Rwy’n gwrthod talu fy ffi drwydded nes bod darlledu yn cael ei ddatganoli

Yn yr erthygl hon mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gwneud yr achos dros ddatganoli darlledu i Gymru

Mae rhywbeth mawr o’i le ar y cyfryngau yng Nghymru.

 

Mae cipolwg ar ystadegau moel y sefyllfa yn adrodd cyfrolau.

 

Mae yna doriadau o 40% i gyllideb S4C ers 2010. Mae’r oriau darlledu hynny gan ITV Cymru, nad sydd yn rhaglenni newyddion, lawr o bedair awr yr wythnos i awr a hanner. Ymhellach, parhau mae’r ansicrwydd ynghylch beth fydd cyllideb S4C. A hyn er gwaethaf ymrwymiad y Ceidwadwyr i “ddiogelu arian ac annibyniaeth olygyddol S4C”. Yn ddiamau, allwn ni ddim parhau â chyfundrefn sy’n golygu trafodaethau blynyddol gan Weinidogion yn Llundain am dynged ein hunig sianel deledu Gymraeg.

 

Ar yr un pryd, rydym wedi gweld twf anferthol yn y cyfryngau Saesneg ac Eingl-Americanaidd sy’n cael eu darlledu yng Nghymru dros y degawdau diwethaf – o bedair sianel deledu Saesneg eu cyfrwng i dros 400 heddiw.

 

Fodd bynnag, 35 mlynedd ers sefydlu S4C dim ond un sianel deledu Gymraeg ac un orsaf radio Gymraeg genedlaethol sy’n cael eu darlledu, ac mae llai o gynnwys Cymreig a Chymraeg ar ein sgriniau ac ar ein tonfeddi radio nag oedd deng mlynedd yn ôl. Mae cynnwys Cymreig a Chymraeg ar radio masnachol wedi disgyn gyda chwmnïau mawrion yn prynu mentrau cymunedol a chwmnïau bychain, megis Radio Ceredigion, ac wedyn yn torri yn ôl yn sylweddol ar y cynnwys lleol a Chymraeg.

 

Rydyn ni wedi gweld nifer o ymdrechion cadarnhaol, megis BBC2W, Radio Cymru Mwy a S4C2, yn mynd a dod dros yr un cyfnod. Ond dod ac wedyn mynd y maen nhw. Mae’n ddiddorol nodi bod Golwg360, menter a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi para’n hirach, ac yn wir wedi ffynnu’n well, na mentrau sy’n dod o gyfeiriad cyrff sydd yn atebol i Lundain mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.

 

Mae diffygion democrataidd difrifol yn dod yn sgil y problemau hyn. Oherwydd strwythur y cyfryngau y mae’r ffocws ar faterion sy’n effeithio ar Loegr yn unig, gyda Chymru a’r Gymraeg yn mynd yn angof. Mae hyn yn arwain at gam-argraffiadau a chymysgwch ynglŷn â sut rydyn ni’n cael ein llywodraethu a ble mae penderfyniadau yn cael eu gwneud. Bron i 20 mlynedd ers y refferendwm ar ddatganoli, mae 40% o bobl Cymru yn dal i feddwl mai Llywodraeth Prydain sy’n rheoli’r gwasanaeth iechyd yma. Mae barn pobol Cymru yn rhy aml o lawer yn cael ei lywio a’i seilio ar ddadleuon yn ymwneud â Lloegr.

 

Er mwyn datrys yr heriau mawrion hyn, mae angen cymryd camau mawrion. Dros y blynyddoedd, mae cymdeithas sifil wedi gwneud ymdrechion clodwiw i wella pethau, ond i raddau helaeth rydym wedi methu.

 

Rydym yn dioddef oherwydd bod gyda ni farchnad ddarlledu Brydeinig sy’n cael ei rheoli, neu i fod yn fwy cywir, sydd ddim yn cael ei rheoli, gan Ofcom, er lles elw cwmnïau – sgil effaith hyn yw diffyg darpariaeth am Gymru a thrwy gyfrwng y Gymraeg. Diolch byth am fentrau fel Radio Beca sydd wedi mynd ati i roi’r cyfrwng yn ôl yn nwylo pobol Cymru ac yng ngofal cymunedau Cymru.

 

Rydym wedi cyhoeddi papur trafod Darlledu yng Nghymru II sy’n amlinellu cynigion posibl i wella’r sefyllfa.

 

Yn gryno, rydym yn dadlau bod angen datganoli darlledu er mwyn sefydlu strwythur llawer mwy cymunedol i’n cyfryngau a normaleiddio ac ehangu cynnwys Cymraeg a Chymreig. Awgrymwn y dylid sefydlu Awdurdod Darlledu Cymru, yn lle Awdurdod S4C ac Ofcom; byddai’r corff newydd yn rheoli’r holl sbectrwm darlledu gyda swyddogaeth a phwerau penodol i normaleiddio defnydd y Gymraeg ar bob platfform a gwella plwraliaeth.

 

Mae’r cyhoedd gyda ni. Darganfu pwyllgor trawsbleidiol Comisiwn Silk, a sefydlwyd gan Lywodraeth Prydain ei hunan, bod 60% o bobl Cymru o blaid datganoli darlledu yn ei gyfanrwydd i Gymru. Argymhellodd y Comisiwn ddatganoli S4C yn unig i Gymru; gyda nifer o sefydliadau eraill yn gofyn am fynd yn bellach.

 

Mae’r achos dros ddatganoli darlledu i Gymru yn un cyfiawn ac yn ennyn cefnogaeth y cyhoedd.

 

Mae’n hen bryd i ni wneud rhywbeth am hyn ac mae’r ymgyrch ar gerdded. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar hyn o bryd yn cwrdd â nifer fawr o Aelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad i osod ein dadl, gyda chefnogaeth yn dod o lefydd annisgwyl ambell waith. Law yn llaw â hyn mae nifer ohonom yn gwrthod talu ein trwyddedau teledu nes bod datganoli darlledu. Gallwch chi ymuno â’r boicot drwy fynd yma.
O ddiffyg presenoldeb y Gymraeg ar radio masnachol, teledu lleol a’r toriadau difrifol i S4C i’r diffyg cynnwys Cymreig yn y cyfryngau, mae’n glir nad yw Llundain yn rheoli’r cyfryngau er budd pobl Cymru. Mae angen i’r penderfyniadau dros y cyfryngau yng Nghymru gael ei wneud gan bobl Cymru. Mae’n bryd datganoli darlledu. Ond dagrau pethau yw y bydd rhaid i ni frwydro amdano. Felly, un dewis sydd, torchwn ein llewys.

 

 

 

Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres wythnos o hyd am faterion ynghylch y cyfryngau. Mae grŵp polisi cyfryngau’r Sefydliad Materion Cymreig yn cynnal ei drydydd Uwch-Gynhadledd Cyfryngau yng Nghaerdydd ar 29ain Mawrth. Gallwch chi ddod o hyd i fanylion archebu yma.

Heledd Gwyndaf yw Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Comments are closed.

Also within Culture