dysgu, a defnyddio eu pleidlais. 

 

Gall pob etholwr cymwys gofrestru ar-lein mewn 5 munud trwy gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio

All articles published on the welsh agenda are subject to IWA’s disclaimer.

Also within Uncategorized @cy