Canolfan Arbenigedd Rhanbarthol Cymru ar gyfer Cynaliadwyedd a Llesiant pobl heddiw a Chenedlaethau’r Dyfodol – A Wales Regional Centre of Expertise for Sustainability and the Well-being of Current and Future Generations.

Dr Einir Young yn cyflwyno grŵp Addysg Uwch Cenedlaethau’r Dyfodol ac yn annog darllenwyr i gymryd rhan

Dr Einir Young introduces a new Higher Education Future Generations group and invites readers to get involved

Os nad yw hynny’n llond ceg dwn i ddim beth sydd. Efallai, wedi i chi ddarllen y blog hwn, y gallwch ein helpu i ddod o hyd i deitl mwy bachog.

Fy enw i yw Einir Young, rwy’n Gyfarwyddwr Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Bangor, ac rwyf hefyd yn cadeirio Grŵp Addysg Uwch Cymru ar gyfer Cenedlaethau’r dyfodol (HEFGG)1 sy’n cynrychioli pob sefydliad AU yng Nghymru. Enw gwreiddiol y grŵp oedd Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang ond esblygodd i’w ffurf presennol mewn ymateb i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru ddaeth i rym yn Ebrill 2016.

Ar ran y grŵp hoffwn gyflwyno ein cyd-fenter newydd a’ch gwahodd i gymryd rhan. Dyma’r cyntaf mewn cyfres o flogiau sy’n arwain at ddwy gynhadledd, un ym Mangor ym mis Medi ac un arall yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd – digon o amser a gwybodaeth i benderfynu a ydych chi eisiau  ymuno â ni neu beidio.

Ar ôl gweithio gyda’n gilydd fel grŵp ers peth amser, penderfynom ei bod hi’n bryd rhoi egwyddorion y Ddeddf Llesiant ar waith, yn enwedig y pum ffordd o weithio. Dyma’r cwestiynau gododd ymysg ein gilydd:

  • Beth yw cyfraniad hirdymor y grŵp? Beth yw’r pwynt i ni gyfarfod o dro i dro i rannu’n syniadau? Beth sy’n digwydd i’r syniadau hynny? Beth sydd gennym i ddangos am ein hymdrechion?
  • Nid yw cyfarfod er mwyn ticio bocs yn rhywbeth gwerth chweil i’w wneud felly sut allwn ni osgoi syrthni sefydliadol a marweidd-dra a sicrhau fod ein grŵp ni’n berthnasol?
  • Mae cydweithio yn rhywbeth yr ydym yn anelu ato ond yn rhy aml mae’n sefydliadau’n cystadlu â’i gilydd; diffiniodd rhywun ‘cydweithio’ rhyw dro fel ‘gohirio casáu’n gilydd dros dro wrth chwilio am fwy o gyllid’. Cododd hynny wên yn ein mysg gan ein bod i gyd yn adnabod fod llygedyn o wirionedd yna. Sut felly y gallem ni gydweithio go iawn?
  • Mae integreiddio yn ddyhead arall – integreiddio’r hyn a wnawn yn hytrach na dilyn ein hamcanion ni ein hunain mewn sylos. Sut allwn ni wneud yn well?
  • Mae tynnu pobl i ymuno mewn yn syniad sy’n cario llawer o bwysau ond mae’n anodd ei gyflawni. Pwy ddylai fod yn rhan o’r grŵp? Pwy ddylai wneud beth? Pryd? Ble?

 

Wrth i ni ystyried y cwestiynau hyn fel grŵp yng Nghynhadledd Newid Ymddygiad Swyddfa Archwilio Cymru yn Aberystwyth ym mis Ebrill 2017, heriodd Yvonne Jones o Brifysgol Abertawe (yr unig aelod craidd sy’n weddill o ysgrifenyddiaeth y RCE Cymru gwreiddiol), ni i adfywio Canolfan Arbenigedd Rhanbarthol Cymru (RCE Cymru) i adlewyrchu ein ffordd newydd o feddwl a’r syniadaeth y tu ôl i’r Ddeddf Llesiant. A dyma ni, ddeunaw mis yn ddiweddarach yn awyddus i ail-lansio RCE Cymru ar ei newydd wedd, yn barod i gyfrannu’n weithredol i rwydwaith rhyngwladol o dros 160 o grwpiau tebyg sy’n brysur yn cymhwyso amcanion cynaliadwyedd byd-eang i gyd-destun cymunedol lleol, gyda phwyslais ar les cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Mae gan rwydweithiau’r RCE reolau penodol a’r ddwy reol aur yw i) bod rhaid i RCE gael ei arwain gan Brifysgol a ii) mae’n rhaid iddo ymgysylltu â’r gymuned ehangach. Felly, rydym wedi dod â grŵp bach o dri o bobl ynghyd i weithredu fel Ysgrifenyddiaeth i ddelio ag adrodd ond mae’r gweddill yn hylif ac yn agored i awgrymiadau.

Ar hyn o bryd rydym yn datblygu nifer o gylchoedd o ddiddordeb ac yn chwilio am gyfranogwyr sydd â diddordeb. Hyd yn hyn mae’r grwpiau canlynol wedi dod i’r amlwg:

  • Yr economi gylchol (wedi’i gydlynu gan Dr Gavin Bunting, Prifysgol Abertawe)
  • Prifysgolion a Cholegau Iach (wedi’i cydlynu gan Chris Deacy, Met Caerdydd)
  • Adfywio (wedi’i gydlynu gan Dr Sheena Carlisle a Tim Palazon, Met Caerdydd)
  • Addysgu a Dysgu (wedi’i gydlynu gan Dr Carolyn Hayles, Prifysgol Cymru, Drindod Dewi Sant)
  • Mae cyfathrebu yn thema drawsbynciol ac fe’i cydlynir gan fy nhîm ym Mangor.

 

Mae cylchoedd eraill ar y gweill:

  • Addysgu ar gyfer system fwyd well (Jane Powell)
  • Presgripsiynau Cymdeithasol (wedi’i gydlynu gan Nina Ruddle, Glyndŵr)
  • Iaith a Diwylliant (cydlynwyr i’w cadarnhau)
  • Seinfyrddau ar gyfer y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (Nina Ruddle a Dr Einir Young – yng ngogledd Cymru i ddechrau)

 

Felly i ateb ein pum cwestiwn gwreiddiol, dyma lle rydym ni arni:

Ein gweledigaeth hirdymor yw creu strwythur gwirioneddol ar y cyd (credwn y bydd trefn yr RCE yn hwyluso hyn) i ddarparu ‘lle i feddwl’ ar gyfer cylchoedd o ddiddordeb i drafod eu heriau penodol, yn eu hamser eu hunain a’u ffordd eu hunain. Mater i bob grŵp yw penderfynu sut maen nhw’n rhoi trefn ar eu hunain a mesur llwyddiant.

Bydd y cylchoedd o ddiddordeb yn darparu gofod ar gyfer sgwrs ddwy ffordd rhwng y grŵp RCE craidd a’r cylchoedd yn cynhyrchu llif cyson o syniadau newydd a darparu cyfleoedd ar gyfer croes-ffrwythloni syniadau rhwng y cylchoedd. Bydd cyfarfodydd yn cael eu trefnu fel bo’r galw gan y grŵpiau eu hunain er mwyn osgoi diflastod.

Rhaid i gydweithio gael ei seilio ar ymddiriedaeth ac mae hwn yn gyfle i archwilio, yn hollol rydd, sut y gall cyfangorff fod yn fwy effeithiol na chyfanswm y rhannau gwasgaredig. Nid cyllid i gecru drosto, nid oes targedau allanol. Nid oes pwysau i ymuno ac yn bwysicach fydd does dim cywilydd o ran methu – rydym yma i ddysgu gyda’n gilydd.

Mae yna lawer o fentrau o gwmpas sy’n gysylltiedig â’r holl gylchoedd o ddiddordeb yn barod. Bu sawl ymdrech i orfodi sefydliadau i weithio gyda’i gilydd yn ‘oer’, heb ddigon o amser i sicrhau fod sylfeini o gyd ymddiried yn bodoli. Rydym yn gobeithio y bydd natur wirfoddol RCE Cymru drwy’r HEFGG yn hwyluso mwy o integreiddio a rhannu syniadau er mwyn goresgyn y tueddiad i gadw pethau i ni’n hunain a meddwl am bethau mewn termau ‘ni v. nhw’.

Y newyddion da yw y gall unrhyw un a phawb gymryd rhan os dymunwch. Nid yw hwn yn glwb caeedig. Prif gymhwyster cael eich cynnwys yw bod gennych chi feddwl agored, agwedd bosib, meddwl creadigol a pharodrwydd i gymryd risg (lle gallai methu fod yn opsiwn) ac ymrwymiad i drio. Ond nid ydym yn chwilio am ferthyron chwaith – os ydych yn rhy brysur, dim problem. Dylai’r cyd-weitho gyda’r cylchoedd diddordeb ffitio mewn gyda’ch gwaith bob dydd neu fod yn rhywbeth ychwanegol fydd o fudd personol i chi o’ch gwirfodd. Mae cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig

Cadwch eich llygad ar agor am gyfres o flogiau fydd yn esbonio dyheadau pob un o’r cylchoedd o ddiddordeb yn eu tro.

Dwi’n aros yn eiddgar am donau o sylwadau ac adborth. Ymlaen mae Canan!

If that’s not a mouthful, I don’t know what is. Perhaps, after you’ve read this blog you’ll be able to help us find a snappier title.

 

_____________________________

My name is Einir Young, I’m Director of Sustainability at Bangor University and I also chair Wales’ Higher Education Future Generations Group (HEFGG), representing every HE in Wales. Originally the group was called the Education for Sustainable Development and Global Citizenship group but morphed into our new form in response to the Welsh Government’s Wellbeing of Future Generations Act (Wales) 2015 which became law in April 2016.

On behalf of the group I’d like to introduce our new joint venture and invite you to get involved. This is the first in a series of blogs leading up to two conferences coming up, one in Bangor in September and another in Cardiff in November – plenty of time and information to decide whether you want to be involved.

Having worked together as a group for some time we decided that it was time to put the principles of the Wellbeing of Future Generations Act (WFGA) into practice, in particular the five ways of working, asking ourselves the following questions:

  • What is the long term contribution of the group? What’s the point of us meeting every so often, and exchanging our ideas? What happens to those ideas? What can we show for our efforts?
  • Just meeting to tick a box is not a worthwhile activity so how can we prevent inertia and stagnation and make our group relevant?
  • Collaboration is something that we aspire to but too often our institutions are in competition with each other and as someone said: ‘collaboration is the suspension of mutual loathing in search of further funding’. That produced a laugh, because we all recognised a grain of truth. How could we then truly collaborate?
  • Integration is another aspiration – integrating what we do rather than pursuing our own goals in silos. How could we do better?
  • Involvement is another word that carries a lot of weight but is difficult to achieve. Who should be involved? Who should do what? When? Where?

 

As we were pondering these questions as a group at the Wales Audit Office’s Behaviour Change Conference in Aberystwyth in April 2017, Yvonne Jones from Swansea University, the last person standing from the secretariat of the original Regional Centre of Expertise Wales (RCE Wales) challenged us to revive and revitalise the RCE to reflect our new thinking and the thinking behind the WFGA. And here we are, 18 months later about to re-launch RCE Cymru in its new guise, ready to contribute actively to an international network of more than 160 similar groups who are busy putting global sustainability objectives into a local community context, with an emphasis on the well-being of current and future generations.

The RCE networks have rules of engagement and the two golden rules are that i) an RCE has to be led by a University and ii) it must engage with the wider community. So we have brought together a tiny group of three people to act as a Secretariat to deal with reporting but the rest is fluid and open to suggestions.

Currently we’re developing several circles of interest and are looking for interested participants. So far the following groups have emerged:

  • The circular economy (co-ordinated by Dr Gavin Bunting, Swansea University)
  • Healthy Universities and Colleges (co-ordinated by Chris Deacy, Cardiff Met)
  • Regeneration (co-ordinated by Dr Sheena Carlisle and Tim Palazon, Cardiff Met)
  • Teaching and Learning (co-ordinated by Dr Carolyn Hayles, UWTSD)
  • Communication is a cross-cutting theme and is co-ordinated by my team in Bangor.

 

Other circles are starting to brew:

  • Education for a better food system (Jane Powell)
  • Social Prescribing (co-ordinated by Nina Ruddle, Glyndŵr)
  • Language and Culture (co-ordinators to be confirmed)
  • Sounding boards for the Public Service Boards (Nina Ruddle and Dr Einir Young – in the north of Wales initially)

 

So to answer our original five questions, this is where we’re at:

Our long term vision is to create a truly collaborative structure (we think the RCE set up will facilitate this) to provide ‘thinking space’ for circles of interest to explore their theme-specific challenges, in their own time and their own way. It is up to each group to decide how they organise themselves and measure success.

The circles of interest will provide a two way dialogue between the core RCE group and the circles, generating a constant flow of new ideas and providing opportunities for cross-fertilisation of ideas between the circles. The meetings will be organised as required by the participants thus aiming to avoid ‘meeting fatigue’.

Collaboration has to be based on trust and this is an opportunity to explore, with no strings attached, how the whole can be greater than the sum of the parts. There is no funding to squabble over, there are no targets to dispute. There is no pressure to join and most important of all, no shame in failing – we are here to learn together.

There are many initiatives associated with all the circles of interest and many attempts to force institutions to work together before the necessary foundation of mutual trust has been built. We hope that the voluntary nature of the RCE Cymru relationships emerging through the HEFGG will facilitate greater integration and sharing of ideas breaking down the protectionist ‘us v them’ barriers.

The good news is that anyone and everyone can be involved if you want to. This is not an exclusive club. The main requirement of involvement is an open mind, a can-do attitude, creative thinking, a willingness to take risks (where failing might be an option) and a commitment to have a go. But we are not looking for martyrs either – if you are too busy, it’s not a problem. Involvement with any of the circles of interest should fit in with the day job or be an extra that you particularly want to invest your time in. Work-life balance is a goal for all of us.

Watch this space for the forthcoming blogs explaining the aspirations of each of the circles of interest in turn. I am ready and waiting for comments and feedback to flow like a tsunami. Let the fun begin!

 

All articles published on Click on Wales are subject to IWA’s disclaimer.

Dr Einir Young yw Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor - Dr Einir Young is Bangor University’s Director of Sustainability

Comments are closed.

Also within Politics and Policy